minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd." | "Live in harmony with one another."
English

Addoliad ar y Deuddegfed Sul wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Rhufeiniad 12:9-12

Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni. Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch. Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch. 

Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb. Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb. Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.” Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.


Mathew 16:21-28

O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” 

Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd? 

"Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Maniffesto o Ras

Hyd yn oed yn y gymdeithas seciwlar sydd ohoni heddiw, rwy’n amau bod llawer o bobl yn dal i wybod fod dywediadau megis ‘Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd’ yn dod oddi wrth Iesu. Efallai nad ydyn nhw’n adnabod y dywediadau fel y Gwynfydau nac yn gwybod o ble yn yr efengylau y maen nhw’n dod ond efallai, ar ôl bod mewn angladdau neu briodasau, eu bod yn gwybod eu bod yn ymadroddion crefyddol.Mae dywediadau fel hyn yn sefyll allan oherwydd eu bod yn dweud rhywbeth arwyddocaol.Yn wir, mae’r Gwynfydydau wedi cael eu galw’n faniffesto Iesu ar gyfer y Deyrnas.Mae’n dangos gweledigaeth eang o sut y gallai bywyd edrych pe byddai Duw’n cael ei ganfod ac phe byddai ffyrdd Duw yn ffynnu.

Yn ein darlleniad o Rhufeiniaid 12 heddiw, rydym yn darllen yr hyn sy’n swnio fel maniffesto hefyd.Er ei fod yn eithaf ‘darniog’ – rhest o ‘Gwnewch’ a ‘Peidiwch â Gwneud’, maen nhw’n pethyn i’w gilydd ac mae yna edefyn cyffredin yn rhedeg trwyddyn nhw.

Yr wythnos ddiwethaf, gwelsom Paul yn ceisio egluro beth mae marwolaeth ac atgyfodiad Iesu’n ei olygu:mae’n dangos toriad gyda’r gorffennol ac yn agor posibiliadau newydd i wasanaethu Duw.Yma, rydym yn gweld rhai o’r pethau penodol y gallai hynny eu cynnwys.Ond beth sy’n eu dal nhw i gyd gyda’i gilydd?Rwyf eisiau awgrymu tri pheth.

Yn gyntaf, rydym yn cael ein gwahodd i gael ein tir cadarn ein hunain:’llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddio', meddai Paul.Mae’n canolbwyntio ar fywyd mewnol yr enaid Cristnogol.Ac mewn gwirionedd, mae mwy na lai bopeth arall yn llifo o hynny.Os oes gennym y math hwn o dir cadarn, mae’n sylfaen dda o ble y mae pethau eraill yn gallu tyfu.Pan ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Galatia, dywedodd rywbeth tebyg:‘Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ a mwyach nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof i. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi. (2:20)

Mewn mannau eraill byddai Paul yn disgrifio’i hun fel y lleiaf o’r apostolion a’r gwaethaf o bechaduriaid.Roedd yn gwybod, cyn y gallai gynnig unrhyw fath o weinidogaeth, bod gofyn iddo fod mewn lle da gyda Duw ei hun, a chael cyfrif clir a realistig ohono ei hun hefyd.Mae pob un ohonom yn gwybod am y darlleniad o’r efengyl am Martha a Mair ond onid yw hi'n hawdd bod fel Martha?Mae’n llawer iawn haws i mi, o leiaf, gael fy nrysu gan yr holl waith sydd ei angen na bod yn dawel ac eistedd wrth draed Iesu.

Os oes gan y maniffesto mae Paul yn ei ddisgrifio unrhyw bŵer, bydd yn gofyn am y dimensiwn personol hwn o ffydd.

Yn ail, mae gan Paul ymrwymiad cryf i eraill o’n cwmpas.Rydym yn cael ein galw i rannu Crist mewn gwasanaeth a chariad.Unwaith eto, dyma ei eiriau i ni:‘Bendithiwch y rhai sy’n eich erlid, bendithio heb felltithio byth.Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylwch gya’r rhai sy’n wylo.Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd; gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach , rhodiwch gyda’r distadl.’

Yn aml, rydym yn meddwl mai bod yn dda a gwneud daioni yw hanfod y ffydd Gristnogol.Ond nid dyma’n union mae’r darnau hyn yn ei ddweud:maen nhw’n sôn yn hytrach am y ffordd mae daioni’n goresgyn drygioni, sut mae’r newyddion da nid yn unig yn trechu heriau drygioni, ond yn fuddugoliaethus drosto.Nid un grym yn bod fwy nerthol nag un arall yw hynny, ‘Daioni’ yn rhoi crasfa i ‘Ddrygioni’.Yn wir, y ffordd Cristnogol yw dangos harddwch gwendid a bod yn fregus.Ffordd Crist yw ffordd y groes.Trwy’i glwyfau ef rydym ni’n cael ein hiachau a ninnau’n iachau.

Tybed a allwn ni fagu hyder o’r newydd yma?Y gwahoddiad i ddilyn Crist yw darganfod sut mae’r groes, sut mae gwendid, yn ennill ac yn gorchfygu drygioni.

Yn olaf, mae Paul yn gadael lle i Dduw.Mae’r geiriau hyn yn gallu swnio’n rhyfedd i’n clustiau ni:‘’Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i’r digofaint dwyfol fel y mae’n ysgrifenedig: "Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl, medd yr Arglwydd.”Ond mae Paul yn dilyn hyn yn gyflym drwy wahodd gwasanaeth cariadus.Rwy’n meddwl fod Paul yn cydnabod nad oedd yn gallu rheoli popeth ac na allwn ninnau chwaith, ar adegau.I Esgob mae hynny’n rhywbeth eithaf anodd i’w glywed oherwydd, weithiau, rydyn ni’n meddwl y gallwn ni!Ar adegau, mae’n rhaid i ni ymddiried yn Nuw ynghylch y pethau sydd y tu hwnt i ni, ymddiried y materion hynny ynddo Ef, beth bynnag a ddaw.

Ac mae hynny’n weithred o ffydd ac yn rhyddhad enfawr.Gallwn ni ymddiried y pethau nad ydyn ni’n gallu eu rheoli yn Nuw, felly does dim rhaid i ni gario’r beichiau hynny.Onid dyna pam y gallai Paul weddïo am yr heddwch a oedd y tu hwnt i bob deall?Ysgrifennodd fel hyn:‘A bydd tangnefedd Duw sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu’ (Phil. 4:7).

Tybed a allai’r lle rydyn ni’n ei adael i Dduw fod yn weithred o ffydd?Lle rydym yn rhoi’r pethau sydd y tu hwnt i ni yn ymddiriedaeth Duw?

Felly, maniffesto gan Paul, yn debyg efallai i’r Gwynfydau, ond yn sail i’r holl orchmynion hynn, ymrwymiad cryf i’n ffydd ein hunain, ymrwymiad clir i eraill mewn cariad a gwasanaeth ac ymddiriedaeth yn nerth Duw i fod yna.Tybed beth fyddwh chi’n ‘ei gadw’ o’r darn hwn a sut y gallwch chi adael iddo suddo i mewn ychydig yn ddyfnach?

Cymraeg

Worship on the Twelfth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Romans 12:9-21

Let love be genuine; hate what is evil, hold fast to what is good; love one another with mutual affection; outdo one another in showing honor. Do not lag in zeal, be ardent in spirit, serve the Lord. Rejoice in hope, be patient in suffering, persevere in prayer. Contribute to the needs of the saints; extend hospitality to strangers.

Bless those who persecute you; bless and do not curse them. Rejoice with those who rejoice, weep with those who weep. Live in harmony with one another; do not be haughty, but associate with the lowly; do not claim to be wiser than you are. Do not repay anyone evil for evil, but take thought for what is noble in the sight of all. If it is possible, so far as it depends on you, live peaceably with all. Beloved, never avenge yourselves, but leave room for the wrath of God; for it is written, “Vengeance is mine, I will repay, says the Lord.” No, “if your enemies are hungry, feed them; if they are thirsty, give them something to drink; for by doing this you will heap burning coals on their heads.” Do not be overcome by evil, but overcome evil with good.


Matthew 16:21-28

From that time on, Jesus began to show his disciples that he must go to Jerusalem and undergo great suffering at the hands of the elders and chief priests and scribes, and be killed, and on the third day be raised. And Peter took him aside and began to rebuke him, saying, “God forbid it, Lord! This must never happen to you.” But he turned and said to Peter, “Get behind me, Satan! You are a stumbling block to me; for you are setting your mind not on divine things but on human things.”

Then Jesus told his disciples, “If any want to become my followers, let them deny themselves and take up their cross and follow me. For those who want to save their life will lose it, and those who lose their life for my sake will find it. For what will it profit them if they gain the whole world but forfeit their life? Or what will they give in return for their life?

“For the Son of Man is to come with his angels in the glory of his Father, and then he will repay everyone for what has been done. Truly I tell you, there are some standing here who will not taste death before they see the Son of Man coming in his kingdom.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

A Manifesto of Grace 

Even in today’s secular society I suspect lots of people would know that sayings like ‘Blest are the poor in spirit’ come from Jesus. They might not identify the sayings as the Beatitudes nor know where they come in the gospels but perhaps from attending funerals or weddings would know they are religious in nature. Sayings like this stand out because they say something significant. Indeed the Beatitudes have been called Jesus’ manifesto for the Kingdom. He sets out a broad vision of what life could look like if God were found and God’s way flourishing.

In our reading from Romans 12 today we read what sounds like a manifesto too. Although it’s quite ‘choppy’ – a list of ‘Do’s’ and ‘Don’ts’, they belong together and have common threads running through them.

We saw last week that Paul has been trying to explain what the death and resurrection of Jesus means: it marks a break from the past and opens new possibilities for serving God. Here we see some of the specific things this might involve. But what holds them all together? I want to suggest 3 things.

Firstly we are invited to have a solid ground ourselves: ‘Rejoice in hope, be patient in suffering, persevere in prayer’, Paul says. His focus is on the inner life of the Christian soul. And in truth, more or less, everything else flows from this. If we have this kind of firm footing, it provides a good basis from which other things might grow. When Paul wrote to the Christians at Galatia he said something similar: I have been crucified with Christ and I no longer live, but Christ lives in me. The life I now live in the body, I live by faith in the Son of God, who loved me and gave himself for me. (2:20)

Elsewhere Paul would describe himself as the least of the apostles and the worst of sinners. He knew that before any kind of ministry he could offer, he needed to in a good place with God himself, to have a clear and realistic account of himself too. We all know the gospel reading about Martha and Mary but isn’t it easy to be like Martha? It’s a good deal easier at least for me to be distracted by all the work which is needed than to be silent and to sit at the feet of Jesus.

If the manifesto Paul describes is to have any power, it will require this personal dimension of faith.

Secondly Paul has a strong commitment to others around us. We are called to share Christ in service and love. Again his words to us: ‘Bless those who persecute you; bless and do not curse them. Rejoice with those who rejoice, weep with those who weep. Live in harmony with one another; do not be haughty, but associate with the lowly.’

We often think the Christian faith is mostly about being and doing good. But that isn’t quite what these passages say: they speak rather about the way good overcomes evil, how the good news not only cancels out or challenges evil, but triumphs over it. This is not one force being more powerful than the other, ‘Good’ knocking ‘Evil’ for six. In fact the Christian way is to show the beauty of weakness and vulnerability. The Christ way is the way of the cross. It is by his wounds that we are healed and we heal.

I wonder if we can take confidence afresh here? The invitation to follow Christ is to discover how the cross, how weakness wins and triumphs over evil.

Lastly Paul leaves space for God. These words can stound strange to our ears: ‘Beloved, never avenge yourselves, but leave room for the wrath of God; for it is written, “Vengeance is mine, I will repay, says the Lord.” But Paul follows it quickly by inviting loving service. I think Paul recognized he could not control everything and that at times neither can we. For a Bishop that’s quite hard to hear because we sometimes think we can! At times we need to entrust things beyond us to God, to trust these matters to Him whatever comes.

And that is both an act of faith and a huge relief. God can be trusted with what we cannot control or manage so we don’t need to carry that burden. Isn’t that why Paul could pray for the peace which was beyond all understanding? He wrote this: ‘And the peace of God, which transcends all understanding, will guard your hearts and your minds in Christ Jesus’ (Phil. 4:7).

I wonder whether the space we leave for God could be an act of faith? Where we entrust to God what is beyond us?

So a manifesto from Paul, similar perhaps to the Beatitudes but underpinning all these commands a strong commitment to our own faith, a clear commitment to others in love and service and a trust in the power of God to be there. I wonder what’s your ‘take home’ from this passage and how you might let it sink in a little more deeply?