minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau | You have now returned to the Shepherd and Guardian of your souls
English

Addoliad ar Bedwerydd Sul y Pasg


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Actau 2:42-47

Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau.

Yr oedd ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, a'u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.


1 Pedr 2:19-25

Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod â'i flinderau er iddo ddioddef ar gam. Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod â hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Duw. Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau." Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn. Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd. Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.


Ioan 10:1-10

"Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall. Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid. Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan. Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid." Dyw-edodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.

Felly dywedodd Iesu eto, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid. Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy. Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa. Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder."


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Sylfaen gobaith (1 Pedr 2:19-25)

Yn 2014 helpodd yr Athro Steve Peters dîm beicio Prydain i lwyddiant digynsail yng Nghwpan y Byd. Roedd Peters wedi ysgrifennu'n helaeth ar seicoleg straen a sut mae rhannau o'r ymennydd yn ymateb pan mae rhywun dan straen. Dangosodd fod yr ymennydd yn ymateb trwy greu pryder yn ddwfn oddi mewn. Mae'n ymateb clyfar iawn yn yr ymennydd oherwydd ei fod yn gri am help, gan ein hysgogi i newid beth bynnag sy'n achosi straen i ni. Efallai eich bod wedi gweld ei lyfr rhagorol, The Chimp Paradox.

Pan ysgrifennodd Sant Pedr at y Cristnogion a wasgarwyd oherwydd erledigaeth ar draws y dwyrain canol, roedd yn ysgrifennu at bobl dan bwysau, dan straen. Roedd pryder ynghylch diogelwch, ynghylch swyddi, ynghylch cwrdd â'i gilydd – pryder am sut fath o beth fyddai eu dyfodol. Caiff llawer o'r llythyr cyntaf hwn ei neilltuo i ymateb i’r her hon, ac i ddarparu gobaith a chyngor i'r disgyblion hyn sydd dan warchae. Dyma un o’n darlleniadau o’r Testament Newydd ar gyfer heddiw ac rwyf am gynnig rhai myfyrdodau ar berspectif Pedr ar y mater hwn.

Heddiw ym Mhrydain, nid ydym yn dioddef yr un erledigaeth â’r Cristnogion cyntaf hynny. Ond mae modd i ni uniaethu o’r newydd â'u pryder yn ein dyddiau ni – dyddiau o ansicrwydd am fywyd a bywoliaeth; dyddiau llawn pryder wrth edrych tua’r dyfodol.

A man cychwyn Pedr, nes mlaen yn y llythyr, yw’r Pasg. Mae’n ysgrifennu: “Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd.” Mae’n dweud mai trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu y byddwn ni’n derbyn y diogelwch dyfnaf posib. Pan fu farw Iesu agorwyd ffordd newydd inni – modd inni droi cefn ar yr hyn sy'n ddinistriol ac yn llesteiriol yn ein bywydau. Y groes oedd ffordd orau Duw o “wneud yn iawn” am ein gorffennol, a chreu dyfodol a warantir gan atgyfodiad Iesu: “trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd,” meddai Pedr.

Trwy ddarparu'r sylfaen hon – sylfaen gobaith – mae Pedr yn gwahodd ei ddarllenwyr i osod eu hanawsterau presennol yng nghyd-destun yr hyn y mae Duw wedi'i wneud yng Nhrist Iesu. Mae'n gofyn iddyn nhw weld darlun cyflawn rhagluniaeth Duw.

A dyma syflaen hanfodol. Dyma'r sylfaen sy'n ein dal a’n cynnal ni pan fyddwn yn teimlo'n ddi-rym, neu ar drugaredd digwyddiadau na allwn eu rheoli. I bob pwrpas, mae Pedr yn dweud bod yna rhywbeth sy'n fwy sicr a chadarn na'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu. Tybed a yw'r sylfaen obeithiol hon yn ein helpu ni heddiw? Wrth ysgrifennu at Gristnogion yn Rhufain atgoffodd Sant Paul nhw nad oedd unrhyw beth mor gryf â chariad Duw – cariad sy’n para y tu hwnt i unrhyw beth arall yn yr holl greadigaeth ac na ellir fyth ein gwahanu oddi wrtho.

Ond nid dyna’r cyfan sydd gan Pedr i’w ddweud: Mae’n dweud fod Crist wedi dioddef i osod esiampl inni, er mwyn dangos inni sut i ymateb pan fydd pethau'n anodd. Nid gwahoddiad sydd yma i fwynhau poen nac i'w geisio; nid gwahoddiad sydd yma i gynnig “stiff upper lip”, neu’n waeth fyth i fod yn ddifater yng nghwyneb dioddefaint. Yn hytrach, dyma wahoddiad i weld yn archoll Iesu batrwm a chysur ar ein cyfer ni. A’r ffordd y gwnaeth Iesu ddioddef ei archoll oedd trwy fyw’r bywyd yr oedd Duw wedi ei alw i fyw, a’i fyw i’r eithaf. Roedd pŵer i ddioddef i’w ganfod ym mywyd daioni a gras.

Byddwn wrth gwrs yn gweithio i ddod â'r firws hwn i ben ac yn gwneud popeth a allwn ei wneud i gefnogi ei ddileu; ond nid oes angen i’n hymateb ni fod yn anobeithiol.

Mae Pedr yn cloi’r rhan hwn o’i lythyr gyda’r geiriau gobeithiol hyn: “Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.” Oherwydd ein bod yn perthyn i Grist, ac am i Grist ein canfod, mae gennym y sicrwydd dwfn hwn; gallwn wynebu popeth; gallwn ddioddef yng nghryfder a phatrwm y bywyd y mae'n ei gynnig inni.

Dyma ffydd yr atgyfodiad, a dyma obaith y Pasg. Boed i chi ei ganfod, ei brofi a’i fyw heddiw. Amen.

Cymraeg

Worship on the Fourth Sunday of Easter


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 2:42-47

They devoted themselves to the apostles’ teaching and fellowship, to the breaking of bread and the prayers.

Awe came upon everyone, because many wonders and signs were being done by the apostles. All who believed were together and had all things in common; they would sell their possessions and goods and distribute the proceeds to all, as any had need. Day by day, as they spent much time together in the temple, they broke bread at home and ate their food with glad and generous hearts, praising God and having the goodwill of all the people. And day by day the Lord added to their number those who were being saved.


1 Peter 2:19-25

For it is to your credit if, being aware of God, you endure pain while suffering unjustly. If you endure when you are beaten for doing wrong, where is the credit in that? But if you endure when you do right and suffer for it, you have God’s approval. For to this you have been called, because Christ also suffered for you, leaving you an example, so that you should follow in his steps. ‘He committed no sin, and no deceit was found in his mouth.’ When he was abused, he did not return abuse; when he suffered, he did not threaten; but he entrusted himself to the one who judges justly. He himself bore our sins in his body on the cross, so that, free from sins, we might live for righteousness; by his wounds you have been healed. For you were going astray like sheep, but now you have returned to the shepherd and guardian of your souls.


John 10:1-10

‘Very truly, I tell you, anyone who does not enter the sheepfold by the gate but climbs in by another way is a thief and a bandit. The one who enters by the gate is the shepherd of the sheep. The gatekeeper opens the gate for him, and the sheep hear his voice. He calls his own sheep by name and leads them out. When he has brought out all his own, he goes ahead of them, and the sheep follow him because they know his voice. They will not follow a stranger, but they will run from him because they do not know the voice of strangers.’ Jesus used this figure of speech with them, but they did not understand what he was saying to them.

So again Jesus said to them, ‘Very truly, I tell you, I am the gate for the sheep. All who came before me are thieves and bandits; but the sheep did not listen to them. I am the gate. Whoever enters by me will be saved, and will come in and go out and find pasture. The thief comes only to steal and kill and destroy. I came that they may have life, and have it abundantly."


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

The baseline for hope (1 Peter 2:19-25)

In 2014 Professor Steve Peters helped the British cycling team to unprecedented success in the World Cup. Peters had written extensively on the psychology of stress and how parts of the brain react in times of stress. He showed that the brain responds by creating anxiety deep within. It’s a very clever bit of reaction in the brain because it’s a cry for help, to respond to and change whatever is causing us stress. You may have seen his book The Chimp Paradox, an excellent read.

When St Peter wrote to the Christians dispersed because of persecution across the middle east, he was writing to people under pressure, under stress. There was anxiety about safety, about jobs, whether they could meet together and whether the future for them was a good one. Much of this first letter is given over to meeting this challenge and providing hope and advice for these beleaguered disciples. It’s our New Testament reading set for today and I want to offer some thoughts on how Peter saw this matter.

Today in the UK we do not suffer the persecution those first Christians did. But we will relate to their anxiety very well at this time: uncertainty, jobs, what will the future look like and can I ever realize my hopes?

And Peter’s starting point, if a little later in the letter, is, Easter. He writes: ‘He himself bore our sins in his body on the tree that we might die to sin and live to righteousness. By his wounds you have been healed.’ He is saying that the death and resurrection of Jesus is the way we are given the deepest possible security. When Jesus died something new was opened to us to leave behind what is destructive and what mars our lives. The cross was God’s best way of ‘making good’ our past and creating a future guaranteed by Jesus’ resurrection: ‘by his wounds you have been healed’, he says.

By providing this kind of baseline for hope, this immoveable truth, Peter invites his readers to set their present difficulties within the context of what God has done in Jesus. He’s asking them to see and hold to the big picture.

And this kind of foundation seems to me so very important. It’s what holds us and bears us up when we feel powerless, or at the mercy of events which we cannot control. In effect Peter is saying there is something which is more sure and permanent than the circumstances we face. I wonder whether this baseline of hope helps us today? Writing to Christians at Rome St Paul reminded them that nothing was as strong as God’s love which endured beyond anything else in all creation and from which we could never be separated.

But Peter doesn’t leave it there: He says that Christ suffered to set us an example, to show us how to respond when things are difficult. This is no invitation to enjoy pain or to seek it, neither to offer a stiff upper lip or worse be somehow indifferent to suffering. It is rather to take the example of Jesus as a source of comfort and pattern. And the way Jesus endured this was not by railing against his situation with uncontrolled anger but by living the life God had called him to live. There was a power to endure in the life of goodness and grace.

We will of course work to end this virus and do everything to support its eradication but how we respond personally need not be through despair.

Peter concludes this part of his letter with these words of hope: ‘For you were straying like sheep but have now returned to the Shepherd and Guardian of your souls’. Because we belong to Christ and have been found by him, we have this deep security; we can face whatever life throws at us; we can endure in the strength and pattern of life he offers.

This is resurrection faith, Easter hope. May it be yours today. Amen.