minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu" | "You are my Son, the Beloved; with you I am well pleased"
English

Addoliad ar Sul Cyntaf y Grawys


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Pedr 3:18-22

Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd, ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar. Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr, ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist. Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.


Marc 1:9-15

Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud: “Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Duwioldeb ac Addewidion

Pan oeddwn i’n gofalu am blwyf yn esgobaeth Tyddewi, dechreuais gymryd rhan mewn asiantaeth Drugs Street.Roeddem ni’n gweithio yn ôl y model Minnesota o drin a deall dibyniaeth, tebyg iawn i waith gwych Alcoholics Anonymous. Yn ogystal â gweithio gyda phobl eithriadol, roeddwn i’n dechrau sylweddoli’r math o onestrwydd a oedd gan lawer a oedd yn mynychu sesiynau a'u hymrwymiad i ffordd newydd o fyw, heb alcohol na chyffuriau.

Un o’r datganiadau mwyaf angerddol yn 12 Cam yr AA yw cam 4, sef: Rydym wedi ‘llunio rhestr foesegol, dreiddgar a di-ofn, ohonom ni ein hunain’. Wrth ei ddarllen ar y cyd â datganiadau cynharach, yn cydnabod fod bywyd wedi dod yn afreolus, mae’r datganiad tryloyw a chyfareddol hwn mor syfrdanol ag yw o ddifrifol. Mae’n cydnabod pa mor ddwfn yw’r gagendor, pa mor ddifrifol yw’r hollt, pa mor gyfan mae’r briw i’w weld mewn pobl.

Wrth gwrs, mae yna lawer iawn mwy i’w ddweud am ymddygiad a chymeriad pobl ond tybed a ellid defnyddio’r dadansoddiad sy’n cael ei gynnig gan AA yn ehangach? Mae cyfnod y Grawys sydd newydd gychwyn, a’r themâu sy’n cael eu cynnig i ni, yn awgrymu bod pawb ohonom yn bobl gaeth – i ni’n hunain. Mae hwn yn ddatganiad sy’n sobri ac yn syfrdanu ond mae ein darlleniad o’r efengyl ar Ddydd Mercher Lludw’n trafod un enghraifft benodol o hynny. Dyma eiriau agoriadol Mathew 6: ‘Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen dynion, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch , nid oes gwobr i chi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.'

Mae’r cyhuddiad sy’n gynhenid yn y geiriau’n awgrymu fod duwioldeb yn aml yn cael ei ymarfer er mwyn cael ei weld. Pam fod hynny a beth allen ni ei ddysgu o syniad hwnnw? Gadewch i ni drafod y ddynameg sydd i’w weld yma.

Mae dameg y Defaid a’r Geifr ym mhennod 25 o efengyl Mathew. Yn aml rydym yn canolbwyntio ar y diwedd eithaf creulon sydd o flaen y rhai sy’n cael eu cyfrif fel geifr yn y stori. Ond beth sydd wedi fy ngoglais i ers cryn dipyn yw sut mae’r ddau grŵp, y defaid a’r geifr yn ymddangos nad ydyn nhw’n yn ymwybodol o'r pethau sy’n naturiol iddyn nhw. Mae un grŵp yn gwasanaethu, ymweld, gofalu a rhoi heb feddwl fawr ddim am hyn mewn gwirionedd. Maen nhw’n ymddangos bron iawn yn ddiarwybod anhunanol, felly does yna ddim i awgrymu eu bod yn gwneud eu gwaith da i ennill clod nac i ymddangos yn rhinweddol. Yn hynny o beth, maen nhw’n eithriadol o debyg i Grist oherwydd bod daioni wedi’i wau mor dynn i mewn i’w hymwybyddiaeth fel nad ydyn nhw byth yn sylweddoli eu bod yn gwneud pethau hardd.

Ac wrth gwrs, mae rhyw fath o rinwedd a bodlonrwydd yma hefyd ond oes? Mae’n debyg ein bod ni’n dyheu am fod fel hyn, yn gwybod mai dyma’r safon y dylen ni ymdrechu i’w gyrraedd yn hytrach na’r gwirionedd neu’r holl wirionedd amdanom ni ein hunain. Felly, pam ydym ni’n ceisio gwneud pethau da er mwyn cael ein gweld – beth sy’n digwydd yma?

Mae seicolegwyr wedi deall pwysigrwydd cadarnhad ers peth amser. Mae’n cael gwared ar ddiffyg hunan barch, yn adeiladu hyder ac yn rhoi synnwyr o lesiant. Pan na fyddwn ni’n ei gael y mae’n debyg y byddwn yn chwilio am bethau eraill, sydd i’w gweld yn cynnig rhywbeth tebyg. Felly, gallwn weld pam y gallen ni fod eisiau ymddangos yn dduwiol yn gyhoeddus – er mwyn cael y cadarnhad a’r statws nad yw ar gael yn unlle arall. Mor aml mae plant, yn llawer mwy diniwed, i’w clywed yn gwaeddi ‘Mami neu dadi, edrychwch beth ydw i’n ei wneud’. Ac wrth gwrs, maen nhw wedi dysgu fod clod yn beth braf. Os nad oes cadarnhad i’w gael yn gyson, mae pobl yn mynd i chwilio amdano trwy ffyrdd eraill: drwy ymddangos yn dduwiol yn gyhoeddus.

Ac mae sylw Iesu ar hyn mor dreiddgar: ‘nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd'. Ar y wyneb, mae’n edrych fod hynny'n golygu fod Duw yn sylweddoli mai ystryw yw’r cyfan. Mae’r colect am burdeb yn gyfareddol yma: “Hollalluog Dduw, i ti y mae pob calon yn agored, pob dymuniad yn hysbys, a phob dirgel yn amlwg”. Nid yw’r ffaith ein bod yn gwisgo’n rhinweddau ar ein llawes yn sicrwydd o gwbl y byddwn yn ennyn ewyllys da Duw oherwydd mae Duw yn gweld beth sy’n digwydd y tu mewn, yn gweld y bwriad sydd yn ein calonnau.

Ond mae’n rhaid bod y geiriau’n golygu mwy na hynny. Ac rwy’n credu eu bod yn mynd â ni’n ôl at hanfod natur beth ydym ni’n ei wneud a pham. Mae’r math o wobr sy’n cael ei roi gan Dduw yn gynhenid yn y dasg a wneir. Mae’r wobr yn y rhoi, y llawenydd o wasanaethu, yr harddwch o fendith. A dyma sy’n gwneud bod yn debyg i Grist mor werthfawr a da.

Rwyf wedi dod i gredu fod y math yma o fywyd i fod i gael ei ymarfer. Mae’n ddisgyblaeth ac yn drefn sy’n cadw draw yr elfennau mwy niweidiol a dinistriol sydd ynom, y rhai roeddwn i’n eu disgrifio ar ddechrau’r myfyrdod. Mae'r Grawys yn wahoddiad i ‘Sobri’, os mynnwch chi, a thalu sylw i’r symbyliadau mewnol, i gyflwr yr enaid ac i’r hyn a fydd yn ein harwain i gerdded yn agosach gyda Duw. Mae’r gwahoddiad heddiw’n benodol: i ymarfer duwioldeb, ie, ond nid er mwyn i ni gael ein canmol na’n cydnabod ond i ganfod y rhinwedd sydd yn y cyflawni. Gweddïwch y cawn ni gyfle i wneud yn union hynny.

Amen.

Cymraeg

Worship on the First Sunday of Lent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Peter 3:18-22

For Christ also suffered for sins once for all, the righteous for the unrighteous, in order to bring you to God. He was put to death in the flesh, but made alive in the spirit, in which also he went and made a proclamation to the spirits in prison, who in former times did not obey, when God waited patiently in the days of Noah, during the building of the ark, in which a few, that is, eight people, were saved through water. And baptism, which this prefigured, now saves you—not as a removal of dirt from the body, but as an appeal to God for a good conscience, through the resurrection of Jesus Christ, who has gone into heaven and is at the right hand of God, with angels, authorities, and powers made subject to him.


Mark 1:9-15

In those days Jesus came from Nazareth of Galilee and was baptized by John in the Jordan. And just as he was coming up out of the water, he saw the heavens torn apart and the Spirit descending like a dove on him. And a voice came from heaven, ‘You are my Son, the Beloved; with you I am well pleased.’

And the Spirit immediately drove him out into the wilderness. He was in the wilderness for forty days, tempted by Satan; and he was with the wild beasts; and the angels waited on him.

Now after John was arrested, Jesus came to Galilee, proclaiming the good news of God, and saying, ‘The time is fulfilled, and the kingdom of God has come near; repent, and believe in the good news.’


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Piety and Promises

In my time as an incumbent of a parish in St Davids diocese I became involved in a Drugs Street agency. We worked to the Minnesota model of treatment and understanding of dependency much like the great work of Alcoholics Anonymous. Apart from working alongside extraordinary people, I became conscious of the kind of honesty practiced by the many who attended sessions and committed to a new way of living, free of alcohol and drugs.

One of the most profound statements in the 12 Steps of AA is step 4 which reads like this: We have ‘made a searching and fearless moral inventory of ourselves’. When read alongside the earlier statements recognizing life had become unmanageable, this transparent and disarming statement is as shocking as it is profound. It recognizes how deep the fault line, how severe the crack, how entire the damaged goods present in human beings.

Of course there is a great deal more to be said about human behaviour and character but I wonder whether the analysis offered by AA has wider application? The period of Lent which has begun and the themes offered to us suggests we are all addicts - to self. This is a sobering and shocking statement but our gospel reading for Ash Wednesday explores one particular example of this. These are the opening words from Matthew 6: ‘Beware of practising your piety before others in order to be seen by them; for then you have no reward from your Father in heaven’.

The charge inherent in the words suggests piety is indeed often practiced in order to be seen. Why is this and what can we take from this thought today? Let’s explore the dynamics at work here.

The parable of the Sheep and the Goats is in chapter 25 of Matthew’s gospel. We often focus on the rather brutal end of those described as goats in the story. But what has long fascinated me is the how both groups, sheep and goats seem unaware of the things which are natural to them. One group serves, visits, cares and gives without really giving much thought to this. They seem almost unconsciously selfless so that there is no sense this is being done to either gain virtue or to be seen as virtuous. In this sense they are profoundly Christlike because goodness is woven so tightly into their consciousness that it never even clicks they are doing beautiful things.

And of course there is a kind of virtue and contentment here isn’t there? We probably long to be like this, aware that this is a standard to which we aspire rather than the truth or whole truth about us. So why do we try and do the virtuous things in order to be seen - what’s taking place here?

Psychologists have long understood the importance of affirmation. It addresses poor self-esteem, it builds confidence and gives a sense of well-being. When these aren’t forthcoming it’s likely that other sources which appear to offer something similar will be sought out. So we can see why piety might be practiced in public – it’s to gain affirmation and status which hasn’t been delivered elsewhere. How often do we see children, much more innocently, reaching out saying ‘Look mummy or daddy, look what I’m doing’. And of course they have learned that praise feels good. If there is a constant absence of affirmation, people are going to seek it out by other means: they will practice their piety in public.

And Jesus’ comment on this is so instructive: ‘you have no reward from your Father in heaven’. On face value it means that God sees through the ruse. The collect for purity is disarming here: ‘Almighty God, to whom all hearts are open, all desires known and from whom no secrets are hidden.’ That we parade our virtue publicly is not a guarantee of God’s good will at all because God sees what’s taking place on the inside, sees the motives of our hearts.

But the words must mean more than this. And I think they take us back to the essential nature of what we do and why. The kind of reward God gives is inherent to the tasks undertaken. The reward is in the giving, the joy of serving, the beauty of blessing. And it’s this which makes the Christlikeness so rewarding and good.

I’ve come to believe that this kind of life is practiced. It’s a discipline and routine which keeps at bay the more damaging and destructive elements in us and which I described at the start of the meditation. Lent is an invitation to ‘Get real’ if you like and to attend to the inner motivations, the soul state and what it is which will lead us to a closer walk with God. Today’s invitation is specific: to practice piety, yes, but not to gain applause or recognition but to find the virtue in the doing. Pray we find opportunity to do just that.

Amen.