minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Peidiwch ag ofni felly" | "So do not be afraid"
English

Addoliad ar yr Ail Sul wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Rhufeiniad 6:1b-11

A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau? Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo? A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth? Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd. 

Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef. Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod. Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd, a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef. Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint â'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw. Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.


Mathew 10:24-39

“Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr. Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?

“Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.

“Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

“Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf. Oherwydd deuthum i rannu “ ‘dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’. “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill."


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Yn Efengyl heddiw rydyn ni’n wynebu dau o’r ymatebion mwyaf nerthol sy’n gallu codi mewn pobl:ofn a ffydd.Ddwywaith mae Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion na ddylen nhw ofni: adnod 26, ‘peidiwch â’u hofni hwy’ (y rhai sy’n bwriadu eu niweidio) ac adnod 31, ‘peidiwch ag ofni’. Ond roedd y rhan fwyaf o’i ddysgeidiaeth yr adeg hynny ynghylch natur ffydd a’r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud. Mae ynglŷn â'r ansawdd a chysondeb y penderfyniadau sy’n cael gwared ar y llanw o ofn ac mae’n rhoi ateb i’r math o bryder sy’n loetran yn fygythiol ac a allai, fel arall, barhau.

Felly, sut ddylen ni ddarllen y darn yma heddiw?

Gadewch i mi drafod y cyntaf o’r ymatebion mawr hyn: ofn. Meddai Iesu: ‘Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu! Peidiwch â’u hofni hwy; oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod'.Mae’n sôn am y rhai sy’n benderfynol o ymosod ar y cartref o ffydd.Fe wyddom fod rhai wedi ceisio dangos Iesu a’i ddysgeidiaeth mewn goleuni drwg fel ffordd o ddwyn anfri ar yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond yma, mae’n hynny’n rhywbeth llawer casach oherwydd ei fod yn ei gwneud yn anos i’r rhai sy’n cael eu difrïo amddiffyn eu hunain.

Mae ofn yn un o’r profiadau mwyaf nerthol y gallwn eu cael ond hefyd yn un o’r greddfau mwyaf normal a phwysig. Mae ofn yn cael ei greu pan fyddwn yn ein gweld ein hunain o dan fygythiad. Gallai fod yn gorfforol neu’n emosiynol ond pan fydd yr ymennydd yn sylweddoli fod yna berygl mae’n sbarduno toreth o adweithiau. Gallwch ddychmygu fod yn y gwyllt a wynebu Crocodeil neu Lew eithriadol o fawr:rydych angen dihangfa a hynny’n gyflym. Nid yn unig mae’r corff yn adweithio i hyn yn hynod gyflym ond mae’n cael ei baratoi i ddianc a hynny gynted â phosib!!

Rwy’n ymwybodol, yn fwy difrifol, fod pobl yn byw gydag ofn:ofn am deulu, ffrindiau, arian neu’r dyfodol. Ac mae’r math yma o ofn yn gallu parlysu.I bobl (oedolion a phlant) sy’n byw gyda chamdriniaeth neu drais, alcoholiaeth neu broblemau iechyd meddwlmae’r ymateb i ofn yn real ac yn normal. Mae yna ffordd wrth gwrs, o reoli ein hymateb i ofn. Nid y dewisiadau ‘rhedeg, ofn, ymladd’ yw’r unig rai sydd ar gael i ni. Ac mae rhai o’r rhain yn llawer iawn mwy positif.

Rwy’n meddwl mai dyna pam y dysgodd Iesu am ofn, mae mor ganolog i’r hyn mae pobl yn ei wneud ac er ei fod yn gallu bod yn bositif, mae hefyd yn gallu llethu. Efallai na fyddwn yn gallu cael gwared bob amser o wreiddyn yr hyn sy’n ein bygwth, ond fe allwn reoli ein hymateb i ofn. Sut mae hynny’n digwydd i Gristnogion?

Dyma ble y dylem dalu sylw i’r ail air: Ffydd. Mae Iesu’n cymeradwyo ffydd sy'n gostus ac yn heriol ond sy’n bywiocau. Gadewch i mi awgrymu ei fod yn gwneud hyn mewn tair ffordd: Yn gyntaf, mae Iesu’n wynebu ofn. Byddai’n hawdd lliniaru, anwybyddu neu gynnig atebion diwerth. Nid yw’n gwneud y fath beth. Mae’n ei wynebu yn ei gyfanrwydd. Weithiau, un o’r pethau mwyaf anodd yw dim ond cydnabod bod yna broblem. Does wiw i ni gyfaddef ein bod ofn. Mae’n ymddangos yn wendid neu’n gywilydd. Ond nid cuddio yw’r ateb.Drwy gydnabod nerth gwirioneddol ofn y mae dechrau deall ac ymateb yn dda.

Yn ail, mae’n atgoffa’i ddisgyblion eu bod yn werthfawr. Dyma ei eiriau: ‘Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i’r ddaear heb eich Tad. Y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chi’n werth mwy na llawer o adar y to' (adnod 29 – 31). Rhan o’r ateb felly yw safbwynt da. Rydym yn cael gwahoddiad i weld y cyfan o fywyd o safbwynt Duw. Ac yma, rydym yn clywed pa mor werthfawr, pa mor bwysig ydym ni. Mae Duw eisiau i ni wybod ein bod werth rhywbeth. Mae ofn yn gallu llesteirio a diraddio, mae ffydd yn Nuw yn rhyddhau ac yn nerthu. Gwrandewch ar y geiriau hyn o 1 Ioan: ‘Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn foddion ein puredigaeth oddi wrth ein pechodau' (1 Ioan 4:10) a hefyd, 'Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn'. (p.18)

Golyga edrych fel hyn ar fywyd ein bod yn gallu gweld diben ac ystyr ym mhopeth, nid wedi’n cloi mewn cist heb obaith na dihangfa. Mae Duw yn ein caru ni, yn gofalu amdanom ni ac yn gallu symud ein hymateb cyntaf o ofn i ffydd.

Ac yn olaf, mae'n ein herio i fyw math gwahanol o fywyd. Mae ofn yn gallu lledaenu fel y feirws rydym i gyd yn ei wynebu. Mae’n rhaid i rywbeth ymyrryd a newid. Mae Iesu yn pwysleisio:Duw yn gyntaf. Mae’n sôn am golli bywyd er mwyn ei ennill, sut mae ei ddewis ef yn gostus (mae’n dod â rhaniad ac anghytgord) a’r peryglon o anwybyddu help Duw. Mae ffydd sy’n costio fel carreg werthfawr, mae’n cyfrif am rywbeth. Ac mae hogi ffydd o’r fath yn golygu dewis yr hyn sy’n fywiol, yn sanctaidd a da ac nid dilyn yr hyn sy’n ein dinistrio ac yn ein niweidio. Pan fydd ofn yn ein caethiwo, mae yna ffordd allan ond nid yw heb ei bris.

Gadewch i mi ddweud eto, rwy’n ymwybodol heddiw o’r rhai sy’n byw mewn amgylchiadau sy’n eu gwneud yn ofnus iawn. Nid wyf yn bychanu realiti hynny mewn unrhyw ffordd. Ac allai hynny fod yn ni heddiw? Beth yw'r peth hwnnw sy’n ein gyrru’n ddyfnach i'r droell o anobaith a phryder? Gallai hynny fod yn sawl peth. Ond mae Duw wrth law ac Ef yw ein cymorth. Dydyn ni ddim ar ein pen ein hunain a dydyn ni ddim yn ddiymadferth. Mae Duw yn gweld ein gwerth ac yn ein gwahodd i oleuni a ffydd yn Iesu.

Fy ngweddi heddiw yw y bydd unrhyw un sy’n cael eu hunain yn y lle hwnnw yn cynyddu ei ffydd, y bydd y wawr yn torri ac y bydd Duw yn gwasgaru cariad a llawenydd eto yng Nghrist. Amen.

Cymraeg

Worship on the Second Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Romans 6:1b-11

Should we continue in sin in order that grace may abound? By no means! How can we who died to sin go on living in it? Do you not know that all of us who have been baptized into Christ Jesus were baptized into his death? Therefore we have been buried with him by baptism into death, so that, just as Christ was raised from the dead by the glory of the Father, so we too might walk in newness of life.

For if we have been united with him in a death like his, we will certainly be united with him in a resurrection like his. We know that our old self was crucified with him so that the body of sin might be destroyed, and we might no longer be enslaved to sin. For whoever has died is freed from sin. But if we have died with Christ, we believe that we will also live with him. We know that Christ, being raised from the dead, will never die again; death no longer has dominion over him. The death he died, he died to sin, once for all; but the life he lives, he lives to God. So you also must consider yourselves dead to sin and alive to God in Christ Jesus.


Matthew 10:24-39

“A disciple is not above the teacher, nor a slave above the master; it is enough for the disciple to be like the teacher, and the slave like the master. If they have called the master of the house Beelzebul, how much more will they malign those of his household!

“So have no fear of them; for nothing is covered up that will not be uncovered, and nothing secret that will not become known. What I say to you in the dark, tell in the light; and what you hear whispered, proclaim from the housetops. Do not fear those who kill the body but cannot kill the soul; rather fear him who can destroy both soul and body in hell. Are not two sparrows sold for a penny? Yet not one of them will fall to the ground apart from your Father. And even the hairs of your head are all counted. So do not be afraid; you are of more value than many sparrows.

“Everyone therefore who acknowledges me before others, I also will acknowledge before my Father in heaven; but whoever denies me before others, I also will deny before my Father in heaven.

“Do not think that I have come to bring peace to the earth; I have not come to bring peace, but a sword. For I have come to set a man against his father, and a daughter against her mother, and a daughter-in-law against her mother-in-law; and one’s foes will be members of one’s own household. Whoever loves father or mother more than me is not worthy of me; and whoever loves son or daughter more than me is not worthy of me; and whoever does not take up the cross and follow me is not worthy of me. Those who find their life will lose it, and those who lose their life for my sake will find it."


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

In today’s Gospel reading we are brought face to face with two of the most powerful responses humans can make: fear and faith. Twice Jesus says to his disciples they should not be afraid: v. 26, ‘do not be afraid of them’ (those who mean harm) and v.31, ‘don’t be afraid’. But the greater part of his teaching at this point is about the nature of faith and choices we make. It’s about the quality and consistency of decisions which actually row back the tide of fear and provides an answer to the kind of lingering and menacing anxiety which might be otherwise unchecked.

So, how should we read this passage today?

Let me unpack the first of those big responses: fear. Jesus says: ‘How much more will they malign those of his household! So have no fear of them; for nothing is covered up that will not be uncovered, and nothing secret that will not become known’. He is talking about those who are bent on attacking the household of faith. We know that some attempted to demonize Jesus and his teaching as a way of discrediting what he was saying. But here it takes on a nastier character still because it puts on the back foot, those who are subject to it.

Fear is one of the most powerful things we experience and yet is one of the most normal and important of instincts. Fear is created when we perceive we under threat. It might be physical or emotional but the brain recognizes a danger and triggers a whole series of reactions. You can imagine being in the wild and faced with a seriously big Croc or Lion: you need an escape route and you need it fast. The body not only flags this up in a major way but it begins to prepare the body to respond, to get away asap!!

I’m conscious, more seriously, that people live with fear: about family, friends, fortunes or the future. And this kind of fear can be paralyzing. For people (adults and children) who live with abuse or violence, alcoholism or mental health challenges. The fear response is real and normal. There is a way of course of managing our response to fear. The ‘Flight, fright, fight’ options are not the only ones at our disposal. And some of them are more positive by far.

I think this is why Jesus taught about fear because it is so central to human activity and although it can be a positive, it can also become overwhelming. We might not always be able to remove the source of whatever threatens us but we can manage our fear response. How does this happen for Christians?

This is where we need to attend to that second word: faith. Jesus commends a faith that is costly and challenging but life giving. Let me suggest he does this in three ways: Firstly, Jesus engages with fear. It would be easy to smooth over, ignore or provide cheap answers. He does none of those things. He addresses the matter full on. Sometimes one of the greatest challenges is simply to acknowledge there is an issue. We daren’t admit we are frightened and fearful. It seems to be a weakness or shameful. But hiding it away isn’t the answer. To acknowledge the real power of fear is to begin to understand and respond well.

Secondly, he reminds disciples they are precious. These are his words: ‘Are not two sparrows sold for a penny? Yet not one of them will fall to the ground apart from your Father. And even the hairs of your head are all counted. So do not be afraid; you are of more value than many sparrows’ (v.29-31). Part of the answer then is a good perspective. We are invited to see all of life from the God angle. And here we are told how valuable, how important we are. God wants us to know we are worth something. Whereas fear can cripple and debase, faith in God liberates and empowers. Listen to these words from 1 John: ‘In this is love, not that we loved God but that he loved us and sent his Son to be the atoning sacrifice for our sins’ (1 John 4:10) and also, ‘There is no fear in love, but perfect love casts out fear’. (v.18)

This way of looking at life means we see there can be purpose and meaning in everything and that we are not locked into a box where there is no hope, no escape. God loves us, cares for us and can shift our primary response from fear to faith.

And lastly, he challenges us to a different kind of life. You see, fear can circulate like the virus we are all confronting. Something needs to intervene and make a shift. Jesus puts it strongly: God first. He speaks about losing life in order to gain it, how choosing him is costly (it brings division and discord) and the dangers of ignoring God’s help. Faith which is costly is like a precious stone, it counts for something. And honing such a faith means choosing what is life-giving, holy and good and not running with what destroys and harms us. When fear imprisons us there is a way out but it isn’t without cost.

Let me say again, I am conscious today of those who live with circumstances that make them deeply fearful. I do not belittle this reality in any way. And that might be us today? Whatever it is that is driving us more deeply into the spiral of despair and anxiety. It could be many things. But God is at hand and our help. We are not alone and we are not powerless. God sees our worth and invites a light and life giving faith in Jesus.

My prayer for anyone today who finds themselves in this place is that faith will rise, light will dawn, God will shower with love and joy again in Christ. Amen.