
Addoliad ar y Deunawfed Sul wedi'r Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Philipiaid 4:1-9
Am hynny, fy nghyfeillion, anwyliaid yr wyf yn hiraethu amdanynt, fy llawenydd a'm coron, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd, fy nghyfeillion annwyl.
Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd. Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd.
Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn. Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.
Mathew 22:1-14
A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion. “Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab. Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod. Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’ Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach. A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd. Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref. Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng. Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’ Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
"Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano. Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’ Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
‘Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau’n hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd a diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu'.
Beth fyddwch chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n bryderus? Rwyf wedi dod ar draws llawer o bobl gyda myrdd o ymatebion i’r cwestiwn hwnnw. Rhai’n dweud eu bod yn rhedeg. Eraill yn ceisio anghofio amdano. Rhai eraill wedyn yn chwilio am ystafell dywyll a diferyn bach o rywbeth i helpu!
Mae’n darlleniad heddiw’n dechrau gyda phryder a geiriau Sant Paul: ‘Peidiwch â phryderu am ddim’. Hawdd dweud hynny, ond beth a sut? Pryder yw’r hyn rydyn ni’n ei deimlo pan fyddwn ni’n poeni, dan straen neu’n ofnus – yn enwedig ynghylch pethau sydd ar fin digwydd neu rydyn ni’n meddwl y gallen nhw ddigwydd yn y dyfodol. Mae pryder yn ymateb dynol naturiol pan fyddwn ni’n sylweddoli ein bod o dan fygythiad. Beth sy’n ddiddorol yw bod llawer o seicolegwyr heddiw’n gweld fod yna fanteision i bryder: mae’n gwneud i ni ymateb ynghynt i fygythiadau neu’n ein hysgogi i wneud rhywbeth.
Felly beth mae Paul yn ei awgrymu pan mae’n dweud PEIDIWCH â phryderu? Mae cyd-destun Paul yn hanfodol yma. Mae’r egin eglwys o dan bwysau a’r disgyblion newydd yn ansicr beth mae dilyn Crist yn ei olygu. Mae’n rhaid fod y hwn yna o gefndir wedi ei gwneud yn anodd oherwydd fod yna gymaint o ansicrwydd o’i gwmpas. Pan fydd pryder yn cael rhwydd hynt, mae’n gallu dod yn llethol. Pa mor aml ydyn ni wedi teimlo bod ein meddyliau ni’n hunain yn ein dwrdio ac yna’n teimlo dan bwysau wrth geisio anwybyddu’r hyn na ellir ei anwybyddu?
Ac onid yw’r misoedd diwethaf wedi bod yn llawn pryder? I rai mae hynny wedi codi ofn dwfn am y presennol a drwgdybiaeth am y dyfodol. Er bod hynny’n ddealladwy, nid yw’n llai bygythiol na’r pethau oedd yn achosi pryder i Gristnogion Philippi.
Felly, mae gan Paul ymateb i bryder. Gweddio ac erfyn yn ddiolchgar. Un o fy hoff emynau cynnar Saesneg, sy’n cael ei ganu’n llai erbyn hyn nag yr oedd yr adeg hynny, yw ‘Take it to the Lord in Prayer’, emyn fawr, gyffrous, o ymddiried yng Nuw. Felly, pan fyddwn ni’n ymateb i’n pryder drwy ei gyflwyno i Dduw, rydym yn dod â rhywbeth dwfn a chuddiedig i’r wyneb, yn cydnabod ei fod yno, fel petai. Dyna pam ein bod angen tawelwch a llonyddwch, ynte? I wrando ar bethau dwfn y galon ddynol.
Flynyddoedd yn ôl roedd fy chwaer yn arfer sôn am Am Dro gyda Duw. Ydych chi erioed wedi gwneud hynny? Mae’n ffordd fendigedig o siarad am hyn a’r llall gyda Duw a gadael i Dduw ein helpu i ganfod be ‘di be. Er bod hynny’n gallu swnio braidd fel hel meddyliau, dyma’r adegau, yn aml, pan oeddwn i’n teimlo bod Duw yn siarad gyda mi'n uniongyrchol. Does dim rhaid i ni lefaru popeth yn uchel, nag oes. A ddylen ni ddim synnu pan fydd Duw yn siarad yn ôl!
Sut ydych chi’n ymateb i bryder sydd heb ei ffrwyno neu heb ei ateb? Ydych chi’n treulio amser yn chwilio’n dawel am Dduw, fel bod y dwrdio’n troi’n ysgogiad cyfeillgar i ymateb gyda’r hyn mae Duw’n ei gyfleu?
Rwyf wedi dechrau sylweddoli’n ddiweddar sut mae iaith yn newid. Un o’r ymadroddion rwyf i a phawb arall yn ei ddefnyddio’n fwy nag erioed yw’r gair Saesneg ‘takeaway’ – a dydw i ddim yn sôn am vindaloos na Dominos ond am yr hyn sy’n dod gyda ni, beth sy’n teithio gyda ni? Cynnig Paul yw hyn: ‘A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu’.
Dyw’r frawddeg ardderchog hon ddim i’w gweld yn unman arall yn y Testament Newydd: tangnefedd Duw. Ac rwy’n meddwl fod Paul yn sôn am y tangnefedd sydd y tu fewn i Dduw a hefyd y tangnefedd sy’n llifo oddi wrth Duw. Mae’n dangnefedd sy’n fwy ac yn gryfach nag unrhyw beth y gallwn ni ei fagu ond mae’n cyffwrdd â’n sefyllfa ni’n uniongyrchol. A bydd y tangnefedd hwn yn gwarchod ein calonnau a'n meddyliau yng Nghrist Iesu. Mae hefyd yn frawddeg hardd oherwydd ei bod yn dod o fywyd yn Philippi ei hun, caer Rufeinig gyda garsiwn i amddiffyn ei masnach. Yr hyn mae Paul yn ei olygu yw y gall tangnefedd Duw godi garsiynau yn ein calonnau a'n meddyliau rhag ymosodiadau bygythiol. Ond yw hynny’n ddarlun wych? Mae tangnefedd Duw fel caer sy'n ein hamgylchynu ac sy’n atal unrhyw bryder rhag ein parlysu a’n taflu.
Cofiwch, pan ysgrifennodd Paul y llythyr hwn, roedd mewn carchar er nad oedd yn euog o ddim mwy na phregethu Crist. Fe wyddai beth oedd pryder a sut y gallai bygythiadau lethu. Ond drwy gydnabod y realiti hwn, cafodd ymateb yn Nuw. A dyna beth oedd yn cadw ei galon a’i feddwl yn ddiogel yng Nghrist.
Pan fyddwch yn cofio am yr wythnos a fu ac yn meddwl am yr wythnos i ddod, beth yw eich ymateb? Ydych yn ofnus ac yn amheus? Os yw’r ffordd ymlaen yn codi ofn, mae hynny’n ddigon dealladwy. Ond ewch â hynny at Dduw mewn gweddi: siaradwch gyda Duw a gadewch i’r tangnefedd sy’n cynnig y math o obaith sefydlog a ffydd digyfnewid mae pob un ohonom eu hangen, godi i’r wyneb a bod yn gydymaith i ni ar ran nesaf y daith.
Worship on the Eighteenth Sunday after Trinity
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Philippians 4:1-9
Therefore, my brothers and sisters, whom I love and long for, my joy and crown, stand firm in the Lord in this way, my beloved.
I urge Euodia and I urge Syntyche to be of the same mind in the Lord. Yes, and I ask you also, my loyal companion, help these women, for they have struggled beside me in the work of the gospel, together with Clement and the rest of my co-workers, whose names are in the book of life.
Rejoice in the Lord always; again I will say, Rejoice. Let your gentleness be known to everyone. The Lord is near. Do not worry about anything, but in everything by prayer and supplication with thanksgiving let your requests be made known to God. And the peace of God, which surpasses all understanding, will guard your hearts and your minds in Christ Jesus.
Finally, beloved, whatever is true, whatever is honorable, whatever is just, whatever is pure, whatever is pleasing, whatever is commendable, if there is any excellence and if there is anything worthy of praise, think about these things. Keep on doing the things that you have learned and received and heard and seen in me, and the God of peace will be with you.
Matthew 22:1-14
Once more Jesus spoke to them in parables, saying: “The kingdom of heaven may be compared to a king who gave a wedding banquet for his son. He sent his slaves to call those who had been invited to the wedding banquet, but they would not come. Again he sent other slaves, saying, ‘Tell those who have been invited: Look, I have prepared my dinner, my oxen and my fat calves have been slaughtered, and everything is ready; come to the wedding banquet.’ But they made light of it and went away, one to his farm, another to his business, while the rest seized his slaves, mistreated them, and killed them. The king was enraged. He sent his troops, destroyed those murderers, and burned their city. Then he said to his slaves, ‘The wedding is ready, but those invited were not worthy. Go therefore into the main streets, and invite everyone you find to the wedding banquet.’ Those slaves went out into the streets and gathered all whom they found, both good and bad; so the wedding hall was filled with guests.
“But when the king came in to see the guests, he noticed a man there who was not wearing a wedding robe, and he said to him, ‘Friend, how did you get in here without a wedding robe?’ And he was speechless. Then the king said to the attendants, ‘Bind him hand and foot, and throw him into the outer darkness, where there will be weeping and gnashing of teeth.’ For many are called, but few are chosen.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
‘Do not be anxious about anything, but in every situation, by prayer and petition, with thanksgiving, present your requests to God. And the peace of God, which transcends all understanding, will guard your hearts and your minds in Christ Jesus’.
What do you do when you’re anxious? I’ve come across many people with a myriad of responses to that question. Some have said they go running. Others they try to forget about it. Still others have asked for a darkened room and something liquidy to help!
Our reading today starts with anxiety and words from St Paul: ‘Do not be anxious about anything’. Easy to say but what and how? Anxiety is what we feel when we are worried, tense or afraid – particularly about things that are about to happen, or which we think could happen in the future. Anxiety is a natural human response when we perceive that we are under threat. What’s interesting about a lot of current thinking about anxiety is how psychologists have seen anxiety has benefits: it can speed our responses to threats or provide motivation to get something done for example.
So what is Paul driving at when he says DON’T be anxious? Paul’s context is crucial here. The fledgling church under pressure and new disciples not too sure what is means to follow Christ. That kind of background must have been challenging because the levels of uncertainty are so high. When anxiety goes forward unchecked it becomes debilitating. How often have we felt nagged by our own minds and then become fraught when we try to ignore what won’t be ignored?
The last months have been fraught with anxiety haven’t they? For some this has produced a deep seated fear of the present and a wariness about the future. That’s understandable and no less threatening than those things causing concern to the Philippian Christians.
So Paul has a response to anxiety. Prayer and thankful petition. One of my early favourite hymns, sung less now than it was then, is ‘Take it to the Lord in Prayer’, a great rousing hymn of trust in God. So when we respond to our anxiety by bringing it to God, we are surfacing something deep and hidden, acknowledging it’s there if you like. That’s why we need quiet and stillness isn’t it? To listen to the deep things of the human heart.
Years ago my sister used to talk of God Walks. Have you ever done that? It’s a wonderful way of talking to God about this and that and letting God help us work out what is what. Although that can sound a bit chatty, the times when I have felt God speaking to me very directly have often been on such occasions. You see it’s not only a matter of talking out loud is it? We shouldn’t be surprised when God talks back!
How do you respond to unchecked or unanswered anxiety? Do you take time in quiet to seek God so the nagging can become a friendly prompt to respond with God given insight?
I’ve become very conscious recently how language changes. One of the phrases I find others and myself using more than in the past is ‘takeaway’ – I’m not referring to vindaloos or Dominos but what comes with us, what travels with us? Paul’s offering is this: ‘And the peace of God, which transcends all understanding, will guard your hearts and your minds in Christ Jesus’.
This is a wonderful phrase not used anywhere else in the New Testament: the peace of God. And I think Paul means that peace which is within God and also the peace which flows from God. It’s a peace which is bigger and stronger than anything we might muster but touches our situation directly. And this peace will guard and hearts and minds in Jesus Christ. This too is a beautiful phrase because it’s drawn from life in Philippi itself, a Roman fort with a garrison to defend its commerce. What Paul means is that God’s peace can garrison our hearts and minds from assaults which could threaten us. Isn’t that a great picture? God’s peace is like a fortress surround which stops unchecked anxiety from paralysing us and destabilising us.
Remember when Paul wrote this letter, he was in prison although was guilty of no more than preaching Christ. He knew what anxiety was like and how threats could overwhelm. But in acknowledging this reality, he found a response in God. And it was this which kept his heart and mind safe in Christ.
When you ponder the week past and the week’s ahead, what is your response? Are you frightened and troubled? If you think the way ahead looks a bit scary, that is perfectly understandable. But bring that to God in prayer: talk to God and let that peace which offers the kind of stable hope and settled faith we all need, rise up and become our companion for the next stage of the journey.