minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi" | "Destroy this temple, and in three days I will raise it up"
English

Addoliad ar Trydydd Sul y Grawys


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Corinthiaid 1:18-25

Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw. Y mae'n ysgrifenedig:

“Dinistriaf ddoethineb y doethion,
A dileaf ddeall y deallus.”

Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb? Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu. Y mae'r Iddewon yn gofyn am arwyddion, a'r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb. Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd; ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw. Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.


Ioan 2:13-22

Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem. A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.” Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.” Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?” Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.” Dywedodd yr Iddewon, “Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?” Ond sôn yr oedd ef am deml ei gorff. Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ioan 2

'Mae’n wirionedd y mae pawb yn ei gydnabod fod dyn sengl gyda ffortiwn fawr angen gwraig”. Felly mae Jane Austen yn cychwyn ei ‘Pride and Prejudice’ enwog. Mae’r geiriau erbyn hyn yn ymddangos yn rhyfedd ac yn hen ffasiwn, hyd yn oed yn anaddas, efallai, ond maen nhw hefyd yn nodweddiadol o'r oes pan oedden nhw’n cael eu hysgrifennu.

Ac, wrth gwrs, maen nhw’n hanfodol. Maen nhw’n dweud wrthym ni, fwy neu lai, beth sydd yn y nofel gyfan. Mae’r un linell sengl hon yn gosod y cyd-destun i bopeth sy’n dilyn, ac, oherwydd hynny, rydym yn darllen y stori ddilynol yn ei goleuni.

Mae ein darlleniad heddiw o Ioan 2 yn debyg iawn. Mae’n cynnwys stori Iesu’n cyfarfod â’r awdurdodau ac yn darogan y byddai’r deml yn cael ei dinistrio ac yna’n cael ei hailadeiladu o fewn tri diwrnod. Wrth gwrs Ioan yw’r meistr am greu metafforau o gyfarfodydd ac am ganiatáu ystyr i ddywediadau sydd rhywsut wedi’i guddio oddi wrth y rhai o’i gwmpas. Dyma Nicodemus, er enghraifft, yn cael ei ail eni ac mewn dryswch ar ôl hynny. Mae’r chwarae ar eiriau’n finiog ac yn fwriadol. Nid yw Iesu’n sôn am frics a morter Jeriwsalem (o leiaf, nid yn bennaf) ond am ei gorff ei hun, sef gwir drigfan Duw.

Ond oherwydd bod Ioan yn gosod y digwyddiad hwn ar ddechrau ei efengyl, yn wahanol i ysgrifenwyr eraill yr efengylau, fe ddylem dalu sylw. Oherwydd, yn debyg i Jane Austen, byddwn yn gweld fod popeth sy’n digwydd o hyn ymlaen yn digwydd yng ngoleuni’r datganiad hwn. Hyn sy'n llywio, dyma'r ‘ffordd i mewn’ a chyfeiriad y daith, am weddill gweinidogaeth ddaearol Iesu.

Rwyf eisiau i ni feddwl am y darlleniad hwn ac rwy’n cynnig dau syniad am ei bwysigrwydd. Mae’r cyntaf yn ei gwneud yn amlwg fod popeth yn pwyntio tuag at ei farwolaeth a’i atgyfodiad anochel. Ar hyd y daith bydd adegau dwys, megis porthi’r 5,000 neu godi Lasarus o farw’n fyw, ond, mewn gwirionedd, dim ond yn mynegi mae hyn yr union beth roedd Ioan yn ei ddatgan ar y dechrau; mai dyma’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, a oedd gyda Duw yn y dechreuad, ac mai dyma oedd Duw. Digwyddodd y gwyrthiau oherwydd dyna oedd gorchymyn y Duw-Dyn. Felly, mae’r darogan y mae Iesu’n ei wneud yn cael ei weld yng ngoleuni hynny. Pan mae ei gorff yn cael ei dorri ar y groes, mae Duw, rywsut, yn rhannu yn yr aberth ddirgel a bendigedig hon.

Mae Cristnogion dros y canrifoedd wedi pendroni beth yw ystyr y groes ac wedi gweld ei fod yn aml haenog: mae’n mynegi rhywbeth am gymeriad Duw sydd wastad yn ymestyn allan mewn cariad anhunanol, mae’n dangos gwrthsafiad i ddrygioni ond trwy nerth goddefoldeb, wrth i Iesu ddangos, fod yna ffordd i analluogi’r rhai sy’n dal y grym. Yn bennaf, fodd bynnag, mae’n dweud fod hyn yn weithred enfawr o iachawdwriaeth: rywsut mae maddeuant yn llifo i ddynion oherwydd y groes, mae pechod yn cael ei drin gyda phendantrwydd ac mae'r hyn na allwn ni byth ei gyflawni ar ein pen ein hunain yn cael ei ganiatáu i ni. Mae llawer wedi sôn am y foment o ras ar yr foment hon ac mae rhai o’n prif emynau yn canolbwyntio ar ryfeddod y groes, fel yr emyn Saesneg hon:

‘I will sing the wondrous story of the Christ who died for me

How he left the realms of glory, for the cross of Calvary.’

Felly, mae Ioan yn dweud wrthym fod y stori hon a’r holl ddigwyddiadau a ddilynodd wedi’u gwasgu i’r un foment o ryfeddod eithaf : Bydd Iesu’n marw ond nid dyma’r diwedd, o bell ffordd.

A’r ail beth y mae Ioan yn ei gofnodi yw beth wnaeth Iesu. Fel ysgrifenwyr eraill yr efengylau, mae’n dweud wrthym fod Iesu’n clirio’r deml. Mae’n gyrru allan y rhai oedd yn gwerthu ac yn prynu. I rai, y weithred hon o wrthryfela gwleidyddol yw’r rheswm fod y Rhufeiniaid yn falch o’i gipio a’i ladd. Nid oedd gwrthryfeloedd yn anghyffredin, wrth gwrs, gan fygwth cyfraith a threfn, heb sôn am herio awdurdod Rhufain. Roedd angen eu dinistrio’n yn gyflym. Rwy’n siŵr fod hynny’n wir ond rwy’n siŵr hefyd fod yna fwy. Ac wrth i Iesu hel y masnachwyr allan, mae’n ail osod y drefn ar gyfer beth a ddylai ddigwydd yn briodol ym man cyfarfod ac addoli Duw.

Mae rhai pobl wedi meddwl fod hynny’n golygu na ddylem ni werthu unrhyw beth yn ein heglwysi - llyfrau, cardiau, anrhegion o unrhyw fath. Ond mae’n rhaid ei fod yn golygu llawer mwy na hynny? Mae’n golygu fod yna ffordd radical ac amgen unwaith y byddwn yn dewis Duw. Mae dod yn ddisgybl yn golygu cofleidio ffordd newydd o fyw. Yn efengyl Mathew rydym yn darllen am y Gwynfydau a’r pethau hynny sy’n mynd gyda’r ffordd newydd hon o fyw. Ond mae Paul yn wahanol, mae’n disgrifio bywyd Duw yn yr Ysbryd fel bod mewn llawenydd, heddwch a chyfiawnder yn yr Ysbryd Glân. Maen nhw’n cadarnhau fod dewis ffordd Duw, wedi’i llenwi fel y mae gyda llawenydd, maddeuant a gobaith, hefyd yn gofyn llawer. Nid yw’r ffydd y Cristion yn bennaf ynghylch set o gredoau penodol (er bod gan ffydd, yn bendant gynnwys) neu ynghylch ymddangosiad. Mae’n golygu ymateb pob enaid i gariad bendigedig Duw ac mae’r ymateb hwn yn newid bywydau.

Mae yna awgrym o eironi ysgafn o gwmpas Pride and Prejudice hyd yn oed wrth iddo gynnig rhywfaint o gyfeiriad ar gyfer y stori sy'n dilyn. Does gan Ioan ddim diddordeb mewn gwagedd felly: mae'n cynnwys y stori hon ar ddechrau ei efengyl er mwyn gosod y cyfeiriad ar gyfer popeth sy'n dilyn. Yma, rydym yn gweld unwaith eto mai’r groes sy'n galw a'r cam radical o ddewis Duw. Mae’r rhain wrth galon yr efengyl ac wrth i ni deithio trwy’r Grawys, dylai fod gyda’r holl ddigwyddiadau hynny bob amser o flaen ein llygaid. Gweddïwch mai felly y bydd hi i bob un ohonom. Amen.

Cymraeg

Worship on the Third Sunday of Lent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Corinthians 1:18-25

For the message about the cross is foolishness to those who are perishing, but to us who are being saved it is the power of God. For it is written,

‘I will destroy the wisdom of the wise,
and the discernment of the discerning I will thwart.’

Where is the one who is wise? Where is the scribe? Where is the debater of this age? Has not God made foolish the wisdom of the world? For since, in the wisdom of God, the world did not know God through wisdom, God decided, through the foolishness of our proclamation, to save those who believe. For Jews demand signs and Greeks desire wisdom, but we proclaim Christ crucified, a stumbling-block to Jews and foolishness to Gentiles, but to those who are the called, both Jews and Greeks, Christ the power of God and the wisdom of God. For God’s foolishness is wiser than human wisdom, and God’s weakness is stronger than human strength.


John 2:13-22

The Passover of the Jews was near, and Jesus went up to Jerusalem. In the temple he found people selling cattle, sheep, and doves, and the money-changers seated at their tables. Making a whip of cords, he drove all of them out of the temple, both the sheep and the cattle. He also poured out the coins of the money-changers and overturned their tables. He told those who were selling the doves, ‘Take these things out of here! Stop making my Father’s house a market-place!’ His disciples remembered that it was written, ‘Zeal for your house will consume me.’ The Jews then said to him, ‘What sign can you show us for doing this?’ Jesus answered them, ‘Destroy this temple, and in three days I will raise it up.’ The Jews then said, ‘This temple has been under construction for forty-six years, and will you raise it up in three days?’ But he was speaking of the temple of his body. After he was raised from the dead, his disciples remembered that he had said this; and they believed the scripture and the word that Jesus had spoken.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

John 2

'It is a truth universally acknowledged, that a single man in possession of a good fortune, must be in want of a wife.' So begins Jane Austen in her famous ‘Pride and Prejudice’. The words now seem quaint and terribly old fashioned, even inappropriate perhaps but they are so typical of the age in which they were written.

And of course they are vital. They tell us more or less what the whole of the novel will be about. Everything which now follows has a context because of this one single line and we read the following story in the light of it.

Our reading today from John 2 is very similar. It contains the story of Jesus’ encounter with the authorities and his prediction that the temple would be destroyed and rebuilt in three days. Of course John is the masterclass at creating metaphors from encounters and allowing sayings to have a meaning somehow hidden from those around him. Take Nicodemus, for example, and his being born again and subsequent confusion. So here the play on words is stark and deliberate: Jesus is not talking about the bricks and mortars of Jerusalem (at least not primarily) but of his own body which is the true dwelling place of God.

But because John places this event right at the start of his gospel and not as the other gospel writers have it, we ought to take note. Because, like Jane Austen, we will see that everything which takes place from now on does so in the light of this statement. It provides the steer, the ‘way in’ and the direction of travel for the remainder of Jesus’ earthly ministry.

I want us to think about this reading and to offer two thoughts about its importance. And the first makes plain that everything points towards his inevitable death and resurrection. Along the journey there will be profound moments such as the feeding of the 5000 or the raising of Lazarus but these really only express the very thing which John stated at the outset that here was the Word made flesh who was with God in the beginning and was God. The miracles occurred because it was at the bidding of the God-Man. So the prediction Jesus makes is read in the light of this. When his body is broken on the cross, it is God who somehow shares in this mysterious and wonderful sacrifice.

Christians have for centuries pondered what the cross means and seen that it is multi-layered: it expresses something about the character of God who always reaches out in selfless love, it marks a resistance to evil but through the strength of passivity as Jesus shows that there is a way to disable those who wield power. Supremely however it says that this is the great act of salvation: somehow forgiveness flows to human beings because of the cross, sin is dealt with decisively and what we could never achieve on our own is vouchsafed to us. Many have spoken of the moment of grace at this point and some of our great hymns major on the wonder of the cross:

‘I will sing the wondrous story of the Christ who died for me

How he left the realms of glory, for the cross of Calvary.’

So John is telling us that this story and all the events which follow concertina into this one supreme moment of wonder: Jesus will die but that will not be the end, far from it.

And the second thing which John records is what Jesus did. In common with the other gospel writers he tells us Jesus clears the temple. He drives out those who were selling and buying. For some, this act of political rebellion is the reason the Romans were glad to seize and kill him. Insurrections were not uncommon of course and threatened stability and control as well as challenging the authority of Rome. They needed to be squeezed out quickly. I’m sure that is correct but I am also sure there is more. And as Jesus clears out the traders, he resets the agenda of what takes place rightly in the place of meeting and worship of God.

Some people have thought this means we ought not to sell anything in our churches – books, cards, gifts of any sort. But it must mean much more than that surely? It means that there is a radical and alternative way once we choose God. To become a disciple is to embrace a new way of life. In the gospel of St Matthew we read of the Beatitudes and of those things which accompany this new way of living. St Paul, differently, describes the life of God in the Spirit as being a matter of joy, peace and righteousness in the Holy Spirit. They affirm that choosing God’s way, filled as it is with joy, forgiveness and hope, is also demanding. Christian faith is not firstly about a particular set of beliefs (although faith for sure has content) nor is it about appearances. It the response of every soul to God’s wonderful love and that response is life changing.

Pride and Prejudice has a hint of gentle irony about it even as it offers some direction for the ensuing story. John is not interested in such frivolities: he includes this story right at the beginning of his gospel to provide a reference point for all that is to take place. Here we read again that it is the cross which beckons and the radical step of choosing God. These lie at the heart of the gospel and as we journey through Lent it ought to be with those events always held before us. Pray it will be so for us all. Amen.