minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig" | "Come to me, all you that are weary"
English

Addoliad ar yr Pedwerydd Sul wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Rhufeiniad 7:15-25a

Ni allaf ddeall fy ngweithredoedd, oherwydd yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio ond y peth yr wyf yn ei gasáu. Ac os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna yr wyf yn cytuno â'r Gyfraith, ac yn cydnabod ei bod yn dda. Ond y gwir yw, nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond pechod, sy'n cartrefu ynof fi, oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu. Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys. Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi. 

Yr wyf yn cael y ddeddf hon ar waith: pan wyf yn ewyllysio gwneud daioni, drygioni sy'n ei gynnig ei hun imi. Y mae'r gwir ddyn sydd ynof yn ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw. Ond yr wyf yn canfod cyfraith arall yn fy nghyneddfau corfforol, yn brwydro yn erbyn y Gyfraith y mae fy neall yn ei chydnabod, ac yn fy ngwneud yn garcharor i'r gyfraith sydd yn fy nghyneddfau, sef cyfraith pechod. Y dyn truan ag ydwyf! Pwy a'm gwared i o'r corff hwn a'i farwolaeth? Duw, diolch iddo, trwy Iesu Grist ein Harglwydd!


Mathew 11:16-19, 25-30

“Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:
“ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.’

“Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’ Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”

Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di. Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt. Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Anfodlonrwydd a chymdeithas

Mae’r darlleniad o’r efengyl heddiw’n dangos cymaint o wreiddiau oedd gan Iesu yn y cymunedau lle'r oedd yn byw. Mae’n chychwyn drwy gyfeirio’n ysgafn at chwaraeon plant yn y farchnad. Rydyn ni’n amau fod Iesu, mae’n debyg wedi gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd yn ei ardal. Mae un o’r gemau i’w gweld yn debyg i ‘Ring-a-ring-o’-Roses’ a’r ail yn rhyw fath o ‘Charades’, wedi’i seilio ar yr hyn y byddai plant, mae'n debyg, wedi'i weld mewn angladdau.

Pwynt sylfaenol y ddwy gȇm yw bod y plant yn anfoddog ac yn anfodlon - efallai fod rhywun yn twyllo ac yn ystumio’r rheolau?Ac mae Iesu’n cymharu cymdeithas ei gyfnod â'r plant hyn. Pam? Oherwydd eu bod i'w gweld yn benderfynol o fod yn anfodlon. Mae Ioan Fedyddiwr yn benderfynol o wadu ac maen nhw’n ei gyhuddo o fod â chythraul. Daw Iesu i ddathlu mewn partïon ac mae nhw’n ei gyhuddo o fod yn folgi.

Mae’n rhaid bod yna ryw rymoedd gwaelodol yma - nid yw cenhedlaeth nad yw’n gallu neu nad yw’n fodlon symud (gair y Testament Newydd yw edifarhau) oddi wrth yr hyn sy’n ddinistriol A hefyd nad yw’n fodlon byw (derbyn y gras sy’n cael ei gynnig gan Iesu) mewn lle da. Mae'r gymhariaeth gyda’n cymdeithas ni yn awgrymog.

Y cwestiwn yr hoffwn i ni ei ystyried heddiw yw beth sy'n achosi'r fath anfodlonrwydd a beth yw'r ymateb gorau iddo?Ac mae yna yna pheth yr hoffwn i ni feddwl amdanyn nhw:

Seicolegydd o America oedd Abraham Maslow sydd fwyaf adnabyddus am yr hyn rydyn ni’n ei alw yn byramid anghenion. Yn ôl Maslow, mae bron yn amhosibl i bobl gael y pethau y maen nhw ei eisiau fel cyfeillgarwch, cariad a pherthyn os nad oes ganddyn nhw anghenion sylfaenol fel bwyd, dŵr a lloches. Dangosodd ein bod angen y pethau sylfaenol cyn y gallwn fodloni ein hanghenion eraill, efallai ddyfnach. Y gwir yw bod gennym ni i gyd anghenion y mae’n rhaid eu diwallu. A phan nad ydyn nhw, rydyn ni’n dod yn anfodlon ac yn rhwystredig. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n aml yn cymysgu “angen" ac “eisiau”. Nid yw pob eisiau’n ddrwg, ddim o gwbl, ond MAE nhw’n wahanol. Wrth eu cymysgu, rydyn ni mewn perygl o greu diwylliant o’n cwmpas pan nad yw digon yn ddigon. Anaml, os o gwbl, yn byddwn ni’n teimlo’n fodlon. Ond dysgodd Iesu pa mor bwysig yw ‘digon’. Dyro i ni heddiw ein ‘bara beunyddiol’ meddai. Cael digon yw bod ein anghenion wedi’u cyfarfod.

Ond nid dyma rydyn ni’n ei weld o angenrheidrwydd mewn cymdeithas.

Yr ail beth yw Gobaith. Gobaith yw un o’r pethau annelwig hynny y mae’n gallu bod yn anodd, weithiau, cael gafael arno. Ond mae gobaith i’r Cristion yn llifo o’n argyhoeddiad nad yw Duw’n absennol o’n byd. Mae genedigaeth Iesu’n marcio pa bryd y camodd Duw o’r cysgodion ac i fywyd pob dydd. Roedd ei farwolaeth a’i atgyfodiad nid yn unig wedi sefydlu lle Duw ymysg pobl, roedd hefyd yn dangos fod Duw wedi dod i’n hachub ac i’n gwaredu. Ac felly mae ein gobaith yn llifo o’n argyhoeddiad fod Duw â rhan ac wedi ymrwymo yn y byd hwn ac i'w bobl.

Un o’r rhesymau pam fod yna brinder gobaith yw bod pobl yn byw bywydau sydd i raddau helaeth yn hunangynhaliol. Oherwydd ein bod ni’n well nag erioed am reoli ein hamgylchedd, rydyn ni wedi dod yn fyddar i’r hyn sy’n anturus ac yn ansicr. Un o’r rhesymau y mae Covid wedi codi cymaint o ofn yw ei fod wedi dangos nad ydyn ni’n gallu rheoli cymaint ag oedden ni'n ei feddwl. Nid yw gobaith y Cristion yn golygu osgoi’r heriau hyn ond mae’n golygu ein bod yn gallu gweld sut i ymateb iddyn nhw.

Mae’r diffyg rheolaeth wedi gwneud i lawer deimlo’n ansicr ac yn llai gobeithiol. Mae wedi bod yn wers boenus nad ydyn ni’n feistri ar ein tynged. Mae absenoldeb rhywbeth cryf a sefydlog wedi golygu bod llawer yn teimlo eu bod ar goll heb fawr ddim ar ôl i gydio ynddo. Mae cymdeithas angen angor, craig neu sylfaen i’n cadw ni’n gadarn pan fydd pethau eraill yn siglo neu’n chwalu.

Mae ffydd yng Nghrist yn gwneud i fywyd ddod yr antur fwy gobeithiol yr oedd Duw wedi’i fwriadu ar ein cyfer, yn y sicrwydd ein bod yn perthyn i Dduw y mae ei gariad fel y graig.

Y peth diwethaf sy’n ein gwneud yn anfodlon, rwy’n credu, yw gwyrdroi gwerthoedd. Mae gan bob cymdeithas werthoedd i reoli ei harferion. Ond, weithiau, mae rhain yn cael eu colli neu'u newid neu’n dod yn llai gweladwy. A phan mae gwerthoedd fel tosturi a gofal yn gwanhau rydyn ni’n cael rhywbeth fel ‘Planed Fi’ yn hytrach na ‘Planed Ni’. Hanfod yr efengyl yw ei bod ynghylch y byd o’n cwmpas. Mae dameg y Samariad Trugarog yn agor y ffordd i ni. Mae’r gorchymyn câr dy gymydog fel ti dy hun yn gytgan dda. Mae'n rhaid i ffydd wynebu tuag allan. Rydych chi’n gweld nad yw’r bywyd hunanol yn fywyd hapus!Mae hunanoldeb yn gadael rhywun, mewn gwirionedd, mewn lle unig iawn.

Ac un o’m gobeithion ar gyfer y ‘normal newydd’ yw y byddwn yn ffurfio cymdeithasau a chymunedau gwell, mwy trugarog. Un y bydd bywyd ar ffurf y Samariad yn treidido i'r eglwys, i'r bywyd gwleidyddol ac, wrth gwrs, i weithgareddau cymunedol.

Mae fy argyhoeddiad fel Cristion yn dweud wrthyf fod yr adnewyddiad gorau o fywyd yn digwydd pan mae’n cychwyn ynof i. Newid ynof i. A bod ffydd yng Nghrist yn troi fy mywyd at Dduw ac eraill.

Ysgwn i sut weledigaeth o’r dyfodol sydd gennych chi? Rodd Iesu’n adrodd stori ynghylch cymdeithas nad oedd i'w gweld yn fodlon gyda hi ei hunan. Ond yn ei fywyd a’i farwolaeth, mae rhywbeth gwell yn cael ei gynnig i ni. Gweddiwch y byddwn i gyd yn dod yn halen y ddaear ac yn oleuni er lles pobl eraill a bendithion ein byd.

Amen

Cymraeg

Worship on the Fourth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Romans 7:15-25a

I do not understand my own actions. For I do not do what I want, but I do the very thing I hate. Now if I do what I do not want, I agree that the law is good. But in fact it is no longer I that do it, but sin that dwells within me. For I know that nothing good dwells within me, that is, in my flesh. I can will what is right, but I cannot do it. For I do not do the good I want, but the evil I do not want is what I do. Now if I do what I do not want, it is no longer I that do it, but sin that dwells within me.

So I find it to be a law that when I want to do what is good, evil lies close at hand. For I delight in the law of God in my inmost self, but I see in my members another law at war with the law of my mind, making me captive to the law of sin that dwells in my members. Wretched man that I am! Who will rescue me from this body of death? Thanks be to God through Jesus Christ our Lord!


Matthew 11:16-19, 25-30

“But to what will I compare this generation? It is like children sitting in the marketplaces and calling to one another,
‘We played the flute for you, and you did not dance; we wailed, and you did not mourn.’

For John came neither eating nor drinking, and they say, ‘He has a demon’; the Son of Man came eating and drinking, and they say, ‘Look, a glutton and a drunkard, a friend of tax collectors and sinners!’ Yet wisdom is vindicated by her deeds.”

At that time Jesus said, “I thank you, Father, Lord of heaven and earth, because you have hidden these things from the wise and the intelligent and have revealed them to infants; yes, Father, for such was your gracious will. All things have been handed over to me by my Father; and no one knows the Son except the Father, and no one knows the Father except the Son and anyone to whom the Son chooses to reveal him. “Come to me, all you that are weary and are carrying heavy burdens, and I will give you rest. Take my yoke upon you, and learn from me; for I am gentle and humble in heart, and you will find rest for your souls. For my yoke is easy, and my burden is light.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Discontentment and society

The gospel reading today shows us how grounded Jesus was in the communities in which he lived. It begins with a wry reference to children’s marketplace games. We assume Jesus must have observed something like this happening locally. One of them appears to be a kind of ‘Ring-a-ring-o’-Roses’ game and the second a kind of ‘Charades’ based on what children must have witnessed at funerals.

In both cases the material point is that the children are disgruntled and discontented – perhaps someone was cheating or bending the rules? And Jesus likens the society of his time to these same children. Why? Because they appear bent on their resolve to be dissatisfied: John the Baptist comes in denial mode and they accuse him of having a devil. Jesus comes and celebrates in parties and they accuse him of being a glutton.

No doubt there are some underlying forces here – a generation unable or unwilling to turn (the New Testament word is repent) from what is destructive AND also unwilling to live (receive the grace offered by Jesus) isn’t in a good place. The parallels with our own society are suggestive.

The question I want us to ponder today is what makes for such discontentment and what is the best response to it? And there are three things I want us to think about:

Abraham Maslow was an American psychologist who is probably best known for what we know as a pyramid of needs. Maslow said it was almost impossible for humans to receive the things they needed like friendship, love and belonging if more basic needs like food, water and shelter were absent. He showed that we need the basic needs to be met if other, perhaps deeper needs, were to be addressed. The truth is we all have needs which need to be met. And when they’re not we become discontented and frustrated. In truth, we often confuse ‘need’ with ‘wants’. Not all wants are bad, not at all but they ARE different. When we confuse them we will run the risk of creating a culture in and around us when enough is not enough. We rarely if ever feel satisfied and contented. But Jesus taught that ‘enoughness’ was crucial. Give us this day our ‘daily bread’ he said. To have enough is to experience needs being met.

But this isn’t necessarily something we see in society.

The second thing is Hope. Hope is one of those elusive things that is sometimes hard to get a handle on. But hope for Christians flows from our conviction that God is not absent from our world. The birth of Jesus marks the point at which God stepped from the sidelines into the everyday. His death and resurrection not only cement the standing of God alongside human beings, they show God has come to rescue and deliver us. And so our hope flows from our conviction God is involved with and committed to this world and to people.

One of the reasons there is a deficit of hope is that people live lives that are largely self-contained. Because we are better than ever at controlling our environment we have become immunized from what is adventuresome and uncertain. One of the reasons the Covid has been so unsettling is precisely because it has revealed our levels of control are not as strong as we thought. Christian hope is not about avoiding these challenges but is about how we navigate and respond to them.

This lack of control has made many feel uncertain and less hopeful. It’s been a painful lesson that we are not masters of our destinies. The absence of something strong and immoveable has meant many feel cut loose with little left to hold on to. A society needs an anchor, a rock or a base which holds us steady when other things fail or collapse.

Faith in Christ makes life becomes a more hopeful adventure God intended but from within the safety of knowing we belong to God, his love is not shakeable.

The last thing that makes us discontented I believe are the distortion of values. All societies have values by which life is regulated. But these can be sometimes lost or changed or become less visible. And when values like compassion and care drop off we get something like ‘Planet me’ as opposed to ‘Planet We’. The gospel is fundamentally about the world around us. The parable of the Good Samaritan gives us a way in. The command to love our neighbour as ourselves is a good encore. This outward facing faith is crucial. You see the self-absorbed life is not a happy one! Selfishness is actually quite a lonely place to be.

And one of my hopes for the so-called ‘new normal’ is that we will craft a better, more compassionate society and community. One in which the Samaritan shaped life finds its way into the church, political life and of course community activity.

My conviction as a Christian tells me that very best renewal of life happens when it begins in me. Change in me. And faith in Christ orientates my life towards God and others.

I wonder what your vision for the future looks like? Jesus told a story about a society that was, it seems, ill at ease with itself. But in his own life and death something better is offered to us. Pray we may all become salt and light for the good of others and the blessing of our world.

Amen