minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion" | "I have called you friends"
English

Addoliad ar Chweched Sul y Pasg 


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Act 10:44-48

Tra oedd Pedr yn dal i lefaru'r pethau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn gwrando'r gair. Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Glân wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd; oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr, “A all unrhyw un wrthod y dŵr i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel ninnau?” A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.


 Ioan 15:9-17

Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i. Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.

“Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn. Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi'n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi'n ei orchymyn ichwi. Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad. Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i. Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Tougher than diamonds, rich like cream, stronger and harder than a bad girl’s dream, make a bad one good, make a wrong one right, power of love that keeps you home at night

Rwy'n credu y galla i ddweud â'm llaw ar fy nghalon nad ydw erioed wedi dyfynnu ‘Huey Lewis and the News’ o'r blaen, ond, mae yna dro cyntaf i bopeth. Ac fel llawer, llawer gormod o ganeuon, thema cariad, wrth gwrs, sy’n ysbrydoli’r gân. Ac fel y rhan fwyaf o ganeuon hefyd, mae’n fwy o ddyhead na realiti.

Ond mae cariad yn un o’n geiriau ni, onid ydyw? Meddyliwch sawl gwaith mae’r Ysgrythur yn cyfeirio at gariad: dyma’r gorchymyn mawr, wrth gwrs. Rydyn ni’n cofio ‘Do, carodd Duw y byd’ (Ioan 3:16). Ac yn ei lythyr cyntaf, mae Ioan yn treulio cryn dipyn o amser yn trafod yr hyn y mae'n ei ystyried yw gwir ystyr cariad. A dyma’r cyd-destun ar gyfer ein darlleniad heddiw. Ac rwy eisiau canolbwyntio ar un adnod yn benodol sy’n dangos fod, beth allwn ni ei alw, grym cariad yn llawer iawn mwy miniog na llawer o’r caneuon rydyn ni’n gyfarwydd â nhw.

A dyma’r adnod: ‘am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu’r byd. Hon yw’r oruchafiaeth a orchfygodd y byd, ein ffydd ni’. Ysgwn i beth oedd Ioan yn ei feddwl wrth ddweud fod ein ffydd yn concro’r byd? Gadewch i mi awgrymu rhai syniadau.

A’r peth cyntaf y dylem ni ei ddweud yw nad oedd Ioan yn golygu fod ffydd yn arf. Does gan goncro'r byd ddim o gwbl i'w wneud â chroesgadau a byddinoedd. Meddyliwch am Sul y Blodau a'r neges sy'n cael ei chyfleu: fe gyrhaeddodd ar asyn i wyrdroi'r disgwyliad o sut beth oedd Meseia o Frenin. Felly, nid yw ffydd yn golygu perswadio unrhyw un i wneud unrhyw beth. Nid gweithred o orfodi, nag o gam-drin, yw ffydd. Ni all ffydd fod fel hyn os oes ystyr mewn gwirionedd i’r thema honno o gariad.

Ie, wel, dyna beth nad yw ffydd, felly beth ydyw?

Tri pheth: Ffydd sy’n goresgyn yw ffydd sy’n gwybod y gwir. Ac yma rydyn ni'n gweld gymaint ydyn ni wedi syrthio a chymaint rydyn ni'n cael ein caru. Mae’r rhain yn sefyll gyda’i gilydd. Ac mae gwybod y ddau dod â rhyddid. Mae yna ryddid mewn gwybod ein bod yn bechadurus ond yn cael ein caru oherwydd, felly, gallwn gael gwared ar bob hunan dwyll ac ymhoniad, pob syniad mawreddog. Anaml y mae gostyngeiddrwydd yn cael ei gyfrif yn rhinwedd. Yn wir, roedd Nietzche o’r farn fod Cristnogaeth yn grefydd ofnadwy oherwydd ei hymlyniad afiach wrth rinweddau o'r fath. Ond nid yw’r hanesion Beiblaidd yn galw arnom ni i ddiraddio ein hunain, ond i ddod i realaeth sy’n cydnabod methiant dynol a’r gwendidau sydd ganddom ni i gyd. Ond mae’n dweud, er hynny, ein bod yn cael ein caru gan y Goruchaf Dduw.

A’r ail beth y mae ffydd yn ei roi i ni yw cred fod cariad yn llwyddo. Yng nghyd-destun y blynyddoedd cynnar hynny pan oedd bod yn Gristion mor beryglus, fe allwn ni golli'r pwynt yma. Nid rhwy syniad bach neis-neis yw cariad. Mae'n llym ac yn gostus. Nid gwaith hawdd yw caru gelynion a’r rhai nad ydyn ni’n eu hoffi, ond dyma sut y mae’r byd yn cael drawsnewid. Rwy wrth fy modd gyda’r hanes sut y gwahoddodd Nelson Mandela y Cadfridog Constand Viljoen, Cadfridog pennaf byddin Affricana, i de, a thywallt y te ei hunan. Os byddwch chi’n ceisio tra-arglwyddiaethu ar bobl eraill, byddwch mewn anghydfod yn dragywydd. Ond mae ffydd sy’n credu mewn ffordd well yn trechu. Rydych chi'n gweld, mae’r grym i faddau ac i adfer mor fawr a grymus ag y gallai fod. Mae’n hollol wrth-reddfol. Ond mor rymus ac yn rhyddhau cymaint.

Mewn gwirionedd, rydyn ni gyd wedi gweld anghydweld ac anghydfod, os ar raddfa ychydig yn llai na Mandela. Fe wyddom ni mor boenus mae’r rhain yn gallu bod. Efallai ein bod ni’n dal i fyw gyda nhw hyd heddiw? Ydyn nhw heb eu datrys ac yn dal i frifo? Allan nhw byth gael eu datrys drwy drais, na thrwy orfodaeth. Dim ond maddeuant sy’n gallu eu goresgyn. Ac mae ffydd sy’n fodlon mentro y tu hwnt i'r muriau rydyn ni wedi'u codi yn ffydd sy'n goresgyn.

Yn olaf, mae ffydd yn ein tynnu i fan lle gallwn ni gerdded trwy ffydd. Nid casgliad caeedig o ddewisiadau sydd ar gael, ond ffordd o lywio trwy fywyd a bod yn agored i Dduw. Nid llyfr o reolau, na gorchmynion i’w cadw yw Cristnogaeth, . Mae’n berthynas lle rydyn ni’n tyfu ac yn dysgu. A gall dilyn Duw, felly, fod yn antur lle rydyn ni'n darganfod pethau newydd ac ymateb iddo Ef a’r byd mewn ffyrdd newydd.

Ysgwn i ai dyna sut rydyn ni’n gweld ein bywyd o ffydd? Tri pheth sy’n ein helpu i ddeall sut mae ffydd yn goresgyn: mae ffydd yn gwybod y gwir, mae ffydd yn ein galluogi i lwyddo mewn rhannau allweddol o fywyd ac, yn olaf, mae ffydd yn agor y ffordd i gerdded gyda Duw i’r dyfodol. 


Cymraeg

Worship on the Sixth Sunday of Easter


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 10:44-48

While Peter was still speaking, the Holy Spirit fell upon all who heard the word. The circumcised believers who had come with Peter were astounded that the gift of the Holy Spirit had been poured out even on the Gentiles, for they heard them speaking in tongues and extolling God. Then Peter said, “Can anyone withhold the water for baptizing these people who have received the Holy Spirit just as we have?” So he ordered them to be baptized in the name of Jesus Christ. Then they invited him to stay for several days.


John 15:9-17

As the Father has loved me, so I have loved you; abide in my love. If you keep my commandments, you will abide in my love, just as I have kept my Father’s commandments and abide in his love. I have said these things to you so that my joy may be in you, and that your joy may be complete.

“This is my commandment, that you love one another as I have loved you. No one has greater love than this, to lay down one’s life for one’s friends. You are my friends if you do what I command you. I do not call you servants any longer, because the servant does not know what the master is doing; but I have called you friends, because I have made known to you everything that I have heard from my Father. You did not choose me but I chose you. And I appointed you to go and bear fruit, fruit that will last, so that the Father will give you whatever you ask him in my name. I am giving you these commands so that you may love one another.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Tougher than diamonds, rich like cream, stronger and harder than a bad girl’s dream, make a bad one good, make a wrong one right, power of love that keeps you home at night

I think I can safely say I’ve never quoted ‘Huey Lewis and the News’ before but there you have it, there’s always a first. And like many, too many songs, it is of course the theme of love which inspires the song. Like most songs too, it’s more aspirational than real.

But love is one of our words isn’t it? Think of how many times the Scriptures refer to love: it’s the great commandment of course. The we remember ‘God so loved the world’ (John 3:16). And in this first letter, John spends a good deal of time unpacking what he considers love is all about. And that’s the context for our reading today. And I want to focus on one verse in particular which draws on, what shall we say, the power of love which is a good deal harder edged than many of the songs we are familiar with.

So to the verse: ‘For whatever is born of God conquers the world. And this is the victory that conquers the world, our faith’. I wonder what John means when he says that our faith conquers the world? Let me suggest a few pointers.

And the first thing we should say is that John does not means faith is a weapon. To conquer the world has nothing to do with crusades and armies. Cast your minds back to Palm Sunday and the message that delivers: he came on a donkey to invert the expectation of what a messiah King was all about. So faith is not about cajoling anyone to do anything. Faith is not a coercing act which feels abusive. Faith cannot be like this if that theme of love has any true meaning.

All good and well, that’s what it isn’t so, what is it?

Three things: Overcoming faith knows the truth. And it’s here we see how fallen we are and how loved we are. These stand together. And knowing both is liberating. There is a freedom in knowing we are sinful but loved because we can abandon all delusions and pretences, all claims to aggrandisement. Humility is rarely considered a virtue. Indeed it was Nietzsche who thought Christianity a dreadful religion because of its sick attachment to such virtues. But the Biblical narrative does not call us to debase ourselves but to a realism that acknowledges human failure and the fault lines we all share. But it tells us we are nonetheless loved by Almighty God.

And the second thing which faith gives us is a belief that love succeeds. In the context of those first years when being a Christian was so hazardous, we might miss the point here. Love is not some quaint notion. It is hard edged and costly. Loving enemies and those whom we dislike is not an easy task but it is the way the world is transformed. I love the story of how Nelson Mandela invited General Constand Viljoen, the leading General of the Africana Army to tea and served the brew himself. If you try to dominate others you will be in conflict forever. But faith which believes in a better way overcomes. You see the power to forgive and to restore is as mighty and powerful as can be. It is utterly counter intuitive. But so powerful and so liberating.

In truth we have all known conflicts and disputes even if on a scale different from Mandela. We have known how painful these are. Perhaps we live with them still today? They are unresolved and painful in an ongoing way? They can never be resolved by force, or by coercion. They can only be overcome by forgiveness. And faith which risks the journey of stepping beyond the battle lines we draw is faith which overcomes.

Lastly faith brings us into the arena where we can walk by faith. It is not a closed book of choices but a way of navigating life with an openness to God. You see Christianity is not a book of rules, a code to follow. It is a relationship in which we grow and learn. And following God can therefore be an adventure in which we discover new things and respond to Him and the world in new ways.

I wonder if that is how we see our life of faith? Three things which help us understand how faith overcomes: faith knows the truth, faith enables us to succeed in key parts of life and lastly faith opens a way of walking with God into the future.