minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
“Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.” | “This is my body that is for you. Do this in remembrance of me.”
English

Addoliad ar wyl y Diolchgarwch am y Cymun Bendigaid


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Corinthiad 11:23-26

Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara; ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.” Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.


Ioan 6:51-58

Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.” 

Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer â'i gilydd, gan ddweud, “Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” 


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Mae’r weddi fawr sy’n cael ei hadrodd yn ystod swper Gŵyl y Bara Croyw'r Iddewon yn cynnwys y geiriau hyn: Daeth (Duw) â ni o gaethiwed i ryddid, o drallod i lawenydd, caethiwed i waredigaeth'.Mae’n debyg fod Iesu wedi llefaru'r geiriau hyn hefyd y noson yr oedd yn rhannu'r swper olaf gyda'i ddisgyblion. Beth sy’n rhyfeddol ynghylch y swper hwnnw, wrth gwrs, yw fod Iesu wedi ail-adrodd stori iachawdwriaeth Duw: ffoi o’r Aifft i wlad yr addewid – ac yn ei hailadrodd yng nghysgod ei groeshoeliad a’i farwolaeth. Roedd bara a gwin yn gynhwysion cyfarwydd o’r pryd bwyd hwnnw ond, yn y ffordd roedd yn rhannu’r swper ac yn y geiriau roedd yn eu defnyddio, roedd yn cyfleu ei fywyd ei hun yn cael ei roi i lawr a’r rhyddid a ddeuai drwy Duw o’i farwolaeth ei hun.

Heddiw, rydym yn trafod gŵyl symudol: dydd Iau oedd y Diolchgarwch am y Cymun Bendigaid ac fe hoffwn i ganolbwyntio heddiw. i’n cynorthwyo, ar rai geiriau yn llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid. Rwy’n hynod ymwybodol wrth i mi ddechrau, wrth gwrs, fod, i’r rhan fwyaf ohonom ni, y Cymun Bendigaid yn drysor nad yw ar gael i ni ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim wedi gallu derbyn yr Ewcharist ers peth amser ac mae’r golled honno’n real ac yn galed.

Felly, fe hoffwn i gynnig y syniadau hyn, nid i wneud y golled honno’n fwy real i ni, ond, yn hytrach i’n gwahodd i ystyried o’r newydd farwolaeth ac atgyfodiad Crist. A dyma’r geiriau y mae Paul yn eu cynnig i ni yn adnod 26: 'Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw'.

Gadewch i mi gynnig rhai sylwadau:

“Marwolaeth yr Arglwydd” meddai. Dyna sy’n cael ei gyhoeddi. Ac i Gristnogion ar draws y canrifoedd mae croes Iesu wedi bod yn galon ein ffydd. Heb y groes a'r atgyfodiad, does dim llawer ar ôl, dim ond rhai dysgydeithiau cain, a fawr ddim byd arall. Dyma pam ein bod yn gwisgo croes neu fathodyn. Mae'n ein hatgoffa y bu Iesu farw drosom ni a thros bechodau'r byd. Rhywsut, yn ei farwolaeth, daeth newid yn bosibl. Mae’r Testament Newydd yn defnyddio llawer o ddarluniau i ddisgrifio hyn. Dywedodd Iesu y byddai’n rhoi ei einioes yn bridwerth dros lawer (Marc 10:45); dywedodd Sant Paul:‘Felly os yw dyn yng Ngrist, y mae’n greadigaeth newydd:aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma!’. (2 Corinthiaid 5:17). Pan ddeuwn at Iesu, daw ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn ffordd y deuwn i adnabod Duw. Yma y mae maddeuant pechodau a chynnig dechrau newydd.

Rwyf wedi sylweddoli’n ddiweddar nad rhywbeth unwaith ac am byth yw’r dechreuad newydd hwn. Mae'n rhywbeth a ddylai ddigwydd bob diwrnod ynof i:cyffesu pechodau o’r newydd a derbyn gras am y diwrnod hwnnw. Ysgwn i a fyddai hynny’n ddefnyddiol i ni i gyd?Yn eich gweddïau eich hunan, treulio amser i fod yn llonydd gydag Iesu a chofio mai er ein mwyn ni, ein pechodau ni, yr oedd wedi marw a rhoi bywyd i ni, na allen ni fyth fod wedi’i wneud ein hunain. Fe welais i beiriant gwerthu’n ddiweddar oedd wedi gweld dyddiau gwell:yn naturiol, roedd arwydd ‘Ddim yn Gweithio' arno. I mi, pan fyddaf yn cynnig iddo Ef y pethau nad ydyn nhw'n gweithio, mae’r diwrnod yn cychwyn yn well o’m blaen.

‘Yr ydych yn cyhoeddi’ meddai. Mae geiriau’n cyfrif, on'd ydyn nhw?Mae cymaint o rym yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud!Fel ym mhrotest y miloedd o bobl yr wythnos ddiwethaf yn erbyn anghyfiawnderau. Mae gweithredoedd a geiriau (“Alla i ddim anadlu”) wedi hoelio’n sylw ar yr hyn sydd o’i le mewn cymdeithas:does yna byth gyfiawnhad dros hiliaeth na rhagfarn o unrhyw fath.

A byddai geiriau wedi cael eu defnyddio yn y swper olaf i ail adrodd stori o ryddid newydd, o obaith newydd. Byddai’r geiriau wedi disgrifio y realaeth newydd oedd yn dod oddi wrth Dduw i’n harwain oddi wrth gasineb, pechod, oddi wrth unrhyw beth nad yw’n deilwng o Dduw, at fywyd sy’n wahanol. Ond rwy'n amau fod Paul yn golygu mwy na geiriau hefyd. Pan ddywedodd ein bod yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, mae’n rhaid ei fod yn meddwl ein bod yn gwneud hynny drwy ein gweithredoedd a chraidd ein bodolaeth. Wedi’r cyfan, nid geiriau'n unig oedd yn cyfrif yn y swper, roedd yno weithredu hefyd i gyd-fynd â chymryd y bara a’r gwin.

Mae’n hen gred ymysg Cristnogion ein bod ni, gyda’n gilydd, wedi’n galw i fyw ein ffydd, i fyw marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mewn gwirionedd, i gyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd yn y ffordd rydyn ni’n byw bob dydd, nes y daw. Ac hyd yn oed pan ydyn ni’n dal i gael ein gwahanu, mae yna gyfleon i ni wneud hynny: mae yna ddal alwadau ffôn bywiol i’w gwneud, gweithredoedd o garedigrwydd, pob un yn dangos nad clwt ar lawes yw ffydd ond ei bod yn ganolog i graidd ein bodolaeth

‘Bwyta’r bara ac yfed y cwpan’. Y geiriau ar ddechrau’r frawddeg. Wrth i ni yfed a bwyta, rydyn ni’n cael y budd o’r hyn y mae Crist wedi’i ennill i ni, yn gorfforol ac yn ysbrydol, yn ein bywydau. Ond, byddai’n gamgymeriad meddwl, oherwydd na all cymaint ohonom dderbyn y Cymun, ein bod yn cael ein cadw oddi wrth ras bywiol Duw. Addewid gweledol yw’r Cymun Bendigaid o’r hyn y mae Crist wedi’i wneud ar ein rhan ond ei farwolaeth a’i atgyfodiad ef ei hun sy’n rhoi realiti i’r bara a’r gwin, nid y ffordd arall. Ac mae’r pethau hynny’n gadarn ac yn gwrthsefyll pob feirws!

Fy ngwahoddiad i chi heddiw yw dod yn nes at Dduw gyda chalon llawn ffydd yn y sicrwydd o ras Crist. Cyhoeddwch farwolaeth yr Arglwdd nes y daw yn y ffordd rydych chi’n byw, dangoswch ei wahoddiad grasol ym mhob peth y byddwch yn ei wneud. A byddwch obeithiol, oherwydd y mae Duw wrth ein hymyl ac mae'n ffyddlon.

Cymraeg

Worship on the feast of the Thanks-giving for Holy Communion


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 Corinthians 11:23-26

For I received from the Lord what I also handed on to you, that the Lord Jesus on the night when he was betrayed took a loaf of bread, and when he had given thanks, he broke it and said, “This is my body that is for you. Do this in remembrance of me.” In the same way he took the cup also, after supper, saying, “This cup is the new covenant in my blood. Do this, as often as you drink it, in remembrance of me.” For as often as you eat this bread and drink the cup, you proclaim the Lord’s death until he comes.


John 6:51-58

I am the living bread that came down from heaven. Whoever eats of this bread will live forever; and the bread that I will give for the life of the world is my flesh.”

The Jews then disputed among themselves, saying, “How can this man give us his flesh to eat?” So Jesus said to them, “Very truly, I tell you, unless you eat the flesh of the Son of Man and drink his blood, you have no life in you. Those who eat my flesh and drink my blood have eternal life, and I will raise them up on the last day; for my flesh is true food and my blood is true drink. Those who eat my flesh and drink my blood abide in me, and I in them. Just as the living Father sent me, and I live because of the Father, so whoever eats me will live because of me. This is the bread that came down from heaven, not like that which your ancestors ate, and they died. But the one who eats this bread will live forever.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

The great prayer offered at the Jewish Passover meal had these words: ‘He (God) brought us out from slavery to liberty, from sorrow to joy, servitude to redemption’. These words are likely to have been spoken by Jesus too on the night he shared the last supper with his disciples. What is remarkable about that supper of course is that Jesus retold the story of God’s salvation: the flight from Egypt to the promised land - and recast it in terms of his impending crucifixion and death. Bread and wine were familiar components of that meal but in the way he shared the supper and the words he used, he made them speak of his own life laid down and the freedom God would bring through his death.

Today we are working with a moveable feast: on Thursday it was Thanksgiving for the Holy Communion and I would like to focus today on some words from Paul’s first letter to the Corinthians to aid us. I am deeply conscious of course as I begin that for most of us, the Holy Communion is a treasure denied us at the moment. We have been unable to receive the Eucharist for some time and that loss is real and hard.

So I want to offer these thoughts not to make that loss more real for us but rather to invite a fresh reflection on the death and resurrection of Christ. And these are the words Paul offers us in vs 26: ‘For as often as you eat this bread and drink the cup, you proclaim the Lord’s death until he comes’.

Let me offer some thoughts:

‘The Lord’s death’ he said. This is what is proclaimed. And for Christians across the centuries the cross of Jesus has been the heart of our faith. Take away the cross and resurrection and we are left with some fine teaching but little else. This is why we wear a cross or badge. It reminds us that Jesus died for us and the sins of the world. Somehow in his death, change was made possible. The New Testament uses many pictures to describe this: Jesus said he would lay down his life as a ransom for many (Mark 10:45); St Paul said: ‘if anyone is in Christ, there is a new creation: everything old has passed away; see, everything has become new!’ (2 Corinthians 5:17). When we come to Jesus, his death and resurrection become the means by which we know God. Here there is forgiveness of sin and the offer of a new start.

I’ve been conscious more recently that this new start isn’t just a one-off. It’s something which needs to take place each day in me: a fresh confessing of sin and receiving of grace for that day. I wonder if this is useful for us all? In your own prayers, taking time to be still with Jesus and recall it was for us, our sins that he died and to give us a life we could never have made? I saw a vending machine recently that had seen better days: The sign on it predictably said ‘Out of Order’. I find when I bring what is out of order in me to Him, the day ahead gets off to a better start.

‘You proclaim’ he said. Words count, don’t they? What we say has such power! Witness the protests of thousands of people this last week against injustices. Actions and words (‘I can’t breathe’) have focused our attention on what is wrong in society: there is never justification for racism and prejudice of any kind.

And words would have been used in that last supper to retell a story of new freedom, of new hope. The words would have described a new reality God was bringing that leads us from hatred, sin, from everything unworthy of God, to a life that is different. But I think Paul meant more than words too. When he said we proclaim the Lord’s death, he must have meant we do so by our actions and very existence. After all the meal was not just about words it had actions to accompany the taking of bread and wine.

Christians have long believed that, together, we are called to live out our faith, to live the death and resurrection of Jesus. In this context, to proclaim the Lord’s death in the way we live each day, until he comes. And even as we find ourselves still separated there are opportunities for us to do this: there are lifegiving phone calls, acts of kindness and love all of which show faith is not an ‘add-on’ but lies at the heart of who we are.

‘Eating the bread and drinking the cup’. The words at the start of the sentence. As we eat and drink, we take the benefit of what Christ has won for us physically and spiritually into our lives. It would be a mistake however to think because many of us cannot receive the Communion that the grace and life of God is denied us. The Holy Communion is a visible pledge of what Christ has done on our behalf but it is his death and resurrection which gives reality to the bread and wine not the other way around. And those things are sure and not subject to any virus!

My invitation to you today is to draw near to God with a heart full of faith in the assurance of Christ’s grace. Proclaim the Lord’s death until he comes in the way you live, embody his gracious invitation in all you do. And be hopeful because God is near us and is faithful.