minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus" | "So we will be with the Lord for ever"
English

Addoliad ar Sul y Cofio


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Thesaloniaid 4:13-18

Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith. Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â'r rhai a hunodd drwy Iesu.

Hyn yr ydym yn ei ddweud wrthych ar air yr Arglwydd: ni fyddwn ni, y rhai byw a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu dim ar y rhai sydd wedi huno. Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd, felly, â'r geiriau hyn.


Mathew 25:1-13

“Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â'r priodfab. Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall. Cymerodd y rhai ffôl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy, ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri. Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu. Ac ar ganol nos daeth gwaedd: ‘Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.’ Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau. Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.’ Atebodd y rhai call, ‘Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.’ A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws. Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, ‘Syr, syr, agor y drws i ni.’ Atebodd yntau, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.’ Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Mae yna stori am blentyn ifanc yn ymweld â mynwentydd rhyfel Tyne Cot yng Ngwlad Belg. Wrth edrych ar y môr o groesau gwynion yn ymestyn i’r pellter, mae’r plentyn ifanc yn gofyn: ‘Pwy oeddech chi’n ddweud oedd wedi ennill y rhyfel?” Mae’n anodd deall, wrth weld y fath olygfa, bod unrhyw un yn gallu dweud ei fod wedi ennill hyd yn oed os oedd eraill wedi colli.

Heddiw, rydyn ni’n cofio'r miliynau a fu farw neu a ddioddefodd - meibion a merched, mamau a thadau, a chymunedau cyfan wedi eu hamddifadu o'r gwaed bywiol a fyddai'n cynnal bywyd bob dydd yn y dyfodol. A dylai’r fath beth wneud i ni feddwl. Mae’r fath golled bron iawn y tu hwn i’n dirniadaeth. Bydd pob colled wedi gadael ei effaith, wedi cyffwrdd bywydau modrybedd ac ewyrthod, cyfeillion, cydweithwyr a chymdogion. Doed neb yr un fath ar ôl brwydro a rhyfela.

Yn nwfn yn y weithred o gofio mae nid yn unig barch at bawb a gafodd eu heffeithio gan y rhyfel, ond, hefyd hedyn o'r syniad oedd yn cael ei gyfleu gan y bachgen ifanc yn Tyne Cot. Dyma pryd y mae cofio parchus yn gallu dod yn rhywbeth mwy, yn rhywbeth sy’n edrych ymlaen. Mae ein gwasanaeth, felly, yn achlysur lle rydyn ni'n cael ein gwahodd i adnewyddu ein hymrwymiad i heddwch, i ddod yn fwy penderfynol na fydd dim yn digwydd ar raddfa'r ddau ryfel mawr byth eto. Yn efengyl Luc, er enghraifft, rydyn ni’n darllen sut y canfu’r disgyblion ddiben newydd ar ôl cyfarfod Iesu atgyfodedig. Ar ôl berw anfad y croeshoelio, daeth pobl, yn fuan iawn, i gofio am Iesu: ar y ffordd i Emaes, roedd un teithiwr blinedig yn cofio mai ‘ein gobaith ni oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid’. Dim ond ar eu pen eu hunain ac wrth y bwrdd roedden nhw’n ei weld fel yr Arglwydd Atgyfodedig a chanfod fod eu gobaith wedi'i ail danio.

Rwyf wastad yn teimlo’n ostyngedig wrth wrando ar gyn filwyr yn siarad am eu profiadau mewn rhyfeloedd ac rwy'n ymwybodol nad yw llawer yn gallu siarad yn eu cylch am fod y pethau y maen nhw'n eu cario yn rhy boenus i eiriau. I bob un ohonom, a ydyn ni wedi dioddef ai peidio, mae’r atgyfodiad yn dweud fod yna ffordd y tu hwnt i boen. Pan fydd y gobaith hwn yn cyffwrdd â’n bywydau, hyd yn oed os yw’r boen yn dal yno, mae rhywbeth newydd yn cael ei ddarganfod, sy'n agor y ffordd i iachâd a gobaith. Weithiau, y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan drawma neu golled sy’n llwyddo i ddod â gobaith i eraill.

Pan oedd Sant Paul yn y carchar yn Rhufain, mae'n rhaid ei fod wedi pendroni beth oedd o’i flaen. Ychydig iawn wyddom ni am ei amgylchiadau, a oedd wedi cael ei glymu mewn cadwyni wrth warchodwr neu a oedd yna olau dydd yn yr hyn oedd yn debyg iawn o fod yn gell gyfyng.

Mor hawdd y gallai’r apostol fod wedi cael ei lethu gan ei amgylchiadau. Yn wir, ar adegau, mewn mannau eraill yn ei lythyrau, mae'n ymddangos ei fod yn cael trafferth gyda'r rhai a'i gadawodd yn hwyr y dydd. Ond, yn y darlleniad rydyn ni newydd ei glywed, roedd ei sefyllfa wedi agor drysau na allai fod wedi’u rhagweld. Ar ben hynny, mae’n gweld fod y cadwyni ar ei draed a'i ddwylo, mewn gwirionedd wedi’i ryddhau i siarad yn rhydd am y Crist Byw.

Cristion o Tsiena yw'r Brawd Yun a gafodd ei garcharu am ei ffydd. Enillodd ei hunangofiant ‘The Heavenly Man’ wobr Llyfr Cristnogol y Flwyddyn yn 2003. Pan oedd yn y carchar, defnyddiodd ddŵr oedd wedi cronni ar ffenestri i ddathlu’r cymun, roedd yn annog ei gyd garcharorion i wneud eu caledi’n achos canu a gweddi a hyd yn oed, yn oerfel greulon eu celloedd, roedd yn annog undod a oedd yn eu cynnal a’u cadw trwy fisoedd y gaeaf.

Mae'r safbwynt hwnnw’n bwysig i ni heddiw. Rydyn ni’n ein cael ein hunain unwaith eto gyda chyfyngderau ar ein rhyddid ac yn wynebu heriau. Ond mae cofio ynddo ei hun yn wahoddiad i ddarganfod bod yna rhywbeth cryfach a mwy na’n sefyllfa ni ac sy’n gallu goresgyn hyd yn oed y rhwystrau mwyaf.

Pan ddywedodd Iesu fod ffydd yn gallu symud mynyddoedd mae’n rhaid ei fod yn cynnwys y mwyaf ohonyn nhw i gyd – calonnau a meddyliau pobl.

Cymraeg

Worship on Remembrance Sunday


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Thessalonians 4:13-18

But we do not want you to be uninformed, brothers and sisters, about those who have died, so that you may not grieve as others do who have no hope. For since we believe that Jesus died and rose again, even so, through Jesus, God will bring with him those who have died.

For this we declare to you by the word of the Lord, that we who are alive, who are left until the coming of the Lord, will by no means precede those who have died. For the Lord himself, with a cry of command, with the archangel’s call and with the sound of God’s trumpet, will descend from heaven, and the dead in Christ will rise first. Then we who are alive, who are left, will be caught up in the clouds together with them to meet the Lord in the air; and so we will be with the Lord for ever. Therefore encourage one another with these words.


Matthew 25:1-13

‘Then the kingdom of heaven will be like this. Ten bridesmaids took their lamps and went to meet the bridegroom. Five of them were foolish, and five were wise. When the foolish took their lamps, they took no oil with them; but the wise took flasks of oil with their lamps. As the bridegroom was delayed, all of them became drowsy and slept. But at midnight there was a shout, “Look! Here is the bridegroom! Come out to meet him.” Then all those bridesmaids got up and trimmed their lamps. The foolish said to the wise, “Give us some of your oil, for our lamps are going out.” But the wise replied, “No! there will not be enough for you and for us; you had better go to the dealers and buy some for yourselves.” And while they went to buy it, the bridegroom came, and those who were ready went with him into the wedding banquet; and the door was shut. Later the other bridesmaids came also, saying, “Lord, lord, open to us.” But he replied, “Truly I tell you, I do not know you.” Keep awake therefore, for you know neither the day nor the hour.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

A story is told of a young child visiting the Tyne Cot war graves in Belgium. Surveying the landscape of white crosses reaching into the distance the young child asks: ‘Did you say that we won the war?’ Hard to understand, when faced with such a vision, that anyone could be said to have won even if others lost more.

Today we recall the millions who died or suffered – sons and daughters, mothers and fathers and whole communities deprived of the lifeblood to sustain normal life into the future. And such an act should make us pause. The scale of loss is almost beyond comprehension. Each loss will have had an impact touching the lives of aunts and uncles, friends, colleagues and neighbours. No one is the same after conflict and war.

The act of remembrance carries within it a deep respect for everyone affected by war but also the seeds of reflection conveyed by that young child in Tyne Cot. This is the point at which solemn remembrance can become something more, something which looks forward. Our service is therefore an occasion in which we are invited to renew our commitment to peace, to become more resolute that nothing happens in the scale of the great wars ever again. In Luke’s gospel for example we read how the disciples found new purpose when they met the risen Jesus. Caught up in the trauma of the crucifixion, Jesus became an object of remembering very quickly: on the road to Emmaus one weary traveller mused they hoped ‘He was the one to redeem Israel’. Only when alone and at table did they see him as the Risen Lord and find hope rekindled.

I have always been humbled whenever I hear veterans talk about their wartime experiences and I am conscious too that many are unable to speak because the things they carry are too painful for words. For each of us whether we have suffered or not the resurrection tells us there is a way beyond pain. When this hope touches our lives, even if pain endures, something new is discovered, which opens the way for healing and hope and. Sometimes it is through those who have been most affected by trauma or loss who become bearers of hope for others.

When St Paul found himself in prison in Rome, he must have wondered what the outcome would be. We know only a little of his situation and not whether he was chained to a guard for some of the time or whether there was any sunlight in what must have been a cramped cell.

It would have been so easy for the apostle to become overwhelmed by his environment. Indeed at times elsewhere in his letters he seems to have struggled with those who deserted him late in the day. But in the reading we’ve just heard, Paul finds his situation has opened doors which he could not have foreseen. Moreover he sees that the chains on his hands and feet have actually liberated him to speak with freedom about the Living Christ.

Brother Yun is a Chinese Christian who was imprisoned for his faith. His autobiography ‘The Heavenly man’ won the Christian Book of the Year in 2003. When in jail he used water from the condensation on the windows to celebrate communion; he urged his fellow prisoners to make their hardship the cause of singing and prayer and even in the cold cruelty of their cell he fostered a solidarity which supported and sustained them though the winter months.

This perspective is important for us today. We find ourselves once more living with restrictions on our liberty and facing challenges once more. But remembrance is itself an invitation to discover there is something stronger and greater than our situation and which can overcome even the greatest obstacles.

When Jesus said that faith could move mountains he surely included the biggest one of all - human hearts and human minds.