minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu" | "You are my Son, the Beloved; with you I am well pleased"
English

Addoliad ar Ŵyl Bedydd Crist


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Act 19:1-7

Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion, a gofynnodd iddynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.” Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.” Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.” Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu, a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo. Yr oedd tua deuddeg ohonynt i gyd.


Marc 1:4-11

Ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”

Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Argyfwng – pa argyfwng?

Ym 1979, bathodd newyddiadurwr ddywediad a oedd, o bosibl, yn fwy cyfrifol nag unrhyw beth arall am ddymchwel llywodraeth yr adeg hynny. Yn ystod y ‘winter of discontent’ honedig, pentyrrodd nifer o broblemau ar ben ei gilydd, yn enwedig y gwarchae tanwydd a’r teimlad mai Prydain oedd 'dyn sâl' Ewrop. Mae’r rhai ohonom sy’n ddigon hen i gofio’r cyfnod hwnnw, hefyd yn cofio’r protestiadau, rhai oedd yn troi’n hyll.

Ni ddywedodd yr un gwleidydd ‘Crisis – what crisis?’ y pryd hwnnw ond cydiodd y sylw yn y dychymyg a chrisialu'r synnwyr fod argyfwng yn cael ei anwybyddu a'i fychanu. Mae’n ymateb hawdd i bwysau: naill ai ei anwybyddu, ei fychanu neu fynd heibio iddo’n gyflym gan obeithio troi’r stori. Mae’n siŵr ein bod ni i gyd wedi ymateb fel hyn i bwysau : troi’r stori, bychanu’r broblem neu, hyd yn oed, fel yr estrys, roi ein pen yn y tywod. Efallai eich bod yn gyfarwydd â’r dywediad Saesneg: 'fight, flight or fright’ sy’n ymateb gwael i drwbl.

Ac felly, heddiw, ar ddechrau’r flwyddyn hon, wrth i ni wynebu cyfnod pellach o gyfyngu a gwahardd, rwy’n meddwl eto sut gallwn ymateb i’r her ddiweddaraf sy’n ein hwynebu? Sut allwn ni gadw ein synnwyr o bwrpas ac o werth, sut allwn ni ganolbwyntio ac, yr un pryd, deimlo a chadw’n saff ac yn ddiogel mewn gwirionedd? | Ai’r unig ddewis sydd ar ôl yw anwybyddu’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas (Argyfwng? Pa argyfwng?) neu oes yna ffordd well o fynd o gwmpas pethau? Wrth gwrs, rwyf eisiau tynnu ar wersi o’r Ysgrythurau , ond hefyd fe hoffwn i ystyried y penderfyniadau rydym ni’n eu cymryd pob dydd, y rhai mai ni ein hunain sy’n gyfan gwbl gyfrifol amdanyn nhw.

Fy man cychwyn yw geiriau Iesu i'w ddisgyblion: Ym Mathew 6 mae Iesu’n gwahodd gwahanol ffordd o weddïo. Ddylem ni ddim ‘pentyrru geiriau fel y mae'r Paganiaid yn ei wneud' oherwydd 'y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau'. Ddylem ni ddim ‘bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion. (Mathew 6: 7-8). Ac ychydig yn ddiweddarach mae’n dweud na ddylai’i ddisgyblion boeni am fywyd, am beth i’w fwyta na’i yfed, am y corff nac am beth i’w wisgo. Gofynnodd ‘Onid oes rhagor i einioes dyn na lluniaeth, a rhagor i'w gorff na dillad? ‘Edrychwch ar adar yr awyr, nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy? (a 26).

Yr hyn y mae Iesu’n ei wahodd yw ffordd o ddeall ac o ymddiried yn Nuw. Mae’n cymharu’r byd naturiol o’i gwmpas â Duw. Ond nid yw’r gymhariaeth yn berffaith: mae’r rhyfeddodau hyn yn nhrefn y greadigaeth (adar neu caeau) yn dangos gymaint yn sicrach yw'r rhai sy'n ymddiried yn Nuw. Ac rydyn ni hefyd yn cael ein galw i gofleidio’r persbectif hwn hefyd. Mae yna ffordd o fyw lle mai dim ond rhan fechan iawn y mae ffydd yn chwarae ym mywyd y Cristion. Mae’n hawdd adrodd y credo ond mae wynebu heriau neu argyfyngau personol yn rhywbeth cwbl wahanol. Efallai mai ofn yw’r peth pennaf? Neu ansicrwydd? Neu bod ein bywyd yn cael ei reoli gan gysgodion o’r gorffennol sy’n pwyo’n rhy drwm arnom?

Mae yna stori am aderyn ysglyfaethus mawr, ysblennydd yn cael ei gadw mewn sŵ. Torrodd pobl i mewn i ryddhau’r creadur ond fe’u lloriwyd pan wrthododd yn glir â dianc. Hyd yn oed pan oedd y drws led y pen ar agor iddo a rhyddid o flaen ei lygaid, roedd wedi arfer cymaint â chrwydro mewn cadwyni o gwmpas ei gawell fel na allai ddirnad unrhyw beth newydd, y tu hwnt i hynny. Roedd yn cael ei garcharu gymaint gan ei feddwl â chan ei gell.

Tybed a yw’r cyfnod hwn o gael ein gwahanu oddi wrth ein gilydd yn gyfle i ystyried o’r newydd sut ydyn ni’n edrych ar y byd, ein persbectif ehangach? Rwy’n siŵr ein bod wedi gobeithio y byddem ni, erbyn hyn, wedi symud y tu hwnt i fwy a mwy o fyfyrio ond rydyn ni’n dal ag amser ar ein dwylo, ac mae hynny'n gallu bod yn gyfle i dyfu, i ganfod ffordd gwahanol o edrych ar fywyd, Duw a ni'n hunain?

Yr ail beth rwyf eisiau ei annog yw dyfalbarhad o’r newydd. A dyma’r lle’r hoffwn i sôn am weddi. Yn yr un darn ym Mathew, mae Iesu’n cymeradwyo gweddi newydd rydym ni’n ei galw’n Weddi’r Arglwydd. Ac mae nifer o bethau’n cael eu dal gyda’i gilydd yn y weddi, megis addoli, ymbil a maddeuant. Mae’n dechrau drwy ganolbwyntio ar Dduw, ar ewyllys a Theyrnas Duw, cyn troi at anghenion a phryderon dynol. Ond nid rhyw fath o lafarganu yw gweddi fel hyn: nid yr adrodd sy’n bwysig ond cadw pob un o’r darnau yn ein meddyliau a’n heneidiau ni ein hunain. Mae paratoi gweddi fel hyn yn cymryd amser ac ymarfer, yn debyg i ddysgu offeryn cerdd neu sgil newydd. Ai dyma batrwm eich gweddi chi, ac ydych yn cadw ato’n rheolaidd?

Un o’r ymatebion mwyaf naturiol i heriau fel y rhain yw mynd i ganlyn y llif. Daw gweddi’n gefnder pell sy’n anfon cerdyn Nadolig ond nad ydym byth, braidd, yn ei weld. Ac mae mynd i ganlyn y llif yn cynhyrchu pellter, yn creu gwacter. Nid yw hunan ynysu oddi wrth Dduw yn mynd i’n helpu i aros yn sefydlog a theimlo’n ddiogel os yw’r byd y tu allan yn dal yn galed. A dyna pam rwyf eisiau annog dyfalbarhad mewn gweddi ar adeg fel hyn. Gweddïwch gydag eraill, gweddïwch gyda’r teulu, gweddïwch gyda chydweithwyr, gweddïwch gyda’r Beibl (a nodiadau) a gweddïwch ar eich pen eich hun. Darganfod y trysorau sydd heb eu canfod, cerdded yn nes at ôl troed Duw.

Felly, dyma ni eto yn 2021, mewn lle tebyg i ble’r oedden ni yng Ngwanwyn 2020. Mae’r heriau’n dal yn debyg iawn i’r rhai oedd o’n blaenau’r adeg hynny. Ond dydyn ni ddim yn ddiymadferth. Mae ymarfer ffydd yn beth bwriadol. Rwyf wedi awgrymu heddiw fod dwy agwedd ar hyn yn achub bywydau: persbectif a dyfalbarhad. Mae un ynghylch sut rydym ni’n gweld ein hunain, nid wedi’i llethu gan ofn na phryder ond yn cael ein cadw yn niogelwch cariad Duw. Mae’r llall ynghylch sut rydym ni’n pwyso ar Dduw ac yn dysgu’r arfer o weddïo i’n cynnal a’n nerthu. Nid rhain yw’r yr unig sgiliau bywyd rydym eu hangen ond, ar ddechrau 2021, maen nhw’n ymddangos yn briodol.

+Andy

Cymraeg

Worship on the Feast of the Baptism of Christ


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 19:1-7

While Apollos was in Corinth, Paul passed through the inland regions and came to Ephesus, where he found some disciples. He said to them, ‘Did you receive the Holy Spirit when you became believers?’ They replied, ‘No, we have not even heard that there is a Holy Spirit.’ Then he said, ‘Into what then were you baptized?’ They answered, ‘Into John’s baptism.’Paul said, ‘John baptized with the baptism of repentance, telling the people to believe in the one who was to come after him, that is, in Jesus.’On hearing this, they were baptized in the name of the Lord Jesus. When Paul had laid his hands on them, the Holy Spirit came upon them, and they spoke in tongues and prophesied— altogether there were about twelve of them.


Mark 1:4-11

John the baptizer appeared in the wilderness, proclaiming a baptism of repentance for the forgiveness of sins. And people from the whole Judean countryside and all the people of Jerusalem were going out to him, and were baptized by him in the river Jordan, confessing their sins. Now John was clothed with camel’s hair, with a leather belt around his waist, and he ate locusts and wild honey. He proclaimed, ‘The one who is more powerful than I is coming after me; I am not worthy to stoop down and untie the thong of his sandals. I have baptized you with water; but he will baptize you with the Holy Spirit.’

In those days Jesus came from Nazareth of Galilee and was baptized by John in the Jordan. And just as he was coming up out of the water, he saw the heavens torn apart and the Spirit descending like a dove on him. And a voice came from heaven, ‘You are my Son, the Beloved; with you I am well pleased.’


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Crisis – what crisis?

In 1979, a journalist coined a phrase that was, possibly, more responsible for bringing down the government of the time than anything else. The ‘so-called’ winter of discontent brought a number of challenges to a head not least the fuel blockade and sense that Britain had become the ‘sick man’ of Europe. Those of us young enough to remember that time remember the protests too, some of which turned ugly.

The phrase ‘Crisis – what crisis?’ was never uttered by a politician at the time but captured the sense of a crisis being ignored and minimized. It’s an easy response to pressure: either to disregard it, to minimize it or to pass over it too quickly in the hope the agenda will move on. We might have all responded to pressures like this ourselves: we want the focus of attention to be elsewhere, the problem to be less pressing and problematic or we might even, like the ostrich, simply put our head in the sand. You might be familiar with the phrase: fight, flight or fright as ways of responding badly to trouble.

And so today at the start of this year as we face seemingly a further period of restriction and inhibition, I’m wondering afresh how we respond to the latest challenge we face? How do we retain a sense of purpose, of value and focus and at the same time both feel and indeed remain safe and secure? Are we left with choices which look rather like the attempts to ignore what is taking place around us (Crisis? What crisis?) or is there a way of navigating this terrain well? And I want to draw on lessons from the Scriptures of course but root the issues in the decisions we make each day for which we are entirely responsible.

And my starting point are the words of Jesus to his disciples: In Matthew 6 Jesus invites a different way of praying. We are not to ‘heap up empty phrases as the Gentiles do’ because ‘they think that they will be heard because of their many words’. We should ‘not be like them, for your Father knows what you need before you ask him’ (Matt 6:7-8). A little later he would say his disciples should not worry about life, what to eat or what to drink or about the body, what to wear. He asked ‘Is not life more than food, and the body more than clothing? Look at the birds of the air; they neither sow nor reap nor gather into barns, and yet your heavenly Father feeds them. Are you not of more value than they?’ (v 26).

What Jesus is inviting is a way of understanding and trusting God. He draws from the natural world around him to make comparisons with God. But the comparison is not exact: these wonders of order in creation (birds or fields) show how much more secure are those who trust in God. And this perspective is one we are called to embrace too. There is a way of living in which faith plays a very small part in the Christian’s life. It easy to recite a creed but something quite different when we face personal challenges or crises. Perhaps fear is more dominant? Or insecurity? Or we live controlled by agendas from our past which have too strong a hold upon us?

A story is told of a large, grand but caged bird of prey held captive in a zoo. Saboteurs broke in to release the creature from its prison but were foiled when they were unable to coax it out. You see, even with the door open and freedom starring it in the face, it had become so used to wandering around the perimeter of the cage, chained up, that anything beyond or new could not compute. The bird remained a prisoner as much of its mind as its surroundings.

I wonder if this time apart from each other, provides an opportunity for thinking again about our world view, our wider perspective? I’m sure we had hoped to have moved beyond yet more reflection by now but time is thrust upon us again and this can be an occasion for growth - for putting on a different way of seeing life, God and ourselves?

The second thing is I want to urge a new perseverance. And I want to speak about prayer here. In that same passage, Jesus commended a new prayer which we call The Lord’s Prayer. And the prayer holds a number of things together like worship, intercession and forgiveness. It starts with a focus on God, God’s will and Kingdom before it turns to human need and concerns. But prayer like this isn’t some sort of incantation: when we say it, the recital is less important than holding each of the parts and owning them in our own minds and soul. Crafting prayer like this takes time and practice like learning a musical instrument or a new skill. Is this is the pattern then of your own praying and do you hold to it regularly?

One of the most natural responses to challenges like ours, is to drift. Prayer becomes like a distant cousin with whom we connect at Christmas but whom we seldom see. And drift, producing distance, creates a void. Any self-imposed absence from God isn’t going to help us remain stable and feel secure if the outside world is looking tough. And that’s why I want to commend perseverance in prayer at this time. Pray with others, pray with family, pray with colleagues, pray with Bible (and notes) and pray on your own. Discover that there are treasures still to be found, a closer walk with God to be forged.

So here we are again in 2021 much as found ourselves in Spring 2020. The challenges seem much now as they were then. But we are not helpless. The practice of faith is intentional. And I’ve suggested today that two of them are lifesavers: perspective and perseverance. One is about the way we see ourselves, not dominated by fear or worry but held in the security of God’s love. The other is about the way we lean on God and learn a habit of praying to sustain and strengthen us. These are not the only life skills we need but at the start of 2021, they seem appropriate.

+Andy