
Addoliad ar Trydydd Sul y Pasg
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Act 3:12-19
Anerchodd Pedr y bobl: “Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain? Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob, Duw ein tadau ni, sydd wedi gogoneddu ei Was Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi a'i wadu gerbron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau. Eithr chwi, gwadasoch yr Un sanctaidd a chyfiawn, a deisyf, fel ffafr i chwi, ryddhau llofrudd. Lladdasoch Awdur bywyd, ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw. O hyn yr ydym ni'n dystion. Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gŵydd chwi i gyd. Yn awr, frodyr, gwn mai gweithredu mewn anwybodaeth a wnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau. Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia. Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau."
Luc 24:36b-48
Meddai Iesu wrth y disgyblion, “Tangnefedd i chwi.” Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd. Gofynnodd iddynt, “Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau? Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.” Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed. A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?” Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio. Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd.
Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Worship on the Third Sunday of Easter
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Acts 3:12-19
Peter addressed the people, saying, ‘You Israelites, why do you wonder at this, or why do you stare at us, as though by our own power or piety we had made him walk? The God of Abraham, the God of Isaac, and the God of Jacob, the God of our ancestors has glorified his servant Jesus, whom you handed over and rejected in the presence of Pilate, though he had decided to release him. But you rejected the Holy and Righteous One and asked to have a murderer given to you, and you killed the Author of life, whom God raised from the dead. To this we are witnesses. And by faith in his name, his name itself has made this man strong, whom you see and know; and the faith that is through Jesus has given him this perfect health in the presence of all of you.
‘And now, friends, I know that you acted in ignorance, as did also your rulers. In this way God fulfilled what he had foretold through all the prophets, that his Messiah would suffer. Repent therefore, and turn to God so that your sins may be wiped out.
Luke 24:36b-48
Jesus said the the disciples, ‘Peace be with you.’ They were startled and terrified, and thought that they were seeing a ghost. He said to them, ‘Why are you frightened, and why do doubts arise in your hearts? Look at my hands and my feet; see that it is I myself. Touch me and see; for a ghost does not have flesh and bones as you see that I have.’ And when he had said this, he showed them his hands and his feet. While in their joy they were disbelieving and still wondering, he said to them, ‘Have you anything here to eat?’ They gave him a piece of broiled fish, and he took it and ate in their presence.
Then he said to them, ‘These are my words that I spoke to you while I was still with you—that everything written about me in the law of Moses, the prophets, and the psalms must be fulfilled.’ Then he opened their minds to understand the scriptures, and he said to them, ‘Thus it is written, that the Messiah is to suffer and to rise from the dead on the third day, and that repentance and forgiveness of sins is to be proclaimed in his name to all nations, beginning from Jerusalem. You are witnesses of these things.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.