minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant" | "Then they will see the Son of Man coming in clouds with great power and glory"
English

Addoliad ar Sul Cyntaf yr Adfent


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Corinthiaid 1:3-9

Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.

Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu, am eich cyfoethogi ynddo ef ym mhob peth, ym mhob ymadrodd a phob gwybodaeth, fel bod y dystiolaeth am Grist wedi ei chadarnhau yn eich plith. Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist. Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.


Marc 13:24-37

“Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’

“A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.

“Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

“Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio. Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore— rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu. A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

“A’r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: Byddwch wyliadwrus.’ 

Marc 13:37

Ar y Sul cyntaf hwn o'r Adfent, rydym ni’n cael ein galw i fyfyrio ar ‘ddydd Iesu Grist’. Mae’r Testament Newydd a darlleniadau’r Efengyl yn dangos yn glir beth mae hyn yn ei wahodd a rwyf eisiau meddwl yn arbennig am eiriau Iesu ar ddiwedd yr efengyl: “A’r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: Byddwch wyliadwrus.’

Mae'r thema o fod yn wyliadwrus yn un sydd ar wasgar ar draws yr efengylau. Ydych chi’n cofio sut y disgynnodd y disgyblion i gysgu yng ngardd Gethsemane a geiriau Iesu i aros yn wyliadwrus? Ac wedyn yr achlysur pan oedd Iesu ei hunan yn cysgu a’r disgyblion mewn dychryn oherwydd bod storm yn bygwth suddo’u cwch?

Mae’r darlun o fod wedi paratoi, yn barod ac yn effro un sy’n gyfarwydd i bob un ohonom. Felly, fy nghwestiwn y bore ‘ma, yn yr Adfent, yw sut ydym yn dal ati i fod wyliadwrus?

Efallai bod hyn yn swnio’n lle rhyfedd i ddechrau ond rydym yn dysgu cysgu’n dda. Beth rwy’n olygu yw, er mwyn aros yn wyliadwrus rydych angen egni ac os ydych chi wedi blino’n barhaus, mae hynny’n anodd. Mae’r bywyd Cristnogol yn un ble mae gorffwys yn hanfodol ac roedd hynny’n rhywbeth yr oedd Iesu’n ei gydnabod. ‘Dewch ataf i, bawb sy’n flinedig ac yn drwm lwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi,’ meddai. Rwy’n siŵr fod Iesu’n cynnwys gorffwys corfforol yma ond mae’n rhaid ei fod yn golygu mwy na hynny hefyd. Mae yna orffwys sy’n gwybod sut i breswylio ym mhresenoldeb Duw, ble mae’r enaid yn cael gorffwys a phryderon a blinderau’n edwino. Weithiau rwy’n meddwl nad ydym ni’n gwneud unrhyw ffafrau â’n litwrgi pan fyddwn yn gweddïo: mae’n gallu swnio fel rhestr siopa neu set o broblemau i Dduw eu datrys. Ond mae enghraifft Martha’n werth ei gofio: Eisteddodd wrth draed Crist a dysgodd sut i breswylio gydag ef. Doedd dim brys a dim rhestr!! Dyna oedd y peth cyntaf a’r gorau ac ni fyddai’n cael ei gymryd oddi wrthi waeth pa mor fawr a phrysur y tasgau.

Un cwestiwn sy’n dod ataf ar ddechrau’r Adfent hwn yw a fyddaf i’n neilltuo amser i orffwyso gyda Duw? Ac a fyddaf i’n teilwra’r disgwyl a’r tawelwch sydd ei angen i’m atal rhag rhuthro i wneud y peth nesaf?

Yr ail beth rydym ni ei angen i aros yn wyliadwrus yw egni da. Mae cyffelybiaeth y ‘bwydgarwr’ yn amlwg ond yw? Os na fyddwn ni’n bwyta’r bwydydd rydym ni eu hangen, buan iawn y bydd ein cyrff yn cwyno. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n wir ar lefel ysbrydol hefyd, er bod y persbectif Cristnogol yn cynnwys iechyd corfforol hefyd. Un o’r pethau rwy’n meddwl sydd wedi bod mor anodd i ni yn ystod y cyfnod hwn yw’r diffyg cyswllt wyneb yn wyneb. Cefais y llawenydd o fod gyda chynulleidfa y Sul diweddaf ac. er yr holl fygydau a’r gel, roedd yn bleser pur bod gyda phobl ac nid ar sgrîn y cyfrifiadur. Rydym angen cyfeillach, gweddi, ysgrythur a’r sagrafennau i roi maeth ac egni i’r enaid.

Darllenais adroddiad yn ddiweddar sy’n awgrymu, oherwydd ein bod o dan do cymaint ac er gwaethaf y tywydd braf yn y Gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, y gallai’r cyfnod clo fod wedi dihysbyddu ein ffynhonnell o fitamin D. Wedi ein hamddifadu o heulwen, daeth ein cyrff yn ddiffygiol mewn un o’r pethau y mae’n rhaid iddyn nhw eu cael.

I Gristnogion yr adeg yma, mae hynny'n her fawr. Mae ein harfer o dderbyn bara a gwin wedi’i ohirio a’n cyfeillach wedi’i gyfyngu. Felly, mae’n rhaid i ni ganfod ffynonellau eraill i’n helpu. Y cwestiwn rwy’n ei ofyn i mi fy hunan ac i bob un ohonom yw beth yw’r pethau a fydd yn fy nghadw’n iach yr Adfent hwn?

Mae gan Robert Goolrick yn ei nofel ‘A reliable Wife’ ddisgrifiad gwych o sut mae llesgedd a diffyg penderfyniad yn gallu digalonni. Meddai: “Weithiau byddai’n eistedd a gadael i’w meddwl fynd yn wag a’i llygaid yn bŵl, a gwylio symudiadau araf, herciog y darnau a oedd yn symud ar draws canhwyllau ei llygaid. Roedden nhw’n ei syfrdanu pan oedd yn blentyn. Erbyn hyn, roedd yn eu gweld fel adlewyrchiad o sut yr oedd hi’n symud, yn symud yn llesg trwy’r byd, yn taro’n achlysurol yn erbyn corff rhywun arall, heb gydnabyddiaeth, ac yna, yn dal ati i symud ymlaen, yn rhydd ac ar ei phen ei hun.”

Un o’r pethau rydym ni ei angen i'n cadw’n effro’n ysbrydol yw diben. Fe welwch fod gair llesg yn un da iawn. Dyna ein hymateb pan na fydd gennym fawr ddim i’n hysgogi neu i’n hysbrydoli. Bydd ‘gwneud’ yn hawdd iawn i rai ohonom ac efallai ein bod yn cael trafferth oherwydd y pandemig. Dydyn ni ddim wedi canfod ffyrdd i wneud iawn am y newidiadau sydd wedi golygu fod ‘gwneud’ yn beth anodd iawn. Mae eraill ohonom, efallai, wedi arfer â bywyd llawer llai prysur, ond hefyd yn cael trafferth oherwydd ein bod yn fwy ynysig nag arfer.

Rwyf wedi bod yn edmygydd brwd o’r syniad ‘tasg a gwobr’. O ganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio fy egnïon ac yna, yn fwriadol, cael seibiant. Mae rhannu’r diwrnod fel hyn yn rhoi canolbwynt ac ystyr. Ac os yw hynny’n wir yn gyffredinol, mae’n debyg o fod yn wir am ein heneidiau hefyd. Rydym ni angen diben a chanolbwynt i aros yn wyliadwrus.

Y cwestiwn rwy’n ei ofyn i mi fy hunan felly ar ddechrau’r Adfent yw beth yw’r tasgau a allai roi cyfeiriad i mi a’m cadw rhag mynd yn llesg?

Felly, a ninnau ar drothwy’r Adfent ac yn dal i geisio datrys problemau enbyd Coronafeirws, gallwn ddal i ymateb i’r cyfnod hwn gyda dychymyg newydd a chreadigrwydd ffyddlon. Mae yna gyrsiau ar gael i ni i’w defnyddio – ein hadnodd Esgobaethol ‘Newid Tirwedd’ yw un ac un arall yw’r fenter ranbarthol #darknessintolight hefyd sydd â deunydd rhagorol ynddo. Rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y byddwch chi’n gallu cynnig bywyd wedi’i gyffwrdd gan ras Duw yr Adfent hwn ac yn dysgu sut i aros yn wyliadwrus wrth ddisgwyl a gweld a hiraethu am ei ddyfodiad. Amen.

Cymraeg

Worship on the First Sunday of Advent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Corinthians 1:3-9

Grace to you and peace from God our Father and the Lord Jesus Christ.

I give thanks to my God always for you because of the grace of God that has been given you in Christ Jesus, for in every way you have been enriched in him, in speech and knowledge of every kind— just as the testimony of Christ has been strengthened among you— so that you are not lacking in any spiritual gift as you wait for the revealing of our Lord Jesus Christ. He will also strengthen you to the end, so that you may be blameless on the day of our Lord Jesus Christ. God is faithful; by him you were called into the fellowship of his Son, Jesus Christ our Lord.


Mark 13:24-37

‘But in those days, after that suffering, the sun will be darkened, and the moon will not give its light, and the stars will be falling from heaven, and the powers in the heavens will be shaken.

Then they will see “the Son of Man coming in clouds” with great power and glory. Then he will send out the angels, and gather his elect from the four winds, from the ends of the earth to the ends of heaven.

‘From the fig tree learn its lesson: as soon as its branch becomes tender and puts forth its leaves, you know that summer is near. So also, when you see these things taking place, you know that he is near, at the very gates. Truly I tell you, this generation will not pass away until all these things have taken place. Heaven and earth will pass away, but my words will not pass away.

‘But about that day or hour no one knows, neither the angels in heaven, nor the Son, but only the Father. Beware, keep alert; for you do not know when the time will come. It is like a man going on a journey, when he leaves home and puts his slaves in charge, each with his work, and commands the doorkeeper to be on the watch. Therefore, keep awake—for you do not know when the master of the house will come, in the evening, or at midnight, or at cockcrow, or at dawn, or else he may find you asleep when he comes suddenly. And what I say to you I say to all: Keep awake.’


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

‘And what I say to you I say to all: Keep awake.’ 

Mark 13:37

On this first Sunday in Advent, we are called to reflect on the ‘day of Jesus Christ’. Our NT and Gospel readings bring into clear focus what this invites and I want to think especially on the words of Jesus at the end of the gospel: ‘And what I say to you, I say to all: Keep awake’.

The theme of wakefulness is one we find scattered across the gospels. Do you remember how the disciples fell asleep in the garden of Gethsemane and Jesus’ words to stay awake? And then there was the occasion when Jesus himself slept and the disciples panicked because a squall threatened to sink their boat?

As a picture of being prepared, ready and alert it’s one that is familiar to us all. So my question this morning is, in Advent, how do we keep awake?

And this may sound a strange place to start but we learn to sleep well. What I mean is that in order to stay awake you need energy and if you are constantly tired, that becomes difficult. The Christian life is one in which rest is essential and this was something Jesus recognized. ‘Come to me all who are weak and heavy laden and I will give you rest’ he said. I’m sure Jesus included physical rest here but he must have meant more than this too. There is a restfulness which knows how to dwell in God’s presence, where the soul is rested and anxieties and weariness fades. I sometimes think we do ourselves no favours in our liturgy when we pray: it can sound like a shopping list or set of problems for God to resolve. But the example of Martha is worth remembering: She sat at the feet of Christ and learned how to dwell with him. There was no rush and no list!! This was the first and best thing and would not be taken from her however great and busy the tasks.

A question which comes to me at the start of this Advent is whether I will make time for rest with God? And will I craft the waiting and the silence needed to stop me rushing off to the next thing?

The second thing we need to stay awake is good energy. The ‘foodie’ parallels are obvious aren’t they? If we neglect the right foodstuffs we need, out bodies will tell us soon enough. And this is something which is true at a spiritual level too although the Christian perspective includes bodily health too. One of the things I think we have found so hard is the lack of face to face contact in this period. I had the joy of being with congregations last Sunday and for all the masks and gel, it was a delight to be with people and not via the computer screen. We need fellowship, prayer, scripture and sacrament if the soul’s energies are to be nourished.

I read a report recently which suggested despite the lovely weather of the Spring and early summer that lockdown might have depleted our source of vitamin D because we’ve been indoors so much. Deprived of sunshine our bodies have lacked one of the things they need.

For Christians in this time, this is a big challenge. Our practice of receiving bread and wine has been suspended and fellowship has been limited. So we need to find other sources which help us. A question I have for myself and for us all is what are the things which will keep me healthy this Advent?

Robert Goolrick in his noel, ‘A reliable Wife’ has this wonderful; description of how listless and a lack of focus can be dispiriting. He writes: ‘Sometimes she sat and let her mind go blank and her eyes go out of focus, so that she watched the slow, jerky movements of the motes that floated across her pupils. They amazed her as a child. Now she saw them as a reflection of how she moved, floating listlessly through the world, occasionally bumping into another body without acknowledgment, and then floating on, free and alone.”

One of the things we need to keep us spiritually awake is purpose. You see that word listless is very good. It’s the response we make when we have little to motivate or inspire us. Some of us will find ‘doing’ to be very easy and we might have struggled because of the pandemic. We haven’t found ways to compensate for the shifts which have made the ‘doing’ very difficult. Others of us, perhaps used to a less busy pace to life, might also have struggled because we’ve been more isolated than usual.

I’ve become a great fan of the ‘task and reward’ idea. Of finding new ways to engage my energies and then deliberately taking time away. Breaking the day up in this way gives focus and meaning. And if this is true in general terms it’s likely to be true as well for our souls. We need purpose and focus to stay awake.

I question I’m asking myself then as we begin Advent is what are the tasks which can give me direction and prevent me becoming listless?

So, we arrive at Advent still wrestling with coronavirus issues and these are significant but we can still respond to this time new imagination and faithful creativity. There are courses available for us to use – our Diocesan resource, ‘Changing Landscapes’ is one and there is the provincial initiative #darknessintolight also has excellent material in it. I hope and pray that you will be able to offer a life touched by God’s grace this Advent and learn how to stay awake that we might wait and see and longing for his coming. Amen.