minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Ond meddent wrtho, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben" | But they urged him, "Stay with us, because it is almost evening and the day is now nearly over"
English

Addoliad ar Drydydd Sul y Pasg


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Actau 2:14a, 36-41

Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi ei wneud ef yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi."

Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, "Beth a wnawn ni, gyfeillion?" Meddai Pedr wrthynt, "Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd i'r Arglwydd ein Duw ni ei alw ato." Ac â geiriau eraill lawer y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, "Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon." Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.


Luc 24:13-35

Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef. Meddai wrthynt, "Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o'r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn." "Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl. Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant. Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd, a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw. Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef." Meddai Iesu wrthynt, "Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?" A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.

Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben." Yna aeth i mewn i aros gyda hwy. Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg. Meddent wrth ei gilydd, "Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?" Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd ac yn dweud fod yr Arglwydd yn wir wedi ei gyfodi, ac wedi ymddangos i Simon. Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Yr Iesu’n ymddangos i gwpl o’i ddisgyblion oedd yn teithio i Emaus yw hoff hanes llawer o bobl o’r atgyfodiad. Mae mor gyfoethog a hardd – disgyblion blinedig yn dod yn Gristnogion disglair, bara'n cael ei dorri, llygaid yn agor, calonnau'n llosgi. Mae’n adrodd stori y gallwn ni gysylltu’n hawdd â hi oherwydd bod ein llygaid ninnau wedi’u hagor, ein calonnau wedi cael eu cyffwrdd a pha mor aml rydym ni wedi cerdded oddi wrth yr allor wedi ei gyfarfod yn union fel y gwnaeth y disgyblion?

Felly, y stori hon yw ein hefengyl am heddiw. Ac rwyf eisiau edrych ar dri pheth yn y stori sy’n codi fy chwilfrydedd: adnod 16 (‘ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef’), adnod 28 (‘Wrth iddynt nesáu at y pentref yr oeddynt ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei hun ei fod yn mynd ymhellach.)ac adnod 30 (‘Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio a’i dorri a’i roi iddynt'.) Rwyf eisiau awgrymu fod yna ddwy daith yma. Beth am gymryd golwg.

Mae’r sefyllfa mor atgofus, onid ydyw?Mae'n dechrau nosi ac mae wedi bod yn ddiwrnod gwael. Dau deithiwr yn cerdded tua’r dafarn. Ac mae Iesu’n ymuno â nhw ar y daith. Ond ‘rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef’. Mae’n arferol meddwl fod y disgyblion unai mewn cymaint o alar fel na allen nhw feddwl am ddim byd ond am golli Iesu (ac mae hynny’n wir) neu am eu bod wedi bod, erioed, yn ara deg i ddeall beth oedd Duw'n ei wneud (hefyd yn wir). Mae’r seicolegwr mawr Abraham Maslow yn disgrifio pyramid o anghenion sy’n gyffredin i ni i gyd, pethau sylfaenol fel bwyd a diogelwch ar y gwaelod. Mae’r anghenion hyn mor fawr fel na allwn ni symud i fyny at anghenion eraill nes bod y rhain wedi eu diwallu. Felly, mae’r disgyblion, am ba reswm bynnag, yn eu hunfan. Efallai fod gennym ni brofiad o hyn hefyd:rhywbeth sydd mor llethol, allwn ni ddim symud ymlaen nes ei fod wedi’i ddatrys.

Felly, efallai eu bod yn teithio gyda’i gilydd, yn agos yn gorfforol, dim hunan ynysu yma, ond dydyn nhw ddim ar yr un dudalen o gwbl. Yn ffigurol, maen nhw filltiroedd oddi wrth ei gilydd.

Ychydig ymhellach i lawr y ffordd, ac mae'r sgwrs wedi datblygu. Maen nhw'n cyrraedd y dafarn. Ac mae Iesu yn ymddangos yn barod i fynd yn ei flaen. Mae’r gair sy'n cael ei ddefnyddio yma'n glyfar iawn: Mae’n awgrymu fod Iesu'n cymryd arno ei fod yn mynd ymhellach. Pam fyddai’n gwneud hynny?Efallai oherwydd cwrteisi - gan ddisgwyl cael gwahoddiad i mewn am swper. Neu a yw Iesu’n bod yn gyfrwys –yn disgwyl i weld beth fydd yn digwydd nesaf?Fe welwn yn gliriach yn efengyl Ioan nag yn unman arall fod Iesu, wrth iddo gyfarfod pobl, yn ailosod y rhaglen, weithiau’n torri ar draws rhai cwestiynau digon rhesymol. Nicodemus yn canmol cymaint ar ei allu i ddysgu, yn cael ei ddilorni. Go iawn. Wyt ti’n athro Israel ac ddim yn deall hyn?Neu'r dyrfa sy'n methu â deall sut y mae Iesu wedi llwyddo i fynd o'u blaenau ym mhennod chwech. Rwyt ti wedi dod i chwilio amdanaf oherwydd fy mod i wedi llewi dy fol â bara. Braidd yn galed, a dweud y gwir.

Y pwynt yw nad yw Iesu’n dilyn eu rhaglen, mae'n ail-fframio’r realiti yr oedd y disgyblion hynny wedi'i dderbyn.

Ac felly, mae’n cael ei wahodd i’r dafarn ac maen nhw'n eistedd wrth y bwrdd. A dyma pryd y mae’n cymryd y bara. Dywed Luc y ‘cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt'. Dyma lle rydym yn gweld y foment o newid:“Agorwyd eu llygiad hwy, ac adnabuasent ef. A diflannodd ef o’u golwg”. “Meddent wrth ei gilydd. Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythyrau inni?”

Felly, mae gennym hanes dau ddisgybl sydd mor bell oddi wrth Iesu ag y gallen nhw fod: maen nhw’n bell iawn ohoni, mae ganddyn nhw lygaid ond allan nhw mo’i weld. Ac rydym ninnau'n gweld Iesu, bron yn chwarae gyda nhw mewn ffordd sy’n eu haflonyddu, braidd. Ac yna rydyn ni’n gweld y gwestai sydd wedi dod yn westeiwr wrth i’r bara gael ei dorri ac i lygaid gael eu hagor.

Mae yma daith i’w gweld yma sydd fel yr un roedden nhw wedi’i cherdded. Mae’n daith sy’n cychwyn gydag amheuon a dryswch, mae’n cordeddu’n flȇr drwy fyd brau o freuddwydion wedi'u chwalu a dyfodol sy’n ansicr. A dyma’r byd y mae Iesu yn camu iddo. Gyda chlustiau sy’n gwrando a chwestiynau miniog. Wrth iddyn nhw deithio’n gorfforol gyda’i gilydd y mae Ef yn dechrau codi’r caead ar y cyflwr anhapus hwnnw o ofn ac amheuaeth

Ac mae’n oedi ychydig hefyd, yn procio a chwilio ac yna mae’n dechrau ail osod y rhaglen ar gyfer y sgwrs. Does dim brys yma. Mae yna ddisgwyl amyneddgar.

Ac yna mae newid. Mae’r hyn oedd ar gau ar agor, yr hyn oedd wedi’i ddifetha wedi’i adnewyddu, yr hyn oedd wedi'i ddinistrio wedi'i adfer. Mae eu taith wedi dod at dro gwahanol iawn. Ac oddi yma, maen nhw’n rhuthro i gyfarch eraill oedd hefyd wedi’i gyfarfod.

Dyma, rwy’n meddwl, sut y mae’r Iesu Atgyfodedig yn dod atom ni heddiw. Mae'n cychwyn gyda ni ar y daith honno ble bynnag y byddwn ni. Mae’n cerdded gyda ni, yn ein holi, yn gwrando. Ond mae’n gwneud y cam nesaf yn bosibl hefyd:o galonnau wedi’u gwneud yn gyfan, bywydau wedi’u byw gyda gras, gobaith a phwrpas. Dyma, wrth gwrs, yw holl bwynt y Pasg. Mae’n dweud fod Duw wedi dod atom yn Iesu ac yn ein cyfarfod ble bynnag yr ydym ni. Mae’n cerdded gyda ni er mwyn i ni ddod yn gyfan, yn wynebu’r dyfodol, nid mewn arswyd ond gyda ffydd wedi'i gwreiddio yn addewidion Duw yn Iesu. Dyma daith ffydd.

Cymraeg

Worship on the Third Sunday of Easter


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 2:14a, 36-41

But Peter, standing with the eleven, raised his voice and addressed them: Therefore let the entire house of Israel know with certainty that God has made him both Lord and Messiah, this Jesus whom you crucified.’

Now when they heard this, they were cut to the heart and said to Peter and to the other apostles, ‘Brothers, what should we do?’ Peter said to them, ‘Repent, and be baptized every one of you in the name of Jesus Christ so that your sins may be forgiven; and you will receive the gift of the Holy Spirit. For the promise is for you, for your children, and for all who are far away, everyone whom the Lord our God calls to him.’ And he testified with many other arguments and exhorted them, saying, ‘Save yourselves from this corrupt generation.’ So those who welcomed his message were baptized, and that day about three thousand persons were added.


Luke 24:13-35

Now on that same day two of them were going to a village called Emmaus, about seven miles from Jerusalem, and talking with each other about all these things that had happened. While they were talking and discussing, Jesus himself came near and went with them, but their eyes were kept from recognizing him. And he said to them, ‘What are you discussing with each other while you walk along?’ They stood still, looking sad. Then one of them, whose name was Cleopas, answered him, ‘Are you the only stranger in Jerusalem who does not know the things that have taken place there in these days?’ He asked them, ‘What things?’ They replied, ‘The things about Jesus of Nazareth, who was a prophet mighty in deed and word before God and all the people, and how our chief priests and leaders handed him over to be condemned to death and crucified him. But we had hoped that he was the one to redeem Israel. Yes, and besides all this, it is now the third day since these things took place. Moreover, some women of our group astounded us. They were at the tomb early this morning, and when they did not find his body there, they came back and told us that they had indeed seen a vision of angels who said that he was alive. Some of those who were with us went to the tomb and found it just as the women had said; but they did not see him.’ Then he said to them, ‘Oh, how foolish you are, and how slow of heart to believe all that the prophets have declared! Was it not necessary that the Messiah should suffer these things and then enter into his glory?’ Then beginning with Moses and all the prophets, he interpreted to them the things about himself in all the scriptures.

As they came near the village to which they were going, he walked ahead as if he were going on. But they urged him strongly, saying, ‘Stay with us, because it is almost evening and the day is now nearly over.’ So he went in to stay with them. When he was at the table with them, he took bread, blessed and broke it, and gave it to them. Then their eyes were opened, and they recognized him; and he vanished from their sight. They said to each other, ‘Were not our hearts burning within us while he was talking to us on the road, while he was opening the scriptures to us?’ That same hour they got up and returned to Jerusalem; and they found the eleven and their companions gathered together. They were saying, ‘The Lord has risen indeed, and he has appeared to Simon!’ Then they told what had happened on the road, and how he had been made known to them in the breaking of the bread. 


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

The appearance of Jesus to a couple of disciples travelling to Emmaus is many people’s favourite resurrection account. It’s so rich and beautiful – battered disciples become radiant Christians, bread is broken, eyes are opened, hearts burn. It tells a story to which we relate easily because our eyes have been opened, our hearts touched and how often have we walked from the altar having met him just like they did?

So, the story is our gospel set for today. And I want to look at 3 things in the story all of which intrigue me: verse 16 (‘but their eyes were kept from recognizing him’), verse 28 (‘As they came near the village to which they were going, he walked ahead as if he were going on.’) and verse 30 (‘When he was at the table with them, he took bread, blessed and broke it, and gave it to them.’). I want to suggest that there are two journeys going on here. Let’s take a look.

The setting here is so evocative isn’t it? It’s the close of day, and it’s been a bad day. Two travellers are making their way to an inn. And Jesus joins them en route. But, ‘their eyes were kept from recognizing him’. It’s usual to think this is because the disciples were either so grief stricken they couldn’t think of anything beyond the misery of losing Jesus (which they were) or because they had always been slow to understand what God was doing (also true). The great Psychologist Abraham Maslow describes a pyramid of needs common to us all with basic things like food and safety at the bottom. These needs are so great that we cannot move upwards to other needs until they are met. So the disciples, for whatever reason, are stuck. We might have experienced this too: something is so overwhelming, we can’t move forward until that’s sorted out.

So they may be journeying together, physically close, no self-isolation here but they aren’t on the same page at all. Figuratively, they are miles apart.

A little further down the road and the conversation has developed. They arrive at the inn. And Jesus seems ready to go on. The word used here is really clever: it suggests that Jesus pretends that he is going further. Why would he do this? It might be a courtesy – waiting to be invited in for supper. Or is it that Jesus is being elusive – waiting to see what emerges next? In John’s gospel we see more clearly than elsewhere that as Jesus engages with people he resets the agenda, sometimes cutting across quite reasonable questions: Nicodemus throwing out compliments on his ability to teach only to be put down. Big time. Are you Israel’s teacher and can’t get a handle on this? Or the crowd who can’t understand how Jesus has managed to get ahead of them in chapter 6. You’ve come looking for me he says because I filled your belly with bread. Bit tough really.

The point is Jesus doesn’t follow their agenda, he reframes the reality to which these disciples had subscribed.

And so he is invited into the inn and they sit at table. And it is here that he takes bread. Luke says he then ‘blessed and broke it, and gave it to them’. Here we see the moment of change: then their eyes were opened, and they recognized him; and he vanished from their sight. They said to each other, “Were not our hearts burning within us while he was talking to us on the road, while he was opening the scriptures to us?”

So, we have a story of two disciples who are as far from Jesus as can be: they are way off the pace; they have eyes but cannot see him. And we see Jesus, almost playfully engaging with them in a slightly disrupting way. And then we see the guest who has become the host as bread is broken and eyes are opened.

There is a journey taking place here which is like the one they walked. It’s a journey which starts with doubt and confusion, one in which a brittle world of shattered dreams and an uncertain future is being navigated, if badly. And that’s the world into Jesus steps. With listening ears and with sharp questions. As they walk physically together, He begins to prise open that unhappy ground of fear and doubt.

And he tarries a while too, probing and searching and starts to reset the agenda for the conversation. There’s no rush here. There is patient waiting.

And then there is shift. What was shut is opened, what was ruined is remade, what was destroyed restored. Their journey has taken a very different turn. And from there they rush to greet others who also met with him.

This is how the Risen Jesus comes to us today I think. He starts with us on that journey wherever we find ourselves. He walks with us, asks questions, listens. But he makes the next step possible too: of hearts made whole, lives graced with hope and purpose. This is of course the whole point of Easter. It tells us that God has come to us in Jesus and meets us where we are. He walks beside us so that we can become whole, facing the future not with dread but with a faith rooted in God’s promises in Jesus. This is the journey of faith.