
Addoliad ar Sul y Greadigaeth
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Colosiaid 1:15-20
Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
Ioan 1:1-14
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono. Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.
A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Rwyf eisiau i chi oedi am ennyd a meddwl am bryd y gwelsoch chi noson serennog ddiwethaf. Allwch chi gofio pa mor oer yr oedd hi, pa mor ddisglair oedd y sêr, y cytserau yr oeddech chi’n eu hadnabod? A sut rydym yn dod yn ymwybodol o’n meidroldeb ni ein hunain yn wyneb rhywbeth annychmygol o enfawr.
Heddiw yw Sul y Greadigaeth ac wrth gwrs rydym yn meddwl am y byd, y byd hwn, yr un rydym ni’n byw arno. Mae’n naturiol ein bod ni’n meddwl am ein byd oherwydd bod yna, bob dydd, benderfyniadau a phroblemau sylfaenol iawn i’w datrys. Ond ni fu yna erioed gyfnod oedd yn pwyso cymaint na phan mae’n rhaid i’r olygfa fawr honno gyd-fynd a’n hangheion bob dydd ni. A’r rheswm dros hynny yw, os nad oes yna rywbeth yn digwydd i’r pethau pob dydd hynny, efallai na fydd yna fyd ar ôl a fydd yn gallu cynnal ein plant. Efallai na fydd yna fyd y gallwn ni weld yr golygfa bell ohono.
Felly, heddiw, rwyf eisiau i ni feddwl am y greadigaeth, rhodd oddi wrth Dduw, ond mewn dwy ffordd: Eneidiau a Phriddoedd. Felly, beth ydw i'n ei olygu wrth bob un o'r rhain? Wel, gawn ni weld. Yn gyntaf, eneidiau: pobl. Un o’r pethau sy’n dangos fod bywyd dynol yn hanfodol wahanol yw ein lefel o ymwybyddiaeth. Rydym wedi’n datblygu lawer iawn ac yn gallu deall pethau megis newid hinsawdd, erydu, lefelau’r môr yn codi ac yn gallu dirnad pam fod y pethau hynny’n digwydd. Mae angen ychydig o ddealltwriaeth i sylweddoli beth sydd yn y darlun sy’n cael ei roi i ni yn Genesis ond mae yn dangos y cyfrifoldeb arswydus sy’n cael ei roi ar fodau dynol (Genesis 1:26 – 29).
Ac mae cyfrifoldeb yn air da oherwydd mae'n cloi gweithredoedd a chanlyniadau gyda’i gilydd. Os ydym eisiau dangos sut mae’r Beibl yn traddodi hyn, beth am ddameg y Samariad Trugarog lle mae Iesu’n dweud fod caru ein cymydog yn agos at frig ei restr o flaenoriaethau (Luc 10:25f). Sut allwn ni garu’n cymydog os yw ein gweithredoedd ni ein hunain yn ei niweidio?
Ac felly, un o’r pethau y mae’n rhaid i ni eu cymryd o ddifrif heddiw yw mai ein gwaith ni yw rheoli a gofalu am y byd! Chi a mi. Nid rhywbeth ychwanegol nac, erbyn hyn, rywbeth y mae amheuaeth yn ei gylch yw hyn. Ac mae hynny’n golygu ychydig o bethau fel, efallai: Fe wyddom fod ein ôl troed, yr effaith rydym ni’n ei gael ar yr amgylchedd, yn bwysig ac felly, os gallwn ni leihau ein ôl troed, mae hynny’n rhywbeth gwerth chweil. Fe allwn ni ail ddefnyddio, yn hytrach na thaflu, y pethau rydym yn eu prynu (e.e. plastig). Fe allwn ni hefyd ailgylchu, yn ddiogel, bethau sydd angen eu gwaredu i gael defnydd arall iddyn nhw. Tybed a ydym ni’n dal i daflu gormod o bethau y gallen ni fod yn eu hail gylchu'n ddiogel a phriodol? Fe allwn ni hefyd leihau ein defnydd o bethau, ac mae hynny’n cynnwys trafnidiaeth, nwyddau ac hyd yn oed ynni.
Un o’r pethau rwyf wedi sylwi yw mor gyflym mae technoleg yn datblygu nes newid pethau’n eithaf sylfaenol, megis ceir trydan. Rwy’n dal i gofio fel y byddai rhywun yn rhoi petrol yn fy nghar yn y garej a dau neu dri o bobl eraill yn cael golwg ar faint o olew oedd yn y peiriant, o wynt yn y teiars a dŵr yn y golchwr sgrîn. O’nd oedden nhw’n ddyddiau da! Ond mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd heibio, ac erbyn hyn rydym ni angen technoleg sy’n ein helpu ni i beidio â niweidio’r ddaear. Mae ynghylch pobl, on’d yw e? Rydym ni'n cael cyfle i ddefnyddio’n deallusrwydd i annog datblygiadau a fydd yn ein helpu ni i addasu'n hymddygiad.
Felly, pan rwy’n sôn am ‘eneidiau’, mae hynny’n golygu dysgu sut i gyfuno sylw i ffordd o fyw personol gyda rhai o’r dewisiadau mwy y mae’n rhaid i ni eu cymryd. Mae ymateb yn well fel hyn yn golygu parchu a rheoli’r ddaear yn dda ac yn gyfrifol.
Yn ail, rwyf eisiau sôn am ‘ briddoedd’ ac i raddau, adnoddau hefyd. Darllenais drydariad herfeiddiol yn ddiweddar a oedd yn honni, os na fyddwn yn atal ein camreolaeth o bridd ar draws y byd, y byddwn yn gweld diwedd ar bridd o fewn 60 cynhaeaf. Rwy’n meddwl efallai bod peth amheuaeth am y ffigwr, ond mae’n dal yn fater difrifol oherwydd mae’n rhaid ni fwydo’r byd ac mae yna gymaint ohonom ni. A dweud y gwir, mae yna ormod ohonom ni ac mae’n ymddangos bod yn rhaid i ni gael llai o bobl yn y byd er mwyn i ni allu defnyddio llai o'r hyn na allwn ni ei ailgyflenwi.
Rwyf wedi dod yn hoff iawn o rai o’r ardaloedd llai adnabyddus yng ngogledd Cymru y tu hwnt i’r mynyddoedd enwog. Ac mae yna ddau beth sydd wedi dod yn fwy amlwg i mi. Y cyntaf yw fod llawer iawn o dir wedi’i droi’n goedwigoedd lle mae’r rhan fwyaf o’r coed yn rhai estron, ac, ar ôl eu cynaeafu, fod y tir yn cael ei adael yn foel heb neb yn malio am adfer y tirlun nac am ansawdd y pridd. Heddiw, ni fyddai neb yn caniatáu unrhyw beth tebyg i’r tomenni glo yng nghymoedd y De na’r creithiau a’r pentyrrau rwbel yn y Gogledd o gloddio am lechi. Ni fyddai’n digwydd. Pam felly, ein bod ni’n meddwl fod ysbeilio tirweddau mewn rhannau gwledig yn wahanol? Mae'n rhaid i ni fynnu fod tir a phridd yn cael eu hailgyflenwi a’u rheoli’n well.
A’r ail faes, efallai’n fwy dadleuol, yw y dylem ni wneud yn well gyda bwyd. Tiriogaeth y ffermwyr defaid yw pennau’r bryniau fel arfer. Mae’r defaid angen bwyd hefyd. Y broblem yw eu bod nhw’n aml yn bwyta bron iawn bopeth sydd yna. Nid yw hynny’n cyd-fynd o gwbl gyda thyfu coed, prysglwyni, glaswellt ac yn y blaen. Mae yna dystiolaeth y dylem ni fod yn bwyta llai o gig a mwy o lysiau ac felly leihau'r gofyn am dda byw. Nawr, mi wn na fydd rhai bobl yn hoffi hyn. Ac yn bendant, rydym angen strategaethau da ar gyfer ffermio yn y dyfodol a dechrau prynu’n lleol ac yn y blaen. Ond mae’r dystiolaeth, y ffeithiau, yn ymddangos yn glir ac mai’r effaith ar yr amgylchedd a’r priddoedd ddylai gael y sylw pennaf. Mae’n debyg y byddai’n well i ninnau hefyd fwyta llai o gig.
Felly, mae gan Sul y Greadigaeth lawer i’w gynnig. Mae’n rhaid i ni dalu sylw i’r rhybuddion o’r byd naturiol, o beth wyddom ni am y byd a bod angen i ni newid a ffurfio’n bywydau i barchu a bendithio’r byd. Fy nghwestiwn i mi fy hunan ac i chithau yw beth mae hynny'n ei olygu wrth i ni fyw ein bywydau pob dydd? Beth mae’n rhaid i mi eu newid er mwyn ymateb yn well i'r hyn sy’n cael ei gynnig i ni, ac hefyd beth sy’n cael ei fynnu gennym ni, heddiw?
Worship on Creation Sunday
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Colossians 1:15-20
He is the image of the invisible God, the firstborn of all creation; for in him all things in heaven and on earth were created, things visible and invisible, whether thrones or dominions or rulers or powers—all things have been created through him and for him. He himself is before all things, and in him all things hold together. He is the head of the body, the church; he is the beginning, the firstborn from the dead, so that he might come to have first place in everything. For in him all the fullness of God was pleased to dwell, and through him God was pleased to reconcile to himself all things, whether on earth or in heaven, by making peace through the blood of his cross.
John 1:1-14
In the beginning was the Word, and the Word was with God, and the Word was God. He was in the beginning with God. All things came into being through him, and without him not one thing came into being. What has come into being in him was life, and the life was the light of all people. The light shines in the darkness, and the darkness did not overcome it.
There was a man sent from God, whose name was John. He came as a witness to testify to the light, so that all might believe through him. He himself was not the light, but he came to testify to the light. The true light, which enlightens everyone, was coming into the world.
He was in the world, and the world came into being through him; yet the world did not know him. He came to what was his own, and his own people did not accept him. But to all who received him, who believed in his name, he gave power to become children of God, who were born, not of blood or of the will of the flesh or of the will of man, but of God.
And the Word became flesh and lived among us, and we have seen his glory, the glory as of a father’s only son, full of grace and truth.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
I want you to pause for a moment and think of when you last saw a starry night. Can you remember how cold it was, how bright the stars, the constellations you recognized? Seeing other worlds is one of life’s greatest joys isn’t it? And how we become aware of our own finitude in the face of something unimaginably massive.
Today is Creation Sunday and of course we are bound to think of the world, this world, the one on which we live. It’s natural we should think of our world because each day has decisions and issues of a very basic nature to sort out. But there’s never been a time more pressing than when that big scene – other words and our own everyday need to sit together. And the reason for that is because without something happening to those everyday acts, we might not be able to pass on this world to children after us in any fit state. There may not be a world from which we can view the distant scene.
So today I want us to think on the creation, gift from God but in 2 ways: Souls and Soils. So what do I mean by each of these? Well let’s see. Firstly souls: people. One of the things which marks human life out as essentially different is our level of consciousness. We are highly developed and so we can understand things like climate change, erosion, rising sea levels and work out why these things are happening. The picture given to us in Genesis needs a bit of understanding but it does show this awesome responsibility given to human beings (Genesis 1:26-29).
And responsibility is a good word because it locks actions and consequences together. If we want a Biblical narrative to offer here, the parable of the Good Samaritan works well because Jesus said that loving one’s neighbour was at the top end of priorities (Luke 10:25f). How can we love neighbour if by our own actions they are harmed?
And so one of the things we must take seriously today is that this task of managing and caring for the world belongs to us! You and me. It’s not an optional extra nor any longer a question of doubt. And this means a few things perhaps: We know that our footprint, that is the effect we have on the environment is important and so if we are able to minimize that, we’re doing something worthwhile. We can re-use things we buy rather than throw them away (eg plastic). We can also recycle the things which need disposing but safely and in order to bring them back into a different circulation. I wonder if we still throw out too much when a lot can be safely and properly recycled? We can also reduce how much we use and this is true in transport, material goods and even energy.
One of the things I have noticed is that technology is developing so quickly to enable some shifts to take place such as electric cars. I still remember being served at a garage for petrol and often by a couple of people checking oil, tyres and water in the screen supply. Ah the good old days!! But those days are passed aren’t they and now we need technology alongside our own responsible actions to make sure we don’t damage the earth. It’s a people thing isn’t it? We have the chance to utilise our intelligence to assist developments and to help us modify our behaviour.
So when I speak about ‘souls’ it’s about learning to combine attention to personal lifestyle as well as some bigger choices we make. To respond well here is to respect and manage the earth in a way that is good and responsible.
Secondly I want to talk about ‘soils’ and to an extent resources too. I read a provocative tweet recently which claimed that our mismanagement of soil across the globe, if unchecked, would see an end to soil within 60 harvests. I think that figure has been doubted but its still a pressing matter because we need to feed the world and there are many of us. In fact too many of us and reducing the number of humans seems essential if we are to reduce what we take which cannot be replenished.
I’ve become fond of some of the lesser known parts of North Wales beyond the famous mountains. And there are 2 things which have become more obvious to me. The first is that a good deal of the land has been used to grow woods which are not only largely alien to the UK but once grown and harvested, the land is left largely fallow but without enough attention to restoring the landscape and quality of soil. Today we simply would not allow anything resembling the coal heaps of South Wales nor the battered hillsides of the North from the taking of slate. It just wouldn’t happen. Why do we think the despoiling of landscapes in rural parts is any different? We need to insist that land and soil is replenished and managed well.
And the second area, perhaps more controversially, is that we need to do better with food. Hilltops are usually the province of sheep farmers. And sheep need food too. The problem is they often eat almost everything there. And that isn’t good for the growth of trees, shrubs, grasses and so on. The evidence is that we need to eat less meat and more vegetables and to reduce demand therefore for livestock. Now some folk won’t like this I know. And for sure, we need good strategies for the future of farming and to start buying local and so forth. But the evidence, the facts do seem clear and it’s the effect on the environment and the soils which needs to drive the agenda. It’s probably good for us too to have a less meat derived diet.
So Creation Sunday has much to offer. We need to heed warnings from the natural world, from what we now know about the world and we need to modify and shape our lives to respect and bless the world. My question to myself and to you is what does this mean in daily living? What are the modifications I need in order to respond well to what is offered to us but also demanded from us today?