minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl" | "The stone that the builders rejected has become the cornerstone"
English

Addoliad ar yr Ail Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Philipiaid 3:4b-14

Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly: wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o dras Hebrewyr; yn ôl y Gyfraith, yn Pharisead; o ran sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sy'n perthyn i'r Gyfraith, yn ddi-fai. Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a'm cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o'm heiddo fy hun sy'n tarddu o'r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd. Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef, fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.

Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu. Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.


Mathew 21:33-46

“Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’ A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd. Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?” “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.”

Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau:

“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl;
gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?

“Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.” 

Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion, gwyddent mai amdanynt hwy yr oedd yn sôn. Yr oeddent yn ceisio ei ddal, ond yr oedd arnynt ofn y tyrfaoedd, am eu bod hwy yn ei gyfrif ef yn broffwyd.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Fel Cristion ifanc, un o'r llyfrau a gafodd fwyaf o ddylanwad arna i oedd hanes Jackie Pullinger oedd yn gweithio yn Ninas Gaerog Hong Kong ymysg gwerthwyr cyffuriau a phuteiniaid. Roedd yn byw bywyd syml, ond yn gweld Duw’n trawsnewid bywydau yn y ffyrdd oedd ymhell o fod yn syml – iachau pobl, ail adeiladu perthynasau, rhoi gobaith i gymunedau. Yr hyn â'm hysbrydolodd i fwyaf oedd sylweddoli fod yna fyd allan yna na wyddwn i fawr ddim amdano ond a oedd i'w weld yn dda ac yn hardd ac yn sanctaidd. Mae’r weledigaeth honno o sut mae Crist yn gwneud pethau newydd wedi aros gyda mi dros y blynyddoedd ac rydw i’n diolch i Dduw am hynny.

Pan ysgrifennodd Sant Paul at y Philipiaid (a dyna yw ein darlleniad heddiw) rwy’n hoffi meddwl ei fod wedi’i danio gan yr un argyhoeddiad. Roedd Paul wedi gweld fod yna fyd, realaeth oedd yn rhedeg yn groes i bopeth roedd wedi’i dybio oedd yn wir. Bywyd oedd yn dod â chymaint o lawenydd ag a oedd o anawsterau. Fe wyddai ei fod wedi darganfod perl hynod werthfawr a bod yn rhaid i bopeth arall fynd.

Beth am ystyried y darlleniad ychydig yn fwy manwl i weld beth fydd yn datblygu. Ac mae Paul yn cychwyn gyda chatalog o gydnabyddiaeth. Dyma ei gymwysterau sy’n dangos beth mae wedi’i wneud yn ystod ei oes. Mae’n grynodeb trawiadol. Mae’n ei osod yn yr uwch gynghrair. Fe allen ni roi tic enfawr gyferbyn â’i enw. Ond, ar ôl dod i adnabod Iesu, mae Paul yn gweld nad yw’r cyfan fawr gwell nag ysbwriel. sothach. Ei brofiad a’i argyhoeddiad yw mai’r peth sy’n cyfrif, yr unig beth sy’n cyfrif, yw adnabod Crist. A'r syniad y mae'n ei gyflwyno yw fod hyn yn fath o rodd ac felly nad oes pris arno. Mae’n galw’r tocyn hwn i Dduw yn ‘gyfiawnder’ sydd mor wahanol i’r ‘cymwysterau’ ag y gallai fod.

Victor Hugo yw awdur Les Misérables, efallai fod rhai ohonoch chi wedi’i weld fel sioe gerdd? Mae’n adrodd stori carcharor yn ystod y Chwyldro Ffrengig sy'n cael ail gyfle yn ei fywyd, i adael y carchar a bod yn rhydd. Mae’n stori wych. Ond mae ein harwr, Jean Valjean yn gwybod, i fod yn wirioneddol rydd, ei fod angen rhywbeth mwy na bod y cadwynau haearn yn disgyn oddi arno. Roedd yn rhaid iddo fod yn berson newydd, wedi cael maddeuant am bechodau'r gorffennol, ei ddyfodol yn ei gyfeirio at Dduw. Dyma’r rhodd y mae Paul yn ei ddisgrifio. Ac mae’n dangos nad yw Cristnogaeth, yn gyntaf, yn set o reolau i'w dilyn ac nad yw hyd yn oed yn cynnig bywyd braf, er bod gan y rhain eu lle. Yn gyntaf, mae’n rhodd i'w derbyn.

Ond nid yw’r rhodd yn rhad, mae'n golygu newid. Dyma ei eiriau: ‘Fy nod yw ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydymffurfio â'i farwolaeth ef, er mwyn i mi, os yw’n bosibl, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw’. Felly, yr ail beth mae Paul yn ei ddisgrifio yw fod y groes yn ffordd o fyw ac o fod; yn rhannu mewn dioddefaint ac yn deall grym ei fywyd atgyfodol.

Wrth galon yr efengyl, mae yna ryw ddirgelwch lle mae’r drefn arferol yn cael ei throi â’i phen i lawr, mae'n hynod wrth-reddfol. Y ffordd y mae gogoniant yn dod trwy wasanaeth, enillion drwy golli, mawredd mewn caethiwed. Bydd rhai ohonom yn cofio ‘The Good Life’ ar y teledu, comedi boblogaidd gyda Richard Briers, Felicity Kendall a Penelope Keith.Onid oedd hi’n wych? Ond mae bywyd da y teledu gyda’i hiwmor a’i bryfocio ysgafn yn pylu’n ddim o beth yn ymyl y bywyd da y mae Paul yn ei ddisgrifio. Yma, rydym yn cael ein gwahodd i gymryd rhan yn uniongyrchol ym mywyd Iesu ei hun: nodwedd ein holl fywyd erbyn hyn yw'r groes-ddeinameg atgyfodi. Beth bynnag sydd o'n blaenau, rydyn ni’n ei wynebu gyda'r groes a'r atgyfodiad fel ein 'rheol bywyd' oherwydd, pan fyddwn ni’n gwneud hynny, rydyn ni nid yn unig yn ei efelychu Ef ond hefyd yn rhannu’r bywyd sy’n dragwyddol. Mae hyn yn anodd, ac fe wyddai Paul fod ganddo ffordd hir i'w cherdded, nad oedd wedi cyrraedd o gwbl. Byddai’r daith yn drom; fel ras hir byddai angen buddsoddi a hyfforddi.

Dyw’r peth olaf y mae Paul yn ein gwahodd ni iddo yn ddim llai o ddirgelwch – ei eiriau eto:‘er mwyn i mi, os yw’n bosibl, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw’. Yr hyn y mae Paul yn ei ddweud yma yw nad yw hyn yn achos o amau, fel pe byddai, ar y funud olaf, yn colli allan. Byddai hynny’n dadwneud y cyfan y mae’n ei ddweud mewn mannau eraill ynghylch sicrwydd ffydd a’r cariad na ellir ein gwahanu ni oddi wrtho.

Yr hyn sy’n gwneud Paul yn betrus, fel petai, yw ein bod yn trafod rhywbeth sydd mor anodd ei ddychmygu. Sut y bydd Duw’n ein casglu ni ac yn ein dilladu ni ag anfarwoldeb yn y diwedd? Mae’n ceisio disgrifio ychydig ar hyn ym mhennod 15 ei lythyr cyntaf at y Corinthiaid. Y weithred o ffydd yw nid y dylen ni boeni a fyddwn ni’n ‘cyrraedd yno’ yn gymaint a sut y bydd Duw yn gweithredu hyn.

Mae yna ryw fath o ddilyniant yn yr hyn y mae Paul yn ei ddweud yma:bod rhodd cyfiawnder yn diddymu ein pechodau, bod y groes a'r atgyfodiad yn ffordd o fyw yma ar hyn o bryd a bod y gobaith sydd gennym yn mynd â ni at dragwyddoldeb hyd yn oed pan mae hynny i'w weld yn ddirgelwch.

Fe ddechreuais i drwy gyfeirio at lyfr oedd yn dangos fod yna ffordd arall o wneud yr hyn sy’n cael ei ystyried mor aml fel bywyd. Mae'n disgrifio bywyd hyfryd o fywyd a gobaith. Mae geiriau Paul yn dangos ffordd i ni lle gallwn ni gael y bywyd a’r gobaith hwnnw yn ei lawnder. Fy ngweddi drosom ni i gyd yw y deuwn i ddeall rhywbeth am hyn yn ystod yr wythnos sydd o'n blaenau. Pob gras i chi a thangnefedd, oddi wrth Dduw. Amen.

Cymraeg

Worship on the Seventeenth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Philippians 3:4b-14

If anyone else has reason to be confident in the flesh, I have more: circumcised on the eighth day, a member of the people of Israel, of the tribe of Benjamin, a Hebrew born of Hebrews; as to the law, a Pharisee; as to zeal, a persecutor of the church; as to righteousness under the law, blameless. Yet whatever gains I had, these I have come to regard as loss because of Christ. More than that, I regard everything as loss because of the surpassing value of knowing Christ Jesus my Lord. For his sake I have suffered the loss of all things, and I regard them as rubbish, in order that I may gain Christ and be found in him, not having a righteousness of my own that comes from the law, but one that comes through faith in Christ, the righteousness from God based on faith. I want to know Christ and the power of his resurrection and the sharing of his sufferings by becoming like him in his death, if somehow I may attain the resurrection from the dead.

Not that I have already obtained this or have already reached the goal; but I press on to make it my own, because Christ Jesus has made me his own. Beloved, I do not consider that I have made it my own; but this one thing I do: forgetting what lies behind and straining forward to what lies ahead, I press on toward the goal for the prize of the heavenly call of God in Christ Jesus.


Matthew 21: 36-46

‘Listen to another parable. There was a landowner who planted a vineyard, put a fence around it, dug a wine press in it, and built a watch-tower. Then he leased it to tenants and went to another country. When the harvest time had come, he sent his slaves to the tenants to collect his produce. But the tenants seized his slaves and beat one, killed another, and stoned another. Again he sent other slaves, more than the first; and they treated them in the same way. Finally he sent his son to them, saying, “They will respect my son.” But when the tenants saw the son, they said to themselves, “This is the heir; come, let us kill him and get his inheritance.” So they seized him, threw him out of the vineyard, and killed him. Now when the owner of the vineyard comes, what will he do to those tenants?’ They said to him, ‘He will put those wretches to a miserable death, and lease the vineyard to other tenants who will give him the produce at the harvest time.’

Jesus said to them, ‘Have you never read in the scriptures:

“The stone that the builders rejected
has become the cornerstone;
this was the Lord’s doing,
and it is amazing in our eyes”?

Therefore I tell you, the kingdom of God will be taken away from you and given to a people that produces the fruits of the kingdom. The one who falls on this stone will be broken to pieces; and it will crush anyone on whom it falls.’

When the chief priests and the Pharisees heard his parables, they realized that he was speaking about them. They wanted to arrest him, but they feared the crowds, because they regarded him as a prophet.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

As a young Christian one of the books that had the biggest impact upon me was the story of Jackie Pullinger who worked in the Walled City in Hong Kong among the drug dealers and prostitutes. She led a simple life but saw God changing lives in the most extraordinary way – people healed, relationships rebuilt, communities given hope. What inspired me most was the realization there was a world here of which I knew little but seemed good and beautiful and holy. That vision of how Christ makes things new has remained with me across the years and I thank God for it.

When St Paul wrote to the Philippians (and this is our reading for today) I think he was fired by that same conviction. Paul had seen there was a world, a reality which ran contrary to all he had supposed was true. A life which brought joy and challenge in equal measure. He knew that he had discovered the pearl of great price and now everything else had to go.

Let’s get into that reading a little more to see what it renders. And Paul starts with his catalogue of credits (vs 4f). These are his credentials and what his life amounts to. It’s an impressive resume. This is premier league stuff. We could put a huge tick against his name. But having come to know Jesus, Paul now sees all of that as little more than dross, refuse. His experience and conviction is that the thing which counts, the only thing, is knowing Christ. And the idea he presents is that this is a kind of gift which therefore has no price tag attached. He calls this ticket to God ‘righteousness’ which is as different from those ‘credits’ as could possibly be.

The great author Victor Hugo wrote Les Misérables which some of you might have seen as a musical? It tells the story of a prisoner during the French Revolution who has a second chance in life, to leave the chains of prison and be free. It’s a great story. But our hero, Jean Valjean knows that in order to be truly free, he needs more than the physical chains to fall from him. He needs to be a new person, his past failings forgiven, his future directed towards God. That is the gift Paul is describing. And it means that Christianity is not firstly a set of rules to follow and not even a good life to offer although those have their place. Firstly it is gift to be received.

But the gift is not cheap and it means change. These are his words: ‘I want to know Christ and the power of his resurrection and the sharing of his sufferings by becoming like him in his death, if somehow I may attain the resurrection from the dead’. So the 2nd thing Paul describes is that the cross provides a way of living and being: sharing in sufferings and knowing the power of his resurrecting life.

At the heart of the gospel there is something of a mystery in which the normal order of things is turned upside down, it’s deeply counter intuitive. It’s the way in which glory comes through service, gain through loss, greatness in servitude. Some of us will remember ‘The Good Life’ on TV, a popular comedy with Richard Briers, Felicity Kendall and Penelope Keith. Wasn’t it great? But the good life of TV with its humour and gentle teasing pales alongside the good life Paul describes. Here we are invited to participate in the very life of Jesus: what characterizes all life for us now is this cross- resurrection dynamic. Whatever we face, we do so with the cross and resurrection as our ‘rule of life’ because when we do this, we not only imitate Him but share in the life which is eternal. This is challenging and Paul knew he had a long way to go, that he hadn’t arrived at all. Progress would be taxing, like a long race it would require investment and training.

The last thing Paul invites is no less mysterious - his words again: ‘if somehow I may attain the resurrection from the dead’. What Paul is saying here is not that this is a matter of doubt as though at the last he might miss out. That would be to undo all he says elsewhere about faith’s certainty and that love from which we cannot be separated.

What makes Paul tentative, if you like, is that we are talking about something which is so hard to imagine. How will God gather us and clothe us with immortality at the end? He tries to describe some of this in his first letter to the Corinthians chapter 15. The act of faith is not that we should worry whether we will ‘get there’ so much as how will God bring this to pass?

There is a kind of progression in what Paul says here: the gift of righteousness cancels our past sins, the cross and resurrection provide a way of living here and now and the hope we harbour takes us towards eternity even when this seems mysterious.

I began by referencing a book which showed there was an alternative to what all-too-often passes for life. It described a beautiful life of life and hope: Paul’s words give us the way in which that life and hope can be abundantly ours. My prayer for us all is that we might know something of this in the week ahead. Grace to you and peace from God. Amen.