minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab" | "For God so loved the world that he gave his only Son"
English

Addoliad ar Bedwerydd Sul y Grawys


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Effesiaid 2:1-10

Bu adeg pan oeddech chwithau yn feirw yn eich camweddau a'ch pechodau. Yr oeddech yn byw yn ôl ffordd y byd hwn, mewn ufudd-dod i dywysog galluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr ar waith yn y rhai sy'n anufudd i Dduw. Ymhlith y rhai hynny yr oeddem ninnau i gyd unwaith, yn byw yn ôl ein chwantau dynol ac yn porthi dymuniadau'r cnawd a'r synhwyrau; yr oeddem wrth natur, fel pawb arall, yn gorwedd dan ddigofaint Duw. Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni, ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub. Yng Nghrist Iesu, fe'n cyfododd gydag ef a'n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd, er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy'n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu. Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o'r dechrau.


Ioan 3:14-21

Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae'n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy'n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef.

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef. Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu. Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ioan 3:19-21

Mae’r gaeaf diwethaf wedi ymddangos yn eithriadol o hir, yn dywyll ac oer - mae'n siwr ein nod ni’n yn fwy felly a ninnau mewn cyfnod clo, ac rwy’n deall hynny. Un o’r ychydig fendithion yw'r tân go iawn yr ydym wedi'i danio’n achlysurol yn Nhŷ'r Esgob i gynhesu'r nosweithiau oer. Ond, yr ochr arall wrth gwrs yw bod llosgi coed yn arwain at fwy o ronynnau yn yr aer. Weithiau mae’n haenen mor denau a mân nes ei bod yn anodd ei gweld ond pan fydd yr haul yn gryf, mae'n ymddangos bod y llwch ym mhobman! Nid yw’r golau yn creu'r llwch ond yn bendant mae'n ei ddangos.

Mae’n darlleniad heddiw o efengyl Ioan 3, darlleniad enwog oherwydd bod Nicodemus yn cyfarfod ag Iesu. Mae’r cyfarfod yn nerthol ac fel arfer rydym yn canolbwyntio ar y geiriau ‘ail eni’ ond mae’r bennod yn dod i ben gyda set o ddywediadau am oleuni a thywyllwch a’u heffeithiau. Yn ystod y Grawys, rydym yn cael ein gwahodd i ystyried cyflwr ein henaid o’r newydd. Ac heddiw, rwyf eisiau i ni feddwl am yr adnoddau hynny a sut maen nhw’n ein helpu i neshau at y goleuni a gras Duw.

Roedd Iesu’n aml, yn ôl Sant Ioan, yn gwneud cyferbyniadau: bywyd a marwolaeth, cyfraith a gras ac wrth gwrs goleuni a thywyllwch. Ond nid yw’r cyferbyniad yn sefydlu byd ble mae nerth y rhain yn gyfartal. Mae’n debyg ein bod yn cofio darllen ar ddechrau’r efengyl: “y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef". (1:5). Mae’n hawdd, rwy’n meddwl, anghofio hyn a meddwl mai’r gwrthwyneb sy’n wir: fod y tywyllwch yn gryfach ac yn cuddio’r golau. Rydym yn meddwl am nerthoedd y by’d, llawer ohonynt yn greulon ac yn ormesol, neu am yr anghyfiawnderau’n nes at adre; efallai ein bod yn pendroni am y pandemig sydd wedi dod ag ychydig iawn o oleuni a llawer iawn o dristwch a phoen.

Rwyf eisiau i ni gofio hefyd eiriau Dewi Sant, sy’n aml yn cael eu camddeall. Gofynnir i ni fod yn llawen, cadw’r ffydd a gwneud y pethau bychain yr ydym wedi’u gweld a’u clywed. Mae yna ffordd o weld a chlywed hyn sy’n gwneud i ni ddychmygu fod Cristnogaeth yn amherthnasol. Mae’n ystyried nid y pethau trwm ac arwyddocaol ond y pethau pitw. Ond roedd Dewi’n deall os ydych eisiau newid y byd mai fesul tipyn y byddwch yn gwneud hynny. Ac mae’n digwydd yn bersonol; rydyn ni’n gwneud y pethau bychain hyn, sy’n ymgasglu fel ton enfawr sydd â nerth ac ynni na ellir eu hatal.

Rwyf wedi dod i gredu, er gwaethaf holl artaith y cyfnod hwn, fod gennym gyfle i ail lunio’r eglwys a chymdeithas. Os gallwn ni bod yn glir beth yw’r cwestiynau cywir i’w gofyn, byddwn yn gweld atebion llawn goleuni yn datgelu eu hunain. A phan daw Cristnogion llawen, wedi’u llenwi â’r Ysbryd yn gludwyr goleuni, mae hynny’n rym anhygoel er daioni.

Yr ail beth y gallwn ni ei gymryd o hyn yw fod y gwirionedd a'r goleuni yn gysylltiedig. Siaradodd Iesu’n glir am hyn: mae byw wrth y gwirionedd yn dod â ni i mewn i’r goleuni. Ac mae yma obaith mawr ynghlwm. Cerdded yn y goleuni yw bod yn eirwir ac yn onest, a gallwn ddweud, mae’n rhaid i ni bod yn ddilys. Yn rhy aml mae’r ffydd Gristnogol wedi cael ei chynnig mewn ffordd nad yw’n arbennig o onest. Mae efengylwyr y teledu’n cynnig atebion slic i wahanol problemau (ond i’r doleri ddal i lifo lawr y lein), cymunedau eglwysig yn cadw rheolau a chanllawiau llym ac yn anwybyddu cymhlethdod dilemâu moesol bywyd. Rydym yn barnu ac yn eithrio hyd yn oed wrth i ni gydnabod fod Iesu’n berson o haelioni a chroeso di ben draw.

Mae’n ymddangos i mi fod cerdded yn y goleuni yn golygu adnabod pwy ydym ni ac i beth rydym ni’n cael ein galw. Oherwydd mae pob person wedi’i greu’n fendigedig ac yn greadigol ond yn ddiffygiol ac yn bechadurus. Gyda Duw ni all fod esgus. Pan fyddwn yn onest gyda’n gilydd, mae yna gyfle i groesawu Duw i mewn i’r ‘Fi’ go iawn. Gwrandewch ar y geiriau hyn o Salm 139 (adnodau 1 – 6)

‘Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt yn deall fy meddwl o bell. Yr wyt yn mesur fy ngherdded a’m gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd a'm holl ffyrdd. Oherwydd nid oes air ar fy nhafod heb i ti, Arglwydd, ei wybod i gyd. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof.

Pan fyddwn ni’n gwybod gymaint rydym ni’n cael ein caru, mae ein galluogi i fod yn eirwir amdanom ni ein hunain ac mae hynny, rwy’n credu, yn ein caniatáu i gerdded yn y goleuni.

Y trydydd peth y gallwn cymryd i ffwrdd yw fod y goleuni a'r tywyllwch yn annibynnol ar ei gilydd. Mae goleuni’n alltudio tywyllwch ac mae diffyg golau’n creu tywyllwch. Roedd y ‘trobwynt’ o oleuni a thywyllwch yn eithriadol o bwysig i’r Cristnogion cynnar a oedd wedi troi at y ffydd: credu oedd symud o un cyflwr i un arall. Mewn bedyddmewn bedydd, roedd hynny’n cael ei dangos mewn marw ac atgyfodi – y dyfroedd yn dangos y symudiad dramatig hwn. Ac i’r credinwyr hyn, golygai na allai bod yna unrhyw cymysgu a chydweddu. Roedd yn amhosibl aros yn y tywyllwch unwaith y daeth y goleuni. Roedd Roeddcerdded gyda Christ yn y goleuni’n golygu diwedd ar y ffyrdd hynny a oedd yn sôn am dywyllwch. Dywedodd rhywun unwaith nad yw Cristnogion yn gallu bod yn ddi-bechod ond y dylen nhw, oherwydd eu ffydd, fod yn pechu llai. Mewn gwirionedd does yr un ffordd arall o ddilyn Iesu ond drwy wneud y pethau hynny a ddysgodd i ni a gwneud fel y gwnaeth ef.

Felly heddiw, rydym yn darllen am y goleuni a’r tywyllwch. Ac yn ystod y Grawys mae hynny’n golygu stopio beth sy’n ein gelyniaethu o Dduw ac o beth sy’n ein symud i’r cyfeiriad arall oddi wrtho. Ond mae hefyd yn gwahodd ymddiriedaeth o’r newydd fod ei oleuni’n gryf; mae’n gwahodd sancteiddrwydd yn seiliedig ar gyfanrwydd a thyfu mewn hyder y bydd ein taith gerdded agosach gyda Duw, hyd yn oed yn y pethau bychain, anweledig, yn llawn o nerth fel Crist. Pan fo’r rhain wedi’u huno, mae’r tywyllwch yn wirioneddol wedi’i alltudio a Theyrnas Duw yn cael ei harddangos. Gweddiwch y byddwn i gyd yn hiraethu am gerdded yn well yn y goleuni.

Amen.

Cymraeg

Worship on the Fourth Sunday of Lent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Ephesians 2:1-10

You were dead through the trespasses and sins in which you once lived, following the course of this world, following the ruler of the power of the air, the spirit that is now at work among those who are disobedient. All of us once lived among them in the passions of our flesh, following the desires of flesh and senses, and we were by nature children of wrath, like everyone else. But God, who is rich in mercy, out of the great love with which he loved us even when we were dead through our trespasses, made us alive together with Christ—by grace you have been saved— and raised us up with him and seated us with him in the heavenly places in Christ Jesus, so that in the ages to come he might show the immeasurable riches of his grace in kindness towards us in Christ Jesus. For by grace you have been saved through faith, and this is not your own doing; it is the gift of God— not the result of works, so that no one may boast. For we are what he has made us, created in Christ Jesus for good works, which God prepared beforehand to be our way of life.


John 3:14-21

And just as Moses lifted up the serpent in the wilderness, so must the Son of Man be lifted up, that whoever believes in him may have eternal life.

‘For God so loved the world that he gave his only Son, so that everyone who believes in him may not perish but may have eternal life.

‘Indeed, God did not send the Son into the world to condemn the world, but in order that the world might be saved through him. Those who believe in him are not condemned; but those who do not believe are condemned already, because they have not believed in the name of the only Son of God. And this is the judgement, that the light has come into the world, and people loved darkness rather than light because their deeds were evil. For all who do evil hate the light and do not come to the light, so that their deeds may not be exposed. But those who do what is true come to the light, so that it may be clearly seen that their deeds have been done in God.’ 


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

John 3:19-21

This last winter seems to have been especially long, dark and cold – almost certainly that’s a matter of perception and of being in lockdown, I appreciate. One of the few blessings has been that real fire which we have used on occasion in Ty’r Esgob to warm the evenings. One of the casualties of course has been an increase in dust which is an inevitable consequence of the wood burning. Sometimes it’s such a thin and fine layer that it’s hard to see but on the occasions when the sunshine is strong, it seems the dust is everywhere! The light doesn’t create that dust but it certainly shows it up.

Our gospel reading for today is from John 3, a famous reading because of the encounter of Nicodemus with Jesus. The encounter is powerful and we usually focus on the words ‘born again’ but the chapter closes with a set of sayings about light and darkness and their effects. In Lent, we are invited to a fresh consideration of our soul state. And today I want us to think about these verses and how they help us draw closer to the light and grace of God.

Jesus, according to St John, often made contrasts: life and death, law and grace and of course light and darkness. But this contrast doesn’t set up a world in which these are in equally powerful. We probably remember the reading at the start of the gospel: ‘the light shines in the darkness and the darkness has not overcome it.’ (1:5) It’s easy, I think, to forget this and think the opposite is true: the darkness is stronger and keeps light hidden away. We think of the world’s powers, many of them cruel and tyrannical, or of the injustices closer to home; perhaps we wonder at the pandemic which is had very little light about it and a good deal of sadness and pain.

But I want us to remember too words from St David, often misunderstood. We are asked to be joyful, to keep the faith and to do those little things we have seen and heard. There is a way of saying and hearing this which makes us imagine that Christianity is an irrelevance. It concerns itself not with weighty and significant matters but trifling things. But David understood that if you want to change the world, you do it bit by bit. And it happens personally: we do these small things which accumulate like a great wave which has force and unstoppable energy.

I’ve come to believe that, for all the agony of this time, we have an opportunity to refashion church and society. If we are able to be clear about the right questions to ask, we will find light filled answers revealing themselves. And when joyful, Spirit filled Christians become bearers of light, that is a tremendous force for good.

The second thing we might take from this is that truth and light are connected. Jesus spoke about this clearly: living by the truth brings us into the light. And this connection has great hope attached to it. To walk in the light is about being truthful and honest, we might say, being authentic. Too often Christian faith has been offered in a way that isn’t especially honest. TV evangelists promise quick answers to difficult problems (so long as the dollars flow down the line), church communities practice strict rules and guidelines and ignore the complexity of life’s moral dilemmas. We judge and exclude even as we recognize that Jesus was a person of endless generosity and welcome.

It seems to me that walking in the light is about knowing who we are what it is we are called to be. And all people are both wonderfully made and creative but flawed and sinful. With God there can be no pretence. When we are honest with ourselves, there is an opportunity to welcome God into the real ‘Me’. Listen to these words from the Psalm 139 (vs 1-6)

‘You have searched me, Lord and you know me. You know when I sit and when I rise; you perceive my thoughts from afar. You discern my going out and my lying down; you are familiar with all my ways. Before a word is on my tongue, you, Lord, know it completely. You hem me in behind and before and you lay your hand upon me. Such knowledge is too wonderful for me, too lofty for me to attain.’

When we know how much we are loved it allows us to be truthful about ourselves and this, I think, allows us to walk in the light.

The third thing we might take away is that light and darkness are mutually exclusive. Light banishes darkness and the absence of light makes for the darkness. The ‘pivot’ of light and darkness was hugely important for early Christian converts: to believe was to move from one realm to another. In baptism this was signified in dying and rising - the waters showing this dramatic passage. And for these same believers it meant there could be no mixing and matching. It was impossible to stay in the darkness once light had come. Walking with Christ in the light meant an end to those ways which spoke of darkness. Someone once said Christians aren’t able to be sinless but ought, because of their faith, to sin less. In truth there is no other way of following Jesus than by doing those things he taught us and doing as he did.

So today we read of light and darkness. And in Lent this means a cessation of what alienates us from God and from what moves us in the opposite direction from him. But it also invites a renewed trust that his light is strong; it invites holiness based on wholeness and a growing confidence that our closer walk with God, even in the small and unseen things, is full of Christlike power. When these are joined, truly the darkness is banished and the Kingdom of God displayed. Pray we may all long to walk well in the light.

Amen.