minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"I'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw." | "To present your bodies as a living sacrifice, holy and acceptable to God."
English

Addoliad ar yr Unfed Sul ar Ddeg wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Rhufeiniad 12:1-8

Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.

Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un. Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd. A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.


Mathew 16:13-20

Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?” Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.” “A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd. Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.” Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Rai blynyddoedd yn ôl, daeth un o’r plant ag offer gwneud canhwyllau i mi, gyda’r holl gwyr, lliwiau a’r mowldiau angenrheidiol. Doedd hynny ddim yn syndod, roeddwn i wedi mwynhau gwneud pethau fel hyn ers rhai blynyddoedd. Ond mae’r gelf o gael y cwyr yn ddiogel i’r mowld yn gofyn am law gadarn a chryn dipyn o ymarfer. Dyna ddelwedd sy’n dod i mi o’r newydd wrth i mi darllen geiriau Paul i'r Rhufeiniaid, pennod 12. Gwrandewch ar ddehongliad J B Phillips o ddwy adnod gyntaf y bennod honno:

‘Gyda llygaid led y pen ar agor i drugareddau Duw, rwy’n erfyn arnoch, fy mrodyr, fel gweithred o addoliad deallus, i roi iddo eich cyrff, fel aberth byw, wedi’u cysegru iddo ac yn dderbyniol ganddo. Peidiwch â gadael y byd o’ch cwmpas eich gwasgu i’w fowld ei hun, ond gadewch i Dduw ail-folwdio eich meddyliau o’r tu fewn, er mwyn i chi gael profiad ymarferol fod cynllun Duw ar eich cyfer chi yn dda, yn cyfarfod â’i holl ofynion ac yn symud tuag at y nod o wir aeddfedrwydd’.

Gydol y llythyr hwn mae Paul wedi bod yn egluro beth mae ffydd yn Iesu’n ei olygu: ei fod yn doriad radical o’r gorffennol ac yn agor i ni’r posibilrwydd o fyw o dan gyfarwyddid Duw, nid cymaint o dan y gyfraith gyda’i gorchmynion beichus ond ag Ysbryd Glân Duw. Ac yma, mae’n cynnig ffordd benodol o ddeall yr her yma. Beth ddylem ni wneud o hyn? Gadewch i mi awgrymu 3 pheth.

Mae ‘trugaredd’ yn air a allai ddisgyn yn rhwydd o’n Geiriadur. Yn gyntaf, mae’n swnio braidd yn hen ffasiwn ac yn bendant o oes y fu pan fyddai Brenhinoedd a Brenhinesau’n gweinyddu cyfiawnder mewn ffyrdd mympwyol.Fodd bynnag, mae trugaredd yn mynd â ni at galon yr efengyl a’r ffordd y mae Duw yn edrych arnom ni ac ar y greadigaeth. Nid yw’n gwneud hynny gyda dirmyg na gwatwar.Mae trugaredd hyd yn oed yn ei ddicter at ein pechodau oherwydd mae’n gwybod fod y pechodau hyn yn dinistrio ac yn niweidio.

Ac mae trugaredd yn dweud wrthym ni fod gan Dduw dosturi a hiraeth amdanom. Efallai bod Duw Cyfiawnder yn ein cael ni’n brin yn y glorian ond mae Duw hefyd yn llawn trugaredd ac yn ymestyn allan rhag i bechod a drygioni beidio â chael eu hateb. Pan fyddwn ni’n deall arwyddocâd y groes, byddwn yn dod wyneb yn wyneb â’r trugaredd hwnnw. Sut y daeth Duw atom ni ac ymestyn allan trwy farwolaeth Iesu er mwyn, fel defaid ar gyfeilion, ein dwyn yn ôl at garwr ein heneidiau. Mae yna ras a bendith bywiol i’w cael yma: i fyfyrio ar farwolaeth Iesu a blasu’n aml y trugaredd rydym yn ei ganfod yma.

Yr ail beth mae Paul yn ei ddweud yw fod y trugaredd hwn yn gwahodd ymateb. Fe ddylem ni gynnig ein hunain fel aberth byw. Mae’r gyfraith yn dangos aberth fel y ffordd o newid tuag at Dduw, ond, yma, nid bara na chnydau na hyd yn oed unrhyw beth byw sy’n cael ei gynnig. Rydym ni’n cynnig rhywbeth sy’n gofyn am lawer mwy– ni ein hunain fel yr unig ymateb posibl i drugaredd Duw. Nid yw’r math hwn o offrwm yn feichus na hyd yn oed yn ddyletswydd yn gyntaf. Mae’n ymateb cariad. Mae’r gerdd Saesneg gan George Herbert yn sôn am y foment mae Cariad yn ein hennill ac yn gofyn i ni ymateb:

Love bade me welcome: yet my soul drew back, Guiltie of dust and sinne,

But quick-ey’d Love, observing me grow slack

From my first entrance in,

Drew nearer to me, sweetly questioning,

If I lack’d any thing.

A guest, I answer’d, worthy to be here:

Love said, You shall be he.

I the unkinde, ungratefull? Ah my deare,

I cannot look on thee.

Love took my hand, and smiling did reply,

Who made the eyes but I?

Truth Lord, but I have marr’d them: let my shame

Go where it doth deserve.

And know you not, says Love, who bore the blame?

My deare, then I will serve.

You must sit down, says Love, and taste my meat:

So I did sit and eat.

Y trydydd peth rwy’n ei weld yw’r ddelwedd o newid:peidiwch â chael eich gwasgu i fowld a chael eich gweddnewid gan adnewyddiad eich meddwl. Mor hawdd yw i ni gael ein dal gan nifer o agendas! Rydym yn gweithredu i reolau neu ddisgwyliadau sy’n gallu bod yn nerthol.Ond ai ffyrdd Duw yw’r rhain? Mae’r toriad, y toriad radical y buom yn sôn amdano, yn dod i’r golwg yma. Er mwyn byw yn wahanol, mae angen i’n meddyliau gael eu hadnewyddu gan Dduw. O’r lle y byddwn ni’n treulio amser gyda Duw, rydym yn gallu unioni gyda Duw ac â ffyrdd Duw. Mae hynny’n gallu bod yn anodd wrth gwrs, ond mae hefyd yn antur:darganfod mai ffyrdd Duw, mewn gwirionedd, yw'r gorau!

Dechreuais gyda darlun o ganhwyllau a mowldiau. Rwyf wedi darganfod mai dyfal donc yw hi gyda phethau fel hyn. Ac felly hefyd y mae hi hefyd gyda ffydd. Gallai sicrhau newid ymddangos yn anodd. Ond nid ras gyflym yw hyn ond marathon sy’n cymryd amser. Efallai y byddwn ni’n methu ond mae bob amser yn bosibl ail gychwyn gyda Duw, nad yw byth yn rhoi’r gorau i ni.

Felly, sut byddwch chi’n ymatal rhag y temtasiwn o gael eich gwasgu i fowld y byd yr wythnos hon? Sut all trugaredd Duw ysbrydoli calon sy’n dal ati fwy a galw am ymateb newydd oddi wrthych? Mae Duw yn rhoi gras a nerth i bob un ohonom mewn pethau fel hyn.

Amen

Cymraeg

Worship on the Eleventh Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Romans 12:1-8

I appeal to you therefore, brothers and sisters, by the mercies of God, to present your bodies as a living sacrifice, holy and acceptable to God, which is your spiritual worship. Do not be conformed to this world, but be transformed by the renewing of your minds, so that you may discern what is the will of God—what is good and acceptable and perfect.

For by the grace given to me I say to everyone among you not to think of yourself more highly than you ought to think, but to think with sober judgment, each according to the measure of faith that God has assigned. For as in one body we have many members, and not all the members have the same function, so we, who are many, are one body in Christ, and individually we are members one of another. We have gifts that differ according to the grace given to us: prophecy, in proportion to faith; ministry, in ministering; the teacher, in teaching; the exhorter, in exhortation; the giver, in generosity; the leader, in diligence; the compassionate, in cheerfulness.


Matthew 16:13-20

Now when Jesus came into the district of Caesarea Philippi, he asked his disciples, “Who do people say that the Son of Man is?” And they said, “Some say John the Baptist, but others Elijah, and still others Jeremiah or one of the prophets.” He said to them, “But who do you say that I am?” Simon Peter answered, “You are the Messiah, the Son of the living God.” And Jesus answered him, “Blessed are you, Simon son of Jonah! For flesh and blood has not revealed this to you, but my Father in heaven. And I tell you, you are Peter, and on this rock I will build my church, and the gates of Hades will not prevail against it. I will give you the keys of the kingdom of heaven, and whatever you bind on earth will be bound in heaven, and whatever you loose on earth will be loosed in heaven.” Then he sternly ordered the disciples not to tell anyone that he was the Messiah.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

A few years back one of the children brought me a candle making kit with all the wax, dyes and moulds needed. For a few years I’d enjoyed making similar things and so it was a no surprise perhaps. The art of getting the wax safely into the mould however takes a steady hand and a bit of practice. That’s an image that comes to me afresh as I read the words from Paul to the Romans chapter 12 and the way JB Phillips translates it. Listen to the first two verses of that chapter:

‘With eyes wide open to the mercies of God, I beg you, my brothers, as an act of intelligent worship, to give him your bodies, as a living sacrifice, consecrated to him and acceptable by him. Don’t let the world around you squeeze you into its own mould, but let God re-mould your minds from within, so that you may prove in practice that the plan of God for you is good, meets all his demands and moves towards the goal of true maturity’.

Throughout this letter Paul has been explaining what faith in Jesus means: it marks a radical break from the past and opens up to us the possibility of living under God’s direction, not the law with its burdensome commands so much as the Holy Spirit of God. And here he offers a particular way of understanding this challenge. What should we make of this? Let me suggest 3 things.

‘Mercy’ is a word which could easily fall from our Dictionary. It sounds a bit antiquated firstly and definitely from a bygone age when Kings and Queens would dispense justice in arbitrary ways. Mercy however takes us to the heart of the gospel and the way God looks on us and the creation. He does so not with derision or disdain. Even his anger at our sins is shot through with mercy because he knows these sins destroy and harm.

And mercy tells us that God has a compassion and yearning for us. The God of Justice might find us lacking in the weighing scales but God is also full of mercy and reaches out so that sin and wrongdoing might not go unanswered. When we grasp the significance of the cross, we come face to face with that mercy. How God came to us and reached out through the death of Jesus so that, like sheep gone astray, we were brought back to the lover of our souls. There is a living grace and blessing to be found here: to ponder the death of Jesus and taste often the mercy we find here.

The second thing Paul says is that this mercy invites a response. We ought to offer ourselves as living sacrifices. Whereas the law prescribed sacrifice as the way of marking a change of heart towards God, here it is not bread or crops or even a living thing. We offer something more exacting - ourselves as the only possible response to God’s mercy. This kind of offering is not a chore or even a duty firstly. It’s the response of love. A poem by George Herbert speaks of the moment Love wins us and asks for us to respond:

Love bade me welcome: yet my soul drew back, Guiltie of dust and sinne,

But quick-ey’d Love, observing me grow slack

From my first entrance in,

Drew nearer to me, sweetly questioning,

If I lack’d any thing.

A guest, I answer’d, worthy to be here:

Love said, You shall be he.

I the unkinde, ungratefull? Ah my deare,

I cannot look on thee.

Love took my hand, and smiling did reply,

Who made the eyes but I?

Truth Lord, but I have marr’d them: let my shame

Go where it doth deserve.

And know you not, says Love, who bore the blame?

My deare, then I will serve.

You must sit down, says Love, and taste my meat:

So I did sit and eat.

The third thing which comes to me concerns the image of change: don’t be squeezed into a mould and be transformed by the renewing of your mind. How easy for us to work to many agendas! We operate to rules or expectations which can be powerful. But are they God’s ways? The break, the radical break we spoke of, comes into play here. In order to live differently, our minds need renewing by God. From a place of spending time with God, we are able to become aligned with God and God’s ways. This can be a challenge of course but also an adventure: discovering that, actually God’s ways really are best!

I began with a picture of candles and moulds. Practice makes perfect is something I’ve discovered with anything like this. And so it is with faith. It can seem a task to secure change. But this is no sprint but a marathon which takes time. We may fail but there is always a new start with God who doesn’t give up on us.

So how will you resist the temptation to be squeezed into the world’s mould this week? How can the mercy of God inspire a more persevering heart and call forth a new response from you? God give us all grace and strength to these matters.

Amen