minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau" | "I am the vine, you are the branches"
English

Addoliad ar Bumed Sul y Pasg 


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Act 8:26-40

Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: “Cod,” meddai, “a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon. Cododd yntau ac aeth. A dyma ŵr o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli, ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia. Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.” Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?” Meddai yntau, “Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?” Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef. A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen:

“Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa,
ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr,
felly nid yw'n agor ei enau.
Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn.
Pwy all draethu am ei ddisgynyddion?
Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear.”

Meddai'r eunuch wrth Philip, “Dywed i mi, am bwy y mae'r proffwyd yn dweud hyn? Ai amdano'i hun, ai am rywun arall?” Yna agorodd Philip ei enau, a chan ddechrau o'r rhan hon o'r Ysgrythur traethodd y newydd da am Iesu iddo. Fel yr oeddent yn mynd rhagddynt ar eu ffordd, daethant at ryw ddŵr, ac ebe'r eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy'n rhwystro imi gael fy medyddio?” A gorchmynnodd i'r cerbyd sefyll, ac aethant i lawr ill dau i'r dŵr, Philip a'r eunuch, ac fe'i bedyddiodd ef. Pan ddaethant i fyny o'r dŵr, cipiwyd Philip ymaith gan Ysbryd yr Arglwydd; ni welodd yr eunuch mohono mwyach, ac aeth ymlaen ar ei ffordd yn llawen. Cafodd Philip ei hun yn Asotus, ac aeth o gwmpas dan gyhoeddi'r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes iddo ddod i Gesarea.


 Ioan 15:1-8

“Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth. Yr ydych chwi eisoes yn lân trwy'r gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych. Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi. Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau. Y mae'r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim. Os na fydd rhywun yn aros ynof fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen ddiffrwyth, ac fe wywa; dyma'r canghennau a gesglir, i'w taflu i'r tân a'u llosgi. Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi. Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Dyma’r diwethaf o ddywediadau ‘Myfi yw’ yn Ioan, sy’n rhoi strwythur i'r efengyl ac sydd hefyd yn rhan o araith ffarwel Iesu. Dyma’r unig ddywediad ‘Myfi yw’ sydd â honiad i'w ganlyn - 'a'm Tad yw'r gwinllanwr' ac felly mae'n sôn wrthym am thema allweddol yr efengyl sef bod yn ddisgybl.

Mae Iesu’n tynnu ar ddelwedd o Dduw o’r Hen Destament lle mae Israel yn cael ei dangos fel Gwinwydden. Roedd dyfarniad y proffwydi ar y winwydden yn gyson: roedd y Winwydden yn ddiffrwyth, yn aml yn cael ei dymchwel, ei sathru neu ei dinistrio gan eraill. Mae gweledigaeth Eseciel o Israel alltud yn nodweddiadol:

A ffynna hi? Oni chodir ei gwreiddiau hi, a thynnu ei ffrwyth? Oni wywa ei thyfiant newydd hi yn llwyr, nes y gellir tynnu ymaith ei gwreiddiau, heb fraich gref na llawer o bobl? Os trawsblennir hi, a ffynna? Oni wywa’n llwyr, fel petai wedi ei tharo gan wynt y dwyrain - gwywo ar y rhandir lle bu'n tyfu? (17:9-10)

Mae’r dywediad yn rhagdybio cefndir o ddiffyg ffydd parhaus yn Israel, o gyferbynnu ag Iesu, y wir winwydden na fydd yn methu. Tra bo Israel yn ymbalfalu ac yn gwywo, bydd Iesu’n sefydlu ffrwythlondeb ym mhobl cyfamod Duw. Mae’r thema o ffarwel ac o baratoi yn ein gwahodd i feddwl am fod yn ddisgybl oherwydd, o flaen y disgyblion hyn, byddai yna heriau a pheryglon yn ogystal â chyfleoedd. I ni, mae yna heriau a chyfleoedd newydd, hyd yn oed os yw ein sefyllfa ni yn wahanol i’w sefyllfa nhw.

Felly, beth ddylen ni gasglu o hynny? Rhai pethau:

Yn gyntaf, mae’r Tad yn tocio ac yn clirio canghennau diffrwyth. Dim ond Duw sy’n dod â’r ffrwythlondeb sy’n arwydd o berthyn i Iesu. Yn y Testament Newydd, rydyn ni’n dysgu llawer am ffrwythlondeb oddi wrth Paul a oedd yn gweld fod gweithgaredd Ysbryd Duw yn debyg iawn. Ffrwyth yr Ysbryd, o Dduw ar waith ynddom ni, yw cariad, llawenydd, heddwch, amynedd a llawer iawn o arwyddion bod megis Crist. Mae’r rhain yn dangos presenoldeb Duw yn ein bywydau sy’n dwyn ymaith yr ysbwriel, y pethau nad ydyn nhw'n debyg i Iesu, ac sy'n dod dim ond â'r pethau hynny sy'n rhoi bywyd.

Ac, wrth gwrs, mae hyn yn digwydd trwy gytundeb. Dim ond wrth i ni weithio gyda Duw y mae’r newidiadau hyn yn digwydd, yn hytrach na thrwy ddamwain neu orfodaeth.

Ond mae yna fwy hefyd. Daw ffrwythlondeb o ganlyniad i ffyddlondeb. Dywed Iesu ei fod yn llifo o: Aros ynddo ef (adnod 40), gweddigarwch (adnod 7) ac ufudd-dod (adnod 10). Felly nid o Dduw yn unig y daw’r egni, ond mae’n rhywbeth y mae’n rhai i ni i gyd weithio i'w gael. Dywedodd rhywun mai ‘Bod yn ddisgybl yw’r broses o ddod yr hwn y byddai Iesu pe byddai’n chi’. Da, ynte? Mae yna demtasiwn, wrth gwrs, i weld pethau fel cariad ac amynedd fel yr unig ffrwyth o Dduw ynom mi ond mae'r sgiliau a'r carisma hynny hefyd yn rhan o hynny. Felly, nid er mwyn dod yn fwy duwiol rydyn ni'n gweithio gyda Duw, ond i fod yn fwy effeithiol hefyd.

Rwy’n cofio ein plant yn tyfu i fyny ac yn gwneud yr holl bethau y mae plant yn eu gwneud fel reidio beics a dal peli ac yn y blaen. Roedd rhai’n cymryd at hynny’n well na’r lleill. Ac, i’r rhai oedd yn cael hynny’n anodd, roedd yn rhaid ymarfer. Dyna sut oedden nhw’n gwella. A mae’n rhaid fod hynny’n wir amdanom ni yma hefyd. Efallai nad ydym ni’n teimlo ein bo ni'n dda iawn am wneud rhywbeth i wasanaethu Duw, ond arfer yw mam pob meistrolaeth.

Roedd Iesu’n paratoi ei ddisgyblion ar gyfer yr heriau a’r cyfloed oedd o’u blaen. Roedd yn trafod sut y gallen nhw ymateb iddyn nhw trwy lynu wrtho ef. Roedd yn dangos y cysylltiad rhwng bod yn ffyddlon a bod yn ffrwythlon fel bod eu perthynas gydag ef, wedi'i chreu i barhau, yn gallu ffynnu ac mae'r hyn oedd yn wir iddyn nhw hefyd yn wir i ni heddiw. 


Cymraeg

Worship on the Fifth Sunday of Easter


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 8:26-40

Then an angel of the Lord said to Philip, ‘Get up and go towards the south to the road that goes down from Jerusalem to Gaza.’ (This is a wilderness road.) So he got up and went. Now there was an Ethiopian eunuch, a court official of the Candace, queen of the Ethiopians, in charge of her entire treasury. He had come to Jerusalem to worship and was returning home; seated in his chariot, he was reading the prophet Isaiah. Then the Spirit said to Philip, ‘Go over to this chariot and join it.’ So Philip ran up to it and heard him reading the prophet Isaiah. He asked, ‘Do you understand what you are reading?’ He replied, ‘How can I, unless someone guides me?’ And he invited Philip to get in and sit beside him. Now the passage of the scripture that he was reading was this:

‘Like a sheep he was led to the slaughter,
and like a lamb silent before its shearer,
so he does not open his mouth.
In his humiliation justice was denied him.
Who can describe his generation?
For his life is taken away from the earth.’

The eunuch asked Philip, ‘About whom, may I ask you, does the prophet say this, about himself or about someone else?’ Then Philip began to speak, and starting with this scripture, he proclaimed to him the good news about Jesus. As they were going along the road, they came to some water; and the eunuch said, ‘Look, here is water! What is to prevent me from being baptized?’ He commanded the chariot to stop, and both of them, Philip and the eunuch, went down into the water, and Philip baptized him. When they came up out of the water, the Spirit of the Lord snatched Philip away; the eunuch saw him no more, and went on his way rejoicing. But Philip found himself at Azotus, and as he was passing through the region, he proclaimed the good news to all the towns until he came to Caesarea.


John 15:1-8

‘I am the true vine, and my Father is the vine-grower. He removes every branch in me that bears no fruit. Every branch that bears fruit he prunes to make it bear more fruit. You have already been cleansed by the word that I have spoken to you. Abide in me as I abide in you. Just as the branch cannot bear fruit by itself unless it abides in the vine, neither can you unless you abide in me. I am the vine, you are the branches. Those who abide in me and I in them bear much fruit, because apart from me you can do nothing. Whoever does not abide in me is thrown away like a branch and withers; such branches are gathered, thrown into the fire, and burned. If you abide in me, and my words abide in you, ask for whatever you wish, and it will be done for you. My Father is glorified by this, that you bear much fruit and become my disciples.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

This is the last of the ‘I am’ sayings in John, which provides the structure for the gospel and is part of Jesus’ farewell speech. It’s the only ‘I Am’ saying which has an accompanying assertion – ‘my father is the gardener’ and therefore tells us about a key theme in the gospel namely discipleship.

Jesus draws on an image from the Old Testament where Israel was represented by a Vine. The prophets verdict on this vine however was consistent: the Vine was fruitless, often cut down, trampled or destroyed by others. Ezekiel’s vision of exiled Israel is typical:

Will it prosper? Will he not pull up its roots, cause its fruit to rot and wither, its fresh sprouting leaves to fade? No strong arm or mighty army will be needed to pull it from its roots. When it is transplanted, will it thrive? When the east wind strikes it, will it not utterly wither, wither on the bed where it grew? (17:9-10)

The saying assumes a background of ongoing faithlessness in Israel as opposed to in Jesus, the true vine who will not fail. Whereas Israel floundered and withered, Jesus will establish fruitfulness in God’s covenant people. The theme of farewell and preparation invites us to think about discipleship because, ahead for these disciples, there would be challenges and dangers as well as opportunities. For us there are new challenges and opportunities even if our situation is different from theirs.

So what should we take from here? A few things:

Firstly the Father both prunes and purges unfruitful branches. It is only God who brings the fruitfulness which is a mark of belonging to Jesus. In the New Testament we read a lot about fruitfulness from St Paul who saw the activity of God’s Spirit in much the same way. The fruit of the Spirit, of God at work in us, is love, joy peace, patience and a host of other Christlike signs. These show the presence of God in our lives who takes away the dross, what is unlike Jesus, only to bring these things which are life giving.

And of course this happens by agreement. It is only as we work with God that these changes happen rather than either by accident or compulsion.

But there us more too. Fruitfulness comes about as a consequence of faithfulness. Jesus says that it flows from: Abiding in Him (v 4), prayerfulness (v 7) and obedience (v. 10). So the energy is not solely God’s at all but something we must work at. Someone said ‘Discipleship is the process of becoming who Jesus would be if he were you’. Isn’t that good? There is a temptation of course to see these things like love and patience as the only fruit from God in us but those skills and charisms are a part of this too. So our working with God is not only to become more godly but more effective too.

I remember our children growing up and doing all those things children do like riding bikes and catching balls and so on. Some took to the tasks more easily than others. And for the ones for whom it was a task it was vital to practice. That was the way they improved. And surely that’s true for us here too. We might not feel terribly good at something in the service of God but practice makes perfect.

Jesus prepared his disciples for challenges and opportunities ahead. He spoke about the way they could respond to these by abiding in him. He made a connection between being faithful and being fruitful so that their relationship with him, built to survive, could flourish and what was true for them it also for us today.