
Addoliad ar yr Trydydd Sul wedi'r Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Rhufeiniad 6:12-23
Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau. Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da. Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif! Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; p'run bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn? Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo. Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder. Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn. Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder. Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy'n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth. Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol. Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Mathew 10:40-42
“Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Cywilydd a’r rhodd o ras
Dywedodd fy nhad wrthyf unwaith, pan oedd e’n fachgen bach yn Ne Cymru, y daeth y gweinidog i guro ar eu drws ffrynt. Roedd fy nhad-cu yn smociwr eithaf trwm ac yn amlwg â chywilydd braidd wrth feddwl fod y gweinidog yn dod i dŷ llawn mwg Benson a Hedges. Cuddiodd yn y toiled nes bod y gweinidog wedi gadael. Yn anffodus iddo, yn ôl y stori, tua tair awr yn ddiweddarach.
Y pethau rydym yn eu gwneud sy’n codi cywilydd a pha mor bell yr awn ni i osgoi cael ein dal! Yr wythnos ddiwethaf, tynnais sylw yn fy myfyrdod at sut yr oedd Iesu'n rhoi ffordd i ni ymdrin ag ofn a'r ffordd y mae ffydd yn gallu helpu. Ac rwyf eisiau ystyried profiad cyffredin, arall, tebyg rydym ni’n ei gael a hynny yng ngoleuni rhywbeth y mae Paul yn ei ddweud wrth y Cristnogion yn Rhufain. Mae’n dod o’n darlleniad o’r Testament Newydd heddiw a phennod 6 o'r llythyr at y Rhufeiniaid adnod 21: ‘Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy’n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth.’
Rwyf eisiau i ni feddwl am gywilydd a beth yw'r ymateb Cristnogol iddo. O beth mae’n dod a sut y dylem ni ymateb i deimladau o gywilydd? Ar yr olwg cyntaf mae’n ymddangos fod Paul yn dweud fod cywilydd yn anochel ac o bosib, hyd yn oed yn bositif. Ond rwyf eisiau awgrymu mai camddarllen ei eiriau yw hynny ac nad yw gras yn gadael unrhyw le i gywilydd.
Felly, cwestiwn:beth yw cywilydd?Mae’r geiriadur yn ein cychwyn. Mae’n ‘deimlad poenus o warth neu drallod yn cael ei achosi gan ymwybyddiaeth o ymddygiad anghywir neu wirion.’ Mae’n arferol nodi’r gwahaniaeth rhwng euogrwydd a chywilydd. Mae euogrwydd yn canolbwyntio ar y weithred, yr hyn rydym ni’n ei wneud, ond cywilydd yw sut rydym yn gweld neu’n werthuso ein hunain o ganlyniad i hynny. Felly, fe allem ddweud 'Rwy'n teimlo'n euog am anghofio pen-blwydd Ffred (sori Ffred)' yn hytrach na 'Mae gen i gywilydd nad wyf i weld yn gallu gofio pen-blwyddi pobl'.
Ac, wrth gwrs, mae cywilydd yn dod ar ffurfiau a meintiau: gadewch i mi roi pedwar math. Yn gyntaf Eithriad personol, yr ail Disgwyliad siomedig, Cariad nas dychwelir ac yn olaf, Datguddiad di-groeso. Mae’n hawdd weld beth mae’r rhain yn ei olygu. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ein bod ni i gyd wedi profi cywilydd yn ogystal ag euogrwydd.Mae yna farn fod cymdeithasau’n defnyddio cywilydd fel ffordd o gynnal trefn a chydlyniad – pan fo’r arferol yn cael ei dorri, rydym yn anghymeradwo mewn cywilyddd rhag i’r un peth ddigwydd eto: Mae Ffred yn cadw i bigo’i drwyn yn gyhoeddus, felly, dydi Ffred ddim yn cael gwahoddiad i’r parti y tro nesaf. Er enghraifft.
Mae Paul yn gweithio’n galed yn ei lythyr at y Rhufeiniaid i egluro beth mae'r groes a'r atgyfodiad yn ei olygu i ni. Golyga’r bywyd newydd y mae Duw yn ei gynnig i ni na allwn ni gael ein dal yn llanast pechod ac anobaith - byddai hynny mor ddinistriol - ac mae Duw wedi'n codi ohono. Felly, yn hytrach, fe gesiwn ni glymu'n gilydd wrth y gras newydd rydyn ni wedi'i gael a byw ynddo. Mae’n anodd ond mae’n angenrheidiol. Ac, yn gryno, dyna fe.
Felly, pam fod Paul yn cyfeirio at gywilydd fel hyn? Gadewch i mi awgrymu fod yna ddau beth yn digwydd yma:
Yn gyntaf, mae Paul yn pwysleisio mor wahanol yw negyddiaeth pechod i’r rhodd o fywyd newydd. Mae’n nhw ar ddau begwn gwahanol. Mae un yn dinistrio ac yn codi cywilydd. Mae’r llall yn datrys ac yn ein hail gyfeirio. Felly, pan ddaw’r mab afradlon i sylweddoli beth mae wedi bod, mae arno gywilydd, cywilydd mawr. Ond pan mae’n gadael, efallai yn fwy mewn gobaith na sicrwydd, mae’n cael ei gyfarch gan ei dad sy’n dangos i ni beth yw ystyr gras: mae yna gariad dibendraw a diamod. Dim, dim byd. Yn hytrach, mae yna fodrwy o berthyn, mantell i’w gwisgo a sandalau ar gyfer yr aelwyd. A dyma sy’n adfer y mab, nid yn unig yn ôl i’w gartref ond i ffordd o fyw sy’n ufudd, yn fendithiol ac adfywiol. Does yna ddim edliw gan y tad sut mae prinder arian yn y cartref oherwydd dewisiadau gwirion, dim amodau fod cariad yn y dyfodol yn droednodyn yn y cytundeb dychwelyd.
Dyma sy’n gadael i’r Mab ddod yn ôl, sy’n amddifadu’r gorffennol o’i rym ac sy’n arwain at ddyfodol lle mae dewisiadau da’n cael eu gwneud.
Fe alla i glywed rhai ohonoch chi’n dweud ‘wel, esgob, mae hynna’n swnio’n hyfryd iawn. Ond Na. Dyw hynny ddim yn realistig. Fe allwn ni faddau ond peth arall yw anghofio’. Fe allai rhai feddwl mai dyma’n union beth oedd Paul yn ei gynnig. Mae’n dweud, wedi’r cyfan, fod y Rhufeiniaid yn edrych yn ôl ar eu hen fywyd gyda chywilydd hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddod i gredu. Dyna mae’n ddweud, mae hynny’n ddigon gwir. Ond (a dyma’m hail bwynt) nid yw, yn amlwg, yn cymeradwyo hyn. Dywedodd Cardinal Newman unwaith, ‘Nid yw unrhyw un sy’n edifarhau mewn gwirionedd yn anghofio nac yn maddau iddo’i hunan, ysbryd anfaddeugar ato'i hunan yw'r union bris am faddeuant Duw’. Ond rwy’n siŵr nad yw hynny’n iawn. Efallai ein bod yn edifar am ein gorffennol a’n gofid ond holl bwynt maddeuant yw nid ein hatgoffa am y gwendidau hynny ond i osod cyfrifoldeb newydd i’w hosgoi. Nid ymostwng ond penderfyniad ddylai ddilyn maddeuant.
Felly, realiti cael gwared ar bechod yw nid 'ysbryd anfaddeugar' atom ni'n hunain, na llethtod cywilydd ond ymrwymiad i onestrwydd pan fyddwn ni’n disgyn a phenderfyniad i wneud yr hyn sy’n iawn – sancteiddrwydd. Yn ngeiriau gweddigar y salmydd: ‘Crea galon lân ynof, O Dduw’ Salm 51:10).
Ysgwn i a ydych chi wedi cael eich cywilyddio ac yn dal i fyw gyda hynny? Ydych chi wedi bod â chywilydd ohonoch chi’ch hun ac wedi bradychu’r hyn ydych chi? Yr Efengyl yw ffordd Duw o unioni'r hyn sy'n gam ac wedi torri, o ail osod yr hyn ydyn ni’n ei weld ynom ni'n hunain, yn bechadurus fel rydyn ni ond yn cael ein caru gan Dduw. Ac, fel y rhai sy’n cael eu caru gan Dduw, yn cael eu galw i sancteiddrwydd, heb fod angen cywilydd mwyach fel dyfais i’n rheoli. Mae gennym ni Iachawdwr sy’n ein codi pan fyddwn ni’n disgyn, yn ein galw i gychwyn eto ac nad yw byth yn troi cefn arnom ni.
Gweddïwn mai gras ac nid cywilydd fydd yn rheoli ein dyfodol.
Amen.
Worship on the Third Sunday after Trinity
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Romans 6:12-23
Therefore, do not let sin exercise dominion in your mortal bodies, to make you obey their passions. No longer present your members to sin as instruments of wickedness, but present yourselves to God as those who have been brought from death to life, and present your members to God as instruments of righteousness. For sin will have no dominion over you, since you are not under law but under grace.
What then? Should we sin because we are not under law but under grace? By no means! Do you not know that if you present yourselves to anyone as obedient slaves, you are slaves of the one whom you obey, either of sin, which leads to death, or of obedience, which leads to righteousness? But thanks be to God that you, having once been slaves of sin, have become obedient from the heart to the form of teaching to which you were entrusted, and that you, having been set free from sin, have become slaves of righteousness. I am speaking in human terms because of your natural limitations. For just as you once presented your members as slaves to impurity and to greater and greater iniquity, so now present your members as slaves to righteousness for sanctification.
When you were slaves of sin, you were free in regard to righteousness. So what advantage did you then get from the things of which you now are ashamed? The end of those things is death. But now that you have been freed from sin and enslaved to God, the advantage you get is sanctification. The end is eternal life. For the wages of sin is death, but the free gift of God is eternal life in Christ Jesus our Lord.
Matthew 10:40-42
“Whoever welcomes you welcomes me, and whoever welcomes me welcomes the one who sent
me. Whoever welcomes a prophet in the name of a prophet will receive a prophet’s reward; and whoever welcomes a righteous person in the name of a righteous person will receive the reward of the righteous; and whoever gives even a cup of cold water to one of these little ones in the name of a disciple—truly I tell you, none of these will lose their reward.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
Shame and the gift of grace
My father once told me how the local minister was seen approaching their front door when he was a boy in South Wales. My grandfather was quite a heavy smoker and was clearly embarrassed at the thought of the minister coming into the house with the Benson and Hedges smog clearly discernible. He hid in the toilet until the minister left. Unfortunately for him, as the story goes, some three hours later.
The things we do which are embarrassing and the lengths to which we go to avoid being called out! Last week, I drew attention in my meditation to the way Jesus provided a way to address fear and the way faith can help. And I want to think through another similar common experience we know in the light of something Paul says to the Christians at Rome. It’s from our NT reading today and chapter 6 of the letter to the Romans vs 21: ‘So what advantage did you then get from the things of which you now are ashamed? The end of those things is death.’
I want us to think about shame and what is the Christian response to it? What does it come from and how should we respond to feelings of shame? On a first glance Paul seems to be saying that shame is both inevitable and possibly even a positive. But I want to suggest that misreads his words and that grace leaves no room for shame.
So, question: what is shame? The dictionary gets us started. It is ‘a painful feeling of humiliation or distress caused by the consciousness of wrong or foolish behaviour.’ It’s usual to mark a distinction between guilt and shame. Whereas guilt is focused on the act, what we do, shame is about how we see or evaluate ourselves as a consequence. So we could say ‘I feel guilty for forgetting Fred’s birthday (sorry Fred)’ as opposed to ‘I’m ashamed I don’t seem able to remember people’s birthdays’.
And shame of course comes in shapes and sizes: let me give 4 types. First personal Exclusion, second disappointed Expectation, unrequited Eros and lastly, unwanted Exposure. Easy to see what those mean. In truth we might have all experienced shame as well as guilt. There is a view that societies use shame as a way of maintaining order and cohesion – when a norm is broken, we express shaming disapproval to stop it happening again: Fred keeps picking his nose in a rather unpleasant way so Fred doesn’t get invited to the party next time. For example.
Now Paul is working hard in the letter to the Romans to unpack what the cross and resurrection means for us. The new start offered to us by God means we can’t get stuck in the mess of sin and despair from God has lifted us – that would be so destructive. So we aim rather to attach ourselves to the grace we’ve been given and to live within it. It’s challenging but necessary. That’s it in a nutshell.
So why does Paul reference shame in this way? Let me suggest two things are going on here:
Firstly Paul is at pains to contrast the negativity of sin with the gift of new life. These are polar opposites. One destroys and brings shame. The other resolves and re-orientates us. So when the prodigal son realizes what he’s been, he is ashamed, deeply ashamed. But when he sets out, perhaps more in hope than certainty, he is greeted by his father who shows us what grace means: there is a lavish love which has no string attached. Zilch, nothing. Instead there is a ring of belonging, a robe for covering and sandals for the hearth. And it is this which restores the son not only into the household but into a way of living which is obedient, blessed and life giving. There’s no reminder from the father how the household finances are now really shaky because of foolish choices, no conditions for any future love slotted as an addendum into the return agreement.
It is this which allows the Son back, which deprives the past of its power and which enables a future in which good choices are made.
Now I can hear some of you saying ‘that’s all very well bishop. But No. It’s not realistic. We can forgive but forgetting is a different matter’. Some might think this is precisely what Paul was offering. He says, after all, that the Romans look on their former lives with shame even after they have believed. He does, true enough. But (and my second point) he does not obviously commend this. Cardinal Newman once said, ‘No one true penitent forgets or forgives himself; an unforgiving spirit towards himself is the very price of God’s forgiving him’. But I am sure that is wrong. We might well have regrets about our past and sorrows but the point of forgiveness is not to remind us of those failings but to bring new responsibility to avoid them. Forgiveness should bequeath not resignation but resolve.
So the reality of cancelled sin is not ‘an unforgiving spirit’ towards ourselves, nor shame which is debilitating but a commitment to honesty when we fall and a resolve to do right - holiness. In the prayerful words of the psalmist: ‘Create in me a clean heart, O God’ Psalm 51:10).
I wonder whether you have been shamed and you still live with it? Have you been ashamed of yourself and berated yourself for who you are? The gospel is God’s way of putting right what is crooked and broken, re-setting our view of ourselves, sinful as we are but loved by God. And as those loved by God, called to holiness, no longer in need of shame as a device to control us. We have a Saviour who lifts us up when we fall, calls us to start again and never cuts us loose.
Pray that grace not shame will control our future.
Amen