minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw" | "You are my Son, today I have begotten you"
English

Addoliad ar Bumed Sul y Grawys


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Hebreaid 5:5-10

Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho:

“Fy Mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw.”

Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd:
“Yr wyt ti'n offeiriad am byth
yn ôl urdd Melchisedec.”

Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn. Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo, wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.


Ioan 12:20-30

Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid. Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, “Syr, fe hoffem weld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu. A dyma Iesu'n eu hateb. “Y mae'r awr wedi dod,” meddai, “i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth. Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casáu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol. Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.

“Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? ‘O Dad, gwared fi rhag yr awr hon’? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw.” Yna daeth llais o'r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto.” Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, “Angel sydd wedi llefaru wrtho.” Atebodd Iesu, “Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn. Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun.” Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Ioan 12:20-33

Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio cyfweliad rhwng gwleidydd amlwg a Jeremy Paxman rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn ornest eithaf ciaidd a arweiniodd at y dywediad ‘Rwyf wedi cael fy Mhacsmanio’. Os ydych chi’n wirioneddol eisiau ei gweld, rwy'n credu ei bod yn dal ar gael ar Youtube.

Mewn gwirionedd, mae cyfwelwyr a chyfweleion yn gallu canfod y foment iawn i ddweud y peth iawn sy’n taro cloch. Mae’n ennill y dydd, yn cloi’r ddadl ac yn gadael yr ochr yn arall yn ffwndrus ac yn amddifad.

Felly, pan fyddwn ni’n darllen am gwestiwn diniwed gan rywun â diddordeb ’Rydyn ni eisiau gweld Iesu’ wyddom ni ddim na fydd yr hyn a ddaw nesaf hefyd yn gallu llorio. Wrth i ni ddynesu at y cyfnod hwn yn y Grawys, mae ein darlleniad yn gosod llwybr sy’n helaethach nag yn yr wythnosau a fu ac yn ein paratoi ar gyfer yr Wythnos Fawr gyda’n llygaid ar agor led y pen - a dyma ein darlleniad a'n myfyrdod am heddiw.

Ac mae'r darn cyntaf o ddrama ynghylch marwolaeth anesboniadwy. Yn y rhestr hir o argymhellion ar gyfer llwyddiant ymgyrch, athroniaeth neu hyd yn oed grefydd, mae'n annhebyg y byddai marwolaeth fwriadol yn cyfrif fel nod allweddol oni bai mai dim ond bod yn rhyw fath o ferthyr oedd eich bwriad. Ond mae Iesu'n disgrifo ei ymadawiad fel a ganlyn: ‘os nad yw’r gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear ac yn marw, y mae’n aros ar ei ben ei hun, ond os yw’n marw y mae'n dwyn llawer o ffrwyth'. Y darn pwysig yma yw nid y wyddoniaeth sy’n edrych ar beth sy’n digwydd pan fydd hedyn yn cael ei gladdu ond yn hytrach beth sy’n llifo o hynny. Mae yna emyn y Pasg hyfryd ‘Wele’r ŷd yn glasu’ gyda’i phennill gyntaf:

Wele’r ŷd yn glasu yn y man lle bu
grawn yn llechu’n ddistaw dan y ddaear ddu.
Cariad a gododd, cariad a gawn,
lle bu meysydd noethlwm daeth yr egin grawn.

Ac wrth i Iesu gychwyn ar ei daith i Jerusalem mae'n siarad am ei farwolaeth mewn ffordd sy'n cysylltu ei ddyfodol ef gyda'n dyfodol ni. Rydyn ni'n gweld fod ei farwolaeth yn galluogi'r blewyn glas o atgyfodiad i ymddangos – cariad a gododd. cariad a gawn, lle bu meysydd noethlwm daeth yr egin grawn.

Mae yna ffordd o drafod marwolaeth Iesu (ac, mewn gwirionedd, mae hyn yn wir hefyd am rai o’n litwrgïau a’n gwasanaethau) lle mae ei farwolaeth yn cael ei ystyried yn dipyn o drychineb. Mae’r groes yn achlysur i alaru, o ddifrifoldeb yn unig. Ond mae’r Testament Newydd yn cynnig sawl ffordd o ddeall y groes a’r atgyfodiad. Pan ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Galatia, dywedodd hyn: ‘Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof i. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi. (2.20). Felly, trwy’r groes, yn ôl hyn, y mae Duw mewn gwirionedd yn dangos ei gariad achubol.

Mae'r ail bwynt yn perthyn i hyn. Roedd Iesu’n gweddïo y byddai’r Tad yn clodfori ei enw ac roedd y llais uchel o’r nefoedd yn cadarnhau hyn. Dywedodd Iesu ei hunan mai dyma'r rheswm y daeth ac na fyddai'n ymwrthod â hynny.

Mae’r gair ‘gogoniant’ yn cael ei ddefnyddio'n aml i ddisgrifio presenoldeb gweledol y Duw anweledig. Allwn ni ddim gweld Duw, ond mae rhywbeth yn ei gymeriad, ei waith a’i bresenoldeb yn cael ei weld mewn ffyrdd ddeunyddiol. Fe allen ni gofio am y ddau gwmwl a oedd gyda’r Hebreaid yn yr anialwch – un yn ystod y nos ac un yn ystod y dydd. Roedd y ddau’n dangos fod Duw yno hyd yn oed os oedd yn anweledig i'r llygad noeth.

Ond yma, y groes a'i farwolaeth sy'n dangos gogoniant Duw. Ac mae hyn yn rhyfeddol, Sut allai golygfa o gorff drylliedig fod yn rhywbeth sy’n dangos gogoniant Duw? Mae oherwydd mai dyma’r ffordd y mae Duw wedi’i dewis i ddangos rhyfeddod a harddwch ei ras. Oherwydd fod Duw’n ymestyn allan ac yn ein cyfarfod ni ym marwolaeth Iesu, dyma’r foment oruchaf o gysylltiad Duw a’i fyd.

Edrychwn, felly, y tu hwnt i’r corff drylliedig ac edrych ychydig bach yn ddyfnach ar yr hyn sy’n digwydd yma mewn gwirionedd ac fe welwn fod cariad Duw'n cael ei ddangos yn blaen dros bobl bechadurus fel chi a minnau. Dyma sy’n gwneud y groes a’r gwaredwr yn ogoneddus ac yn haeddu pob addoliad.

Roeddwn i wedi cychwyn gyda rhai sylwadau ynghylch cwestiynau sy'n gosod y cywair, sy'n cael effaith arbennig oherwydd eu bod mor annisgwyl a thrawsnewidiol. Mae’r Efengyl heddiw’n llawn o’r digwyddiad annisgwyl a thrawsnewidiol hwn. Ac, yng nhyd-destun y Grawys, mae’n dod unwaith eto fel gwahoddiad i ymateb i ras a daioni Duw.

Fe hoffwn i orffen gydag emyn dymhorol arall, sy’n gwneud hynny mewn cerddoriaeth: 2 bennill

Mawl a fo i’r Iesu
fu mewn dirfawr loes;
rhoddodd waed ei galon
drosom ar y groes

Bywyd yn dragwyddol
yn ei waed ef sydd;
mawr yw ei drugaredd,
gwnaeth y caeth yn rhydd.

Cymraeg

Worship on the Fifth Sunday of Lent


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Hebrews 5:5-10

So also Christ did not glorify himself in becoming a high priest, but was appointed by the one who said to him,

‘You are my Son,
today I have begotten you’;
as he says also in another place,

‘You are a priest for ever,
according to the order of Melchizedek.’

In the days of his flesh, Jesus offered up prayers and supplications, with loud cries and tears, to the one who was able to save him from death, and he was heard because of his reverent submission. Although he was a Son, he learned obedience through what he suffered; and having been made perfect, he became the source of eternal salvation for all who obey him, having been designated by God a high priest according to the order of Melchizedek.


John 12:20-33

Now among those who went up to worship at the festival were some Greeks. They came to Philip, who was from Bethsaida in Galilee, and said to him, ‘Sir, we wish to see Jesus.’ Philip went and told Andrew; then Andrew and Philip went and told Jesus. Jesus answered them, ‘The hour has come for the Son of Man to be glorified. Very truly, I tell you, unless a grain of wheat falls into the earth and dies, it remains just a single grain; but if it dies, it bears much fruit. Those who love their life lose it, and those who hate their life in this world will keep it for eternal life. Whoever serves me must follow me, and where I am, there will my servant be also. Whoever serves me, the Father will honour.

‘Now my soul is troubled. And what should I say—“Father, save me from this hour”? No, it is for this reason that I have come to this hour. Father, glorify your name.’ Then a voice came from heaven, ‘I have glorified it, and I will glorify it again.’ The crowd standing there heard it and said that it was thunder. Others said, ‘An angel has spoken to him.’ Jesus answered, ‘This voice has come for your sake, not for mine. Now is the judgement of this world; now the ruler of this world will be driven out. And I, when I am lifted up from the earth, will draw all people to myself.’ He said this to indicate the kind of death he was to die.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

John 12:20-33

Some of us are old enough to remember a certain interview given by a politician to Jeremy Paxman a few years ago. It was a fairly brutal affair and led to the phrase ‘I’ve been Paxmaned’. If you really want to see it, I think it can still be found on Youtube.

In truth, brilliant interviewers and interviewees are able to find the right moment to say the right thing in a way which hits home. It wins the day, clinches the argument and leaves the other side reeling with few places to go.

So when we read of a benign question from an interested inquirer, ‘We want to see Jesus’, we won’t know that what’s coming next will have that same knockout quality. As we approach this stage in Lent our reading lays down a path which is more expansive than in previous weeks and prepares us to enter Holy Week with eyes wide open and this is our gospel reading and focus for meditation today.

And the first bit of the drama is about the unexpected death. In the long list of recommendations for the success of a movement, philosophy or even religion, it’s not likely that intentional death would rank as a key objective unless you intend only to set some sort of martyr’s example. But Jesus describes his passing like this: ‘unless a grain of wheat falls into the earth and dies, it remains just a single grain; but if it dies, it bears much fruit’. Now the important part here is not the science that looks at what happens when a seed is buried but rather what flows from this. There is that beautiful English Easter hymn ‘Now the Green Blade Riseth’ and the first verse:

Now the green blade riseth from the buried grain,
Wheat that in dark earth many days has lain;
love lives again, that with the dead has been:
love is come again, like wheat that springeth green.

And as Jesus begins that journey to Jerusalem he speaks of his death in a way that connects his future to ours. We see that his death allows the green blade of resurrection life to come forth – but it is love that has come again like wheat that springeth green.

There is a way of talking about the death of Jesus (and in truth even some of our liturgies and services reflect this) in which his death is regarded as something of a disaster. The cross is an occasion of mourning, of solemnity only. But the New Testament offers many ways of understanding the cross and resurrection. When Paul wrote to the Galatian Christians he said this :‘I have been crucified with Christ and I no longer live, but Christ lives in me. The life I now live in the body, I live by faith in the Son of God, who loved me and gave himself for me’. (2.20) So the cross, on this score, is essentially the way in which God shows his saving love.

The second point is related to this. Jesus prayed that the Father would glorify his name and the loud voice from heaven confirmed this. Jesus himself said it was for this reason he came and would not shrink back from it.

The word ‘glory’ is often used to describe the visual presence of the invisible God. We cannot see God but something of his character, work and presence is seen in material ways. We might remember the two clouds which accompanied the Hebrew people in the desert – one by day and the other by night. Both showed that God was there even if not visible to the naked eye.

But here it is the cross and his dying which shows the glory of God. And this is astonishing. How can the sight of a broken body be something which showes God’s glory? It’s because this is God’s appointed way of showing the wonder and beauty of his grace. Because God reaches out and meets us in the death of Jesus, it is the supreme moment of God’s engagement with his world.

Sowe look beyond the battered body and gaze a little more deeply into what is actually happening here and we see laid bare the love of God for sinful people like you and me. It is this which makes the cross and saviour glorious and worthy of all worship and adoration.

I begin with some comments about questions which shift the ground, which have particular impact because they are so unexpected and transformational. Today’s Gospel is all about this unexpected and life changing event. And in the context of Lent once again comes as an invitation to respond to God’s grace and goodness.

Let me end with another seasonal hymn which does that in music: 2 verses:

Glory be to Jesus,
who, in bitter pains
poured for me the lifeblood
from his sacred veins!

Grace and life eternal
in that blood I find;
blest be his compassion,
infinitely kind!