Esgobaeth Bangor yn dathlu siwrne 10 o bobl arbennig yn ei gwasanaeth ordeinio blynyddol.

Mae’r dydd Sadwrn sy’n dod (24.6) yn ddiwrnod arbennig yng Nghalendr yr Eglwys, gan mai hwn ydy’r diwrnod mae’r Eglwys yn dathlu geni Ioan Fedyddiwr, y ffigwr Beiblaidd a baratôdd y ffordd i Iesu a chyfeirio pobl tuag ato.

Fe fydd hi hefyd yn ddiwrnod arbennig i Esgobaeth Bangor. Am 3 o’r gloch, yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor, bydd 10 o bobl yn cysegru eu hunain i ddilyn yn ôl traed Ioan Fedyddiwr a chyfeirio eraill tuag at Iesu, yn y gwasanaeth ordeinio blynyddol, a fydd dan arweiniad Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.

Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i Ddarllenydd (person lleyg a hyfforddwyd i arwain addoliad a phregethu mewn gwasanaethau) gael ei drwyddedu ochr yn ochr â’r rhai hynny sydd i’w hordeinio fel Diaconiaid ac Offeiriaid. Tra bo swyddogaethau a chyfrifoldebau Darllenydd, Diacon ac Offeiriad yn dra gwahanol, mae llawer o’r hyfforddiant ar eu cyfer yn cael ei gynnal ar y cyd.

Dywedodd y Parch Susan Blagden, Tiwtor Esgobaeth Bangor yn Sefydliad Padarn Sant yr Eglwys yng Nghymru, “Mae Sefydliad Padarn Sant yn falch o allu argymell yr ymgeiswyr yma ar gyfer eu hordeinio a’u trwyddedu.

Fe fuon nhw’n ymwneud yn gadarnhaol â’r broses ffurfiant ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus ac wedi cwblhau gofynion hyfforddiant angenrheidiol yr Eglwys yng Nghymru. Fe fydd hi’n achlysur gwych o ddathlu, wrth i Esgobaeth Bangor fod yn dyst, am y tro cyntaf, i ordeinio clerigwyr a thrywddedu gweinidogion lleyg o fewn yr un gwasanaeth.

Llawenhawn gyda’r ymgeiswyr, gan eu sicrhau o’n gweddïau.”

 

Gwasanaeth y llynedd

Wrth edrych ymlaen at y gwasanaeth, meddai Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John, “Mae’n hi’n fraint fawr i esgob cael trwyddedu neu ordeinio pobl i rolau penodol o fewn ein Heglwys.

Mae i bob unigolyn ei stori unigryw am ddilyn llwybr galwad Duw i wasanaethu. Penllanw eu pererindod alwedigaethol cyn belled fydd cael eu hordeinio neu’u trwydded, yn ogystal â bod yn ddechrau ar ran newydd o’u bywyd a’u gweinidogaeth Gristnogol.

Mae eu hanes nhw hefyd yn stori newydd a gwerthfawr ym mywyd ein Heglwys, ei thystiolaeth a’i gweinidogaeth Gristnogol. Gweddïwch wnewch chi dros y ten person neilltuol yma, eu teuluoedd a finnau yn y gwasanaeth arbennig hwn.’

 

Y deg person a fydd yn cael eu trwyddedu fel Darllenydd neu eu hordeinio fel Diacon neu Offeiriad ydy  (cliciwch ar yr enw i ddarllen rhai meddyliau oddi wrthynt) :

 

Darllenydd

  • Sandra Wheeler Bro Cyfeiliog a Mawddwy (Machynlleth, Mallwyd a’r cyffiniau)

Diacon

  • Jen EvansDiacon Parhaol, Curad Hunangynhaliol  :  Bro Cyfeiliog a Mawddwy (Machynlleth, Mallwyd a’r cyffiniau)
  • Llewellyn Moules-JonesCurad  :  Bro Deiniol,  (Bangor)
  • Lesley RendleCurad Hunangynhaliol: :  Bro Tysilio  (Porthaethwy, Pentraeth, Benllech a’r cymunedau cyfagos)
  • Sara RobertsCurad  :  Bro Enlli (Pwllheli, Llanbedrog ac Aberdaron a’r cymunedau cyfagos)
  • Allan WilcoxCurad Hunangynhaliol  :Bro Eryri (Llanberis, Penisarwaun, Deiniolen a’r cymunedau cyfagos)

Offeiriad

  • Alison GwalchmaiCurad  :  Bro Arwystli  (Llangurig, Llanidloes, Trefeglwys, Carno a’r cymunedau cyfagos)
  • Caroline JohnCuradBro Deiniol (Bangor)
  • Jon PriceCurad a Gweinidog Arloesi  :  Bro Arwystli  (Llangurig, Llanidloes, Trefeglwys, Carno a’r cymunedau cyfagos)
  • Martin PritchardCurad  :  Bro Celynnin  (Conwy, Caerhun a’r cymunedau cyfagos)

 

 

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

 

 

Sandra Wheeler   i’w thrwyddedu fel Darllenydd a bydd yn gwasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy (Machynlleth a Mallwyd a’r cymunedau cyfagos)

“Cefais fy nghonffyrmasiwn yn yr Eglwys Anglicanaidd gan Esgob Aston pan yn 21 oed ac wedi bod yn weithgar o fewn yr Eglwys ers hynny: captain y Geidiaid, athrawes ysgol Sul, côr y plwyf, gweithgareddau cenhadol a chefnogi fy ngŵr, John a oedd yn Ddarllenydd trwyddedig.

Trwy gydol yr amser hwn, fy ffydd yng Nghrist fu’n arwain fy mywyd.  Am 6 mlynedd, wedi ymddeol yn gynnar fe fues i’n anhwylus a bu’n rhaid imi gael sawl llawdriniaeth cyn imi allu cerdded eto heb gymorth a daeth gwelliant yn fy iechyd. Fe ddaethon ni i fyw i Ganolbarth Cymru ac yn Eglwys Sant Idloes, Llanidloes fe dderbyniais i’r alwad i fod yn Ddarllenydd, gyda chefnogaeth y Parch Lynda Cowan.

Dwi’n credu ei bod hi’n hanfodol i fod yn ymwybodol o ddiwylliant a chefndir weithiau’r Beibl er mwyn deall yn well y ffordd mae’r Drindod yn gweithio yn a thrwy Ei bobl. Roedd Ein Harglwydd Atgyfodedig yn adnabod y Beibl Hebraeg mor dda a byddai’n aml yn cyfeirio ato wrth addysgu.

Mae fy lleoliadau ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy wedi cynyddu fy nealltwriaeth o rôl ddatblygol y Darllenydd oddi fewn i’r Eglwys yng Nghymru. Mae’r Parch Ganon Kath Rogers wedi bod yn fy herio i a’m harwain i hefyd. Arweiniodd her Caffi Eglwys wythnosol trwy gydol y Grawys at gais gan y rhai hynny fu’n mynychu i barhau gyda’r fenter. Dwi’n credu bod yr Ysbryd Glân yn arwain pobl i ddod ynghyd i adeiladu eu dealltwriaeth a’u perthynas â Duw cariad a thrugaredd a dawn gras.

Mae’r cynulleidfaoedd yn ardal fy lleoliad, wedi agor eu calonnau imi ac edrychaf ymlaen at weinidogaethu iddyn nhw ac i’r her o daenu Efengyl Crist a chariad Duw i’r rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio o fewn cymuned Bro Cyfeiliog a Mawddwy.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

Jen Evans  i’w hordeinio’n ddiacon parhaol ac am wasanaethu Ardal Gweinidogaeth Bro Cyfeiliog & Mawddwy (Machynlleth, Mallwyd a’r cymunedau cyfagos)

 

Wedi ei geni a’i magu ym Morfa Nefyn ar aelwyd gwbl Gymraeg, roedd yr Eglwys yn rhan annatod o’i magwraeth. Dechreuodd Jen chwarae’r organ yn 12 oed yn Eglwys y Santes Fair, Morfa Nefyn ac yn Eglwys Dewi Sant, Nefyn ac mae’n parhau yn organyddes. Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan allweddol o’i bywyd ysbrydol.

Yn athrawes wrth ei galwedigaeth, bu’n dysgu ym Mhwllheli ac Aberteifi cyn iddi hi a’i gŵr, Hywel symud i fyw i Lanbrynmair ar ddiwedd y ‘70au. Wedi cyfnod o fagu dau fab, Siôn a Rhun, ail-gydiodd yn ei gyrfa fel athrawes a hynny yn Ysgol Llanbrynmair, ac yno daeth yn Bennaeth yn ddiweddarach, cyn symud ymlaen i swydd ymgynghorol blynyddoedd cynnar gydag Awdurdod Addysg Powys hyd ei hymddeoliad yn 2011.

Mae ei diddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, garddio a chymdeithasu. Ond yn bennaf oll yr hyn sy’n bwysig iddi hi yw ei theulu ac mae hi a Hywel yn ffodus iawn bod eu meibion a’u partneriaid yn dal i fyw ym Mro Ddyfi.  Mae bod yn nain i Gethin Prys, sy’n 5 oed, hefyd yn rhoi llawer o fwynhad a hwyl iddi.

Mae’n aelod o Dîm Gweinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy ac yn Arweinydd y Tîm Bugeiliol. Yn y blynyddoedd diwethaf cafodd y fraint o gael ei dewis yn Gyd-gadeirydd Lleyg Cyngor yr Esgobaeth.

Wedi cyfnod o ofalu am ei mam a fu’n dioddef o ‘dementia’ yn ei blynyddoedd olaf, hyd ei marwolaeth yn 2004, teimlodd Jen yr awydd cryf i ymgymryd â gwaith bugeiliol ac i wasanaethu Duw mewn ffordd ddyfnach. Wedi ei hymddeoliad gwyddai mai dyna’r amser priodol i ystyried hyn o ddifrif.

Dros y blynyddoedd diwethaf wrth fwynhau bod yn Arweinydd Addoliad a gweinyddu’r Cymun yn y cartref, teimlodd ei bod yn cael ei galw i rywbeth mwy ond heb fod yn hollol sicr beth yn union oedd hynny. Cafodd ei hannog i gynnig ei hun i’r Ddiaconiaeth Barhaol, rhywbeth a oedd yn gwbl ddieithr iddi. Ond wedi hir drafod a thrwy ddarllen a dysgu llawer am rôl diacon parhaol, roedd yn sicr mai dyma’r weinidogaeth roedd Duw yn ei galw ati.

Gan edrych ymlaen at ei hordeinio, bydd yn amser cyffrous ac o gyflawni dyhead wrth iddi barhau i weinidogaethu yn ei hardal a gwasanaethu pobl Bro Cyfeiliog a Mawddwy. Ond o hyn ymlaen mewn ffordd wahanol, fel diacon ordeiniedig, gyda sêl bendith yr Esgob, yr Esgobaeth a’r Ardal Gweinidogaeth.

Ar un llaw mae’n teimlo’n nerfus am y gwasanaeth ordeinio gan y bydd yn amser emosiynol iawn iddi hi a’i theulu, ond ar y llaw arall bydd yn amser i lawenhau.

Meddai hithau, ‘‘Duw sydd wedi fy ngalw i’r weinidogaeth benodol yma a gallaf bod yn sicr o’i gariad a’i nerth i fy nghynnal yn y cyfnod newydd hwn yn fy mywyd.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Llewelyn Moules-Jones   i’w ordeinio’n ddiacon ac am wasanaethu Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol (Bangor)

“Yn frodor o Ynys Môn, ac o linach hir o ffermwyr ar yr ynys, fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgolion Bangor, Y Drindod Dewi Sant a Chaerdydd.

Yn dilyn cyfnod hir ym myd addysg uwch yn dysgu Amaeth a’r Gymraeg, penderfynais bedair blynedd yn ôl, na allwn i osgoi ragor yr alwad i wasanaethu ‘fy Arglwydd a’m Duw’.

Rwyf yn ei hystyried hi’n fraint o’r mwyaf cael fy nerbyn ar gyfer hyfforddiant i’r Offeiriadaeth, rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i ymuno â thîm Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

 

Lesley Rendle    i’w hordeinio yn ddiacon ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy, Pentraeth, Benllech a’r cymunedau cyfagos)

“Dwi’n dod yn wreiddiol o Gilgwri, gan weithio yno fel gweithiwr cymdeithasol gyda gofal plant cyn symud i Droitwich yn Swydd Caerwrangon. Wedi gweithio fel darlithydd astudiaethau gofal plant am gyfnod byr fe gefais fy mhenodi yn Ymgynghorydd Plant Esgobaethol, swydd y bûm yn dal am 10 mlynedd. Rôl galluogi oedd hon, yn gweithio gyda phlwyfi ac ysgolion i ddatblygu eu gwaith gyda phlant. Roedd hefyd yn golygu gweithio gydag asiantaethau cenedlaethol a lleol i sicrhau bod llais yr eglwys yn cael ei glywed ar y lefel strategol mewn materion yn ymwneud â phobl ifanc. Dychwelais i Gilgwri yn 2008, gan weithio am 3 mlynedd arbennig o fuddiol fel caplan ysgol cyn symud i Ynys Môn.

Dwi wrth fy modd ar Ynys Môn, yn mwynhau bywyd gyda 6 chi, 9 o eifr bach, 4 alpaca, 3 o foch ac ambell iâr. Faswn i’n hoffi dweud fy mod yn “tyfu fy llysiau fy hun” ond er mod i’n llwyddo gydag ychydig o domatos, mae’r twnel blasting yn yr ardd yno yn fwy mewn gobaith na llwyddiant. Fodd bynnag, dwi’n mwynhau coginio a gwnïo (yn enwedig clytwaith a chwiltio), ac yn ddiweddar llwyddais i weu siwmper allan o wlân yr alpacas.

Cefais fy nhrwyddedu fel darllenydd yn 2001, gweinidogaeth sy’n fraint ac sydd wedi dod â llawenydd mawr imi. Teimlais yr alwad i’r weinidogaeth ordeiniedig rhyw 5 mlynedd yn ddiweddarach. Roedd hi fel pe bawn i ar symud tŷ pob tro y cododd y mater, ond bellach, a finnau wedi cyrraedd Ynys Môn, mae’n ymddangos mai dyma’r adeg iawn i ymateb i’r alwad.

Mae’n gyffrous edrych ymlaen at yr ordeinio a’r her o ddatblygu fy ngweinidogaeth mewn cyfeiriadau newydd a gwahanol. Fel offeiriad digyflog, fe fydd llawer o’m gweinidogaeth oddi allan i’r eglwys, yn y gymuned ehangach ac edrychaf ymlaen at weld lle fydd Duw yn f’arwain yn y rôl a’r weinidogaeth newydd hon. O fewn i’r eglwys, mae penderfyniad yr Eglwys yng Nghymru i ganiatáu plant sydd wedi’u bedyddio i brofi’r cymun yn un arbennig o gyffrous i mi gan fy mod yn gweld hyn fel her go iawn i eglwysi i ganfod ffyrdd i ddwyn plant fwyfwy i fywyd yr eglwys, fel rhan o’r Ewcharist a thu allan i hynny.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Sara Roberts  i’w hordeinio yn ddiacon ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli (Pwllheli, Llanbedrog ac Aberdaron a’r cymunedau cyfagos)

Magwyd Sara Roberts ym Mhenrhyndeudraeth a darganfod ei ffydd yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yno pan yn oedolyn ifanc. Fe’i hyfforddwyd fel Darllenwraig Lleyg a chafodd ei thrwyddedu yn 2001. Gwasanaethodd ym Mro Moelwyn am yn agos at 15 mlynedd cyn i’r alwad i’r weinidogaeth ddod i’r amlwg. Erbyn hyn mae’n hyfforddi ym Mro Enlli ac yn mwynhau yr ardal arbennig hon o’r Esgobaeth. Mae’n ddiolchgar iawn am y cyfle yma i wasanaethu bobl Dduw.

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Allan Wilcox   i’w ordeinio yn ddiacon ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Eryri (Llanberis, Penisarwaun, Deiniolen a’r cymunedau cyfagos)

Fe’i ganed yn Llundain, astudio Saesneg ym Mhrifysgol Birmingham (lle cyfarfu â’i wraig) a dysgodd yn Birmingham, Swydd Caint, St Helens, Lerpwl (lle ganwyd eu dau fab) a Groningen, yn yr Iseldiroedd, am yn agos at dri deg a phump o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2006 a dod i fyw yng Ngogledd Cymru. Roedd wedi amau ers talwm bod galwad arno i’r weinidogaeth ordeiniedig ac arweiniodd hynny ato’n cofrestru ar gwrs MA Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, bron cyn gynted ag y symudodd yma.

Bu ei daith tuag at Ordeinio yn un maith, a chafwyd ambell rwystr ar hyd y ffordd, felly mae’r petruster anorfod sy’n dod gyda chyfrifoldeb dwfn y rôl hon hefyd yn cael ei leddfu gan deimlad o ryddhad cyfatebol a chyffro disgwylgar.

Wedi ei Ordeinio yn Ddiacon, fe fydd Allan yn Gurad di-gyflog yn Ardal Weinidogaeth Bro Eryri,  lle mae’n byw a lle bu’n gwasanaethu fel Darllenydd am yn agos at wyth mlynedd.

Yn ôl i ben y dudalen

 

Alison Gwalchmai   i’w hordeinio yn offeiriad ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli (Llanidloes, Trefeglwys, Carno a’r cymunedau cyfagos)

Yn ystod fy mlwyddyn fel Diacon symudais o fod yn hunangynhaliol at weinidogaeth gyflogedig llawn amser, a oedd yn eithaf annisgwyl, ond rwyf yn mwynhau’r sialens.

Dwi wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr â’m cydweithwyr yn ardal gweinidogaeth Bro Arwystli, rhai lleyg ac ordeiniedig – mae hi wedi bod yn fraint.

Edrychaf ymlaen at greu cydberthnasau newydd gyda phobl rydyn ni’n eu gwasanaethu yn yr ardal gweinidogaeth.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Caroline John   i’w hordeinio fel offeiriad ordeiniedig ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol (Bangor)

Fe’m ganed yn Middlesex ym 1964 a byw yn Surrey hyd nes o’n i’n naw, cyn symud i Swydd Gaer. Fe astudiais Ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Emmanuel yng Nghaergrawnt a’m derbyn fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol. Ym 1988, dechreuais hyfforddiant yng Ngholeg Sant Ioan, Notttingham, lle wnes i gyfarfod â’m gŵr, Andy. Ym 1990 cefais f’ordeinio yn Ddiacon yng Nghadeirlan Dewi Sant. Fues i’n gwasanaethu curadiaeth yn Aberteifi a churadiaeth fer yn Aberystwyth, cyn geni ein plentyn cyntaf ym 1991.

Yn ystod y 1990au we wnes i waith achlysurol i’r Eglwys, gan gynnwys rhywfaint o gaplaniaeth gyda ward plant Ysbyty Bronglais a phan roedd yr amser yn briodol, fe es i waith secwlar, yn cynnal Adran Gwybodaeth, Cyngor ac Eiriolaeth gydag Age Concern Ceredigion.

Dychwelais i’r weinidogaeth ordeiniedig llynedd pan ymunais ag Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol.

Wedi imi fod yn un o’r Diaconiaid hiraf ei gwasanaeth, fe fyddaf yn cael f’ordeinio yn Offeiriad, 27 o flynyddoedd wedi imi gael fy ngwneud yn Ddiacon gan y diweddar Archesgob George Noakes. Mae hi wedi bod yn siwrne ryfedd a rhyfeddol. Nôl ym 1977, pan gafodd merched eu hordeinio gyntaf fel Offeiriaid yng Nghymru, roeddwn i’n disgwyl ein pedwerydd plentyn ac roedd bywyd yn dueddol o gylchdroi o amgylch y plant – eu cludo i’r ysgol, ymweliadau â’r meddyg a newid clytiau! Bryd hynny dwi’n cofio dweud y baswn i’n fodlon mynd yn offeiriad petai’r alwad yn dod, ond prin y meddyliais i y deuai’r cyfle eto.

Felly doedd neb yn fwy syfrdan na mi pan, bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, y daeth yr alwad yn gwbl glir. Un o’r pethau rhyfeddaf am Dduw ydy ei fod yn ein galluogi ar gyfer y dasg mae’n ein galw, nid yn unig â’r nerth a dderbyniwn ganddo ond yr awydd i’w gyflawni hefyd .

Wrth imi bellach ateb galwad Duw i’r Offeiriadaeth, mi rydw i’n ymwybodol o’r fraint fawr o alluogi pobl trwy gyfrwng y Cymun, i gyfarfod â’r Duw sy’n eu caru fel pechaduriaid sydd wedi cael maddeuant, i ganfod iachâd am y gorffennol, llawnder ar gyfer y presennol ac i gamu ‘mlaen tuag at y dyfodol trwy fywyd a waredwyd.

Gyda theimlad o barchedig ofn, gostyngeiddrwydd, rhyfeddod a chyffro, dwi’n edrych ymlaen at gael f’arwain gan Dduw, yn sicr yn y ddealltwriaeth y bydd yr Arglwydd, sydd wedi f’arwain mor amyneddgar a ffyddlon hyd yma, yn parhau i weithio Ei ryfeddodau.’

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Jon Price   i’w ordeinio yn offeiriad arloesi ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli (Llangurig, Llanidloes, Trefeglwys, Carno a’r cymunedau cyfagos)

“Fel offeiriad arloesi ordeiniedig, fe fues i’n treulio llawer o’m blwyddyn ddiaconol yn gweithio gyda chymuned genhadaeth ddatblygol. Rydyn ni’n archwilio dulliau sy’n trosglwyddo popeth sy’n dda ac sy’n cyfoethogi mewn cymuned Gristnogol at bobl, mewn ffyrdd sy’n amlygu cariad Duw, ac sy’n eu galluogi i ffynnu.

Dwi’n gyffrous ynglŷn â sut y gall y weinidogaeth hon ddatblygu yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac yn edrych ymlaen at feddwl yn greadigol ynglŷn â sut mae modd inni barhau i gyfranogi wrth arddangos cariad Duw. Mae’n gyffrous hefyd ceisio dirnad lle mae Duw ar waith a cheisio ymuno gyda’r bwriad o greu mannau newydd lle gall ysbrydolrwydd ddeffro a bywiogi yng nghyd-destun cymuned ddiogel a chefnogol.

Ar ôl imi gael f’ordeinio yn offeiriad, dwi’n edrych ymlaen at ganfod dull sacramentaidd at y weinidogaeth hon, gan bresenoli bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu fel dechrau a chanolbwynt popeth fydda i’n ei wneud. Wedyn bydd angen archwilio’r cwestiwn o ba ffurf mae grym trawsffurfiol a hyfrydwch addoliad sacramentaidd yn mynd i gymryd yng nghyd-destun cymunedau ffydd newydd.

Dwi’n cael fy herio gan yr Apostol Paul i fod yn fwy tebyg i Iesu. Fel y dywed Paul yn ei lythyrau (Philipiaid 2.5), fy ngobaith i, wrth imi wasanaethu pobl Bro Arwystli a thu hwnt, y bydd pobl, ambell waith efallai, yn gallu dweud amdana i ‘ei fod wedi ceisio bod yn rhywun oedd ag agwedd run fath â’r Meseia Iesu’.”

Yn ôl i ben y dudalen

 

 

Martin Pritchard   i’w ordeinio yn offeiriad ac i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Bro Celynnin (Conwy, Caerhun a’r cymunedau cyfagos)

“Mae rôl Diacon yn un werthfawr ac mae hi wedi bod yn fraint i gael datblygu’r rôl hon yng Nghadeirlan Bangor, gan ddysgu gan y Deon ac arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol, Kathy. Galwad Diacon ydy i weithio ar flaen y gad yn y weinidogaeth, yn ymwneud â phobl oddi fewn i’r eglwys, pobl allan yn y gymuned a’r rhai hynny sydd ar gyrion cymdeithas. Mae Bro Deiniol wedi bod yn le da i osod y ffocws hwn ac mae fy mlwyddyn fel diacon wedi’i lunio wrth imi ymhél ag amrywiaeth helaeth o wasanaethau ledled yr ardal gweinidogaeth, mewn sawl achos fel diacon ar yr allor. Mae llawer o’r ffocws wedi bod ar ymweliadau bugeiliol hefyd gyda rhywfaint o gyfle i addysgu. Mae hi wedi bod yn ddechrau gwych yn y weinidogaeth ordeiniedig, yn gosod sylfeini gweddi, ceisio dwyfol a chydnabyddiaeth o gariad Duw yn y Byd.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael f’ordeinio fel Offeiriad ac yn teimlo mai dim ond dyfnhau gall y teimlad arbennig hwnnw o wybod eich bod yn cyflawni’r hyn y’ch galwyd i wneud ac i fod i wneud, gan ymestyn y Llawenydd hwnnw a brofir o wasanaethu Crist a’i bobl ar y cam nesaf hwn a thu hwnt.”