minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd" | "Therefore encourage one another and build up each other"
English

Addoliad ar Drydydd Sul y Deyrnas


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Thesaloniaid 5:1-11

Ynglŷn â'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch. Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd. Pan fydd pobl yn dweud, “Dyma dangnefedd a diogelwch”, dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt. Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr; pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch. Am hynny, rhaid inni beidio â chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr. Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi. Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm. Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn. Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.


Mathew 25:14-30

“Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref. Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall. Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt. Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy. Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. ‘Meistr,’ meddai, ‘rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un â'r ddwy god, a dywedodd, ‘Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.’ Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, ‘Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.’ Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio. Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod. Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo. A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

’Oherwydd nid i ddigofaint y bwriadodd Duw ni’

Dim ond pan ddaeth fy ffydd yn fyw i mi yn fy arddegau hwyr y sylweddolais i fy mod wedi bod yn byw gyda darlun eithaf gwyrdroëdig o beth yw ystyr bod yn Gristion. Roeddwn i’n sicr yn fy meddwl fod y ‘Criw Duw’, y rhai sych-Dduwiol, yn greaduriaid hynod drist. Heb unrhyw lawenydd yn eu bywydau, yn or-ddifrifol ac yn benisel, roeddwn i’n siŵr fod bod yn Gristion yn golygu hepgor unrhyw beth hwyliog, braf a da. Yn ei hanfod, bod yn Gristion oedd bod yn anhapus, aflawen ac ymylol.

Ond roeddwn i’n lwcus. Rywsut, fe ddeudais ar draws ffrindiau Cristnogol oedd yn caru bywyd a’r naill a’r llall. Roedd ganddyn nhw'r hedd na ŵyr y byd amdano, y gofal a’r llawenydd nad oedd gen i. Ac o’r funud honno, fe wyddwn i pa mor gyfeiliornus oeddwn i wedi bod ynghylch beth yw bod yn Gristion.

Geiriau Sant Paul i'r Cristnogion yn Thessalonica:’Oherwydd nid i ddigofaint y bwriadol Duw ni’. Mae’n ddywediad y mae Paul yn ei ddefnyddio mewn mannau eraill (yn Rhufeiniaid, er enghraifft) pan mae'n disgrifio ymddygiad sy'n gyfan gwbl anghyson â sancteiddrwydd Duw a sut na all Duw anwybyddu nac aros yn ddifater. Cyd-destun y geiriau hyn, wrth gwrs, yw’r dyfodol. Bydd Crist yn ymddangos o'n blaenau, ond nid fel, na phryd, yr oedden ni’n ei ddisgwyl. Ond mae'r geiriau hefyd yn dweud rhywbeth wrthym ni am Dduw, am gymeriad Duw, a sut rydyn ni'n gwneud llanast o bethau, yn union fel roeddwn i'n ei wneud flynyddoedd maith yn ôl. Rwy eisiau i ni feddwl am hyn heddiw a chanfod rhai themâu fel ffordd o ystyried hyn yn fanylach.

Mae’r efengylau a'r epistolau'n gyforiog o storïau am faddeuant cariad Duw: daw’r mab afradlon i’r meddwl yn syth. Mae rhai o’n hemynau mawr yn canolbwyntio ar hyn hefyd. ‘I will sing the wondrous story of the Christ who dies for me’ yw un o’m ffefrynnau. Y pwynt yw bod y rhain yn dweud wrthym ni am gymeriad Duw. Mae yna awgrymiadau mewn mannau eraill hefyd fod Duw’n ymestyn allan, nid i’n condemnio, nid i’n baglu ond i’n bendithio ac i'n cynnal. Ac mae hyn yn hanfodol, onid ydyw?Oherwydd mae’n ein symud i ffwrdd oddi ddarluniau o Dduw lle rydyn ni’n rhedeg pethau:un ai i fodloni Duw neu i dawelu Duw. Rydyn ni’n canfod, wrth dynnu’r haenau’n ôl, fod yna Dduw sy'n dyheu am ein cwmni, sydd â diddordeb byw ynom ni ac sydd wedi unioni'r ffordd i ni ddod i weld ei gariad achubol. Fe ddylen ni gael gwared ar unrhyw syniad mai ymateb cyntaf Duw i ni yw digofaint:mae’n ymateb drwy godi’r syrthiedig, ymgeleddu’r clwyfus, maddau i bechaduriaid a chroesawu’r colledig gartref.

Mae gan ein ffrindiau yn Uganda ymadrodd hyfryd:‘Mae Duw yn dda bob amser. Bob amser, mae Duw yn dda’.

Mae un o’r Salmau mawr yn sôn am y dirgelwch o gael eich adnabod gan Dduw ac o gael eich caru gan Dduw. ‘Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt yn deall fy meddwl o bell. Yr wyt yn mesur fy ngherdded a’m gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd a'm holl ffyrdd. Oherwydd nid oes air ar fy nhafod heb i ti, Arglwydd, ei wybod i gyd. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof.Y mae’r wybodaeth hon yn rhy rhyfedd i mi, y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd (Salmau 139.1f)

Y pwynt yw bod Duw’n ein hadnabod a bod gan Dduw ots amdanom ni.

Yr ail beth y gallen ni sylwi arno yw bod Duw’n rhoi diogelwch i ni. Geiriau Sant Paul yw ‘nid i ddigofaint y bwriadoddDuw ni’.Mae’r gair ‘bwriadodd’ hefyd yn bwysig. Ein profiad ni o Dduw, yma, ar hyn o bryd, yw bod yn un gyda'r hyn rydyn ni'n ei ddarllen yn yr Ysgrythur sef bod ein bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Fel y byddwn ni’n cael yr hedd na ŵyr y byd amdano, rydyn ni hefyd yn gwybod na fydd yn darfod gyda'r bedd. Mae emyn fawr y Pasg gan Charles Wesley wedi taro’r hoelen:

‘Soar we now where Christ hath led, Alleluia!

Foll’wing our exalted Head, Alleluia!

Made like Him, like Him we rise, Alleluia!

Ours the cross, the grave, the skies, Alleluia!’

Roedd cydweithiwr â mi, rai blynyddoedd yn ôl, yn dioddef o MS. Roedd yn afiechyd y gwyddai y byddai, ryw ddydd, yn ei ladd. Rwy’n meddwl fod yna sawl cyfnod tywyll yn ei fywyd er ei fod yn gwybod nad ydyn ni i gyd ond llwch. Un o’r pethau a ddaeth yn gynyddol bwysig iddo oedd y gobaith o’r atgyfodiad. Y byddai Duw yn gwisgo ei feidroldeb gydag anfeidroldeb. Dydw i ddim yn meddwl am hyn fel rhyw fath o rith neu ffantasi ond fel ffydd sydd â'i sylfaen ar yr hyn rydyn ni'n ei wybod ar hyn o bryd ac yn ei weld ar hyn o bryd, hyd yn oed os nad yw ond diferyn neu ragflas o'r hyn sydd eto i ddod.

Fe hoffwn i orffen drwy symud ychydig oddi wrth y testun, ond nid yn gyfan gwbl. Heddiw, ar Drydydd Sul y Deyrnas, gofynnir i ni gofio am garcharorion. Wrth i'r Nadolig nesáu, efallai fod hyn yn dod yn bwysicach fyth, yn enwedig gyda'r cyfyngiadau presennol sy'n effeithio ar fywydau'r carchardai hefyd. Bydd yna deuluoedd sy’n cael eu cadw oddi wrth ei gilydd oherwydd fod rhywun yn y ddalfa. Os yw’r hyn rydw i wedi'i ddweud am Dduw yn wir, mae’n golygu fod calon Duw i bawb. Ysgwn i a gaf i ofyn i chi i gyd, nid yn unig am eich gweddïau dros garchardai a’u carcharorion, nid yn unig am y caplaniaid a’r staff, ond a allen ni wneud rhywbeth?Gwneud y gofal a’r cariad hwnnw’n real ac ymarferol?Mae gwybodaeth ar gael ar lein trwy’r ddolen hon: www.prisonersweek.org.uk ac nawr rwyf eisiau cynnig y weddi hon:

Arglwydd cariadus, rydyn ni'n rhoi yr hyn sydd gennym ni.

Rydyn ni'n dod â phwy ydyn ni gan wybod na fydd byth yn berffaith na byth yn ddigon.

Eto, rydyn ni’n dod â’n doniau. Y rhoddion a roddaist ti i ni, y bobl rwyt ti wedi’n gwneud ni.

Gan wybod dy fod ti’n ein derbyn ni ac yn ein caru ni.

Defnyddia ein bywydau a’n byw i adeiladu dy bobl.

Defnyddia dy bobl i adeiladu byd gwell

Defnyddia’r byd hwn i ddangos prydferthwch bywyd gyda thi.

Pan fyddwn ni’n mynd yn hunanfodlon neu’n ddigalon, dysg ni i gyfrif ein bendithion

Pan fyddwn ni’n cyfrif ein bendithion, dysg ni i weddïo dros y rhai sydd angen dy fendithion.

Heddiw, rydyn ni’n gweddïo dros y rhai sy'n cael eu cadw yn y carchar.

Rydyn ni'n gweddïo am newid calonnau'r rhai sydd angen cael gwared ar gasineb a phoen.

Rydyn ni’n gweddïo dros gyfiawnder i'r rhai sydd yn y ddalfa am wrthwynebu cam-drin grym.

Rydyn ni’n gweddïo am gariad newydd lle mae euogrwydd a dicter wedi suro perthynasau.

Ac rydyn ni’n gwneud hyn yn enw Duw sydd wedi’n tynghedu, nid i ddicter, ond i fywyd. Yn enw Iesu.

Amen.

Cymraeg

Worship on the Third Sunday of the Kingdom


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Thessalonians 5:1-11

Now concerning the times and the seasons, brothers and sisters, you do not need to have anything written to you. For you yourselves know very well that the day of the Lord will come like a thief in the night. When they say, ‘There is peace and security’, then sudden destruction will come upon them, as labour pains come upon a pregnant woman, and there will be no escape! But you, beloved, are not in darkness, for that day to surprise you like a thief; for you are all children of light and children of the day; we are not of the night or of darkness. So then, let us not fall asleep as others do, but let us keep awake and be sober; for those who sleep sleep at night, and those who are drunk get drunk at night. But since we belong to the day, let us be sober, and put on the breastplate of faith and love, and for a helmet the hope of salvation. For God has destined us not for wrath but for obtaining salvation through our Lord Jesus Christ, who died for us, so that whether we are awake or asleep we may live with him. Therefore encourage one another and build up each other, as indeed you are doing.


Matthew 25:14-30

‘For it is as if a man, going on a journey, summoned his slaves and entrusted his property to them; to one he gave five talents, to another two, to another one, to each according to his ability. Then he went away. The one who had received the five talents went off at once and traded with them, and made five more talents. In the same way, the one who had the two talents made two more talents. But the one who had received the one talent went off and dug a hole in the ground and hid his master’s money. After a long time the master of those slaves came and settled accounts with them. Then the one who had received the five talents came forward, bringing five more talents, saying, “Master, you handed over to me five talents; see, I have made five more talents.” His master said to him, “Well done, good and trustworthy slave; you have been trustworthy in a few things, I will put you in charge of many things; enter into the joy of your master.” And the one with the two talents also came forward, saying, “Master, you handed over to me two talents; see, I have made two more talents.” His master said to him, “Well done, good and trustworthy slave; you have been trustworthy in a few things, I will put you in charge of many things; enter into the joy of your master.” Then the one who had received the one talent also came forward, saying, “Master, I knew that you were a harsh man, reaping where you did not sow, and gathering where you did not scatter seed; so I was afraid, and I went and hid your talent in the ground. Here you have what is yours.” But his master replied, “You wicked and lazy slave! You knew, did you, that I reap where I did not sow, and gather where I did not scatter? Then you ought to have invested my money with the bankers, and on my return I would have received what was my own with interest. So take the talent from him, and give it to the one with the ten talents. For to all those who have, more will be given, and they will have an abundance; but from those who have nothing, even what they have will be taken away. As for this worthless slave, throw him into the outer darkness, where there will be weeping and gnashing of teeth.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

‘God has not destined us for wrath’

When my faith came alive in the latter teenage years I realize I had been living with quite a distorted picture of what it meant to be a Christian. I was quite sure the ‘God Squad’, the religious ones, were desperately sad figures. Stripped of any joy in life, extremely serious is their mood and temper, I was quite sure that being a Christian meant being deprived of anything fun, nice and good. To be a Christian was fundamentally to be rather unhappy, joyless and marginal.

But I was fortunate. Somehow I ended up with Christian friends who loved life and each other. They had that peace which the world cannot give, a care and a joy I lacked. And from that moment I knew that I had been so wrong about what it meant to be a Christian.

St Paul’s words to the Christians at Thessalonica: ‘God has not destined us for wrath’. It’s a phrase Paul uses elsewhere (in Romans for example) when he describes behavior which is utterly inconsistent with God’s holiness and how God cannot ignore or remain indifferent. The immediate context for these words is, of course, the future. Christ will come to his own but not as we expect and nor according to our timetable. But the words tell us also something about God, God’s character, and how we get things in a muddle just as I did so many years ago. I want us to think about this today and find a few themes as ways of exploring this more closely.

The gospels and epistles are rich with stories of God’s loving forgiveness: the prodigal son comes to mind immediately. Some of our great hymns focus on this too: ‘I will sing the wondrous story of the Christ who dies for me’ is one of my favourites. The point is that these things tell us about God’s character. We find pointers too elsewhere that show God reaching out not to condemn, not to trip up but to bless and sustain us. And this is crucial isn’t it? Because it shifts us away from pictures of God in which we do the running: either to please God or appease God. We find when the layers are peeled back there is a God who longs for fellowship with us, is deeply interested in us and has made the way straight for us to know redeeming love. We ought to abandon any idea that God’s primary response to us is wrathful: it is one in which the fallen are raised, the broken bound up, the sinful forgiven and the lost brought home.

Our friends in Uganda have a lovely phrase: ‘God is good all the time. All the time, God is good.’

One of the great Psalms speaks of the mystery of being known by God and loved by God: ‘You have searched me, Lord and you know me. You know when I sit and when I rise; you perceive my thoughts from afar. You discern my going out and my lying down; you are familiar with all my ways. Before a word is on my tongue you, Lord, know it completely. You hem me in behind and before and you lay your hand upon me. Such knowledge is too wonderful for me, too lofty for me to attain’ (Psalm 139:1f).

The point is that God knows us and cares for us.

The second thing we might note is that God provides a security for us. ‘Not destined for wrath’ are Paul’s words. That word ‘destined’ is also important. Our experience of God here and now is at one with what we read in the Scriptures which is that our life is hid with Christ in God. Just as we experience that peace which the world cannot give so we know it will not end with the grave. The great Easter hymn of Charles Wesley gets it spot on:

‘Soar we now where Christ hath led, Alleluia!

Foll’wing our exalted Head, Alleluia!

Made like Him, like Him we rise, Alleluia!

Ours the cross, the grave, the skies, Alleluia!’

A colleague of mine some years ago suffered from MS. It was a disease he knew which would one day take him. I think there were many dark moments in his life even though he knew we are all but dust. One of the things that became ever more important to him was the hope of the resurrection. That God would clothe his mortality with immortality. I don’t think this is a kind of fiction or fantasy but a faith that is founded on what we know now and see now even if it is only a drop or foretaste of what is still to come.

I want to end by slightly moving us away from the text but not entirely. Today on this Third Sunday of the Kingdom, we are asked to remember prisoners. And as we approach Christmas, perhaps this becomes more important still especially with the current restrictions which affect prison life too. There will be families kept apart because someone is in custody. If what I have said is true about God is means that God’s heart is towards all people. I wonder if I could ask you all not only for your prayers for prisons and inmates, not only for chaplaincies and staff but whether we could do something? Make that care and love real and practical? There is information online through this link: www.prisonersweek.org.uk and I want to now offer this prayer:

Loving Lord, we give what we have.

We bring who we are knowing that it can never be perfect and never enough.

Yet we bring our talents. The gifts you have given us, the people you have made us.

Knowing that you accept us and love us.

Use our lives and our living to build your people.

Use your people to build a better world

Use this world to show the beauty of life with you.

When we get complacent or downhearted teach us to count our blessings

When we count our blessings, teach us to pray for those who need your blessing.

Today we pray for those held in prison.

We pray for changed hearts for those who need to give up hate and hurt.

We pray for justice for those held for their opposition to wrongful abuse of power

We pray for new love where guilt and anger has soured relationships.

And we do this in the name of a God who has destined us not for wrath but for life. In Jesus’ name.

Amen.