minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch" | "Rejoice always, pray without ceasing, give thanks in all circumstances"
English

Addoliad ar Drydydd Sul yr Adfent


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Thesaloniaid 5:16-24

Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.

Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.


Ioan 1:6-8, 19-28

Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.

Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.” Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto. Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?” “Myfi,” meddai, “yw

“ ‘Llais un yn galw yn yr anialwch:
“Unionwch ffordd yr Arglwydd” ’—
“fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” 

Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid, a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?” Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod, yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.” Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Efallai eich bod yn gyfarwydd â geiriau’r darlleniad heddiw o’r Hen Destament oherwydd dyfynnodd Iesu nhw ar ddechrau ei weinidogaeth – sut roedd yr Arglwydd wedi’i eneinio i bregethu'r newyddion da i'r tlodion. Yn wreiddiol, geiriau’r proffwyd Eseia oedd y rhain wrth iddo edrych ymlaen at pan fyddai caethiwed Israel ar ben a Duw yn adfer yr hyn oedd wedi mynd ar goll mor drychinebus dros y blynyddoedd. Mae’n ddarlun o obaith a hyder na fydd y realiti presennol yn parhau ond y daw rhywbeth newydd a da a fydd yn troi’r galar yn ddawnsio ac anobaith yn glodfori.

Mae’r ddarlleniad hwn i’w weld yn un sy’n siarad â ni, yn enwedig ar yr adeg yma. Efallai ein bod ni’n teimlo, fel Israel gaeth yng Ngharol hyfryd yr Adfent 'O tyred di, Emaniwel’ oherwydd ein bod yn dal i deimlo ein bod wedi’n cloi mewn byd sydd, o reidrwydd, o dan gyfyngiadau ac sy’n teimlo’n anodd ac yn heriol. Rwy’n amau eich bod chi, fel fi, wedi gorfoleddu wrth glywed y newyddion yr wythnos hon fod brechiad eisoes wedi dechrau cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu a bod gobaith o weld bywyd yn gymharol rhydd o Codid. Ond pan ydym ni yn y canol ac yn methu gweld fod diwedd newn golwg, mae’r gobaith yn dal i allu ymddangos yn bell.

Sut ddylem ni ddarllen y darnau fel yr un sydd o’n blaenau heddiw?

Alla i awgrymu fod yna dri pheth i’w nodi? Ac mae’r cyfan o’r cyntaf ynghylch amnewidiad dwyfol. Beth ydw i’n feddwl? Wel, edrychwch ar y gyferbyniaeth yn y geiriau mae Esia’n ynganu: mae’r rhai sydd yn doredig yn cael eu rhwymo, y carcharorion yn cael eu rhyddhau a’r rhai sy’n galaru yn cael cysur. Rydym yn gweld fod un realiti yn cael ei amnewid am un arall: diwedd ar yr hyn oedd yn llwm a chiaidd a dyfodiad rhywbeth da a hardd.

Yn ei gerdd ‘The Kingdom of God’ gan RS Thomas, mae’r geiriau hyn:

It’s a long way off but inside it

There are quite different things going on:

Festivals at which the poor man

Is king and the consumptive is

Healed; mirrors in which the blind look

At themselves and love looks at them

Back; and industry is for mending

The bent bones and the minds fractured

By life. It’s a long way off, but to get

There takes no time and admission

Is free, if you purge yourself

Of desire, and present yourself with

Your need only and the simple offering

Of your faith, green as a leaf

Y tu ôl i’r Deyrnas mae yna, wrth gwrs, ffigwr; un sydd yno i ddod â’r cyfnewid yma sy’n dadwneud dioddefaint pobl Dduw. Tybed sut y byddai’ch ffydd chi’n ymateb i’r weledigaeth o beth mae Duw yn gallu ei wneud?

Yr ail beth yw bod yna symudiad dwyfol. Rwyf wedi pendroni’n hir dros y geiriau sy’n sôn am ddydd dial ein Duw, i gysuro pawb sy’n galaru. Roedd y syniad yn arfer fy mhoeni: sut allai dial mewn fodd fod yn gysur? Beth bynnag yw’r cyd-destun gwreiddiol, rwy’n meddwl fod yn rhaid i ni darllen hwn trwy lygaid y Testament Newydd: a beth sy’n syfrdanol yw, os ydym ni’n gwneud hynny, ein bod yn gweld nad dial a chosbedigaeth a geir ar ddydd y farn ond, mewn gwirionedd, gras yn cyffwrdd methiant dynol. Mae Duw Nerthol yn dod atom gyda’r grym goruchaf ond dydyn i ni ddim yn cael ein cario i ffwrdd ond ein codi i fyny – yn cael ein hail blannu fel y dderwen, meddai, yn goron o harddwch i gymryd lle lludw galar a gwewyr.

Felly mae’r symudiad hwn yn y ffordd mae Duw yn ymateb yn bennaf i ddynoliaeth mor bwysig. Rydyn ni’n gyfarwydd iawn â’r adnod fawr yn efengyl Ioan: pennod 3:16: ond mae’n hawdd anghofio beth mae’n ei olygu a sut y mae’n disgrifio cariad Duw yn ymestyn allan i bobl sydd wedi disgyn, nid i'w torri na’u cleisio, ond i’w croesawu.

Tybed a yw’r ddelwedd yma o Dduw yn sefyll bob tro yn nghanol y ffordd rydym ni’n meddwl am Dduw?

Y peth olaf mae’r weledigaeth fawr hon yn sôn wrthyf yw am benderfyniad dwyfol. Nid yw gweledigaeth Eseia’n un o hen ŵr addfwyn yn byw ei fywyd mewn tynerwch. Dyma’r Duw sy’n casáu anghyfiawnder, lladrad neu bechod. Y rhain yw’r gwerthoedd sy’n dinistrio bywyd ac yn tanseilio cymdeithas. Ac ni fydd Duw yn cyfaddawdu ar bethau felly, ni fydd yn trafod yn y tir canol ac yn derbyn yr anrhaith a ddisgrifiwyd. Mae Duw yn mynnu ffordd o fyw wahanol i gyd-fynd â’i gariad a’i ofal gwaredol. Ac y bywyd newydd hwn rydym ni’n cael ein galw iddo yw’r bywyd da ac nid hunanoldeb, bellach, sy’n rheoli agenda bywyd neu, o leiaf, ddim yn gyfan gwbl! Mae dyfodiad y Deyrnas yn edrych yn radical ac yn llwyr ar fywyd. Dyna beth mae’r Beibl yn ei alw’n sancteiddrwydd, pan fyddwn yn cyd-fynd yn fwy â ffyrdd Duw na gyda’n rhai ni ein hunain.

Felly, ar drydydd Sul yr Adfent, rydym yn clywed geiriau cyfarwydd Eseia sy’n cyhoeddi newid. Mae ei eiriau’n ennyn ymateb, ond ymateb y mae’n rhaid ei gynnig, a’i roi yn rhydd. Wrth i ni hiraethu am weld diwedd y cyfnod hwn o ansicrwydd ac am weld gobaith ar y gorwel, gallai’n disgwyl fod yn llawn hyder mai ymateb Duw fydd ein codi i fyny a rhoi i ni fywyd cynhaliol a phwrpasol. Yng ngeiriau RS, dim ond ymateb syml o ffydd, yn wyrdd fel deilen, ydyn ni ei angen. Amen

Cymraeg

Worship on the Third Sunday of Advent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Thessalonians 5:16-24

Rejoice always, pray without ceasing, give thanks in all circumstances; for this is the will of God in Christ Jesus for you. Do not quench the Spirit. Do not despise the words of prophets, but test everything; hold fast to what is good; abstain from every form of evil.

May the God of peace himself sanctify you entirely; and may your spirit and soul and body be kept sound and blameless at the coming of our Lord Jesus Christ. The one who calls you is faithful, and he will do this.


John 1:6-8, 19-28

There was a man sent from God, whose name was John. He came as a witness to testify to the light, so that all might believe through him. He himself was not the light, but he came to testify to the light.

This is the testimony given by John when the Jews sent priests and Levites from Jerusalem to ask him, ‘Who are you?’ He confessed and did not deny it, but confessed, ‘I am not the Messiah.’ And they asked him, ‘What then? Are you Elijah?’ He said, ‘I am not.’ ‘Are you the prophet?’ He answered, ‘No.’ Then they said to him, ‘Who are you? Let us have an answer for those who sent us. What do you say about yourself?’ He said,

‘I am the voice of one crying out in the wilderness, “Make straight the way of the Lord” ’,
as the prophet Isaiah said.

Now they had been sent from the Pharisees. They asked him, ‘Why then are you baptizing if you are neither the Messiah, nor Elijah, nor the prophet?’ John answered them, ‘I baptize with water. Among you stands one whom you do not know, the one who is coming after me; I am not worthy to untie the thong of his sandal.’ This took place in Bethany across the Jordan where John was baptizing.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

You might be familiar with the words from today’s Old Testament reading because Jesus spoke them too at the beginning of his ministry – how the Lord anointed him to preach good news to the poor. In their original setting, it’s the prophet Isaiah who speaks them as he looks forward to the time when Israel’s captivity will end and how God will restore what has been lost so grievously over the years. It’s a picture of hope and confidence that the present reality is not going to last but something new and good will be ushered in that will turn mourning to dancing and despair will give way to praise.

This is the kind of reading which seems to speak to us especially at the moment. We might feel like captive Israel in that lovely Advent Carol, ‘O come, O come Immanuel’ because there is a sense of still being locked into a world which of necessity is restricted and feels hard and challenging. I suspect you, like me, rejoiced this week at the news that a vaccine has already begun production and distribution and the hope of a life relatively free from Covid. But when we’re in the middle and can’t yet see the end in sight it can still seem a distant hope.

How should we read these passages like the one before us today?

Can I suggest there are 3 things to note? And the first is all about divine substitution. What do I mean? Well look the contrast in the words Isaiah speaks: the broken are bound up, the prisoners are released, those who mourn are comforted. We see a substituting of one reality for another: an end to what has been bleak and brutal and the advent of something good and beautiful.

In his poem ‘The Kingdom of God’ by RS Thomas we read these words:

It’s a long way off but inside it

There are quite different things going on:

Festivals at which the poor man

Is king and the consumptive is

Healed; mirrors in which the blind look

At themselves and love looks at them

Back; and industry is for mending

The bent bones and the minds fractured

By life. It’s a long way off, but to get

There takes no time and admission

Is free, if you purge yourself

Of desire, and present yourself with

Your need only and the simple offering

Of your faith, green as a leaf

Behind the Kingdom there is of course a figure; one who stands to bring about this exchange which undoes the misery endured by God’s people. I wonder how your faith might respond to this vision of what God is able to do?

The second thing is that there is divine shift. I’ve long pondered the words which speak of the day of vengeance of our God, to comfort all who mourn. I used to find the idea troubling: how can vengeance in any sense be a comfort? Whatever the original context, I think we must read this through the eyes of the New Testament: and what is astonishing if we do that, is that we see the day of vengeance is not about punishment and judgement so much as grace touching human failing. The Mighty God comes with sovereign power but we are not swept away but lifted up – planted again like oaks, he says, a crown of beauty to replace the ashes of grief and agony.

So this shift in the way God primarily responds to humankind is so important. We know well the great verse from john’s gospel: chapter 3:16: but it’s easy to forget what this means and how it describes the love of God reaching out to fallen people, not to break or bruise them but to welcome them in.

I wonder if this image of God always stand centre ground in the way we think of God?

The last thing this great vision says to me is about divine resolve. Isaiah’s vision is not one of a gentle old man with a benign sense of life all around. This is the God who hates injustice, robbery and iniquity. These are the values which destroy life and undermine society. And God will not move into a compromise with such things, negotiate a middle ground which accepts some of the despoliation described. God commands a different lifestyle to accompany his redeeming love and care. And this new life to which we are called is the good life with selfishness no longer controlling life’s agenda or at least not entirely! The coming Kingdom calls for a radical outlook on life altogether. This is what the Bible calls holiness, when we align to God’s ways more closely rather than out own.

So on this third Sunday in Advent we hear familiar words from Isaiah who heralds a change. His words compel a response but one which must be freely given and freely offered. As we long for an end to this period of uncertainty with hope on the horizon, our waiting can be marked with confidence that God’s response is to lift us up and give us sustaining life and purpose. In the words of RS we need only the simple response of faith green as a leaf. Amen.