
Addoliad ar Seithfed Sul wedi'r Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Rhufeiniad 8:26-39
Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau, ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.
O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn. Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig:
“Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd.”
Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Mathew 13:31-33, 44-52
A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes. Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.”
Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”
“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.
“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.
“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd. Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn, ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
“A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.” “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Marciau Teyrnas Dduw
Yn y darlleniad o’r efengyl heddiw, mae yna ddywediadau ynghylch Teyrnas Dduw. Fel ym mhob un o ddamhegion Iesu, mae’r dywediadau yn weldedol, bron yn ffotograffig. Byddai pobl wedi eu deall yn iawn. Oherwydd eu bod mor gyfarwydd, roedd yn hawdd i bobl deall beth oedd Iesu'n ei ddweud, o leiaf yn hawdd i’r rhai oedd eisiau deall.
Ac fe hoffwn i edrych ar bedwar marc y Deyrnas sydd yn y dywediadau hyn. Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i’n trafod realiti da a drwg a’r bygythiad sy’n codi ohono, ond ddylen ni byth feddwl fod drygioni'n drech na gras Duw. A dyna’r hyn rydyn ni’n ei weld yn yr efengyl heddiw. Felly, beth yw’r lluniau a’r marciau?
Roedd Iesu’n dweud fod Teyrnas Dduw’n debyg i hedyn mwstard. Fe wyddom ni mai hedyn mwstard yw un o’r hadau lleiaf. Mae’n eithriadol o fach. Ond pan mae’r ‘goeden' fwstard yn ei llawn dwf, gall fod tua 8 metr o uchder. A’r holl dwf hwnnw allan o un hedyn. Sut yn y byd y gall rhywbeth mor fawr ddod o rywbeth mor fach?A dyna, meddai Iesu, sut y mae yn Nheyrnas Dduw:pethau mawr yn tyfu o bethau bach.
Weithiau, pan fyddwn yn sôn am bethau bychain, pan fyddwn yn cofio am ‘gwnewch y pethau bychain’ Dewi Sant, rydyn ni’n anghofio'r cysylltiad gyda Theyrnas Dduw. Rydyn ni’n bodloni ar y bychan ac yn anghofio'r gallu cynhenid i hynny dyfu'n rhywbeth llawer mwy. Mae stori Susannah Wesley'n un o’m ffefrynnau. Cysegrodd Susannah ei bywyd i weddïo, yn aml gyda ffedog dros ei phen i roi peth pellter rhyngddi hi a chartref y teulu. Roedd yn dysgu ei phlant gartref. Ymysg y plant hyn, roedd dau fachgen: John a Charles, dau o Gristnogion mwyaf arwyddocaol y ddeunawfed ganrif. Mae’r stori’n dweud wrthym ni y gallai rhywbeth bychan, rhywbeth efallai na fydden ni hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn bwysig, fod â gallu y tu hwnt i’n dychymyg. Efallai, wrth adrodd stori Wesley, mai Susannah yw'r stori mewn gwirionedd.
Ysgwn i beth yw'r pethau bychain rydyn ni’n eu gwneud a allai fod â mwy o allu i ddod hyd yn oed yn fwy nad ydyn ni’n ei sylweddoli?
Roedd Iesu hefyd yn dweud fod y Deyrnas fel burum, yn tyfu ac ymestyn. Mae’n newid ei amgylchedd ac, fel yr hedyn mwstard, yn cael mwy o effaith na'i hunan. Eto, ffwng syml, un gell yw burum sy’n bwyta siwgr. Dyna’r cyfan. Mae’n cynhyrchu alcohol a CO2 fel sgil gynnyrch, hanfodol ar gyfer bara da. Dyna ddiwedd ar y wers gemeg. Ond y pwynt yw fod cell syml, drwy broses syml, yn gallu newid rhywbeth sy’n dod yn gyfoethog ac yn fendith. Roedd Iesu, cofiwch, yn cyffelybu hyd yn oed ei fywyd ei hun i fara, ac i sefydlu'r cymun.
Mae’n edrych i mi ei bod yn bwysig cael y gymysgedd yn iawn. Dydyn ni ddim i fod i gynnig darnau digyswllt i Dduw. A phan ddaw llawer o bethau da at ei gilydd - ffydd, gobaith, cariad neu weddi a gwasanaeth, yr Ysgrythur a'r Ysbryd, mae rhywbeth newydd yn cael ei eni a'i greu.
Ysgwn i lle gallai pethau ddod at ei gilydd ac uno yn ein heglwysi ac felly greu rhywbeth newydd? A oes yna gymysgedd o rai cynhwysion duwiol yn disgwyl i rywbeth ddigwydd i ryddhau bywyd newydd.
Roedd Iesu hefyd yn cyffelybu’r Deyrnas i drysor ac i berlau, pethau drud, gwerthfawr. A phan fydd y rhain yn dod yn eiddo i ni, rydyn ni’n falch o gael gwared ar bethau eraill, pethau llai o gymharu â’r gemau perffaith rydyn ni wedi’u darganfod. Yn blentyn, fe fyddwn i’n aml yn chwilio mewn mannau lle’r oedd pobl yn byw flynyddoedd maith yn ôl, yn y gobaith, bob tro, o ganfod trysor cudd. Yn ofer, yn anffodus.
Ond, yn ôl y ddeinameg ddynol, rydyn ni’n gwybod ai ni piau’r trysor ai peidio. Pan fyddwn ni’n canfod rhywbeth digymar, heb ei ail, mae pethau eraill yn colli eu gwerth. Felly hefyd gyda Theyrnas Dduw. Pan ddaw’r Deyrnas atom ni, mae pethau llai yn pylu. Ac, yn fy mhrofiad i, does dim yn hoelio mwy o sylw na chanfod Duw yn ein plith, darganfod achosion o ras. Mae’n drawsnewidiol. Beth yw’r hyn sy’n ein codi uwchben diflastod ffydd a allai ddod yn ddiddrwg-ddidda ond ein profiad ni o Dduw?Beth sy’n ddigon i gydio yn ein dychymyg, i alw am egni newydd, ond Duw, wrth ei waith o’n cwmpas?
Mor hawdd fyddai i’n ffydd droi’n ddiflastod ynte?Yr efengyl yn colli ei rhin, dilyn Crist yn dod yn fwrn, nid yn llawenydd. Beth sy’n adfywio eich bywyd ar hyn o bryd – sut mae prydferthwch a gwerth Duw yn torri i mewn?
Ac yn olaf, cyffelybodd Iesu'r Deyrnas i rwyd dal pysgod fawr. Mae'n ymestyn ymhell. Mae yna lawer o bysgod. Weithiau mae pobl yn dweud fod y ffydd weithiau’n cael ei dysgu ac weithiau’n cael ei dal. Rwy’n meddwl fod y ddau yn wir mewn gwirionedd, ond, yma, dyma sut mae’r ffydd yn cael ei dal neu’n hytrach yn dal.
Weithiau mae arnom angen darlun sy’n gweithio fel hyn:rhywbeth sy’n cydio ynom ni ac yn ein dal oherwydd ei fod i’w weld mor bwysig. Ond nid ni’n unig. Rydyn ni’n gweld fod llai’n mynychu addoliad heddiw nag yr hoffen ni. Rydyn ni'n ysgwyd ein pennau wrth weld cyn lleied o bobl ifanc, os o gwbl, sy’n cadw cysylltiad â'r eglwys. Rydyn ni’n pendroni beth sydd o’i le. Ond dywedodd Iesu fod y Deyrnas yn gallu ymestyn yn eang, yn denu llawer.
Ysgwn i a yw Iesu’n cuddio y tu ôl i lawer o’r hyn rydyn ni eu gwneud? Y Deyrnas yr ddeinameg fwyaf gogoneddus ,hardd a grymus yn y byd. Sut allwn ni godi’r caead i ni gael gweld mwy ar ei natur?
Mae'n gwestiwn mawr, ac efallai'n lle da i orffen. Ond dyma ddarn o waith cartref. Sut allai’r marciau hyn, darluniau o’r Deyrnas, ddod yn fyw yn eich eglwys?A sut allwn ni, gyda’n gilydd, godi’r caead oddi ar y Deyrnas a'i gweld yn well?
Mae cariad yn rhoi llygaid newydd i ni weld a chlustiau i wrando. Amen.
Worship on the Seventh Sunday after Trinity
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Romans 8:26-39
Likewise the Spirit helps us in our weakness; for we do not know how to pray as we ought, but that very Spirit intercedes with sighs too deep for words. And God, who searches the heart, knows what is the mind of the Spirit, because the Spirit intercedes for the saints according to the will of God. We know that all things work together for good for those who love God, who are called according to his purpose. For those whom he foreknew he also predestined to be conformed to the image of his Son, in order that he might be the firstborn within a large family. And those whom he predestined he also called; and those whom he called he also justified; and those whom he justified he also glorified.
What then are we to say about these things? If God is for us, who is against us? He who did not withhold his own Son, but gave him up for all of us, will he not with him also give us everything else? Who will bring any charge against God’s elect? It is God who justifies. Who is to condemn? It is Christ Jesus, who died, yes, who was raised, who is at the right hand of God, who indeed intercedes for us. Who will separate us from the love of Christ? Will hardship, or distress, or persecution, or famine, or nakedness, or peril, or sword? As it is written,
“For your sake we are being killed all day long; we are accounted as sheep to be slaughtered.”
No, in all these things we are more than conquerors through him who loved us. For I am convinced that neither death, nor life, nor angels, nor rulers, nor things present, nor things to come, nor powers, nor height, nor depth, nor anything else in all creation, will be able to separate us from the love of God in Christ Jesus our Lord.
Matthew 13:31-33, 44-52
He put before them another parable: “The kingdom of heaven is like a mustard seed that someone took and sowed in his field; it is the smallest of all the seeds, but when it has grown it is the greatest of shrubs and becomes a tree, so that the birds of the air come and make nests in its branches.”
He told them another parable: “The kingdom of heaven is like yeast that a woman took and mixed in with three measures of flour until all of it was leavened.”
“The kingdom of heaven is like treasure hidden in a field, which someone found and hid; then in his joy he goes and sells all that he has and buys that field.
“Again, the kingdom of heaven is like a merchant in search of fine pearls; on finding one pearl of great value, he went and sold all that he had and bought it.
“Again, the kingdom of heaven is like a net that was thrown into the sea and caught fish of every kind; when it was full, they drew it ashore, sat down, and put the good into baskets but threw out the bad. So it will be at the end of the age. The angels will come out and separate the evil from the righteous and throw them into the furnace of fire, where there will be weeping and gnashing of teeth.
“Have you understood all this?” They answered, “Yes.” And he said to them, “Therefore every scribe who has been trained for the kingdom of heaven is like the master of a household who brings out of his treasure what is new and what is old.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
Marks of the Kingdom of God
In today’s gospel reading we find sayings about the Kingdom of God. As with all Jesus’ parables the sayings are visual, almost photographic. People would have understood these well. Because they were so familiar, it was easy to get a handle on what Jesus was saying at least to those who wanted to understand.
And I want us to look at 4 marks of the Kingdom that sit within these sayings. Last week I spoke about the reality of evil and the threat it represents but we must never imagine that evil is stronger than the grace of God. And that is what we see in today’s gospel. So, what are the pictures and marks?
Jesus likened the Kingdom of God to a mustard seed. We know the mustard seed is one of the smallest of seeds. It’s really tiny. But when the mustard ‘tree’ is fully grown, it can reach somewhere around 8 metres high. All that growth from one seed. How on earth can something so big come from something so small? And Jesus said this is how it is with the Kingdom of God: great things from small beginnings.
Sometimes when we talk about small things, when we remember Dewi Sant’s ‘do the small things’, we forget the connection with the Kingdom of God. We content ourselves with the tiny and forget the inbuilt capacity for that to become so much greater. The story of Susannah Wesley is one of my favourites. Susannah made it her life to pray, often with an apron over her head to give some distance between her and the family home. She home schooled her children. Among those children were two boys: John and Charles, two of the most significant Christians of the C18th. The story tells us that something small, which we might not even see as important, can have a capacity beyond our imagination. Perhaps in the telling of the Wesley’s, it’s Susannah who is the real story.
I wonder what are the small things we are doing which might have a greater capacity than we’ve seen to become greater still?
Jesus also said the Kingdom was like yeast which grew and expanded. It changes its environment and like the mustard seed has an impact greater than itself. And yet yeast is a basic, single cell fungus which eats sugar. That’s all. It produces alcohol and CO2 as a by-product, crucial for good bread. Chemistry lesson over. But the point is that a simple cell, by a simple process can change something so that it is rich and blessing. Jesus, remember used bread by which to liken his very life and to institute the communion.
Getting the mix right seems to me important. We aren’t meant to offer God isolated fragments. And when many good things come together – faith, hope, love or prayer and service, Scripture and the Spirit, something new is born and created.
I wonder where things can come together in our churches which blend and thereby create something new? Is there a mix of some godly ingredients waiting to happen to release new life?
Jesus also likened the Kingdom to treasure and to pearls. things of worth, precious, valuable. And when these become ours, we are glad to offload other things, lesser things in view of the matchless jewels we’ve found. As a child I would often scout an area known to have been inhabited by settlers many years before, always in the hope of finding buried treasure. Alas to no avail.
But the human dynamic is one we know whether treasure is ours or not. When we find something peerless, without equal, other things lose their value. So it is with the Kingdom of God. When the Kingdom comes to us, lesser things fade. And in my experience there is nothing more captivating that finding God in our midst, discovering instances of grace. It is transformative. What is it that lifts us above the drudgery of faith that could become mundane if not us experiencing God? What is there sufficient to grasp our imagination, call forth new energy, if not God at work around us?
We can easily become stale in our faith can’t we? The gospel loses its appeal, following Christ becomes a task not a joy. What is refreshing your life at the moment – how is the beauty and worth of God breaking in?
And lastly Jesus likened the Kingdom to a great net which catches fish. It has a wide reach. There are many fish. Sometimes people say that faith is taught and sometimes it is caught. I think both are true actually but here it’s how the Kingdom is caught or rather catches.
Sometimes we need a picture which works like this: something which grips us and holds us because it seems so important. But not us only. We see that fewer attend worship today than we would like. We shake our heads as we see few, if any, younger people connecting to church. We wonder what’s wrong. But Jesus said the Kingdom had this wide reach, attracting many.
I wonder if Jesus is hidden behind many of the things we do? The Kingdom is the most wonderful, beautiful powerful dynamic in the world. How can we take the cover off and let its nature be more visible in us?
That’s a big question and a good place to end perhaps. But with a piece of homework. How can these marks, pictures of the Kingdom, come to life in your church? And how can we together take the lid off so the Kingdom might be better seen?
Lord give us new eyes to see and ears to hear. Amen.