minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed!" | "Let anyone with ears listen!"
English

Addoliad ar Chewched Sul wedi'r Drindod


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Rhufeiniad 8:12-25

Am hynny, gyfeillion, yr ydym dan rwymedigaeth, ond nid i'r cnawd, i fyw ar wastad y cnawd. Oherwydd, os ar wastad y cnawd yr ydych yn byw, yr ydych yn sicr o farw; ond os ydych, trwy'r Ysbryd, yn rhoi arferion drwg y corff i farwolaeth, byw fyddwch. Y mae pawb sy'n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw. Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!” Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd.

Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni. Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd, yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld? Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.


Mathew 13:24-30, 36-43

Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes. Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith. Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd. Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’ Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’ ‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy. Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ”

Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes.” Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg, a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith, a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed!


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Yn y darlleniad o’r efengyl heddiw, rydyn ni’n dod wyneb yn wyneb â rhywbeth anghyfforddus - y realiti o ddrygioni. Mae Iesu’n adrodd stori am rywun sy’n hau hadau drwg ymysg y rhai da, sy’n tyfu gyda'i gilydd. Dydi o ddim yn llafurio’r pwynt (ond byddai pawb yn gwybod i ble roedd hyn yn mynd) nad yw chwyn yn dda i ddim i’w cynaeafu a'u bwyta. Maen nhw'n cystadlu gyda'r gwenith, yn llesteirio eu twf, ac yn ffynnu. Does yna ond un peth i’w wneud gyda chwyn, a hynny yw eu llosgi. Ond peidiwch â difetha'r cynhaeaf drwy eu codi'n rhy gynnar. Arhoswch tan yr adeg iawn.

Mae’n hawdd diystyru storïau fel hyn, mae’r feirniadaeth y maen nhw'n ei disgrifio, wel, braidd yn ddychrynllyd. Efallai ein bod ni’n pendroni hefyd sut y gallai Iesu, ‘Iesu tirion’, hyd yn oed feddwl am y fath beth.

Sut ydych chi'n meddwl y dylen ni ddehongli'r stori?Beth am feddwl amdai’n llythrennol, ond bod yna ychydig o broblem. Mae Cristnogion yn credu fod Duw yn dda. Mewn gwirionedd, mae Duw yn gyfan gwbl dda, yn holl wybodus ac yn gyfan gwbl nerthol. Felly, os oes yna’r fath beth â drygioni, beth sy'n digwydd?Pam fod Duw’n ei ganiatáu, pam nad yw'n atal pethau drwg rhag digwydd. Meddyliwch ychydig yn fwy am hyn, ac fe ddewch at un o ddau gasgliad:un ai fod Duw yn gyfan gwbl dda ond nad yw'n gallu atal drygioni, neu, nad yw Duw'n hollol dda a'i fod yn dewis peidio ag atal drygioni. P’run sy’n iawn?

Rydyn ni ynghanol y math hwn o gyfyng gyngor o hyd. Pan mae rhywun rydyn ni'n ei garu'n marw, efallai mewn poen mawr, rydyn ni’n pendroni pam nad yw Duw'n ei wella fel y gwnaeth Iesu yn yr efengylau?Efallai ein bod yn erfyn, yn crefu ond dydyn ni ddim yn cael yr ateb rydyn ni ei eisiau. Rydyn ni'n gweld tlodi yn y byd a phlant yn dioddef ond rydyn ni’n gwybod ein bod yn byw mewn byd o helaethrwydd a digonedd. Pam nad yw Duw’n gwneud rhywbeth ynghylch y llanastr?

Mae Cristnogion wedi bod yn ymgodymu â hyn ers milenia. Mae rhai wedi bod yn pendroni a allai fod yna rhyw ddiben i ddrygioni yn y pen draw?Allwn ni ddim gweld beth allai hynny fod nawr, ond efallai y byddwn ni rywbryd. Mae yna ffordd o feddwl yn yr Hen Destament sy’n dilyn y llwybr hwn. Mae eraill yn dweud "allai hynny ddim bod yn iawn, cofiwch yr Holocost, does bosib y daw yna unrhyw ddaioni o'r arswyd hwnnw”?Ac mae eraill yn awgrymu “Wel, efallai nad ydyn ni’n edrych ar hyn yn iawn. Onid drygioni yw absenoldeb daioni a dim byd arall?Daioni rhywsut wedi'i ddiraddio y tu hwnt i bob adnabyddiaeth”?Ond, yma eto, dyw hynny ddim yn cyd fynd yn dda iawn â’r hyn rydyn ni’n ei weld mewn hil-laddiadau neu ddioddefaint, dioddefaint mewn diniweidrwydd cymaint o bobl.

Mae’r stori’n helpu, i raddau o leiaf. Yn gyntaf, mae’n dweud wrthym mai Duw yw'r Arglwydd dros bob dim. Mae Iesu’n dweud fod dydd y farn yn dangos hyn. Efallai bod hynny’n amlwg, ond meddyliwch am funud pe na byddai hynny’n wir. Byddai’n golygu fod y byd yn hollol ar hap, heb unrhyw ddiben gwirioneddol. Os felly, gallai drygioni ennill un diwrnod a’r cyfoethog a’r grymus yn oruchaf ac yn dinistrio ar gyfer eu dibenion hunanol eu hunain. Mae barn Duw’n dweud wrthym nad rhywbeth ar hap yw tynged yn y pen draw ac nad yw tynged yn nwylo’r grymus na’r drwgweithredwyr. Mae yna ddechrau a diwedd i stori pob bywyd:Duw yw'r awdur ar y dechrau a’r cwblhawr ar y diwedd.

Mae’n gallu bod yn anodd byw gyda hyn pan fyddwn ni’n gweld yr hyn sy’n ymddangos fel presenoldeb yr ‘ar hap’ o’n cwmpas ym mhob man.Rydyn ni’n gweld pobl yn dal i farw o Coronafeirws, eraill yn colli eu gwaith a’u bywoliaeth, dyfodol sydd i’w weld yn ansicr. Ond am dymor y mae hyn, ac am dymor yn unig. Yn y darlun mwy, yn ôl y stori Gristnogol, mae gan Dduw gynllun da ar gyfer y greadigaeth, ar gyfer pobl ac ar gyfer cymdeithasau.

Mae’r stori hefyd yn helpu oherwydd mae’n gwahodd ymateb i Dduw. Mae’n dweud fod y ffordd gyda Duw yn dda ac yn obeithiol. Peidiwch â dewis yr hyn sy’n llwm, yn dywyll, yn anial ac yn ddrwg. Bob dydd a phob wythnos rydyn ni’n gweddïo’r weddi hon:

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd....

Ac rydyn ni’n gweddïo am ddyfodiad y Deyrnas lle nad oes yna ddim lle i ddrygioni na malais. Rydyn ni’n gwneud y weddi hon rymus pa fyddwn ni’n ymuno gyda Duw i adnewyddu bywyd o'n cwmpas. Rydyn ni'n clywed o'r newydd hanes y Samariad Trugarog ac yn gweld beth allai bywyd fod pan fyddwn ni'n ymuno yn y peth newydd hwn.

A dyna yw rhyfeddod yr efengyl. Mae’n cynnig ffordd i ni er nad yw’n egluro popeth. Dydw i ddim yn honni fy mod yn deall popeth sydd yn y stori hon na phopeth y mae drygioni'n ei olygu. Ond rwy yn clywed y gair sy’n dweud, ‘Dyma’r ffordd, cerdda hi’. A phan fyddwn ni’n ymuno â Duw, rydyn ni'n gweld nad yw drygioni yn llwybr y gallwn ni ei ddilyn a bod yna ffordd arall sy’n fendigedig, yn hardd, yn dda ac yn wir.

Felly, heddiw, wrth i mi fyfyrio ar yr efengyl hon, mae fy nghalon yn codi. Nid yw’r byd heb ddiben na gobaith. Mae Duw’n fy ngalw i'w ddilyn ac i ymuno mewn gwneud y greadigaeth yn lle y gall pawb berthyn iddo a lle gall y bregus a'r rhai ar y cyrion ganfod cartref y nesaf at y Brenin.

Ysgwn i ai dyna sut ydych chi’n clywed y stori ac a ydych chi hefyd eisiau ymateb iddi?Gras i chi a heddwch oddi wrth Dduw.

Cymraeg

Worship on the Sixth Sunday after Trinity


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Romans 8:12-25

So then, brothers and sisters, we are debtors, not to the flesh, to live according to the flesh— for if you live according to the flesh, you will die; but if by the Spirit you put to death the deeds of the body, you will live. For all who are led by the Spirit of God are children of God. For you did not receive a spirit of slavery to fall back into fear, but you have received a spirit of adoption. When we cry, “Abba! Father!” it is that very Spirit bearing witness with our spirit that we are children of God, and if children, then heirs, heirs of God and joint heirs with Christ—if, in fact, we suffer with him so that we may also be glorified with him.

I consider that the sufferings of this present time are not worth comparing with the glory about to be revealed to us. For the creation waits with eager longing for the revealing of the children of God; for the creation was subjected to futility, not of its own will but by the will of the one who subjected it, in hope that the creation itself will be set free from its bondage to decay and will obtain the freedom of the glory of the children of God. We know that the whole creation has been groaning in labor pains until now; and not only the creation, but we ourselves, who have the first fruits of the Spirit, groan inwardly while we wait for adoption, the redemption of our bodies. For in hope we were saved. Now hope that is seen is not hope. For who hopes for what is seen? But if we hope for what we do not see, we wait for it with patience.


Matthew 13:24-30, 36-43

He put before them another parable: “The kingdom of heaven may be compared to someone who sowed good seed in his field; but while everybody was asleep, an enemy came and sowed weeds among the wheat, and then went away. So when the plants came up and bore grain, then the weeds appeared as well. And the slaves of the householder came and said to him, ‘Master, did you not sow good seed in your field? Where, then, did these weeds come from?’ He answered, ‘An enemy has done this.’ The slaves said to him, ‘Then do you want us to go and gather them?’ But he replied, ‘No; for in gathering the weeds you would uproot the wheat along with them. Let both of them grow together until the harvest; and at harvest time I will tell the reapers, Collect the weeds first and bind them in bundles to be burned, but gather the wheat into my barn.’” 

Then he left the crowds and went into the house. And his disciples approached him, saying, “Explain to us the parable of the weeds of the field.” He answered, “The one who sows the good seed is the Son of Man; the field is the world, and the good seed are the children of the kingdom; the weeds are the children of the evil one, and the enemy who sowed them is the devil; the harvest is the end of the age, and the reapers are angels. Just as the weeds are collected and burned up with fire, so will it be at the end of the age. The Son of Man will send his angels, and they will collect out of his kingdom all causes of sin and all evildoers, and they will throw them into the furnace of fire, where there will be weeping and gnashing of teeth. Then the righteous will shine like the sun in the kingdom of their Father. Let anyone with ears listen!


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

In today’s gospel reading we come face to face with an uncomfortable matter - the reality of evil. Jesus tells a story about someone who sows bad seed among the good which grows up next to it. He doesn’t unpack the main point (but everyone would’ve known where this was going) that weeds are no good for harvesting and eating. They compete with the wheat, inhibiting their growth and flourishing. There’s only one thing to do with weeds and that’s burn them up. But don’t wreck the harvest by pulling them too early. Wait until the right time.

It’s easy to shy away from stories like this because the judgment they describe sounds, well, a bit scary. We might also wonder how on earth Jesus, of all people, ‘gentle Jesus, meek and mild’ could even contemplate such a thing.

How should we read this story do you think? Let’s jump straight in but with a kind of a problem. Christians believe that God is good. In fact, God is all good and all knowing and all powerful. So if there is this thing called evil, what’s going on? Why does God allow it, why doesn’t he simply prevent the bad stuff from happening? Sharpen this up a bit and you’re left with one of 2 conclusions: either God is all good but can’t stop evil or God isn’t all good and chooses not to stop evil. Which is it?

We experience these kinds of dilemmas all the time. When someone we love is dying, perhaps experiencing great pain, we wonder why God doesn’t heal them in the way Jesus did in the gospels? We might plead, implore but we don’t get the answer we want. We see poverty in the world and suffering in children but know we live in a world of abundance and plenty. Why doesn’t God fix the mess?

Christians have wrestled with this issue for millennia. Some have wondered whether evil might ultimately have a purpose? We can’t see what that is now, but one day we might. There is a strain of thought in the Old Testament which goes down that path. Others have said ‘that can’t be right, look at the Holocaust, surely there can’t be any good coming from that horror can there’? And then others have said ‘Well maybe we’re not looking at this properly. Isn’t evil just the absence of good? Good somehow degraded beyond recognition’? But here again, that doesn’t sit easily with what we see in the genocides or suffering, innocent suffering, of many.

The story helps at least a bit. Firstly, it tells us that God really is the Lord over all things. Jesus tells us that judgement shows this. That might be obvious but stop and look at the alternatives. If not it would mean the world is entirely random without any real purpose. In this case, evil might just win the day and the rich and powerful dominate and destroy for their own ends. The judgement of God tells us that ultimate destiny is not random, not in the hands of the powerful or evildoers. There are ‘bookends’ to the story of all life: God is both the author at the beginning and the completer at the end.

It can be hard to live with this when we see what appears to be the presence of the random all around us can’t it? We see people dying still of Coronavirus, others losing jobs and livelihoods, a future that appears uncertain. But this is a for a season and only that. The bigger picture, the Christian story, tells us God has a good plan for the creation, for people and societies.

The story also helps because it invites a response to God. It says the way with God is good and hopeful. Don’t choose what is bleak, dark, foreboding and wrong. Each day and each week we pray this prayer:

Our Father who art in heaven….

And we pray for the coming of the Kingdom where there is no room for evil or wickedness. We make that prayer powerful when we join God in the renewal of life around us. We hear afresh the story of the Good Samaritan and see what life could like when we join in this new thing.

And that’s the wonder of the gospel. It offers us a way through even if it does not explain everything. I do not claim to understand all this story brings nor all that evil entails. But I do hear the word which says, ‘This is the way walk in it’. And when we join God, we see that evil isn’t a path we can follow and that the alternative is blessed, beautiful, good and true.

So today as I reflect on this gospel I take heart. The world is not without purpose or hope. God calls me to follow and to join in making the creation a place where all belong and where the vulnerable and marginalized find a home next to the King.

I wonder if that’s how you hear the story and if you want to respond too? Grace to you and peace from God.