minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Y gobaith sy'n ymhlyg yng ngalwad Duw" | "The hope to which God has called you"
English

Addoliad ar Ŵyl Crist y Brenin


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Effesiaid 1:15-23

Am hynny, o'r pryd y clywais am y ffydd sydd gennych yn yr Arglwydd Iesu, ac am eich cariad tuag at yr holl saint, nid wyf fi wedi peidio â diolch amdanoch, gan eich galw i gof yn fy ngweddïau. A'm gweddi yw, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roi i chwi, yn eich adnabyddiaeth ohono ef, yr Ysbryd sy'n rhoi doethineb a datguddiad. Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a'ch dwyn i wybod beth yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae'n ei rhoi i chwi ymhlith y saint, a beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o'n plaid ni sy'n credu, y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, ymhell uwchlaw pob tywysogaeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod. Darostyngodd Duw bob peth dan ei draed ef, a rhoddodd ef yn ben ar bob peth i'r eglwys; yr eglwys hon yw ei gorff ef, a chyflawniad yr hwn sy'n cael ei gyflawni ym mhob peth a thrwy bob peth.


Mathew 25:31-46

“Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’ Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti? A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’ A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’

“Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion. Bûm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bûm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi; bûm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’ Yna atebant hwythau: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?’ A bydd ef yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio â'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’ Ac fe â'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Yn fy myfyrdod yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i’n sôn am eiriau Paul at y Thesaloniaid: ’Oherwydd nid i ddigofaint y bwriadodd Duw ni’ a sut y mae gofyn i ni ddeall mai prif ymateb Duw i ni yw un o gariad. Daeth Crist i faddau i bechaduriaid ac i'n hadfer ni i berthynas iawn.

Heddiw, efallai y bydd hi’n rywfaint o sioc darllen dameg y Defaid a’r Geifr yn efengyl Mathew a chlywed am y gosbedigaeth o dân a barn dragwyddol, sy’n ymddangos yn giaidd. Un o fy hoff luniau yw un gan Caravaggio lle mae’r olygfa sy'n gael ei galw'n y 'cyfiawn', hynny yw, lle mae'n dangos y rhai sy'n gwneud pob math o bethau da. Ond, nid yw'r 'Saith Weithred o Drugaredd' yn sôn am y rhai nad ydyn nhw'n gwneud fawr ddim i weini ar y cleifion, yr anghenus a'r rhai sy'n marw, felly a yw hyn yn ystumio’r stori yn y Beibl?

Heddiw, fe hoffwn i feddwl am y ddameg hon a chynnig rhai syniadau ynghylch sut rwy'n ei gweld.

Ac fe hoffwn i ddechrau yn y dechrau gyda’r pethau cyntaf yn gyntaf. Stori yw hon nad yw'n troi'r cyfan o'r Testament Newydd a'i ben i waered. A, thrwy hynny, rwy’n golygu nad yw’n ein dysgu ein bod yn gallu ‘mynd yno’ drwy weithredoedd da. Byddai hynny’n gwagio’r efengyl o’i holl ystyr. Byddai’n gwneud gras Duw’n rhywbeth heblaw rhodd rhad ac yn gwneud ei gariad yn amodol ar ein hymdrechion ni ein hunain. A dydw i ddim yn meddwl mai dyna oedd Iesu’n bwriadu ei ddweud. Felly, gadewch i ni fod yn glir ynghylch hyn, o leiaf: Mae’r ffydd Gristnogol, yn gyntaf ac yn bennaf, ynghylch sut y mae Duw'n ymestyn allan atom ni yn Iesu. Y gwir yw ein bod ar goll heb Dduw, ond gyda chariad, fel y bugail yn chwilio am ei ddefaid, mae Duw wedi dod atom ni, wedi'n canfod ac wedi dod â ni adref.

Beth, felly, mae’r ddameg yn ei gynnig? Llawer o bethau, rwy’n meddwl. Yn gyntaf, ydych chi wedi sylwi gymaint oedd y 'cyfiawn' yn ryfeddu pan oedd Iesu'n eu cymeradwyo am weithredu eu ffydd? Mae fel pe byddai mor naturiol ag anadlu eu bod yn byw fel yr oedd Crist yn byw. Mae eu ffydd a’u bywyd yn un, fel pe byddai gwneud y peth ‘iawn’ yn estyniad o’r hyn ydyn nhw. Mewn geiriau eraill, mae eu gweithredoedd yn codi o ffydd a bywyd sydd wedi’u gwreiddio'n sefydlog yng Nghrist. Wedi uno ag ef ,maen nhw’n dod yn debyg iddo ef yn ei feddyliau, greddfau a gweithredoedd. Byddai gwneud yn wahanol yn groes i’w natur ac i’w ffydd.

Wrth gwrs, gallai hynny swnio’n ddelfrydol yn y ffordd na allai’r un ohonom byth hawlio nad ydyn ni’n hunanol. Rydyn ni’n dal i frwydro yn erbyn ‘Adda’ ac yn adnabod ein gwendidau. O’i roi mewn ffordd arall, rydyn ni’n ymwybodol ein bod yn dal yn ‘waith ar y gweill’ a bod yna lawer i’w wneud. Ond mae cyfeiriad y daith hefyd yn bwysig. Rydyn ni’n cael ein ffurfio gan Ysbryd Duw i ddod yn fwy fel Iesu fel y gellir gweld bywyd Iesu ynom ni.

Os yw’r hyn rwyf wedi'i ddweud yn wir ynghylch y rhai sy’n gwneud yr hyn y byddai Crist yn ei wneud, yna mae’n wir hefyd am y rhai nad ydyn nhw. Yn ail, felly, beth sy’n cael ei ddangos i ni yn y ddameg yw rhai sydd wedi ymgolli gymaint ynddyn nhw eu hunain fel na allan nhw weld anghenion y rhai o'u cwmpas Nid yn unig maen nhw’n anwybyddu, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn sylwi, achos dim ond un peth sy’n bwysig iddyn nhw: nhw eu hunain.

Yn un arall o luniau Caravaggio’s ‘Galwad Sant Mathew’ rydyn ni’n gweld Iesu’n ymddangos fel Goleuni’r Byd o ochr dde'r llun. Ond yn ymuno â Mathew wrth y bwrdd mae rhai eraill yn yr hanner tywyllwch (sy’n arwyddocaol ynddo’i hun). Mae gan un o’r ffigurau, Mathew ei hunan, efallai, bâr o sbectols ar flaen ei drwyn. Mae’n edrych yn eithaf doniol. Ond, yn ei gwman wrth y bwrdd, yn cyfrif ei geiniogau a’i sbectols ar flaen ei drwyn, mae hefyd yn ffigwr o dosturi. Nid yw’n gallu gweld y pethau sydd o’i flaen. Yr eironi yw, er ei fod yn gwisgo sbectol, nad yw'n gallu gweld heibio blaen ei drwyn, lle mae Crist yn sefyll o'i flaen, wrth gwrs. A chan ei fod wedi’i lygad dynnu’n llwyr gan ei arian, nid yw'n gallu amgyffred y pethau eraill sydd o'i gwmpas.

Mae ‘diwedd’ y ddau grŵp hyn yn dra gwahanol ac mae hyn wedi poeni llawer drwy’r oesoedd. Bod y rhai sy’n gwneud y pethau iawn yn mwynhau bywyd tragwyddol ond beth am y rhai nad ydyn nhw? Wel, fe ddylen ni fod yn ofalus, wrth gwrs, a pheidio adeiladu unrhyw beth ar sail un ddameg. Ac, yn bwysicach byth, stori yw’r hanes nid am farn yn gymaint â statws y rhai sy’n cael eu disgrifio: i rai, mae Crist yn eu calonnau ac yn eu bywydau. Mae eraill wedi caledu yn erbyn trugaredd a charedigrwydd.

Ond a yw barn yn real mewn unrhyw fodd heblaw hyn? Mewn geiriau eraill, oes yna unrhyw beth mwy nad dim ond rhybudd yma? Rwyf i wedi dod i gredu fod Crist yn dyheu i ni ddeall ei gariad bob amser ac i gadw'r gobaith y bydd pobl yn newid. Ond, os yw pobl yn dewis y tywyllwch, yn gwrthod yn glir â dod i’r goleuni, a fyddai Duw’n gorfodi’r fath beth? A fyddai Crist yn gorfodi rhywun yn erbyn ei ewyllys i dderbyn y gwahoddiad i ddod i mewn. Dydw i ddim yn siŵr a fyddai, oherwydd, os yw cariad yn cael ei gynnig yn rhydd, mae’n rhaid iddo gael ei dderbyn yn rhydd hefyd. Mae hyn yn rhan o natur cariad.

Fe ddechreuais i drwy gyfeirio at fyfyrdod yr wythnos ddiwethaf. ’Oherwydd nid i ddigofaint y bwriadodd Duw ni’. Mae myfyrdod heddiw yn taro tant gwahanol ond mae'n cyd-fynd â'r hyn oeddwn i'n ei ddweud yr wythnos ddiwethaf. Oherwydd, yn ei hanfod, gwahoddiad yw’r stori heddiw. Gwahoddiad i ddod i berthyn i Grist, mewn ffordd drawsffurfiol, lle mae ffydd yn cael ei weld a'i fynegi, lle mae pethau da'n naturiol a hyd yn oed fendithion yn dod i'r rhai sy'n eu cynnig. Mae’n weledigaeth o Deyrnas Dduw, lle mae’r newynog yn cael eu bwydo, y cleifion yn cael eu hiachau a’r rhai unig yn cael eu tynnu i mewn. Ac onid am hyn ydyn ni’n dyheu, yn gweithio ac yn llafurio amdano? Gweld cariad Crist yn cael ei fynegi o'n cwmpas ni ac ynom ni. Gweddïwn y byddwn yn cael ein ysbrydoli i droi ffydd yn weithred ein hunain. Amen

Cymraeg

Worship on the Feast of Christ the King


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Ephesians 1:15-23

I have heard of your faith in the Lord Jesus and your love towards all the saints, and for this reason I do not cease to give thanks for you as I remember you in my prayers. I pray that the God of our Lord Jesus Christ, the Father of glory, may give you a spirit of wisdom and revelation as you come to know him, so that, with the eyes of your heart enlightened, you may know what is the hope to which he has called you, what are the riches of his glorious inheritance among the saints, and what is the immeasurable greatness of his power for us who believe, according to the working of his great power. God put this power to work in Christ when he raised him from the dead and seated him at his right hand in the heavenly places, far above all rule and authority and power and dominion, and above every name that is named, not only in this age but also in the age to come. And he has put all things under his feet and has made him the head over all things for the church, which is his body, the fullness of him who fills all in all.


Matthew 25:31-46

‘When the Son of Man comes in his glory, and all the angels with him, then he will sit on the throne of his glory. All the nations will be gathered before him, and he will separate people one from another as a shepherd separates the sheep from the goats, and he will put the sheep at his right hand and the goats at the left. Then the king will say to those at his right hand, “Come, you that are blessed by my Father, inherit the kingdom prepared for you from the foundation of the world; for I was hungry and you gave me food, I was thirsty and you gave me something to drink, I was a stranger and you welcomed me, I was naked and you gave me clothing, I was sick and you took care of me, I was in prison and you visited me.” Then the righteous will answer him, “Lord, when was it that we saw you hungry and gave you food, or thirsty and gave you something to drink? And when was it that we saw you a stranger and welcomed you, or naked and gave you clothing? And when was it that we saw you sick or in prison and visited you?” And the king will answer them, “Truly I tell you, just as you did it to one of the least of these who are members of my family, you did it to me.” Then he will say to those at his left hand, “You that are accursed, depart from me into the eternal fire prepared for the devil and his angels; for I was hungry and you gave me no food, I was thirsty and you gave me nothing to drink, I was a stranger and you did not welcome me, naked and you did not give me clothing, sick and in prison and you did not visit me.” Then they also will answer, “Lord, when was it that we saw you hungry or thirsty or a stranger or naked or sick or in prison, and did not take care of you?” Then he will answer them, “Truly I tell you, just as you did not do it to one of the least of these, you did not do it to me.” And these will go away into eternal punishment, but the righteous into eternal life.’


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

In my meditation last week I spoke about Paul’s words to the Thessalonians: God has not ‘destined us for wrath’ and how we need to understand that’s God’s primary response to us is one of love: Christ came to forgive sinners and to restore us to a right relationship.

Today it might therefore be something of a shock to read the parable of the Sheep and the Goats in Matthew’s gospel and hear about eternal fire and punishment and a judgement who seems brutal. One of my favourite paintings by Caravaggio has the scene depicted by the ‘righteous’, that is, those who do all manner of good things as its subject. The ‘Seven Acts of Mercy’ however doesn’t take account of those who do little to minister to the sick, needy and dying so is it a distortion of the Biblical story?

Today I want to think about this parable and offer some thoughts on how I read it.

And I want to begin with first things first. This is a story which does not turn the whole of the New testament on its head. And by that I mean it does not teach us that we ‘get there’ by good deeds. That would be to empty the gospel of all its meaning. It would make god’s grace into something other than a free gift and make his love conditional on our efforts. And I don’t believe that is what Jesus intended to say. So let us be clear about this at least: The Christian faith is firstly and critically about the way God reaches out to us in Jesus. It’s the truth that we are lost without God but in love, like a shepherd searching for sheep, God has come to us and found us and brought us home.

What then is the parable offering? A number of things I think. Firstly have you noticed how surprised the ‘righteous’ are when Jesus commends their faith in action? It’s as though it is as natural as breathing that they live as Christ lived. Their faith and life are all of a piece so that doing the ‘right’ thing is an extension of who they are. In other words their actions proceed from a faith and a life which is rooted and grounded in Christ. Joined to him they become like him in his thoughts, instincts and actions. To do otherwise would eb contrary to their nature and faith.

Of course that might sound like an ideal in the sense that none of us could ever claim we are not selfish. We struggle still with ‘Adam’ and know our weaknesses. Put in a different way, we are conscious that we are still a ‘work in progress’ and there is a lot to do. But the direction of travel is important: we are being shaped by God’s Spirit to become more like Jesus so that the life of Jesus can be seen within us.

If what I have said is true for those who do the things Christ would do, then it is also true for those who do not. Secondly therefore what is offered to us in the parable is of those who are so self-absorbed, that they cannot see the needs of others around them. They not only ignore, they do not even notice because they have only one sphere of interest: themselves.

In another of Caravaggio’s paintings ‘The call of St Matthew’ we see Jesus appearing as the Light of the World from the right of the painting. But joining Matthew at the table are others in semi darkness (that’s significant in itself). One of the figures, perhaps Matthew himself has a pair of spectacles perched on the end of his nose. He cuts a humorous picture. But hunched over the table, hoarding his coins with his specs on the end of his nose, he is also a figure of pity. He cannot see beyond the things in front of him. The irony is that even as he wears glasses, he is blind to the big issue which is Christ before him of course. And because he is utterly absorbed by his money, he is incapable of relating to other things around him.

The ‘end’ of these two groups if you like is quite different and this has troubled many across the ages. Those who do the right things enjoy eternal life but what of those who do not? Well, we ought to be cautious about building anything on the basis of one parable for sure. And most importantly of all the story is not about judgement so much as the status of those described: some own Christ in their hearts and lives. Others are impervious to compassion and kindness.

But is judgment real in any sense beyond this? In other words, do we have something more than just a warning here? I’ve come to believe that Christ longs for us always to know his love and to keep alive the possibility of humans turning. But surely if people choose darkness, refuse steadfastly to come into the light, would God force such a thing? Would Christ compel against anyone’s wishes the invitation to come in? I’m not sure he would because if love is freely offered, love must be freely accepted too. That is part of love’s nature.

I begin by referencing last week’s meditation: ‘God has not destined us for wrath’. Today’s meditation strikes a different note but is at one with what I said last week. Because essentially the story today is an invitation. It’s an invitation to belong to Christ in a way that is transformative, where faith is seen and expressed; where good things are natural and even blessing to those who offer them. It’s a vision of the Kingdom of God in which the hungry are fed, the sick healed and the lonely drawn in. And surely, it’s tis for which we long, we labour and work? To see Christ’s love expressed around us and in us. Pray we might be inspired to turn faith into action ourselves. Amen