minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad" | "Every tongue should confess that Jesus Christ is Lord, to the glory of God the Father"
English

Addoliad ar yr Unfed Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Philipiaid 2:1-13

Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi, cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn. Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun. Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd. Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi; oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef.


Mathew 21:23-32

Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?” Atebodd Iesu hwy, “Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn. Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?” Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed wrthym, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’ Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, y mae arnom ofn y dyrfa, oherwydd y mae pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd.” Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

“Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, ‘Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.’ Atebodd yntau, ‘Na wnaf’; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd. Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, ‘Fe af fi, syr’; ond nid aeth. P'run o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?” “Y cyntaf,” meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi. Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ym 1772, ysgrifennodd John Newton un o’r emynau enwocaf erioed: Amazing Grace. Ym 1778, 34 mlynedd ar ôl ennill ei gyfoeth yn y fasnach gaethweision, condemniodd ei gyn broffesiwn drwy gyhoeddi “Thoughts Upon the Slave Trade.” Roedd y traethawd yn disgrifio amodau gwarthus llongau'r caethweision. Ymddiheurodd Newton am wneud datganiad cyhoeddus gymaint o flynyddoedd ar ôl bod yn rhan o'r fasnach. “Bydd hynny’n rhywbeth fydd yn codi cywilydd arna i am byth, fy mod i, ar un adeg, yn rhan o fusnes sydd, erbyn hyn, yn fy ysgwyd i’m seiliau.”

Mae mater anghyfiawnderau’r gorffennol, gwneud iawn, a sut ydyn ni’n ystyried pobl yr oedd eu bywydau a’u dylanwad yn rhan o gaethwasiaeth yn rhywbeth sy'n fyw heddiw ac yn real iawn ar hyn o bryd. Mae'n siŵr ein bod ni gyd wedi gwylio gemau lle mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn 'cymryd y glin' i gydnabod bod anghyfiawnderau ddoe'n dal yn fyw heddiw.

Yn y darlleniad heddiw o Philipiaid, rydyn ni'n darllen emyn Crist sy’n dangos agwedd Iesu. Yr hyn sy’n ennyn fy niddordeb i ynghylch y darlleniad yw ei fod, fel profiad Newton, yn cynnig ffordd wahanol o fod yn ddynol. Os yw ein annynoldeb ni at ein gilydd yn dangos rhywfaint o'r tywyllwch sydd ynom ni i gyd, beth mae emyn Crist ei gynnig yn ei le?

Mae gwahoddiad Paul yn cael ei gynnig mewn sawl ffordd. Gadewch i mi gynnig dim ond rhai.Yn gyntaf, mae Paul yn cymeradwyo, nid yr ymarfer o gaethwasiaeth, ond yr agwedd sy’n groes i falchder. Beth am ei alw’n iselfrydedd. Dyma ei eiriau: ‘Ni chyfrifodd erioed fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion', Rhodd Iesu heibio’r haerllugrwydd a’r rhodres sy’n cyfleu balchder dynol. Ei bwynt yw fod mawredd yn rhywbeth yr oedd gan Grist hawl iddo, y gallai fod wedi ymhyfrydu ynddo, ond y dewisodd beidio â gwneud hynny.

Mae yna ffordd o drafod iselfrydedd sy’n gwneud camgymeriad mawr yn ei gylch. Mae’n swnio’n llegach a gwan ac fel petai rhywun yn sôn am gadach llestri. Ond pan fyddwn ni’n cofio sut yr oedd Iesu’n ymarfer iselfrydedd, rydyn ni’n gallu gweld mor bwysig oedd hynny. Roedd y rheini oedd wedi paratoi llwybr i Grist yn gweld mor gyndyn oedd i’w gerdded – roedd hyd yn oed Martha, gyda’i holl waith da, a’i sylw’n cael ei dynnu yma ac acw, yn cael ei chyfeirio ar hyd llwybr arall: “Martha, Martha” atebodd yr Arglwydd, “yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, ond un peth sy’n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni."

Mae iselfrydedd yn cael ei fynegi pan fod gennym ni syniad go lew ohonom ni ein hunain: ein bod yn gwybod pwy ydym ni ac nid fel yr hoffen ni i eraill gredu na gweld. Mae geiriau’r Llyfr Gweddi yn nodweddiadol uniongyrchol ynghylch ein pechod: ’Fy annwyl gariadus frodyr, y mae’r Ysgrythur Lân yn ein cynhyrfu, mewn amrywiol fannau, i gydnabod ac i gyffesu ein haml bechodau a’n hanwiredd ; ac na wnelem na’u cuddio na’u celu yngëydd yr Holl-alluog Dduw ein Tad nefol; eithr eu cyffesu â gostyngedig, isel, edifarus, ac ufudd galon; er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfeidrol ddaioni a’i drugaredd ef.’

Felly, ‘dyw iselfrydedd ddim yn cyfleu teimlad crefyddol ffug nag yn ein hesgusodi o'n cyfrifoldebau. I’r gwrthwyneb. Mae’n ein gorfodi ni i ystyried yn gignoeth pwy ydym ni ac yn ein galw i fyw ein bywydau yng ngoleuni hynny.

Yn ail, yr agwedd sy’n cael ei chynnig yw un o anhunanoldeb. Os yw iselfrydedd yn golygu ein bod ni’n gweld ein hunain yn glir fel rydym ni, anhunanoldeb yw'r ffordd rydyn ni'n gweld pobl eraill. Dyma eiriau Paul ‘Bydded gofal gennych, bob un, nid am ei fuddiannau ei hunan yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.'Nid yw rhoi pobl eraill yn gyntaf yn dod yn naturiol i ni. Ai’r gwyddonydd disglair Richard Dawkins fathodd yr ymadrodd ‘y gennyn hunanol? ’Rwy’n siŵr nad oedd yn meddwl yr hyn y mae Paul yn ei ddweud, ond mae’r ymadrodd yn arwyddocaol oherwydd ei bod yn ymddangos ein bod yn cael ein geni gyda hunanoldeb. Mae hunanoldeb yn ymddangos yn rhan o’n DNA. Ond ‘dyw hynny ddim yn golygu na allwn ni ddysgu gwersi anhunanoldeb.

Rieni a neiniau a theidiau, ydych chi’n cofio’r plant yn dysgu sut i reidio beic? Roedd rhai’n cael y naill godwm ar ôl y llall, eraill yn dysgu ynghynt. Ond, roedd pob un yn gwella wrth ymarfer, onid oedd? Mae rhai o reolau bywyd sydd, unwaith eto, wedi dod yn fwy poblogaidd, yn dilyn hyn:fod y rheol yno i fod yn fath o ddisgyblaeth. Efallai ein bod ni’n ei gweld yn rhyfedd, efallai'n anodd, gosod eraill o'n blaenau ni, ond dyma'r ffordd y mae cymdeithas ddynol yn gweithio orau a dyma ffordd Iesu.

Yn olaf, ffordd Iesu oedd gostyngeiddrwydd. Unwaith eto, rhai o eiriau Paul: ‘O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd at angau, ie, angau ar groes. 'Mae Paul yn sôn am y groes yma fel pe byddai’n waradwydd. Felly, y rhinwedd a ddisgrifir yw fod Iesu, yr Arglwydd a’r Iachawdwr, wedi ei ddarostwng ei hun hyd at waradwydd. Nid yw gwaradwydd yn beth braf. Byth. Ond, i Iesu, y weithred hon o ddod yn llai oedd sut roedd yn byw. Mewn geiriau eraill, dim gweithred ar ei phen ei hun oedd hon, ond mantell yr oedd yn ei gwisgo bob amser. A mae hynny'n golygu gwneud pethau sy’n ymddangos fel pe bydden nhw islaw i ni.

Doedd Mahatma Ghandi ddim yn Gristion, ond roedd i’w weld wedi sylweddoli hyn yn dda. Byddai Ghandi’n eistedd yn aml ymysg y rhai a gai eu galw’r isel rai ac yn gwehyddu ac yn gwnïo. Rwy’n meddwl ei fod yn gwneud hyn nid yn unig fel gweithred o gefnogaeth ond am ei bod yn bwysig ein bod yn trin eraill gyda pharch, a’n bod ni’n gwneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud.

Fel y dywedodd y Seicolegydd: ‘Drwy falchder, rydyn ni’n twyllo ein hunain bob tro. Yn ddwfn o dan wyneb cydwybod rhywun cyffredin mae yna lais bychan, tawel, yn dweud wrthym ni nad fel hyn y dylai pethau fod. Mae'n dangos nad yw gostyngeiddrwydd yn bychanu dynol ryw ond yn rhoi urddas i bawb ohonom ac yn rhoi'r agwedd i ni sydd yn fywiol.

Fe ddechreuom ni drwy ystyried emyn a’r cyd-destun, heddiw, hen anghyfiawnderau, ac a ydyn nhw'n dal yn bresennol heddiw, fel y maen siŵr eu bod nhw. Ddylen i fyth fychanu’r drygau sy’n yma o hyd. Ond, roedden ni’n canolbwyntio heddiw ar agweddau Iesu.Yma, fe gawn ni batrymau ac arferion da i'w meithrin. Efallai na fydd hynny’n datrys ein holl fethiannau ond bydd yn agor y drws i fyw’n dda, fel y gwnaeth Iesu Grist er gogoniant i Dduw.

Sut allech chi arddel y pethau hyn yn yr wythnos o’n blaen?

Cymraeg

Worship on the Sixteenth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Philippians 2:1-13

If then there is any encouragement in Christ, any consolation from love, any sharing in the Spirit, any compassion and sympathy, make my joy complete: be of the same mind, having the same love, being in full accord and of one mind. Do nothing from selfish ambition or conceit, but in humility regard others as better than yourselves. Let each of you look not to your own interests, but to the interests of others. Let the same mind be in you that was in Christ Jesus, who, though he was in the form of God, did not regard equality with God as something to be exploited, but emptied himself, taking the form of a slave, being born in human likeness. And being found in human form, he humbled himself and became obedient to the point of death— even death on a cross. Therefore God also highly exalted him and gave him the name that is above every name, so that at the name of Jesus every knee should bend, in heaven and on earth and under the earth, and every tongue should confess that Jesus Christ is Lord, to the glory of God the Father.

Therefore, my beloved, just as you have always obeyed me, not only in my presence, but much more now in my absence, work out your own salvation with fear and trembling; for it is God who is at work in you, enabling you both to will and to work for his good pleasure.


Matthew 21:23-32

When he entered the temple, the chief priests and the elders of the people came to him as he was teaching, and said, “By what authority are you doing these things, and who gave you this authority?” Jesus said to them, “I will also ask you one question; if you tell me the answer, then I will also tell you by what authority I do these things. Did the baptism of John come from heaven, or was it of human origin?” And they argued with one another, “If we say, ‘From heaven,’ he will say to us, ‘Why then did you not believe him?’ But if we say, ‘Of human origin,’ we are afraid of the crowd; for all regard John as a prophet.” So they answered Jesus, “We do not know.” And he said to them, “Neither will I tell you by what authority I am doing these things. “What do you think? A man had two sons; he went to the first and said, ‘Son, go and work in the vineyard today.’ He answered, ‘I will not’; but later he changed his mind and went. The father went to the second and said the same; and he answered, ‘I go, sir’; but he did not go. Which of the two did the will of his father?” They said, “The first.” Jesus said to them, “Truly I tell you, the tax collectors and the prostitutes are going into the kingdom of God ahead of you. For John came to you in the way of righteousness and you did not believe him, but the tax collectors and the prostitutes believed him; and even after you saw it, you did not change your minds and believe him.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

In 1772 John Newtown wrote one of the most famous of all hymns: Amazing Grace. In 1788, 34 years after leaving the slave trade which had brough him wealth he renounced his former slaving profession by publishing “Thoughts Upon the Slave Trade.” The tract described the horrific conditions on slave ships. Newton apologized for making a public statement so many years after participating in the trade: “It will always be a subject of humiliating reflection to me, that I was once an active instrument in a business at which my heart now shudders.’’

The issue of past wrongs, reparations and how we have acknowledged figures whose livelihoods and influence were tied up with slavery is contemporary and real at the moment. Perhaps we have all watched sporting events and participants ‘taking the knee’ in recognition of ongoing injustices?

In today’s reading from Philippians we read the Christ hymn which lays out the attitude Jesus displayed. What intrigues me about the reading is that, as with Newman’s experience, it offers a different way of being human. If our inhumanity to each other says something about the darkness within us all, what does this Christ hymn offer as an alternative?

Paul’s invitation is made in a number of ways. Let me suggest a few. Firstly, Paul commends not the practice of slavery but the attitude which is the opposite of pride. Let’s call this lowliness. These are his words:‘He did not regard equality with God as something to be exploited, but emptied himself, taking the form of a slave, being born in human likeness.’ Jesus eschewed the arrogance and conceit which epitomizes human pride. His point is that greatness was actually Christ’s by right and he could have displayed it in spadefuls but chose not to do so.

There’s a way of talking about lowliness which gets it wrong. It sounds feeble and weak as though the role of a doormat is being offered. But when we look at how Jesus practiced lowliness we see how important it was. Those with agendas for him found a steady refusal to play along – even Martha with all her good work, distracted as she was, found a restraining hand: ‘’Martha, Martha,” the Lord answered, “you are worried and upset about many things, but few things are needed—or indeed only one. Mary has chosen what is better, and it will not be taken away from her.”

Lowliness is expressed when we have pretty good grasp of ourselves: we know who we are and not as we might like others to believe or see. The words of the Prayer Book are characteristically direct about our sin: ‘Dearly beloved brethren, the scripture moveth us in sundry places to acknowledge and confess our manifold sins and wickedness, and that we should not dissemble nor cloak them before the face of Almighty God our heavenly Father, but confess them with an humble, lowly, penitent, and obedient heart, to the end that we may obtain forgiveness of the same by his infinite goodness and mercy’.

So lowliness does not impose a false religious air or empty us of responsibility. Quite the opposite. It engages us with a brutal assessment of who we are and calls us to live lives in the light of it.

Secondly the attitude offered is one of selflessness. If lowliness is about perceiving ourselves clearly, selflessness is about the way we see others. These are Paul’s words: ‘Let each of you look not to your own interests, but to the interests of others.’ Putting others first is not natural for us. Was it that eminent scientist Richard Dawkins who coined the phrase ‘selfish gene’. I’m sure he didn’t quite mean what Paul is getting at but the phrase is significant because selfishness seems inbuilt. Selfishness seems to be a part of our DNA. But that doesn’t mean we can’t learn the lessons of selflessness.

Parents and grandparents, do you remember the children learning to ride? Perhaps some fell off many times, others learned more quickly. But in all cases, they got better as they practiced, didn’t they? Some of the rules of life that have once more become popular pick this up: the rule is there to provide a kind of discipline. We should find it strange, perhaps challenging to put others before ourselves but it is the way in which human society works best of all and is the way of Jesus.

Lastly, Jesus’ way was the way of humility. Again some words from Paul: ‘And being found in human form, he humbled himself and became obedient to the point of death—even death on a cross’. Paul’s treatment of the cross here suggests this was a humiliation. So the virtue described is that Jesus, the Lord and Saviour, reduced himself to a point of humiliation. Now humiliation is not pleasant. Ever. But for Jesus this act of becoming less was the way he lived. In other words it wasn’t a one-off but a mantle he wore all the time. And that means doing things which might seem beneath us.

Mahatma Ghandi was not a Christian but he seems to have grasped this well. Ghandi would often sit among the so-called lower cast and weave or sow. I think he did this not only as an act of solidarity but because treating others with respect in the way we do as they do, is important.

It was the Psychologist who said: ‘Through pride we are ever deceiving ourselves. Deep down below the surface of the average conscience a still, small voice says to us, something is out of tune’. You see humility does not demean humanity but dignifies us all and provides us with the kind of attitude which is life giving.

We began with reflections on a hymn and the current context of former wrongs and whether these are present still today as surely as they are. We ought never to skip over these ongoing ills. Our focus today however has been on the attitudes of Jesus. Here we find good patterns and habits to nurture. Perhaps these will not resolve all our failings but they will open a way of living well as did Jesus Christ for the glory of God.

How might you practice these same things in the week ahead?