minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf" | "The last will be first, and the first will be last"
English

Addoliad ar y Pymthegfed Sul wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Philipiaid 1:21-30

Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn ôl atoch.

Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl, heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw. Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto, gan ymdaflu i'r frwydr honno y gwelsoch fi ynddi, ac yr ydych yn awr yn clywed fy mod ynddi o hyd.


Mathew 20:1-16

“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan. Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan. Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad. Dywedodd wrthynt hwythau, ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg’; ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen. Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’ ‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef. Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.’ Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’ Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi? Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau. Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni? Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ 


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ydych chi erioed wedi sylwi ei bod yn edrych fod Iesu’n adrodd rhai o’i storïau’n fwriadol i bryfocio a hyd yn oed i wylltio’r rhai oedd yn eistedd a gwrando arno? Efallai fod hynny’n swnio’n beth rhyfedd iawn i'w ddweud ac yn ffordd ryfedd o gyflwyno myfyrdod. Wedi’r cyfan, onid ydyn ni wedi cael ein magu i gredu mai storiâu daearol gydag ystyr nefolaidd yw'r damhegion. Mae hynny’n ddigon gwir, ond maen nhw hefyd yn eithaf awgrymog ac wedi’u ffurfio ar gyfer cynulleidfa benodol, maen nhw’n gallu bod braidd yn annelwig a gallwn ninnau deimlo nad ydyn ni wedi deall yn iawn beth yn union yw neges y stori.

Mae'r darlleniad o’r efengyl heddiw yn y categori yma. Stori yw hi am ddyn busnes sy’n cyflogi gweithwyr i’w helpu yn y winllan ac yn talu cyflog iddyn nhw yn ôl y cytundeb. Ond mae’n talu’r un faint i’r rhai a gafodd eu cyflogi yn hwyr yn y dydd ag y mae’n ei dalu i’r rhai a fu’n llafurio drwy’r dydd yn y llwch a’r gwres. Mae rhain yn disgwyl mwy, ac yn cwyno. Gallwch ddychmygu y byddai pawb oedd yn gwrando ar y stori hon yr un mor ddig. A'u gwrychyn yn codi: ‘mae hyn yn anghyfiawn’ medden nhw. ‘Mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog’. Ac yna (a pha mor aml ydyn ni wedi dweud hyn) ‘Dydi hynny ddim yn deg’.Gallwch eu dychmygu’n mynd i’r dafarn ac yn trafod, dros wydryn o fedd, y tirfeddiannwr rhyfedd a'r storïwr rhyfeddach fyth oedd yn credu ei bod yn iawn annog anghyfiawnder.

Felly, beth sy’n digwydd yma? Gadewch i ni edrych yn fanylach ar y stori a gweld lle mae’n darfod.

Yn gyntaf, mae cynfas ein stori’n un eang. Mae’r cefndir yn ‘drawsgenedlaethol’ mewn gwirionedd. A’r tro yn y gynffon yw nad ydyn ni’n siarad am weithwyr yn y winllan, ddim â dweud y gwir. Rydyn ni’n sôn am Dduw yn derbyn i’r gorlan rai oedd braidd yn hwyr yn cyrraedd y parti – y Cenhedloedd, pobl fel chi a fi. Y cefndir oedd, hyd hynny, fod holl waith Duw wedi canolbwyntio ar bobl yr addewid ac ar wlad yr addewid: yr Iddewon. Wedi’u hethol a’u dewis gan Dduw, nhw oedd etifeddion y deyrnas, nhw oedd piau’r dyfodol ac, un diwrnod, byddai Duw, o'r diwedd, yn taro ac yn trechu eu holl elynion a byddai Jerwsalem yn cael ei dyrchafu uwch ben popeth.

Felly, byddai’r stori, i’r rhai oedd yn sylweddoli ei bod yn sôn am lawer mwy na grawnwin a chyflogau, yn eu cynddeiriogi. Byddai’r gwrandawyr yn deall bod y stori’n ail ddiffinio rhywbeth sanctaidd, yn newid y plot. Ei bod hefyd yn dangos dyfodol pan nad y nhw, mwyach, fyddai ar flaen y ciw.

Mae’n eithaf anodd i ni ddeall hyn yn iawn, ond ryw’n siŵr y byddai wedi bod yn sioc:clywed bod Duw wedi symud ymlaen a bod ganddo gynllun ac, oes, mae gennych chi le ynddo, ond ddim cymaint ag o'r blaen. Mae’r stori’n awgrymu sut y mae cynllun Duw'n cofleidio'r byd i gyd yn hytrach nag unrhyw un genedl neu bobl. Yr hyn sy’n brathu yw, nid fod y cyflogau’n anwastad, ond y bydd Duw, yn rhydd ac o’i wirfodd, yn ystyried ei hun sut y byddwn ni’n ymateb i’w gariad.

A dyna, efallai, yw'r ail beth y dylen ni ei feddwl amdano. Nid fod newydd ddyfodiaid yn cael croeso. Ond fod gras yn cael ei ymestyn ymhellach nag erioed o’r blaen. Mae'r gair 'gras' yn un o'r rhai hyfrytaf yn yr Ysgrythurau. Mae’n ffordd o ddweud nad yw Duw'n ein trin yn ôl sut y mae ein pechodau a’n gwendidau’n haeddu. Os edrychwn ni’n ddyfnach yn y Testament Newydd, fe welwn ni bod Iesu nid yn unig wedi dangos fod Duw’n perthyn i’r byd ond ei fod, rhywsut, yn pontio’r bwlch rhyngom ni.

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r pontydd enwog sy’n cysylltu Môn a Gwynedd. Er y dechreuodd y gwaith ar y bont grog ym 1818, chafodd hi mo'i gorffen tan 1826. Cyn hynny, roedd yn rhaid croesi ar droed ar drai neu mewn cwch. Pan ddaeth y bont, roedd croesi'n llawer haws ac yn llawer mwy diogel.

Mae hynny'n ddarlun eithaf da i ni ei gadw mewn cof wrth feddwl am y groes. Dyma'r ffordd y mae Duw’n pontio i'n cyrraedd, i ni gael cysylltiad diogel gyda Duw. Yn iaith heddiw, gallech feddwl am gysylltiad digidol, yn croesi’r awyr, ond mae’r syniad yr un fath. Oherwydd Iesu, mae gennym ni berthynas gyda Duw wedi'i seilio ar ei gariad rhad a'i ras.

Fe ddechreuais i drwy ddweud bod yn rhaid bod y stori wedi cynddeiriogi. Ac rwy’n siŵr ei bod hi. Ond, i’r rhai ar yr ochr arall, oedd yn teimlo eu bod yng nghefn y ciw, byddai wedi cael effaith gyfan gwbl wahanol. Rydych chi’n gwybod nad yw'r tu allan yn lle da i fod. A phan mae’r rhai o’r tu allan yn dod i mewn ac yn cael croeso, dyma’r peth gorau o ddigon. Y croeso annisgwyl a rhwydd sy’n ein gwneud ni’n ffrindiau ac yn ddilynwyr i Dduw. Yma rydyn ni’n canfod Duw’n gwneud drosom ni yr hyn na allen ni fyth eu gwneud ar ein pen ein hunain ac mae’n ein tynnu ni i fywyd gwell na allen ni, ein hunain, fyth ei gael.

Ydych ydych chi wedi cael eich hunan yn y lle hwnnw? Nid yw’r stori llai brawychus os ydych chi. Mae’n stori o gariad anhaeddiannol ond hynod dderbyniol sy’n dangos ein dyfodol i ni. Nid o ofn na dychryn ond o obaith a sicrwydd. Dyma rodd Duw i bawb ohonom yn Iesu. Amen.

Cymraeg

Worship on the Fifteenth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Philippians 1:21-30

For to me, living is Christ and dying is gain. If I am to live in the flesh, that means fruitful labor for me; and I do not know which I prefer. I am hard pressed between the two: my desire is to depart and be with Christ, for that is far better; but to remain in the flesh is more necessary for you. Since I am convinced of this, I know that I will remain and continue with all of you for your progress and joy in faith, so that I may share abundantly in your boasting in Christ Jesus when I come to you again.

Only, live your life in a manner worthy of the gospel of Christ, so that, whether I come and see you or am absent and hear about you, I will know that you are standing firm in one spirit, striving side by side with one mind for the faith of the gospel, and are in no way intimidated by your opponents. For them this is evidence of their destruction, but of your salvation. And this is God’s doing. For he has graciously granted you the privilege not only of believing in Christ, but of suffering for him as well— since you are having the same struggle that you saw I had and now hear that I still have.


Matthew 20:1-16

“For the kingdom of heaven is like a landowner who went out early in the morning to hire laborers for his vineyard. After agreeing with the laborers for the usual daily wage, he sent them into his vineyard. When he went out about nine o’clock, he saw others standing idle in the marketplace; and he said to them, ‘You also go into the vineyard, and I will pay you whatever is right.’ So they went. When he went out again about noon and about three o’clock, he did the same. And about five o’clock he went out and found others standing around; and he said to them, ‘Why are you standing here idle all day?’ They said to him, ‘Because no one has hired us.’ He said to them, ‘You also go into the vineyard.’ When evening came, the owner of the vineyard said to his manager, ‘Call the laborers and give them their pay, beginning with the last and then going to the first.’ When those hired about five o’clock came, each of them received the usual daily wage. Now when the first came, they thought they would receive more; but each of them also received the usual daily wage. And when they received it, they grumbled against the landowner, saying, ‘These last worked only one hour, and you have made them equal to us who have borne the burden of the day and the scorching heat.’ But he replied to one of them, ‘Friend, I am doing you no wrong; did you not agree with me for the usual daily wage? Take what belongs to you and go; I choose to give to this last the same as I give to you. Am I not allowed to do what I choose with what belongs to me? Or are you envious because I am generous?’ So the last will be first, and the first will be last.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Have you ever noticed that some of Jesus’ stories seem told deliberately to provoke and possibly even to annoy those who sat and listened to him? That might sound a very strange thing to say and way to introduce a meditation. After all, haven’t we been brought up to believe that parables are earthly stories with a heavenly meaning? True enough but stories are also quite nuanced and crafted for a particular audience; they can be elusive and we may feel we haven’t quite grasped what the story is all about.

Today’s gospel reading sits in that category. A story about a businessman who hires workers to help in the vineyard and pays them their contractual wage. But those hired late in the day get the same amount as those who work a longer day, in the heat and dust. They expect more and grumble. You can imagine anyone listening to the story would have shared their outrage. And become all hot and bothered: ‘it’s a matter of justice’ they mutter. ‘The worker is worth the wage’. And then (and how often have we said this) ‘It’s not fair’. You can imagine them retiring to the local hostelry that night over a mug of mead talking about this wretched landowner, this story-teller who seemed to think it was acceptable to peddle injustices.

So, what’s going on here then? Let’s unpack the story and see where it takes us.

Firstly, the canvas for our story is a big one. The background is ‘transnational’ if you like. And the sting in the tale is that we aren’t really talking about vine workers at all, not really. We’re talking about God bringing into the fold those who have come to the party a little late - the nations, Gentiles, the likes of you and me. You see the background is that God’s dealings have all focused on the promised people and promised land until now: the Hebrews. Elected and chosen by God, they are the heirs of the kingdom, the future is theirs and one day, God will finally put down and subdue all his enemies and Jerusalem be exalted above all.

So the story, for those who knew it was about a good deal more than about grapes and wages, would have outraged. Listeners would have known the story was re-defining something sacred, changing the plot. It was also marking a future where they were no longer at the front of the queue.

It’s quite hard for us to get into this kind of world I think but then it must have been a shock: to be told God has moved on and has a plan in which, yes, you feature but not quite as once you did. The story hints at how God’s plan encompasses the whole world rather than any one nation or people. The provocation is not that wages are unevenly distributed but that God, free and sovereign, will make the ground of his choosing how we respond to his love.

And that is perhaps the second thing we might ponder. It’s not just that newcomers are welcomed. It’s that grace is extended further than ever before. That word ‘grace’ is one of the most beautiful in the Scriptures. It’s a way of saying that God does not deal with us as our sins and faults deserve. When we delve deeper into the New Testament we see that Jesus not only revealed the way God related to the world but somehow bridged the gap between us.

We will all be familiar with the famous bridges linking the island of Anglesey to Gwynedd. Although work started on the suspension bridge in 1818, it wasn’t completed until 1826. Prior to that it was cable crossing and boats. The link made travel a good deal safer and allowed people to cross with ease.

That isn’t a bad picture to hold in our minds when we think about the cross. It was the way God bridged over to reach us, to secure a connection with God. Modern idioms might think of a digital connection, reaching across the airwaves but the point is the same. Because of Jesus, we have a relationship with God founded on his free love and grace.

I started by saying the story must have provoked. And I’m sure that is true. But for those on the other side who have felt at the other end of queue, it will have an altogether different effect. You see being on the outside isn’t a good place to be. And when those on the outside are welcomed in, it’s the best of things. It’s the unexpected and liberating welcome which makes us friends and followers of God. Here we find God doing for us what we could not possibly achieve on our own and drawing us into a life better than anything we could construct by ourselves.

I wonder if you have ever found yourself in that place? The story is no less shocking for it if so. It’s the story of undeserved but very welcome love that marks out the future. Not with fear or dread but hope and assurance. That is God’s gift to each of us in Jesus. Amen.