Bydd Sara eisoes yn wyneb cyfarwydd i lawer yn yr esgobaeth. Cafodd ei gwneud yn ddiacon yn 2017 a'i hordeinio'n offeiriad yn 2018 yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Cyn ei hordeinio, bu Sara yn gweithio fel Cynghorydd Trais yn y Cartref gyda Gwasanaethau Cam-drin Domestig De Gwynedd. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan allweddol o ddau grŵp egnïol ar lawr gwlad, EcoBro (grŵp cymunedol wedi'i leoli ym Mhenrhyndeudraeth yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol yn y cylch) a CEFN (Cefnogi Ffoaduriaid / Supporting Refugees, a drefnodd yr ymweliad aml-ffydd diweddar â'r gwersyll ffoaduriaid o'r enw'r Jyngl yn Calais).
Ers ei hordeinio, bu Sara'n gwasanaethu fel Curad yn Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Enlli a Bro Madryn. Dechreuodd Sara ei rôl fel Arweinydd Cymuned Arloesol yn 2021.
Sara will be familiar to many in the diocese, having been made deacon in 2017 and ordained as a priest in 2018 at Bangor Cathedral. Prior to her ordination, Sara worked as a Domestic Violence Advisor with De Gwynedd Domestic Abuse Services. She has also been a key part of two significant grass roots movements, EcoBro (a community group based around Penrhyndeudraeth working towards a sustainable future for local communities in the area) and CEFN (Cefnogi Ffoaduriaid / Supporting Refugees, which arranged the recent multi-faith visit to the refugee camp known as the Jungle in Calais).
Since her ordination, Sara as served as Curate in Bro Enlli and Bro Madryn Ministry Areas. Sara started her role as Pioneer Community Leader in 2021.