minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo... ni chredaf fi byth" | "Unless I see the mark of the nails in his hands... I will not believe"
English

Addoliad ar Ail Sul y Pasg


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Acts 2:14a, 22-32

Meddai Pedr, "Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.

"Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: 'Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.'

"Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: 'Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.' Yr Iesu hwn, fe gyfododd Duw ef, peth yr ydym ni oll yn dystion ohono."


Ioan 20:19-31

Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, "Tangnefedd i chwi!" Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai Iesu wrthynt eilwaith, "Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi." Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: "Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau."

Nid oedd Thomas, a elwir Didymus, un o'r Deuddeg, gyda hwy pan ddaeth Iesu atynt. Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, "Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd." Ond meddai ef wrthynt, "Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth."

Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, "Tangnefedd i chwi!" Yna meddai wrth Thomas, "Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun." Atebodd Thomas ef, "Fy Arglwydd a'm Duw!" Dywedodd Iesu wrtho, "Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld."

Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn. Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

"Cynefin iawn â dolur"

Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.” Ioan 20:27

Mae hi’n hawdd hoffi Thomas ymhlith y disgyblion. Fel Pedr, mae ’na rywbeth didwyll iawn amdano. Mae’n agos-atoch, yn ddewr, ac yn onest. Roedd o’n barod i ofyn yr hyn oedd ar feddwl pawb. Rhaid oedd iddo ef gael gweld lefo’i lygaid ei hun, ac chyffwrdd â'i ddwylo ei hun, neu ffwlbri oedd y cyfan.

Pan oedd y disgyblion dan glo, ynghlwm i’w pryder, mae Thomas yn cynddeiriogi: dim corff, dim Iesu, dim ffydd. Diolch ond dim diolch!

Mae yna fodd, wrth gwrs, i droi anghrediniaeth yn rhinwedd. Nid diben y stori hon am yr atgyfodiad yw canmol neu ymdrybaeddu mewn anghrediniaeth. Yn hytrach, stori gawn ni am newid gwedd anghrediniaeth – am doriad gwawr ffydd wrth i ni gwrdd â Iesu. Dwi am i ni edrych ar y stori hon o safbwynt Iesu yn hytrach na Thomas oherwydd, os wnawn ni hynny, tybed a allwn ni weld sut y daw hyn i ddigwydd, a beth yw'r camau ar hyd y ffordd?

1. Llaw ac ystlys

Ydych chi erioed wedi gofyn pam fod Iesu'n dangos ei ddwylo a'i ystlys i Thomas? Ar ei symlaf, er mwyn dangos mai Iesu oedd o mewn gwirionedd: y croeshoeliedig, hefo’r creithiau’r groes yn wiw ac yn weladwy. Gallai'r disgybl amheus weld hefo’i lygaid ei hun mai dyma’i Arglwydd. Roedd Thomas eisiau prawf, a dyma hi: y dwylo wedi'u hoelio, yr ystlys wedi’i dryllio. Estyn dy fys. Estyn dy law.

Ond dim ond hanner y stori yw hynny. Gwahoddwyd Thomas i gyffwrdd â chorff dyn a oedd wedi bod yn farw. Dwi’n meddwl am y rhai ohonoch sydd wedi bod yn gofalu’n ddiweddar am y sâl, yr eiddil, y rhai ar farw, y rhai sydd wedi marw. Am brofiad caled. Rydych chi wedi bod yn gyson yn ein gweddïau ni ledled yr esgobaeth. Nid rhywbeth estron i gylch bywyd dynol yw’r atgyfodiad; mae'n realiti mynwesol yn hytrach na’n hud a lledrith o bell. Mae Duw’n ymwneud hefo pethau corfforol bywyd, hefo cig a gwaed ein dynoliaeth. Mae'n ymwneud hefo stwff hunllefus bywyd; tydi o ddim yn cadw pellter parch.

Ac fell nid rhyw fath o ryfelwr o Game of Thrones sy’n dod at Thomas – ac nid rhyw “celeb” cyfoethog o’n dyddiau ni. Dyn croeshoeliedig sydd o’i flaen. A'i ogoniant a'i awdurdod, ei unig ogoniant ac awdurdod, yw ei glwyfau. Yn llyfr y Datguddiad gwelwn ddyn yn wylo oherwydd fe ymddengys nad oes neb yn gallu achub y dydd, neb i’n hachub ni rhag ein llanastr ein hunain. Ond ar orsedd nef, mae rhywun sy'n medru. Nid rhyw gadfridog grymus ond yn “Oen sydd wedi ei ladd.”

Ef yn unig sy’n medru ei denu a’n cyfareddu, oherwydd ef yn unig sy’n gyfarwydd â reality bywyd, yn gynefin â’i ofid a’i ddolur – ein gofid a’n doluriau ni. Clywch eiriau Williams Pantycelyn:

Cynefin iawn â dolur
a Gŵr gofidus fu,
er dwyn tangnefedd rhyfedd
ac iechyd llawn i ni;
fe ddygodd ein doluriau
a’n clwyfau bob yr un,
trwy rym tragwyddol gariad,
o fewn ei gorff ei hun.

2. Bywyd a’i glwyfau

Ac dwi’n credu i Iesu ddangos ei greithiau i Thomas oherwydd bod creithiau a chlwyfau yn rhan elfennol o fywyd. A chânt hwy eu gweddnewid fel gweddill ein bywyd gan gyfaredd gonest Iesu. Pan ddechreuodd y Cristnogion cyntaf ar yr antur enbyd hon, tybed pa mor arw dybien nhw fydda’r daith? Roedd eu neges yn un o waredigaeth radical. Ond ar brydiau, fe fyddai’n dod ag ing a thrafferth yn ei sgil. Casineb a thrais fyddai’n aml yn dod i gwrdd â’u cariad. Fel y clwyfwyd Crist, felly y byddent hwythau’n cael eu clwyfo. Felly wrth i Iesu gynnig ei ddwylo a’i ystlys i Thomas, roedd yn ei wahodd i gyffwrdd byd y tu hwnt i ffiniau diogel – i fentro i fywyd y creithiau.

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion fod ei ddilyn ef yn golygu dwyn y groes, a phrofi ing yr ardd, a rhannu yn nioddefaint Mab y Dyn, er mwyn rhannu hefyd yn ei oleuni, a rhannu’r goleuni hwnnw â’r holl fyd. Gwrandewch ar eiriau’r emynydd a’r bardd, Elfed, sy’n plethu’r gobaith a’r poen a brofwn ar y daith:

Pwy sydd heddiw’n dwyn y groes
Gan ymnerthu
Yn yr Iesu?
Iddynt rhoddir wedi’r loes
Wynfyd yr anfarwol oes.

Pwy ing yr ardd nesânt,
Yno i blygu
Gyda’r Iesu?
Eu gweddïau a’u cryfhant:
Coron y gorchfygwyr gânt.

Pwy gan angel ieuanc fyn
Eu diddanu –
“Cododd Iesu”?
Ei dangnefedd i’r rhai hyn
Ddyry y Diddanydd Gwyn.

Dangosodd Iesu i Thomas ei ddwylo a’i ystlys. Dangosodd iddo yn y clwyfau hyn mai ef oedd ei Arglwydd a’i Dduw. Ac mae'n cwrdd â ni fel hyn o hyd, gan ddangos inni ddirgeledd bywyd yr atgyfodiad – bywyd pan fo’r hyn sydd wedi ei dorri a’i ddryllio yn cael ei weld a’i weddnewid. Mae'n ein galw ni i fyw y bywyd newydd, heriol hwnnw, fel y gallwn ni fod yn debyg iddo ef, a fel y bo i’n clwyfau disglair ninnau gynnig gobaith i eraill.

Iesu trugarog, yn dy drugaredd rwyt ti’n clywed gwaedd dy bobl yn eu trallod. Dangos dy ddwylo a’th ystlys i’r rhai sy'n dioddef cystudd a thrychineb; bendithia waith y rhai sy'n dod ag achubiaeth a rhyddhad; a rho i ninnau’r modd i i gynorthwyo a chysuro'r rhai sy'n dioddef, fel y gallant ganfod gobaith a phwrpas o'r newydd: oherwydd rwyt chi'n byw ac yn teyrnasu gyda'r Tad a'r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Worship on the Second Sunday of Easter


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 2:14a, 22-32

Peter said, ‘Men of Judea and all who live in Jerusalem, let this be known to you, and listen to what I say.

‘You that are Israelites, listen to what I have to say: Jesus of Nazareth, a man attested to you by God with deeds of power, wonders, and signs that God did through him among you, as you yourselves know—this man, handed over to you according to the definite plan and foreknowledge of God, you crucified and killed by the hands of those outside the law. But God raised him up, having freed him from death, because it was impossible for him to be held in its power. For David says concerning him, “I saw the Lord always before me, for he is at my right hand so that I will not be shaken; therefore my heart was glad, and my tongue rejoiced; moreover, my flesh will live in hope. For you will not abandon my soul to Hades, or let your Holy One experience corruption. You have made known to me the ways of life; you will make me full of gladness with your presence.”

‘Fellow Israelites, I may say to you confidently of our ancestor David that he both died and was buried, and his tomb is with us to this day. Since he was a prophet, he knew that God had sworn with an oath to him that he would put one of his descendants on his throne. Foreseeing this, David spoke of the resurrection of the Messiah, saying, “He was not abandoned to Hades, nor did his flesh experience corruption.” This Jesus God raised up, and of that all of us are witnesses.'


John 20:19-31

When it was evening on that day, the first day of the week, and the doors of the house where the disciples had met were locked for fear of the Jews, Jesus came and stood among them and said, ‘Peace be with you.’ After he said this, he showed them his hands and his side. Then the disciples rejoiced when they saw the Lord. Jesus said to them again, ‘Peace be with you. As the Father has sent me, so I send you.’ When he had said this, he breathed on them and said to them, ‘Receive the Holy Spirit. If you forgive the sins of any, they are forgiven them; if you retain the sins of any, they are retained.’

But Thomas (who was called the Twin), one of the twelve, was not with them when Jesus came. So the other disciples told him, ‘We have seen the Lord.’ But he said to them, ‘Unless I see the mark of the nails in his hands, and put my finger in the mark of the nails and my hand in his side, I will not believe.’

A week later his disciples were again in the house, and Thomas was with them. Although the doors were shut, Jesus came and stood among them and said, ‘Peace be with you.’ Then he said to Thomas, ‘Put your finger here and see my hands. Reach out your hand and put it in my side. Do not doubt but believe.’ Thomas answered him, ‘My Lord and my God!’ Jesus said to him, ‘Have you believed because you have seen me? Blessed are those who have not seen and yet have come to believe.’

Now Jesus did many other signs in the presence of his disciples, which are not written in this book. But these are written so that you may come to believe that Jesus is the Messiah, the Son of God, and that through believing you may have life in his name. 


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Known by the scars

Then he said to Thomas, “Put your finger here; see my hands. Reach out your hand and put it into my side. Stop doubting and believe.” John 20:27

We love Thomas the disciple. Like Peter, he seems so human. Just like us. We love his courage and honesty. He asked what others must have been thinking. Unless he saw with his own two eyes and touched with his own two hands, forget it.

When the disciples were in silent, fearful lockdown, Thomas rages with energy: no body, no Jesus, no faith. Thank you very much.

There is of course, a way of making a virtue of unbelief. The point of this resurrection story isn’t to commend doubt and not wallow in it. But to show how doubt travels. How faith arises when we meet Jesus. I want to look at this story from the perspective of Jesus rather than Thomas because if we do that, I wonder if we may see how this happens and what are the steps along the way?

1. Hands and side

Have you ever wondered why Jesus shows Thomas his hands and side? Of course to show that it really was Jesus: the crucified one with scars still present and visible. The doubting disciple could see with his own eyes it was the Lord. Thomas wanted proof, here it is: the hands nailed, the side pierced. Touch and see for yourself.

But that is only half the story. He was invited to touch the body of a man who had been dead. I think of those who have been tending the sick, frail, dying and dead at this moment. What an ordeal for you all. You have been constantly in our thoughts and prayers. Resurrection is not alien to the sphere of human life, it’s intimate realities, it’s not a piece of magic from safe distance. God deals with the physical stuff of life, it’s bloodiness and its wounds. He deals with the nightmare stuff of life and not the nice pleasantries of polite conversation.

And the one who comes to Thomas is no Game of Thrones warrior, no gladiator or, in our own context, no wealthy celeb, billionaire. This is a crucified man. And his glory and authority, his only glory and authority are those wounds. In the book of Revelation we see a man weeping because it seems no one can save the day, rescue us from our messes. But on the throne of heaven there sits someone who can. Not a powerful general but ‘a Lamb standing as if it had been slaughtered’.

Only he can draw us forward because only he meets us in life’s realities. Only the God of Jesus Christ has scars. Listen to these words by a minister called Edward Shillito:

The other gods were strong, but Thou wast weak;
They rode, but Thou didst stumble to a throne;
But to our wounds only God’s wounds can speak,
And not a god has wounds, but Thou alone.

2. Life and wounds

And I think Jesus showed Thomas the scars because life involves scars and wounds. And like the Lord’s, these can be transformed. When the first Christians set out on this adventure, I wonder if they thought it was going to be plain sailing? Their message was radical and liberating. But at times, it brought agony and trouble. Love invited hatred and violence. If the life of Christ brought nails and spear, it would do the same for all who followed Him. So Jesus’ offering to Thomas, to put his hands in his side was an invitation to step out beyond the safety of life’s boundaries, to take risks and to embrace a different kind of life. To know scars and wounds.

Jesus said to his disciples that following him meant taking up a cross and that is precisely what he offers Thomas. A life marked by joy and grace but one that isn’t pain free. Listen to these words by Amy Carmichael:

Hast thou no scar?
No hidden scar on foot, or side, or hand?
I hear thee sung as mighty in the land;
I hear them hail thy bright, ascendant star.
Hast thou no scar?

Hast thou no wound?
Yet I was wounded by the archers; spent,
Leaned Me against a tree to die; and rent
By ravening beasts that compassed Me, I swooned.
Hast thou no wound?

No wound? No scar?
Yet, as the Master shall the servant be,
And piercèd are the feet that follow Me.
But thine are whole; can he have followed far
Who hast no wound or scar?

Jesus offered Thomas his hands and side. He showed him by these things, that He was Lord and God (v. 28). He meets us still like this, shows us resurrection life so that whatever is broken and damaged in us might be touched and changed. He calls us into this new life with all its challenges so that we might be like him and through us, whatever is broken and renewed, might offer hope to others.

Merciful Jesus, with compassion you hear the cries of your people in their distress. Show your hands and side to those who endure affliction and calamity; bless the work of those who bring rescue and relief; and enable us to aid and comfort those who are suffering that they may find renewed hope and purpose: for you live and reign with the Father and the Holy Spirit, one God, now and forever. Amen.