minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Portha fy ŵyn" | "Feed my lambs"
English

Addoliad ar Ŵyl Deiniol


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Pedr 5:1-4

Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad â chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio. Bugeiliwch braidd Duw sydd yn eich gofal, nid dan orfod, ond o'ch gwirfodd yn ôl ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch, nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd. A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni â thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.


Ioan 21:15-17

Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.” Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” “Ydwyf, Arglwydd,” meddai Pedr wrtho, “fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Bugeilia fy nefaid.” Gofynnodd iddo y drydedd waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, “A wyt ti'n fy ngharu i?” Ac meddai wrtho, “Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di.” Dywedodd Iesu wrtho, “Portha fy nefaid."


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Deiniol, Esgob ac Abad

Heddiw rydym yn aros yn agos iawn at adre ac yn cadw dydd Deiniol Sant. Deiniol, yn ôl ein cred, oedd abad cyntaf y gymuned Gristnogol a gafodd ei sefydlu yma yn y ddinas a Deiniol oedd Esgob gyntaf yr ardal hon ar ôl ei gysegru gan Dewi yn Synod Brefi ym 545.

Rydym wedi palu’n ddwfn i’r gorffennol, ein gorffennol ni wrth gwrs, ac er nad yw rha pethau’n gwbl sicr, yr hyn allwn ni ei wneud yw adrodd y traddodiad fel yr ydym ni wedi ei glywed. Felly, ymddengys fod Deiniol yn dod o rannau gogleddol ynys Brydain ac y daeth yma, i ogledd Cymru, ar ôl i’w deulu golli eu tiroedd. Ar ôl setlo, cynghreiriodd gyda Maelgwyn, brenin Gwynedd ar y pryd, a ddaeth yn gefnogol i gynllun Deiniol i sefydlu cymuned ym Mangor. Pan gafodd Deiniol ei gysegru’n Esgob, gwnaeth Maelgwyn, yn ôl y sôn, ffin rhwng ei deyrnas â’r hyn sy’n cyfateb i esgobaeth Bangor heddiw. A dyma pam ein bod yn dweud yn aml mai Bangor yw un o’r hynaf, os nad yr hynaf un, o esgobaethau’r cymundod Anglicanaidd.

Dyna ddiwedd ar y wers hanes. Felly, pam ydyn ni’n cofio'r dyn hwn oedd yn byw mor bell yn ôl? Wel, yn gyntaf oherwydd fod Deiniol yn sant, yn Gristion a roddodd ei hun i ddilyn Iesu. Roedd hwn yn gyfnod ansicr ym Mhrydain ac roedd dilyn Crist weithiau’n beryglus. Pan ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion i gymryd croes, roedd yn golgyu llawer mwy na gwisgo rhywbeth ar lapel. Roedd seintiau’r cyfnod hwn, Dewi, Deiniol, Teilo ac Illtud, yn deall beth oedd hynny’n ei olygu. Rhain oedd y bobl a addawodd eu teyrngarwch i ddilyn Crist doed a ddelo. Ac yn hynny o beth, maen nhw’n dangos i ni beth yw ystyr bod yn ddisgybl. Roedden nhw’n dilyn yr un alwad â’r Apostolion ac yn gwybod bod eu bywydau wedi’u cuddio yn Nuw.

Tybed nad yw pobl fel Deiniol, nid yn llai pwysig, ond yn bwysicach fyth, heddiw oherwydd ein bod ni’n byw gyda llawer mwy o ansicrwydd nag, wel, dim ond ychydig fisoedd yn ôl. Roedden nhw wedi llwyddo i ddilyn eu ffordd trwy'r holl anawsterau heb gael eu llethu nau’u parlysu, felly maen nhw’n dangos i ni beth sy’n bosibl.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn darllen hunangofiant Nelson Mandela – dyn anghyffredin. A’r hyn a’m trawodd i yn fwy na dim byd arall oedd ei agwedd o ddewrder. Dro ar ôl tro wynebodd Mandela yr hyn oedd i’w gweld yn anawsterau llethol, gan gynnwys cyfnod hir mewn carchar, ond ei ddewrder ef a drechodd yn y pendraw. Mae ein heriau ni’n llawer, llawer llai ond efallai fod rhywfaint o Ddeiniol ym Mandela hefyd.

Yr ail beth yw bod Deiniol yn abad. Sefydlodd gymuned Gristnogol yma a sylweddoli nad oes yna’r fath beth â Christnogaeth gwneud-dy-beth-dy-hun. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn berthnasol iawn i ni heddiw wrth i ni gael ein hynysu oddi wrth ein gilydd gan y pandemig. O’r blaen, efallai ein bod yn clywed rhai’n dweud ‘does dim rhaid i mi fynd i’r eglwys i fod yn Gristion’ – sy’n ddigon gwir mewn un ffordd, er y ddylai Cristionogion fod eisiau addoli gyda’i gilydd – erbyn hyn mae’n rhaid i ni, neu yr oedd yn rhaid i ni, gadw ar wahân.

Mae’n mor bwysig ein bod yn cadw cysylltiad, onid yw? Ac sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ben ei hun. Rydyn ni i gyd yn perthyn i’n gilydd mewn ffordd arbennig fel Cristnogion ac mae gennym ni ots am ein gilydd. Gallai hynny fod mor syml a galwad ffon neu nodyn sydyn. Rydyn ni’n gwneud perthyn yn realiti drwy gadw cysylltiad â’n gilydd, gweithio dros ein gilydd a, phan fo’n bosibl, ymgasglu gyda’n gilydd hefyd.

Y peth olaf yw bod Deiniol yn Esgob. Mewn geiriau eraill roedd yn sefyll yn nhraddodiad yr apostolion ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn trosglwyddo’r hyn roedd yn ei dderbyn. Mae’r ‘llinell’ hon o drosgwlyddo'r hyn sydd wedi'i ymddiried i ni yn golygu ein bod ni’n aros yn agos at yr hyn a roddwyd i'r disgyblion cyntaf megis Pedr a Paul. Ac mae’n golygu mai dyma’r craidd hanfodol sy’n sail i’r yn rydyn ni’n ei wneud ac i bwy ydym ni. Mae’r ‘rhestr’ yn Actau’r Apostolion yn dweud wrthym ni lle’r oedd yn y gymuned gyntaf ac mae’n rhoi templed i ni. A i fodelu’n bywydau ar hynny yw yr hyn mae Esgobion ac eraill wedi ymrwymo eu hunain iddo, er mwyn sicrhau ein bod yn driw i’n galwad ac i’r efengyl.

Felly, mae’r ffigwr sanctaidd hwn, Deiniol, yn cael ei gyflwyno i ni, Sant, abad ac Esgob Cristnogol. Ym mhob un o’r rhain mae’n ceisio adlewyrchu Iesu. Ond mae’n gwneud hynny er mwyn i ni hefyd wneud hynny. Nid yw’n gwneud pethau ar ein rhan, ond ein hannog ni i wneud yr un fath.

Sut allwn ni felly, ddilyn yn ôl ei draed? Drwy fod yn driw i’r ffydd, gofalu am eraill a glynu’n agos at y Duw sy’n cael ei ddatgelu i ni yn Iesu.

Cymraeg

Worship on the Feast of Deiniol


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Peter 5:1-4

Now as an elder myself and a witness of the sufferings of Christ, as well as one who shares in the glory to be revealed, I exhort the elders among you to tend the flock of God that is in your charge, exercising the oversight, not under compulsion but willingly, as God would have you do it—not for sordid gain but eagerly. Do not lord it over those in your charge, but be examples to the flock. And when the chief shepherd appears, you will win the crown of glory that never fades away.


John 21:15-17

When they had finished breakfast, Jesus said to Simon Peter, “Simon son of John, do you love me more than these?” He said to him, “Yes, Lord; you know that I love you.” Jesus said to him, “Feed my lambs.” A second time he said to him, “Simon son of John, do you love me?” He said to him, “Yes, Lord; you know that I love you.” Jesus said to him, “Tend my sheep.” He said to him the third time, “Simon son of John, do you love me?” Peter felt hurt because he said to him the third time, “Do you love me?” And he said to him, “Lord, you know everything; you know that I love you.” Jesus said to him, “Feed my sheep."


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Deiniol, Bishop and Abbot

Today we are staying very close to home and keeping Saint Deiniol’s day. Deiniol we believe was the first abbot of the Christian community found here in the city and the first Bishop of this area when he was consecrated by David at the Synod of Brefi in 545.

We’ve delving deep into the past, our own past of course and although some things are not absolutely certain, what we can do is tell the tradition as we have received it. So, Deiniol it seems hailed from the northern parts of the UK but found himself here in the north, the family having lost their lands. Settling in North Wales they made alliances with Maelgwyn who was king of Gwynedd at the time and it was he who supported Deiniol’s plan to found a community in Bangor. When Deiniol was consecrated a Bishop, we are told Maelgwyn made his own kingdom coterminous with something like the diocese of Bangor today. And it’s for this reason we often say Bangor is one if not the oldest of the dioceses in the Anglican communion.

History lesson over. So, why remember this man who lived so long ago? Well, firstly because Deiniol was a saint, a Christian who gave himself to following Jesus. This period of time in Britain was precarious and following Christ sometimes hazardous. When Jesus told his disciples to take a cross it meant a good deal more than wearing something on the lapel and the saints of this period whether David or Deiniol, Teilo or Illtud knew what it mean to do just the same. These were people who pledged their allegiance to following Christ come what may. And in that sense they show us what it means to be a disciple. They modelled the call of the Apostles and knew their lives were hid in God.

I wonder if people like Deiniol are not less important today but more so because we live with a great deal more uncertainty than, well, just a few months back. They managed to navigate through the challenges without being overwhelmed or paralysed by them so they show us what is possible.

I’ve recently been reading Nelson Mandela’s autobiography – a remarkable man. And what has struck me more than anything else is the aspect of courage. Time and time again Mandela faced what seemed overwhelming odds including a sustained period in prison but it was courage which saw him ultimately triumph. Our challenges are a great deal fewer than his but perhaps something of the Deiniol was found in Mandela too.

The second thing is that Deiniol was an abbot. He founded a Christian community here and realized that there is no such thing as go-it-alone Christianity. Of course this too is very relevant today because we have been isolated from each other because of the pandemic. Whereas previously we might have heard someone say ‘I don’t need to go to church to be a Christian’ – true enough in one sense although Christian ought to want to worship together – now we have this imposed separation or at least we did.

It’s so important we stay in touch isn’t it? And make sure no one is left alone. We belong to each other in a particular way as Christians and have a care for each other. And that can be as simple as a phone call or a quick note. We make belonging a reality by keeping in touch with each other, praying for one another and when possible gathering together too.

And the last thing is that Deiniol was Bishop. In other words he stood in the tradition of the apostles and made it his business to pass on what he had received. This ‘line’ of handing over what has been entrusted to us means we stay close to what was given to those first disciples like Peter and Paul. And it means that essential matters form the basis of what we do and who we are. The ‘list’ in the Acts of the Apostles which tells us what the first community was like gives us a template if you like. And modelling our lives on there is something Bishops and others have committed themselves to in order that we are true to our calling and the gospel.

So we have this saintly figure presented to us, Deiniol: Christian saint, abbot and Bishop. In all of these he tries to reflect Jesus. But does so that we can do that too. He does not do things on our behalf so much as encourage us to do likewise.

How then can we follow in his footsteps? By being true to the faith, by looking after others, and by sticking close to the God revealed to us in Jesus.