
Addoliad ar y Trydydd Sul ar Ddeg wedi'r Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Rhufeiniad 13:8-14
Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith. Oherwydd y mae'r gorchmynion, “Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych”, a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu. Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni. Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd. Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.
Mathew 18:15-20
“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill. Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion. Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi.
“Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa bethau bynnag a waherddwch ar y ddaear, fe'u gwaherddir yn y nef, a pha bethau bynnag a ganiatewch ar y ddaear, fe'u caniateir yn y nef. A thrachefn rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Tymor newydd
Mae’r darlleniad heddiw o’r Testament Newydd yn cael ei ddarllen weithiau ar ddechrau’r Adfent ac mae’n un o fy hoff ddarnau o’r Beibl.Mae fel pe byddai’n cyhoeddi cychwyn o’r newydd – diwedd yr hen a throi o’r newydd at Dduw. Dim rhyfedd fod yr Adfent yn llawn gobaith yn y ffordd y mae’n edrych tua'r dyfodol.
Wrth i ni gychwyn ar dymor newydd, yr haf drosodd a misoedd oerach yr Hydref o’n blaenau, mae’n teimlo’n rhyfedd oherwydd bod cymaint o bethau'n dal yn ansicr: dydyn ni ddim, fel maen nhw’n dweud, ‘yn ôl ar ein traed' eto a dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n o'n blaenau, fel eglwysi, ym misoedd y gaeaf. Gyda’r cefndir hwn, efallai ein bod eisiau ystyried ychydig o’r pethau a allai ddod i’n sylw, hyd yn oed os na allwn ni fod yn sicr o bopeth. Felly, beth yn union sydd yn y darlleniad?Gadewch i mi ystyried ychydig o bethau:
Y cyngor cyntaf y mae Paul yn ei gynnig yw y dylem ddeffro o’n cwsg. Dyma ei eiriau:‘Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy’n ymwybodol o’r amser, mai dyma’r awr chi ddeffro o gwsg.’Gallwn ddychmygu’r cloc larwm yn canu yn y ganrif gyntaf, yr agor ceg sy’n dod wrth ddeffro a gweld golau dydd. Yr ymestyn, a’r meddyliau’n dechrau ffurfio. Ond mae'r darlun y mae Paul yn ei gynnig yn awgrymu y gall bywyd fod fel cwsg dwfn – nid y math sy’n mwytho ac yn croesawu ar ôl diwrnod hir ond cwsg sy'n llesgau, yn dwyn ein hegni ac yn ein rhwystro rhag wynebu'r diwrnod.
Yn ei lyfr ‘The Silver Chair’ mae C S Lewis yn sôn sut mae Tywysog, un o’i arwyr yn y stori, yn cael ei ddal mewn cyfaredd gan swyn, yn debyg iawn i gwsg dwfn, tywyll. Bob tro y mae’n dod ato’i hun, mae’n gweld ei fod wedi’i rwymo a’i glymu, yn methu â thorri’n rhydd. Rwy’n meddwl mai dyma y mae Paul yn ei ddweud wrth Gristnogion Rhufain: ei bod yn amser deffro o’r trwmgwsg sy’n eich rhwystro a cherdded at oleuni'r hyn y mae Duw wedi'i addo.
Yr ail beth y mae Paul yn ein gwahodd ni i’w wneud yw rhoi heibio bethau'r tywyllwch. Dyma ei eiriau:‘Gadewch i ni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch a gwisgo arfau’r gloeuni’. Nid yw rhoi heibio gweithredoedd y tywyllwch yn golygu eu rhoi o’r naill du , fel llyfr neu rywbeth y byddwn yn mynd yn ôl at yn nes ymlaen. Mae’n fwy terfynol na hynny. Ystyr rhoi heibio yma yw gadael y tu hwnt i’n gafael. Rwy’n cofio, flynyddoedd yn ôl, adfail ym mhen draw’r ffordd yn y pentref lle’r oeddwn i’n byw. Roedd arwydd mawr arno ‘Dim Mynediad’ ond fe wyddai pawb fod yna goeden afalau ardderchog yng ngardd yr hen dy simsan hwn, a digon o le i chwarae mig ynddo. Mewn gwirionedd, denu yn hytrach na chadw rhywun draw oedd yr arwydd ‘Dim Mynediad’ a, cyffes, do fe fûm innau yno’n ‘chwilota’.
Mae rhoi rhywbeth heibio’n golygu rhoi rhywbeth yn ddigon pell o'n gafael fel na allwn ni, mwyach, ei gael. Ysgwn i beth yw’r pethau, y tueddiadau, yr arferion sydd gennym ni sydd braidd yn rhy agos a ddim yn ddigon pell i golli eu dylanwad ar ein bywydau. Mae’r darlleniad hwn yn ein gwahodd i ystyried sut y gallwn ni, yn ymwybodol, enwi beth bynnag yw’r peth sydd angen ein sylw.
Yn olaf, mae Paul yn awgrymu efallai y dylem wisgo set wahanol o ddillad. Ei eiriau eto:‘Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch’. Pan oeddwn i’n blentyn, fe fyddwn i weithiau’n etifeddu dillad fy mrawd oedd bedair blynedd yn hŷn na mi. Doedd dim ots gen i, yn wir, roeddwn i’n meddwl ei fod yn beth eithaf cŵl gwisgo dillad fy mrawd. Ond weithiau, roedden nhw braidd yn fawr, yn rhy llac a ddim yn ffitio’n dda iawn. Yr hyn a sylweddolais i oedd bod yn rhaid i mi dyfu iddyn nhw, ac y cymerai hynny amser. Ac, wrth gwrs, dyna oeddwn i’n ei wneud.
Pan fyddwn ni’n gwisgo'r Arglwydd Iesu Grist, fel dillad amdanom, efallai y byddwn ni’n teimlo ein bod yn gwisgo rhywbeth diarth ac anghyfarwydd. Mae hynny'n berffaith naturiol. Ond y mwyaf y byddwn ni’n eu gwisgo, y mwyaf cyfarwydd fyddan nhw, fel pâr newydd o esgidiau sy'n teimlo'n rhyfedd ar y dechrau. Gallai deimlo’n rhyfedd , efallai, gweddïo mewn ffordd newydd neu newid ein meddwl am rywun. Ond, fel cael cyhyrau a chymalau sydd wedi edwino dros y blynyddoedd i weithio, drwy eu defnyddio y daw'n normal i wneud hynny.
Apêl Paul i’r Rhufeiniaid oedd symud yn nes at Dduw yn Iesu. Mae’n cynnig rhai darluniau i’n helpu gyda hynny:Deffrowch o’ch cwsg, rhowch heibio bethau negyddol, gwisgwch ddillad da yr Arglwydd Iesu Grist. Sut allwn ni feddwl am ffyrdd ymarferol y gallwn ni wneud hyn?
Worship on the Thirteenth Sunday after Trinity
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Romans 13:8-14
Owe no one anything, except to love one another; for the one who loves another has fulfilled the law. The commandments, “You shall not commit adultery; You shall not murder; You shall not steal; You shall not covet”; and any other commandment, are summed up in this word, “Love your neighbor as yourself.” Love does no wrong to a neighbor; therefore, love is the fulfilling of the law.
Besides this, you know what time it is, how it is now the moment for you to wake from sleep. For salvation is nearer to us now than when we became believers; the night is far gone, the day is near. Let us then lay aside the works of darkness and put on the armour of light; let us live honorably as in the day, not in reveling and drunkenness, not in debauchery and licentiousness, not in quarreling and jealousy. Instead, put on the Lord Jesus Christ, and make no provision for the flesh, to gratify its desires.
Matthew 18:15-20
“If another member of the church sins against you, go and point out the fault when the two of you are alone. If the member listens to you, you have regained that one. But if you are not listened to, take one or two others along with you, so that every word may be confirmed by the evidence of two or three witnesses. If the member refuses to listen to them, tell it to the church; and if the offender refuses to listen even to the church, let such a one be to you as a Gentile and a tax collector. Truly I tell you, whatever you bind on earth will be bound in heaven, and whatever you loose on earth will be loosed in heaven. Again, truly I tell you, if two of you agree on earth about anything you ask, it will be done for you by my Father in heaven. For where two or three are gathered in my name, I am there among them.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
A new season
The reading set for today from the New Testament is sometimes read at the start of Advent and it’s one of my favourite Bible passages. It seems to herald a new start – an end to the old and a fresh turning to God. No wonder Advent is so full of hope in the way it looks forward.
As we start a new season, an end to summer and the cool months of Autumn beckon, it feels strange because so much is still uncertain: we haven’t, to quote a phrase now repeated, ‘got back on our feet’ yet and we don’t yet know what the winter months hold for us as churches. That backdrop means we might want to reflect a bit on things which could receive our attention even if we can’t be sure of everything. So what to make of the passage? Let me suggest a few things:
And the first piece of counsel Paul offers is that we wake from our sleep. These are his words: ‘Besides this, you know what time it is, how it is now the moment for you to wake from sleep.’ We can imagine a first century alarm clock going off, the yawn that marks our coming out of sleep into the light of day. The stretching and the thoughts that begin to form. But the picture Paul offers suggests that life can be like a deep sleep – not the sort which is cosseting and welcome after a long day but a stupefying sleep which robs us of energy and prevents us from facing the day.
In his book ‘The Silver Chair’, CS Lewis tells how a Prince, one of our heroes in the story, is kept under an enchantment by a spell, much like a deep gloomy sleep. Every time he comes to his senses he finds himself bound, tied and incapable of freedom. I think this is what Paul is saying to the Roman Christians: it is time to wake from this slumber which inhibits you and walk into the light of what God has promised.
The second thing which Paul invites is that we put aside the things of darkness. These are his words: ‘So let us put aside the deeds of darkness and put on the armour of light’. Putting aside the deeds of darkness doesn’t mean putting them to one side as we might a book or something we intend to take up later in the day. It’s more final than that. To put aside here means to leave them out of reach. Years ago I remember an old ruin at the bottom of the road in the village where I lived. There was a big sign outside which said ‘No Entry’ but we all knew this old rickety house also had a great apple tree as well as numerous rooms to explore. In truth it was that ‘No Entry’ sign which made it far more exciting a prospect so yes, confession time, we did, how shall I put it, ‘explore’.
Putting something aside means far enough out of reach that it isn’t any longer accessible to us. I wonder what are things, tendencies, habits we have which are a bit too close and not far enough away to lose their influence in our lives? The reading invites us to reflect on how we could consciously name whatever it is that needs our attention.
Lastly, Paul suggest we might wear a different set of clothes. His words again: ‘Rather, clothe yourselves with the Lord Jesus Christ’. When I was a child I sometimes inherited my brothers clothes who was 4 years my senior. I didn’t mind this actually as I thought it was quite cool to wear the garments on my big brother. However sometimes they were a bit big, baggy and ill fit me. What I discovered was that I needed to grow into them over a period of time. And of course that’s what I did.
When we put on the Lord Jesus Christ, clothe ourselves with him, it might mean we wear something that feels strange and unfamiliar. That’s perfectly normal. But the more we stay in them, the familiar they become just like a new set of shoes which feel strange at first. It can seem strange perhaps to pray in a new way or change our opinion of someone. But like the exercise of limbs and muscles atrophied over years, it’s when use becomes normal that it becomes normal to use them.
Paul’s appeal to the Roman Christians is to move closer to God in Jesus. He offers some pictures to help with that: Wake from your sleep, put things negative aside, wear the good clothes of the Lord Jesus Christ. How could we think about practical ways in which we could do this?