minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Myfi yw'r bugail da" | "I am the good shepherd"
English

Addoliad ar Bedwerydd Sul y Pasg 


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Act 4:5-12

Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem. Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol. Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, “Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?” Yna, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, dywedodd Pedr wrthynt: “Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid, os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iacháu, bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach. Iesu yw “ ‘Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn faen y gongl.’ “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.”


Ioan 10:11-18

Media Iesu, "Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i, yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ffydd y Pasg

Mae’r llyfr rydyn ni’n ei alw yn Actau’r Apostolion yn adrodd hanes y Cristnogion cynnar. Ei awdur oedd Sant Luc, rydyn ni'n ei adnabod fel yr un a ysgrifennodd yr efengyl o'r un enw .Mae’n adrodd hanes sut y dysgodd y Cristnogion cyntaf nid yn unig i fyw’r newyddion da ond i’w rannu gydag eraill hyd yn oed pan oedd hynny’n gostus. Mae rhai o hanesion mwyaf dramatig y Testament Newydd yma, fel pan agorodd daeargryn ddrws y carchar ar hanner nos a Paul a Silas yn cerdded yn rhydd i sôn am y pethau roedd Duw wedi’i wneud drostyn nhw.

A hithau’n dymor y Pasg, rwy'n ail ystyried beth oedd wedi ysgogi ac annog cymaint ar y Cristnogion cyntaf hynny, ac fe hoffwn i rannu rhai syniadau ar sail y darlleniad o Actau 4:5 ymlaen. A’r peth cyntaf sy’n fy nharo yw fod eu ffydd wedi’i ganoli’n ddwfn ar Grist. Soniodd Pedr am ‘gymwynas i ddyn claf' a 'bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth a groesholiasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw.’

Person a gwaith Iesu oedd yn rhoi’r hyder a’r dewrder iddyn nhw. Roedden nhw’n hollol argyhoeddiedig fod Duw nid yn unig wedi’i ddatgelu ei hunan trwy Iesu ond ei fod wedi gwneud rhywbeth pendant ynddo. Yng Nghrist roedden ni’n cael maddeuant, ein pechodau wedi’u golchi ymaith a bywyd Duw wedi’i adfer i ni. Yn aml iawn, rydyn ni'n dweud y credo yn ein gwasanaethau oherwydd bod cynnwys i ffydd (ac mae hynny'n dda ac yn iawn) ond nid yw adrodd credo'n yn ein gwneud yn Gristion. Mae’n rhaid i’r ffydd ddod yn fyw i ni. Mae’n rhaid iddi ddod yn ffydd fyw, nid un ar bapur.

A’r ail beth rwy'n sylwi arno yw bod eu ffydd yn wynebu tuag allan ac yn fywiog. Mae Pedr yn siarad yn gyhoeddus am Iesu oherwydd ei fod eisiau i bobl eraill glywed y newyddion da,Flynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio gweithio gyda rhywun oedd yn dweud na fyddai byth yn trafod tri pheth: gwleidyddiaeth, arian a chrefydd!Ond y drafferth yw, os ydyn ni’n credu mai Ef yw’r Arglwydd, ei fod wedi dod â bywyd a gobaith i ni, sut allwn ni fod yn dawel? Soniodd Sant Paul am y dasg rydyn ni’n ei wynebu pan ddywedodd y dylen ni, bob amser, fod yn barod i gyfrif am y ffydd sydd gennym ni. A does yna ddim sy’n denu mwy na bywydau a hanesion sy’n sôn am ei gariad trawsnewidiol. Does dim rhaid i ni roi ‘gweithredoedd da’ yn erbyn ‘geiriau da’ oherwydd bod y ddau yn sefyll gyda'i gilydd.

Roedd cymeriad yn y Game of Thrones enwog yn cloi’r gyfres (fwy neu lai) gyda’r geiriau: "Beth sy’n uno pobl?”Byddinoedd?Aur?Baneri?Na. Storïau.Does yna ddim yn y byd mor rymus â stori dda. Does dim all ei stopio. Does yr un gelyn all ei choncro. A phwy sydd â stori well na Bran the Broken? Y bachgen a ddisgynnodd o ben tŵr uchel a byw... Ef yw ein cof. Ceidwad ein holl storïau. Y rhyfeloedd, priodasau, genedigaethau, llofruddiaethau, newynoedd, ein llwyddiannau, ein methiannau, ein gorffennol. Pwy well i’n harwain ni i’r dyfodol?”

Mae’n gyffrous iawn, mewn gwirionedd, ac mae’n gwneud y pwynt yn dda iawn, pan mae’r stori’n un o wahoddiad, newyddion da ac yn un sy’n cael ei gweld ym mhwy ydym ni, beth ydym ni’n ei wneud a’i ddweud, bod y cyfan yn ein clymu gyda'i gilydd, oll yn ffurfio’r newyddion da. Ysgwn i sut rydym ni'n adrodd ein stori o newyddion da wrth bobl eraill?

A’r peth olaf yr hoffwn i ei ddweud yw bod eu ffydd yn ddewr ac yn beryglus. Mewn geiriau eraill, dylai ffydd fynd â ni i fannau sy’n ein symud ymlaen. Rwy'n ymwybodol iawn fod llawer ohonom ni wedi troi at Dduw am ein sefydlogrwydd ac i fod yn fath o graig i ni, yn enwedig yn y misoedd diwethaf. Rydyn ni’n teimlo ein bod wedi cael hen ddigon, diolch yn fawr! Mae hynny’n ddealladwy. Ond felly hefyd mae ffydd nad yw byth yn tyfu, nad yw’n gallu symud, na bod yn chwilfrydig, nac yn gallu ymateb i bethau newydd rydyn ni'n eu gweld a'u clywed. Mae’n amheus gen i a oedd y Cristnogion cynnar yn gwybod pa fath o fywyd oedd gan Dduw i'w gynnig wrth iddyn nhw fentro ar y daith, ond mae Duw un cam ar y blaen bob tro ac mae dysgu i ddilyn ei arweiniad yn dod â ni at yr antur rydyn ni’n ei galw’n Gristnogaeth.

Felly, heddiw, yn nhymor y Pasg, rydyn ni wedi ystyried Ffydd y Pasg, ffydd y Cristnogion cynnar: Iesu yn y canol, yn ymestyn allan ac yn fywiog, ac, i'r diwedd yn fentrus ac yn beryglus. Mae ffydd y Pasg ar gyfer pobl y Pasg, ac mae hynny’n golygu chi a mi.


Cymraeg

Worship on the Fourth Sunday of Easter


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 4:5-12

The next day their rulers, elders, and scribes assembled in Jerusalem, with Annas the high priest, Caiaphas, John, and Alexander, and all who were of the high-priestly family. When they had made the prisoners stand in their midst, they inquired, ‘By what power or by what name did you do this?’ Then Peter, filled with the Holy Spirit, said to them, ‘Rulers of the people and elders, if we are questioned today because of a good deed done to someone who was sick and are asked how this man has been healed, let it be known to all of you, and to all the people of Israel, that this man is standing before you in good health by the name of Jesus Christ of Nazareth, whom you crucified, whom God raised from the dead. This Jesus is “the stone that was rejected by you, the builders; it has become the cornerstone.” There is salvation in no one else, for there is no other name under heaven given among mortals by which we must be saved.’


John 10:11-18

Jesus said, ‘I am the good shepherd. The good shepherd lays down his life for the sheep. The hired hand, who is not the shepherd and does not own the sheep, sees the wolf coming and leaves the sheep and runs away—and the wolf snatches them and scatters them. The hired hand runs away because a hired hand does not care for the sheep. I am the good shepherd. I know my own and my own know me, just as the Father knows me and I know the Father. And I lay down my life for the sheep. I have other sheep that do not belong to this fold. I must bring them also, and they will listen to my voice. So there will be one flock, one shepherd. For this reason the Father loves me, because I lay down my life in order to take it up again. No one takes it from me, but I lay it down of my own accord. I have power to lay it down, and I have power to take it up again. I have received this command from my Father.’


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Easter Faith

The book we call the Acts of the Apostles tells the story of the early Christians. Its author was St Luke whom we identify with the writer of that gospel. It’s the account of how the first Christians learned not only to live the good news but to share it with others even when that was costly. Some of the most dramatic stories in the New Testament are found here such as the occasion when an earthquake opened the prison door at midnight and Paul and Silas walk free to tell the things God has done for them.

In this season of Easter I’m revisiting what it was that so moved and energized those first Christians and want to share some thoughts today on the basis of the reading from Acts 4:5f. And the first thing which strikes me is that their faith was deeply Christ-centred. Peter spoke about the ‘good deed done to someone who was sick’ and ‘how this man has been healed, let it be known to all of you, and to all the people of Israel, that this man is standing before you in good health by the name of Jesus Christ of Nazareth, whom you crucified, whom God raised from the dead.’

It was the person and work of Jesus which gave rise to their confidence and courage. You see they were quite convinced that God had not only revealed himself through Jesus but had done something decisive in him. It was in Christ that we were forgiven, our sins washed away and the life of God restored to us. Very often we say the creed in our services because faith has content (and that is right and good) but reciting a creed does not make us Christian. That faith must come alive for us. It must be a living faith not one contained on pages.

And the second thing I notice is that their faith was outward and animated. Peter is speaking publicly about Jesus because he wants others to know the good news. Years ago I remember working alongside someone who said they never talk about 3 things: politics, money and religion! But the difficulty is that if we believe He is Lord, has brought us life and hope, how can we keep quiet? St Paul spoke about the task we face when he said we ought always to be prepared to an account for the faith we possess. And there is nothing more inviting that lives and stories which speak of his transforming love. We don’t need to pit ‘good works’ against ‘good words’ at all because they stand together.

A character from the famous Game of Thrones ended that series (more or less) with these words: ‘“What unites people?” Armies? Gold? Flags? No. It’s stories. There's nothing in the world more powerful than a good story. Nothing can stop it. No enemy can defeat it. And who has a better story than Bran the Broken? The boy who fell from a high tower and lived… He's our memory. The keeper of all our stories. The wars, weddings, births, massacres, famines, our triumphs, our defeats, our past. Who better to lead us into the future?”

It’s very stirring actually and the point is well made that when our story is one of invitation, good news and is seen in who we are, what we do and what we say, that stands together, all of a piece as good news. I wonder how we tell our story of good news with others?

And the last thing I want to say is that their faith was courageous and risky. In other words faith should take us to encounters which move us forward. I’m very conscious that many of us have looked to God for our solidity and to be a kind of rock for us especially in these last months. We feel we’ve had quite enough risk thank you very much! That is understandable. But so too is a faith which never grows, which hasn’t the capacity to move, to be inquisitive and to respond to new things we see and hear. I doubt the early Christians knew exactly what kind of life God would bring when they set out on this journey but God is always one step ahead of us and learning to follow his lead brings into the adventure we call Christianity.

So today, in the season of Easter, it’s Easter Faith, the faith of the early Christians we have considered: Jesus centred, outward and animated and lastly courageous and risky. Eater faith is for the Easter people and that means you and me.