
Addoliad ar Ail Sul y Grawys
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Rhufeiniaid 4:13-25
Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd. Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid. Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith. Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn ôl gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn ôl ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd; fel y mae'n ysgrifenedig: “Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer.” Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod. A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo. Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder. Ond ysgrifennwyd y geiriau, “fe'i cyfrifwyd iddo”, nid ar gyfer Abraham yn unig, ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw. Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.
Marc 9:31-38
Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi. Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu. Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o'm golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”
Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd? Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi ac o'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Marc 8:31
Os cymerwch chi gip sydyn ar restr Amazon o lyfrau sy’n gwerthu orau fe welwch fod llyfrau ‘Hunan Gymorth’ ac ‘Ugain Ffordd i Lwyddo mewn Bywyd’ yn gwneud yn dda iawn. Mae llawer iawn o arian yn y diwylliant sy’n adlewyrchu ac yn hyrwyddo llwyddiant ac mae’n debyg iawn fod yna rai llyfrau da yma. Yn sicr, mae’r ffordd rydyn ni’n dysgu a datblygu yn ddisgyblaeth dda.
Ond ryw’n amau a fyddai’r un o’r llyfrau’n argymell arestio, brad a chroesholiad fel ffordd o ddod ymlaen yn y byd. Efallai nad yw hi’n hollol deg gwneud y gymhariaeth ond mae’r cyfeiriad y mae Iesu’n ei gynnig yn y darlleniad o’r efengyl heddiw yn hollol wahanol i gyngor y llyfrau ‘Hunan Gymorth’. Ac eto, mae’r geiriau hyn yn greiddiol ym mywyd Iesu ac ar gyfer yr eglwys oherwydd eu bod yn agor y ffordd at bopeth y gwyddom ni a fydd yn digwydd.
Daw’r efengyl heddiw â ni at galon y newyddion da ac fe hoffwn i ni ganolbwyntio ar ddau ymadrodd o’r darlleniad. Y cyntaf yw sylw Marc ar eiriau Iesu ‘Yr oedd (Iesu) yn llefaru’r gair hwn yn gwbl agored”. Ac y mae yna reswm da pam fod Marc yn dweud hyn wrthym. Yn gyntaf, mae eisiau i ni wybod nad oedd y pethau hyn yn cael eu dweud yn y dirgel. Pan fyddwn ni’n darllen yn yr efengyl hanes dyddiau olaf gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, rydyn ni’n cael y teimlad ei fod yn gwybod bod yn rhaid i hyn ddigwydd a bod yn rhaid iddo ddarostwng ei hunan i’r drefn. Felly, does dim yn digwydd trwy ddamwain nac mewn rhyw ffordd nad yw Iesu’n gweld y darlun llawn. Efallai nad yw’n hollol iawn dweud eu bod yn digwydd ar ei alwad ond dydyn nhw chwaith ddim yn digwydd trwy anffawd fel rhywbeth annisgwyl.
Ac mae hyn hefyd yn berthnasol oherwydd mae Marc yn awyddus, gydol ei efengyl, i bwysleisio sut yr oedd Iesu wedi gwireddu’r hyn oedd wedi’i ddarogan. Roedd dyfodiad y Meseia a hyd yn oed ei ddioddefaint yn bethau oedd yn cael eu hawgrymu a’u disgrifio yn yr Hen Destament. Felly, hyd yn oed pan mae Iesu’n siarad yn agored am yr arestio a’r dioddefaint sydd o’i flaen, mae’n dangos ffyddlondeb llwyr i Dduw, hyd yn oed pan, i rai, gallai’r digwyddiadau hynny ymddangos yn llanast, llwyr ac annisgwyl.
Rwy’n meddwl mai un o’r pethau sydd wedi drysu fwyaf ar bobl yn ystod yn pandemig a’r cyfnod clo hwn yw’r ofn ei bod yn hollol amhosibl rhagweld beth fydd yn digwydd nesaf, nad oes yna drefn na diben mewn bywyd erbyn hyn. Mae’r math hwn o ofn yn hawdd iawn ei ddeall. Ond rydyn ni wedi byw gyda’r math yma o amhendantrwydd o’r blaen ac nid yw’n beth newydd. Mae’r efengyl yn ein cyfeirio at fath benodol o sicrwydd. A’r Darlun Mawr hwnnw yw un lle mae Duw yn Arglwydd. Does yna ddim byd ar hap ynghylch yr hyn sy’n digwydd heblaw bod cariad Duw’n ymestyn allan ac yn treiddio at bobl golledig a bod Duw’n penderfynu camu i mewn i fywyd gyda chariad a gras achubol
Ysgwn i, wrth i ni symud ymhellach i’r Grawys a’r cyfan sydd gan hynny i’w gynnig, a allwn ni deithio gyda’r syniad hwnnw hefyd?
Yr ail beth yw sut mae Marc’n cofio Iesu’n galw’r dorf ynghyd gyda’i ddisgyblion ac yn eu dysgu. Ac wrth iddo ddangos beth oedd ei ddilyn yn ei olygu, bod yn Gristion, mae’n troi popeth y gallen ni ei ddisgwyl â’i ben i lawr. Does yna ddim hunan hyrwyddo yma, dim pum cam i lwyddiant. Rydyn ni’n clywed mai colli yw ennill, mai gollwng gafael yw derbyn yn y pen draw.
Ac mae’r neges hon, yn cael ei rhoi erbyn hyn nid yn unig i ddisgyblion, i’w gweld fel pe byddai’n rhagweld yr eglwys oherwydd mae’r neges yn cael ei chynnig i bawb, nid i’r 12 yn unig. Yma y mae’r unig ateb priodol i ras a maddeuant. Mae’n ymateb sy’n dweud ac yn gweithredu ‘Ie’. Ac mae mor rhyfeddol ag yw cariad a trugaredd Duw sy’n dod atom ni yng Nghrist, sy’n plygu ei ben i ddioddefaint ac yna’n marw. Ac nid y groes yn unig sy’n cael ei datgan gan ei atgyfodiad hefyd, hyd yn oed pe byddai hynny i’w glywed yn rhyfedd i glustiau’r rhai oedd yn gwrando.
Mae hyn yn atsain hefyd gyda’n sefyllfa bresennol ni. Mae’n rhaid bod llawer wedi teimlo mor ddiffrwyth ac mor analluog yr adeg yma. Mae wedi teimlo fel pe byddai’r waliau wedi cau amdanom a bod ein dewisiadau mewn bywyd wedi lleihau. Mae hyn hefyd yn ddealladwy. Ond allwn ni byth ddweud ‘Ie’ wrth Dduw ormod o weithiau. Allwn ni byth ymateb i’w gariad a’i drugaredd a dihysbyddu’r cyflenwad. A dyma un o’r pethau sy’n nerthu fwyaf o bell ffordd: Ie wrth Dduw!
Ysgwn i pa bryd wnaethoch chi’r union hynny ddiwethaf. Pryd wnaethoch chi ddweud Ie wrth Dduw gyda chariad ac ymddiriedaeth o’r newydd sy’n gwybod na fyddwch chi byth yn cael eich gadael yn amddifad? Mae’r efengyl ar gyfer heddiw yn dangos y cwestiwn hynny’n glir ond fel y gwahoddiad harddaf a mwyaf rhyfeddol.
Gweddïwn y byddwn ni i gyd yn dweud Ie unwaith eto wrth yr hwn a’i rhoddodd ei hunan drosom ni, Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen
Worship on the Second Sunday of Lent
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Romans 4:13-25
For the promise that he would inherit the world did not come to Abraham or to his descendants through the law but through the righteousness of faith. If it is the adherents of the law who are to be the heirs, faith is null and the promise is void. For the law brings wrath; but where there is no law, neither is there violation.
For this reason it depends on faith, in order that the promise may rest on grace and be guaranteed to all his descendants, not only to the adherents of the law but also to those who share the faith of Abraham (for he is the father of all of us, as it is written, ‘I have made you the father of many nations’)—in the presence of the God in whom he believed, who gives life to the dead and calls into existence the things that do not exist. Hoping against hope, he believed that he would become ‘the father of many nations’, according to what was said, ‘So numerous shall your descendants be.’ He did not weaken in faith when he considered his own body, which was already as good as dead (for he was about a hundred years old), or when he considered the barrenness of Sarah’s womb. No distrust made him waver concerning the promise of God, but he grew strong in his faith as he gave glory to God, being fully convinced that God was able to do what he had promised. Therefore his faith ‘was reckoned to him as righteousness.’ Now the words, ‘it was reckoned to him’, were written not for his sake alone, but for ours also. It will be reckoned to us who believe in him who raised Jesus our Lord from the dead, who was handed over to death for our trespasses and was raised for our justification.
Mark 8:31-38
Then he began to teach them that the Son of Man must undergo great suffering, and be rejected by the elders, the chief priests, and the scribes, and be killed, and after three days rise again. He said all this quite openly. And Peter took him aside and began to rebuke him. But turning and looking at his disciples, he rebuked Peter and said, ‘Get behind me, Satan! For you are setting your mind not on divine things but on human things.’
He called the crowd with his disciples, and said to them, ‘If any want to become my followers, let them deny themselves and take up their cross and follow me. For those who want to save their life will lose it, and those who lose their life for my sake, and for the sake of the gospel, will save it. For what will it profit them to gain the whole world and forfeit their life? Indeed, what can they give in return for their life? Those who are ashamed of me and of my words in this adulterous and sinful generation, of them the Son of Man will also be ashamed when he comes in the glory of his Father with the holy angels.’
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
Mark 8:31
A quick peek inside the latest bestsellers from Amazon will tell you that ‘Self Help’ remedy books and ‘Twenty Ways to Succeed in Life’ all feature strongly. The culture which both reflects and promotes success is big business and no doubt there are some good reads to be had here. The way we learn and develop is a good discipline for sure.
I doubt however if any of them recommend arrest, betrayal and crucifixion as ways of getting ahead of the game. Perhaps it’s not quite fair to make the comparison in strict terms but the direction Jesus offers today in the gospel reading is in stark contrast to the ‘Self Help’ Reads. And yet these words are seminal in the life of Jesus and for the church because they pave the way for everything we know will take place.
Today’s gospel brings us to the heart of the good news and I would like us to focus on two phrases from the reading. The first is Mark’s comment on Jesus’ words: ‘He (that is Jesus) said all this quite openly’. And there is good reason for Mark telling us this. Firstly, he wants us to know that these things were not said in secret. When we read the gospel accounts of the last days of Jesus’ earthly ministry, we sense that He knew this must take place and he must make himself subject to the ruling powers. And so nothing is happening by accident or in some sense without Jesus knowing the full picture. It might not be quite right to say they occur at his beckon and call but neither do they occur by mishap as though something unexpected were occurring.
And this is also relevant because Mark is eager throughout his gospel to emphasize how Jesus fulfilled what had been foretold. The coming of the Messiah and even his suffering were things hinted at and described in the Old Testament. So even as Jesus speaks plainly about his impending arrest and suffering, it is to show the complete faithfulness of God even when, to some, it might appear that these events are ruinous and unexpected.
I think one of the things which has most perplexed people in this time of lockdown and pandemic, is the fear that life has become utterly unpredictable, that there is no order and purpose. This kind of fear is understandable. But we have lived with uncertainty before and that is not new. The gospel points us to a particular kind of certainty. And it is that the Big Picture is one in which God is Lord. There is nothing random about what is taking place other than the love of God reaching out and through to lost human beings and God resolving to step into life with saving love and grace.
I wonder as we move further into Lent with all that it offers if we can travel with this thought too?
The second thing is how Mark recalls that Jesus called the crowd together with his disciples and taught them. And as he laid out what it means to follow, to be a Christian, he inverts all that we might have expected. There is no self-promotion here, no 5 ways to succeed. We are told to lose is to gain, to let go is to finally receive.
And this message, given now not only to disciples, seems to me to prefigure the calling into existence of the church because the message is offered to all, not just the 12. Here is the only proper response to grace and mercy. It is the response which says ‘Yes’ in action. And it is as extraordinary as is the love and mercy of a God who comes to us in Christ, who bows his head to suffering and then dies. And it is not only the cross which is declared by his rising too even if this must have seemed strange to the ears of those who listened.
There is resonance here too with our current situation. Many have felt so disabled and disempowered at this time. It has seemed as though the walls have closed in around us and our options in life have diminished. This too is so understandable. But we can never say yes to God too many times. We can never respond to his love and mercy which exhausts the supply. And this is one of the most empowering of all things: Yes to God!
I wonder when did you last to this very thing? When did you say Yes to God with a new love and trust which knows you will never be forsaken? The gospel for today brings that question into sharp focus but as the most beautiful and wonderful invitation.
Pray we might all say Yes once more to the one who gave himself for us, Jesus Christ our Lord.
Amen