
Addoliad ar Bedwerydd Sul yr Adfent
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Rhufeiniaid 16:25-27
Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn ôl y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith, ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod; i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist—iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
Luc 1:26-38
Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth, at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf. Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.” Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod. Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?” Atebodd yr angel hi, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw. Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth; oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.” Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Sut ydych chi’n dechrau’ch diwrnod? Paned yn y gwely? Newyddion ar y radio? Llonydd a distawrwydd sydd fawr eu hangen wrth i chi ystyried y diwrnod sydd o’ch blaen? Mae fy niwrnod i’n dechrau gyda dau gi ychydig ar ôl 6 y bore a thro o gwmpas y tir comin ym Mangor sy'n cael ei alw'n Roman Camp. Ac mae hynny’n golygu fy mod yn gweld codiadau haul gwych ym misoedd yr haf ac awyr glir hardd, llawn sêr, yn y gaeaf. Mae hefyd yn golygu osgoi pryfed Robin Gyrrwr yn y misoedd hynny yn yr haf a glaw a gwyntoedd geirwon fis Chwefror.
Er bod y camp yn gymharol fychan, mae lle rydych chi yno yn penderfynu pa ran o’r tirwedd y byddwch yn ei weld: harddwch Afon Menai ac arfordir yr ynys neu aruthredd ysgythrog mynyddoedd Eryri. Er nad yw’r tirwedd yn newid, mae ble rydych chi’n sefyll yn rhoi agwedd mor wahanol ar yr hyn sydd o’ch blaen.
Heddiw yw pedwerydd Sul yr Adfent pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar ddyfodiad Iesu. Mae’r darlleniad o’r Testament Newydd yn disgrifio'r dirgelwch a oedd wedi'i gadw'n gyfrinach am oesoedd hir; yr efengyl yw hanes yr angel yn dod at Fair gyda'r newydd y bydd yn cario’r Meseia ac yn geni Brenin Israel. Ac er ein bod ni’n gyfarwydd â’r thema hon, mae lle’r ydyn ni’n gosod ein hunain hefyd yn penderfynu beth ydyn ni'n ei weld, sut ydyn ni'n darllen y stori. Nid tirwedd sydd yma o bant a bryn yng ngogledd Cymru ond lle o gyfarfod lle mae’r sylw ar ferch ifanc y mae gobeithion ac ofnau yr holl flynyddoedd ar ei hysgwyddau. Rwyf eisiau i ni ystyried darlleniadau heddiw a'r addewid a roddwyd i Mair ac rwy'n awgrymu eu bod yn dal i adleisio heddiw.
Ac fe hoffwn i osod fy hunan un cam yn ôl o linell hir o bethau sy’n dweud y byddai Duw yn dod i'n hachub. Mae emyn Saesneg yr Adfent yn lleisio’r gobaith hwn: ‘Come thou long expected Jesus, born to set thy people free’. Ond mae’r addewid yn nhudalennau’r Hen Destament, yn gyntaf sut y bydd Duw’n rhoi rheolwr ar Israel, ar lwyth Jwda ac yn llinach y Brenin Dafydd. Yn y stori o Dduw’n datgelu ei ddibenion cariadus rydyn ni’n gweld cyfres gyfan o arwyddbyst sy'n creu darlun o sut na fydd Duw'n rhoi'r gorau i'w ofal a'i gariad dros bobl. Rydyn ni’n gweld yr olygfa hir lle mae’r cyfan o’r arwyddion hyn yn troi i bwyntio at yr adeg yma, y foment hon. Yng ngeiriau Sant Paul ‘ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni o dan y Gyfraith.’ (Galatiaid 4:4).
Mae fel pe byddai'r gofal y mae Duw’n ei gymryd fel pensaer neu artist wrth ei waith. Mae yna baratoi trylwyr, seilwaith o râs, gosod sylfaeni er mwyn i’r foment hon, y foment aruthrol bwysig hon, yn digwydd yn awr. Rwyf wrth fy modd gyda geiriau Pedr yr adeg yma: ‘Yr oedd Duw wedi rhagwybod amdano cyn seilio’r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chi'. (1 Pedr 1:20)
Heddiw, fe allwn ni oedi ac ystyried y dirgelwch hwn. Nid damwain oedd dyfod at Fair ond yr union adeg yr oedd Duw wedi'i ddewis i'w ddatgelu ei hun.
Mae’r ail le rwy’n cael fu hun ynddo yn llawer iawn agosach. Rydyn ni’n darllen sut y daeth yr Ysbryd Glân at Fair. Rwy’n caru’r geiriau sy’n dweud ‘Daw’r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi, am hynny gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.’ (Luc 1:35). Ac, o edrych ar y darn o’r ongl hon, nid yn unig mae Duw i’w weld wrth ei waith mewn hanes ond hefyd yma yn awr, yn y presennol. Mae cymysgedd i’w weld, a rhyfeddod y stori, Duw'n camu o’r ymylon i'r tu blaen ac yn dod â rhywbeth prydferth a phwysig gydag e. A mae popeth a wyddom am Fair yn awgrymu ei bod yn debyg i lawer o’i hoed a’i diwylliant, ac eto mae Luc yn dweud wrthym fod yr angel wedi dweud ‘Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae’r Arglwydd gyda thi’. Felly, mae holl rymoedd tragwyddol a goruchaf Duw'n canolbwyntio ar Fair y foment honno. Mae’r ‘Gair’ a oedd cyn pob peth a thrwy yr hwn y crëwyd pob peth, yn gorwedd ac yn tyfu’n faban yn ei chroth.
Ac er bod y digwyddiad hwn yn un na welwyd ei debyg erioed o’r blaen, mae’n dangos fod Duw’n cyffwrdd yn yr uniongyrchol, yn y pethau pob dydd, yn gymaint ag mewn materion tragwyddol a chyfanfydol. Rydyn ni’n meddwl weithiau fod Duw'n rhy brysur i drafferthu gyda ni ond byddai Iesu'n ein dysgu nad yw hyd yn oed aderyn y to yn syrthio i'r ddaear heb i Dduw wybod amdano. Ac mae hynny’n golygu fod Duw’n ein hadnabod ni i gyd, bod Duw'n ein caru, a, phan fyddwn ni'n galw, fod Duw'n ein clywed.
Efallai ein bod angen y ddau safbwynt hyn yn ein bywydau? Mae thema'r Adfent heddiw'n ein gwahodd i weld yr olygfa hir, yr 'olygfa bell' o Dduw wrth ei waith drwy holl hanes a sut y mae'r byd hwn o fewn gofal Duw, ond hefyd yr uniongyrchol – sut y daeth Duw at ferch ifanc ac y newidiwyd y byd. Ond oherwydd ei fod yn cymryd trafferth gyda rhywun fel Mair, mae'n dweud wrthym fod Duw'n cymryd trafferth gyda bywyd yn ei gyfanrwydd a hyd yn oed gyda'r pryderon bob dydd sydd gan bawb ohonom.
Rwy’n amau, wrth i ni agosáu at y Nadolig a hefyd yn dal i ddygymod â chyfyngiadau coronafeirws, y bydd y rhain o gryn help i ni. Mae angen i ni wybod fod Duw yn Arglwydd popeth ond hefyd ei fod yn rhan o’n bywydau ni. Gweddïwn y byddwn yn dod i adnabod Duw yn y ddeuoliaeth yma. Amen.
Worship on the Fourth Sunday of Advent
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Romans 16:25-27
Now to God who is able to strengthen you according to my gospel and the proclamation of Jesus Christ, according to the revelation of the mystery that was kept secret for long ages but is now disclosed, and through the prophetic writings is made known to all the Gentiles, according to the command of the eternal God, to bring about the obedience of faith— to the only wise God, through Jesus Christ, to whom be the glory for ever! Amen.
Luke 1:26-38
In the sixth month the angel Gabriel was sent by God to a town in Galilee called Nazareth, to a virgin engaged to a man whose name was Joseph, of the house of David. The virgin’s name was Mary. And he came to her and said, ‘Greetings, favoured one! The Lord is with you.’ But she was much perplexed by his words and pondered what sort of greeting this might be. The angel said to her, ‘Do not be afraid, Mary, for you have found favour with God. And now, you will conceive in your womb and bear a son, and you will name him Jesus. He will be great, and will be called the Son of the Most High, and the Lord God will give to him the throne of his ancestor David. He will reign over the house of Jacob for ever, and of his kingdom there will be no end.’ Mary said to the angel, ‘How can this be, since I am a virgin?’ The angel said to her, ‘The Holy Spirit will come upon you, and the power of the Most High will overshadow you; therefore the child to be born will be holy; he will be called Son of God. And now, your relative Elizabeth in her old age has also conceived a son; and this is the sixth month for her who was said to be barren. For nothing will be impossible with God.’ Then Mary said, ‘Here am I, the servant of the Lord; let it be with me according to your word.’ Then the angel departed from her.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
How do you start your day? Is it tea in bed? The news on the radio? Much needed space and silence as you contemplate the day ahead? My day usually starts with two dogs just after 6am and a walk around the common ground known in Bangor as Roman Camp. And that means I see some wonderful sunrises in the summer months and beautiful clear skies, star laden in winter. It also means avoiding horse flies in those same summer months and torrential rain and winds in February!
Even though the camp is relatively small, where you place yourself determines which part of the landscape you see: the beautiful Menai Strait and coastline of the island or the towering mountains of the Snowdonia massif. Although the landscape doesn’t change, where you stand gives you such a different perspective on what lies before you.
Today is the fourth Sunday of Advent and the coming of Jesus is our focus. The New Testament reading describes the mystery that was kept secret for ages long; the gospel is the account of the angel coming to Mary with the news that she shall bear the messiah and give birth to Israel’s King. And although we are so familiar with this theme, where we place ourselves here also determines what we see, how we read the story. This is not a landscape of physical contours in North Wales but a place of encounter which now centres on a young woman on whom are laid the hopes and fears of all the years. I want us to ponder the readings for today and the promise given to Mary and suggest it has a special resonance today.
And I want to place myself one step back from the long line of pointers that say God would come to save us. The Advent hymn gives voice to this hope: ‘Come thou long expected Jesus, born to set thy people free’. But the promise is located in the pages of the Old Testament firstly how God will provide a ruler for Israel, of the tribe of Judah and in the line of King David. In the story of God disclosing his loving purposes, we see a whole series of signposts which provide a picture of how God will not cease his care and love for human beings. We see the long view which grows all of these signs pointing to this time, to this moment. In the words of St Paul ‘when the fullness of time had come, God sent his Son, born of a woman, born under the law.’ (Gal 4:4).
It’s as though the care exercised by God is like an architect or artist at work. There is meticulous preparation, the groundwork of grace, the laying of foundations so that this moment, this supremely important moment should take place now. I love the words of Peter at this point: ‘He was destined before the foundation of the world, but was revealed at the end of the ages for your sake. (1 Peter 1:2)
Today can we pause and take in this mystery. That moment of coming to Mary was no accident but the very time God had chosen to reveal himself.
The second place I find myself is much closer up. We read how the Holy Spirit came to Mary. I love the translation which says, ‘The Holy Spirit will come upon you, and the power of the Most High will overshadow you; therefore the child to be born will be holy; he will be called Son of God’. (NRSV). And to look at the passage from this angle is not only to see God at work in history but in the immediate present. It is to see in the mix and strangeness of this story, God stepping from the sidelines to the forefront and bringing something beautiful and important to pass. All that we know of Mary suggests she was like many of her age and culture and yet Luke tells us the angel said, ‘Greetings, you who are highly favoured! The Lord is with you.”. So all of God’s eternal and sovereign power is focused on Mary at this moment. That ‘Word’ which was before all things and through whom all things were created, is to lie growing a baby in her womb.
And although this event is like no other it does show us that God touches the immediate, the everyday as much as the eternal and universal matters. We sometimes think that God must be too busy to concern with us but Jesus would teach that not even a sparrow would fall to the ground without God’s knowing. And that means we are all known by God, loved by God and when we call out, God hears us.
Perhaps we need both of these perspectives in our lives? The Advent theme today invites us to see the long view, the ‘distant scene’ of God at work throughout all history and how this world is within God’s care but also the immediate – how God came to a young girl and the world was changed. But because he concerned himself with something like Mary, it tells us that God is concerned with all of life and even the everyday concerns we have.
I wonder as we both approach Christmas and also still manage the restrictions of the coronavirus, that these can help us greatly. We need to know God is Lord of all but also a part of our lives too. Pray we may know God in both of these areas. Amen.