
Addoliad ar Ail Sul yr Adfent
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
2 Pedr 3:8-15a
Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch. Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod. Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod, a chwithau'n disgwyl am Ddydd Duw ac yn prysuro ei ddyfodiad, y Dydd pan ddatodir y nefoedd gan dân ac y toddir yr elfennau gan wres. Ond disgwyl yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.
Felly, gyfeillion annwyl, gwnewch eich gorau, wrth ddisgwyl am y pethau hyn, i fod yn ddi-nam a di-fai yng ngolwg Duw, ac i'ch cael mewn tangnefedd. Ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein brawd annwyl, Paul, atoch yn ôl y ddoethineb a roddwyd iddo ef.
Marc 1:1-8
Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.
Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia:
“Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen
i baratoi dy ffordd.
Llais un yn galw yn yr anialwch,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch y llwybrau iddo’ ”—
ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
‘Bydd ef yn eich bedyddio â’r Ysbryd Glân’
Mae’r themâu sy’n cael eu rhoi i ni heddiw yn rhai cryf a grymus. Maen nhw’n gofyn i ni fyfyrio ar weinidogaeth Ioan Fedyddiwr a ddaeth fel llef un yn llefain yn y diffeithwch: ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd’ cyn i Iesu gyrraedd. A hyd yn oed wrth iddo bregethu a bedyddio, roedd yn edrych ymlaen at yr adeg pan fyddai’r Un, wedi’i ddewis gan Dduw, yn bedyddio gyda’r Ysbryd Glân. Roedd pendraw i’w baratoadau, rhywbeth mwy nag y gallai ef ei roi. Ar yr ail Sul hwn o’r Adfent, ysgwn i beth yw ystyr y paratoi yma a sut mae Duw’n ein galluogi i gerdded yn ei oleuni? Beth am ystyried y pethau hyn gyda’n gilydd.
Ac fe hoffwn i gychwyn yn ôl yn yr Hen Destament. Ydych chi wedi sylwi mor wahanol yw'r iaith yma o gymharu a'r Testament Newydd? Er ein bod yn clywed am ysbryd sanctaidd Duw, ychydig sydd yna i'n paratoi am y ffordd y mae Duw'n sefyll yng nghanol y llwyfan yn Actau’r Apostolion. Yno, rydyn na’n darllen drachefn a thrachefn sut mae’r Ysbryd Glân yn cyfeirio, yn ysbrydoli ac yn galluogi'r eglwys ifanc i ddwyn tystiolaeth o Iesu hyd yn oed ar adegau ac mewn amgylchiadau anodd. Ond rydyn na’n gweld ychydig o hynny hefyd yn yr Hen Destament. Yn Actau’r Apostolion rydyn na’n clywed sut y mae Duw’n dod a’i bobl i berthynas fyw gyda’r Ysbryd Glân. Daeth Cristnogion Effesus at y pwynt hwn (Actau 19) pan ddaeth yn glir fod yna rhywbeth ar goll yn eu bywydau.
Felly, y peth cyntaf y dylen ni ei ddweud yw hyn:rhodd gan Dduw yw'r Ysbryd Glân. Roedd Sant Paul yn disgrifio ein cyrff fel temlau i’r Ysbryd Glân lle gallai Duw fyw. Gallai hynny swnio’n eithaf rhyfeddol, ac, wrth gwrs, y mae! Ond nid gafael mewn casgliad o gredoau yw'r peth cyntaf wrth berthyn i Dduw (er fod hynni’n bwysig), na ffordd benodol o fyw chwaith. Yn y bôn, perthynas yw hynny. Mewn gwirionedd, does yna ddim y fath beth â Christion ail ddosbarth. Os ydyn na’n perthyn i Iesu, does yna’r un gradd arall o ddisgybl yn uwch na hynny. Mae Duw’r Ysbryd Glân yn byw ym mhob Cristion, mae Duw'n adnabod pob Cristion fel ffrind neu fab neu ferch yn ddiwahân.
Yr ail beth yw mai ernes yw’r Ysbryd Glân sy’n gwarantu rhywbeth sy’n bwysig iawn. Un o'r pethau rwy wedi sylweddoli yw fod pobl weithiai’n cael eu llygad dynnu gan y dyfodol. Mae gan y colofnwyr a’r papurau eu horosgop. Mae pobl wrth eu bodd yn pendroni sut i ddarogan y dyfodol ac mae ffilmiau Hollywood yn chwarae ar hyn yn aml. Ond y dyfodol sy’n cael ei addo i ni, ond nid yn cael ei ddisgrifio, yw un y byddwn ni, ryw dydd, gyda Christ ac yn gweld wyneb Duw. Dyma’r addewid rydyn na’n ei ddarllen: nid oes unrhyw beth a all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw, hyd yn oed angau. Mae geiriau o'm hoff emynau Saesneg, emyn y Pasg (a hynod annhymhorol) fel a ganlyn: ‘Death’s waters lost their chill, when Jesus crossed the river, his love shall reach me still, his mercy is forever’.
Y trydydd peth y gallen ni sylwi arno yw bod Duw'n cadw’r fflam yn fyw. Mae’n hawdd i fflam golli ei llewyrch a hyd yn oed oeri. Weithiau mae goleuni llachar cariad Duw yn gallu pylu wrth i ni gael trafferth aros mor agos ag yr hoffen ni. Rwy’n meddwl bod cael profiadau fel hyn weithiau’n rhywbeth eithaf normal. Mae Cristion doeth iawn wedi ysgrifennu am noson dywyll yr enaid fel pe byddai Duw weithiau'n cilio a'n gadael ni i deimlo'n hollol ar goll. Ond ar adegau eraill fe fyddaf i’n meddwl ai ni sy’n dechrau gweld pethau o chwith? Diolch byth nad y ni sy’n penderfynu bob amser sut i symud ymlaen oherwydd gwaith, gwaith mawr, yr Ysbryd Glân yw ein galluogi ni i wneud yr hyn na allen ni ei wneud ar ein pen ein hunain. Mewn gwirionedd, mae gan bawb ohonom galonnau ystyfnig, hawdd eu drysu gan yr hyn mae un o’n gweddïau byrion yn eu galw y byd, y cnawd a'r diafol. Ac mae rhan o’r paratoadau rydyn ni’n eu gwneud y tymor hwn yn gofyn i ni gymryd hynny o ddifrif.
Daw paratoi trwy ffurfio perthynas â Duw, sy'n ein cadw’n ddiogel ar ein traed ond hefyd yn ceisio mowldio a thrawsnewid ein bywydau. Sut allwn ni ymateb? Yn syml iawn, drwy weithio gyda Duw. Ac fel ym mhob perthynas, mae hynny'n golygu buddsoddi amser, egni ac amynedd.
Hyd yn oed wrth i gael ein calonogi y bydd brechlyn ar gael yn fuan, bydd llawer yn dal i deimlo’n nerfus ac yn bryderus. Efallai, yn nhymor yr Adfent hwn, bod yr alwad i fod yn barod i gyfarch yr Arglwydd yn fwy beichus nag erioed. Rheswm da, efallai, i ni ymateb gydag egni newydd i’r Un sy’n dod i’n helpu ni ac i unioni’r ffordd tuag at yr Arglwydd.
Amen
Worship on the Second Sunday of Advent
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
2 Peter 3:8-15a
But do not ignore this one fact, beloved, that with the Lord one day is like a thousand years, and a thousand years are like one day. The Lord is not slow about his promise, as some think of slowness, but is patient with you, not wanting any to perish, but all to come to repentance. But the day of the Lord will come like a thief, and then the heavens will pass away with a loud noise, and the elements will be dissolved with fire, and the earth and everything that is done on it will be disclosed.
Since all these things are to be dissolved in this way, what sort of people ought you to be in leading lives of holiness and godliness, waiting for and hastening the coming of the day of God, because of which the heavens will be set ablaze and dissolved, and the elements will melt with fire? But, in accordance with his promise, we wait for new heavens and a new earth, where righteousness is at home.
Therefore, beloved, while you are waiting for these things, strive to be found by him at peace, without spot or blemish; and regard the patience of our Lord as salvation. So also our beloved brother Paul wrote to you according to the wisdom given to him.
Mark 1:1-8
The beginning of the good news of Jesus Christ, the Son of God.
As it is written in the prophet Isaiah,
‘See, I am sending my messenger ahead of you,
who will prepare your way;
the voice of one crying out in the wilderness:
“Prepare the way of the Lord,
make his paths straight” ’,
John the baptizer appeared in the wilderness, proclaiming a baptism of repentance for the forgiveness of sins. And people from the whole Judean countryside and all the people of Jerusalem were going out to him, and were baptized by him in the river Jordan, confessing their sins. Now John was clothed with camel’s hair, with a leather belt around his waist, and he ate locusts and wild honey. He proclaimed, ‘The one who is more powerful than I is coming after me; I am not worthy to stoop down and untie the thong of his sandals. I have baptized you with water; but he will baptize you with the Holy Spirit.’
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
‘But he will baptize you with the Holy Spirit’
The themes given to us today are strong and powerful ones. We are asked to reflect on the ministry of John the Baptist who came like a voice calling in the wilderness: ‘Prepare the way of the Lord’ in advance of Jesus’ arrival. And even as he preached and baptized, he looked forward to the time when the One chosen by God would baptize with the Holy Spirit. His preparation had an end in sight, designed for something greater than he could give. On this 2ndSunday in Advent I wonder what this preparation means and how God enables us to walk in the light? Let’s think on these things together.
And I want to start way back in the Old Testament. Have you ever noticed how different is the language here from the New Testament? Although we do hear about the holy spirit of God, there is little to prepare us for the way God stands centre stage in the Acts of the Apostles. There we read time and again how the Holy Spirit directs, inspires and enables the young church to bear witness to Jesus even in difficult times and circumstances. But we see just a glimmer of that in the Old Testament. It’s in the Acts of the Apostles that we hear how God brings people into a living relationship by the Holy Spirit. The Ephesian Christians for example (Acts 19) came to this point when it became clear there was a missing ingredient in their lives.
So the first thing we should say is this: the Holy Spirit is the gift from God. St Paul would describe our bodies as a temple of the Holy Spirit within which God might dwell. That might sound quite extraordinary and it is of course! But belonging to God is not firstly about holding to a set of beliefs (although that is important), nor is it about a particular lifestyle. It’s fundamentally a relationship. You see there are no such things as 2nd class Christians. If we belong to Jesus, there cannot be another grade of disciple above us. All Christians have God the Holy Spirit dwelling within, all Christians are known by God as friends or sons and daughters without distinction.
The second thing is that the Holy Spirit is a deposit who guarantees something very important. One of the things I have noticed is that people are sometimes infatuated with the future. The columns and papers have their horoscopes. People love to ponder whether the future can be known and Hollywood movies play on this very often. But the future vouchsafed to us, but not described, is that one day we shall be with Christ and see God face to face. That is the promise we read: nothing can separate us from the love of God, not even death. One of my favourite hymns, an Easter hymn (so quite unseasonal) has these words: ‘Death’s waters lost their chill, when Jesus crossed the river, his love shall reach me still, his mercy is forever’.
The third thing we might note is that God keeps the flame burning. Its easy for that flame to lose its brightness and even grow cold. Sometimes the bright light of God’s love can grow dim and we struggle to stay as close as we would like. I think it can be quite normal to experience times like this. A very wise Christian has written about the dark night of the soul as though somehow God withdraws and we find ourselves feeling at sea. But at other times I wonder if we lose our focus a bit? Thank goodness it’s not always down to us to make progress because the work, the great work of God’s Holy Spirit is to enable us to do what we couldn’t do alone. In truth we all have wayward hearts, easily distracted by what one of our collects calls the world, the flesh and the devil. And part of the preparation we undertake in this season asks us to take this seriously.
So preparation takes place from within a relationship with God, who holds us and keeps us secure but seeks to mould and transform our lives. How can we respond? Very simply by working with God. And like every relationship, that means an investment of time, energy and patience.
Even as we take heart that a vaccine will soon be available many will still feel nervous and concerned. Perhaps this season of Advent, the call to make ready to greet the Lord has been more demanding than ever. Perhaps a good reason for us to respond with new energy to the One who comes to help us and to make the way for the Lord straight.
Amen