
Addoliad ar Sul y Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
2 Corinthiad 13:11-13
Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r saint i gyd yn eich cyfarch.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!
Mathew 28:16-20
Aeth yr un disgybl ar ddeg i Galilea i'r mynydd lle y trefnodd Iesu iddynt fod; a phan welsant ef addolasant ef, er bod rhai yn amau. Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: “Rhoddwyd i mi,” meddai, “bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Mae’r disgyblion yn dod i fynyddoedd Galilea fel y dywedodd Iesu wrthyn nhw. Mae’n casglu ei ddisgyblion ato unwaith eto ar ddiwedd ei weinidogaeth fydol. Mae’n ddiddorol fod mynyddoedd yn ymddangos eto hefyd – y gwynfydau, y gweddnewidiad, y lle unig i weddïo , maen nhw oll yn y rhannu’r nodwedd o bellter ac unigrwydd. Roedd y lle agored, pellennig yn eu gwahodd i le mewnol dyfnach o newid ac ufudd-dod newydd.
Ac mae Mathew’n dweud wrthym eu bod, wrth ei weld, yn ei addoli. Yr ymateb gorau un i’r Crist atgyfodedig. Ond roedd ‘rhai yn amau’.
Mae hon yn un o'r adnodau cynnil iawn ei mynegiant ond y gallwn ni deimlo sy'n 'fawr', fod yna fwy iddi nag un gair, syml. Mae amheuaeth yn brofiad oedd yn gyffredin i lawer o'r disgyblion ar ôl yr atgyfodiad ond, yma, dydyn ni ddim yn siŵr pwy na beth. Mae’r Beibl Byw yn mynd ymhell y tu hwnt i’r geiriau ei hunan ac mae’n ddiddorol ei fod yn cyfieithu fel:‘ond doedd rhai ohonyn nhw ddim yn siŵr mai Iesu oedd yna mewn gwirionedd’. Felly, yr ‘amheuaeth' oedd cyfarfod rhywun yn y fath fodd nad oedd yn hawdd dirnad pwy ydoedd. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gofio y gallai'r Crist atgyfodedig ymddangos a diflannu yn wyrthiol, felly efallai mai'r amheuaeth mewn gwirionedd oedd dirnad yn union pwy oedd yno.
Roedd rhai’n amau. Mae’n air hynod ddiddorol nad yw Mathew yn ei ddefnyddio ond unwaith, ond mae’n cyfeirio ato ddwywaith: yma ac yn 14:31: Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud. ‘Ti o ychydig ffydd’ meddai ‘pam y petrusaist?’Onid yw hynny’n hynod?Yn wir, mae'n darllen well os ydyn ni'n dweud:”Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo, ‘Ychydig Ffydd, pam oeddet ti’n amau?’Rhoddodd Iesu enw ar Pedr – mae'n ei alw’n 'Ychydig Ffydd’. Mae’n rhaid cofio bod yna, ymhen dim ond dwy bennod (Mathew 16), rywbeth mawr ar droed. Bydd Iesu’n rhoi enw newydd i Pedr:Cepahs, y Graig. Mae Ychydig Ffydd wedi troi’n Graig. Dyna rym Crist i drawsnewid.
Ond rwy’n mynd o’m blaen fu hunan:Fe ddywedir wrthym fod rhai’n amau. Ac efallai eu bod yn amau yn y ffordd y mae’r Beibl Byw yn awgrymu – doedden nhw ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno. A gallai hynny fod yn boen ac yn bryder: eu bod nhw’n ei gyfarfod Ef (maen nhw’n meddwl) ond mewn ffordd ddigon gwahanol i godi peth pryder. Efallai mai amau oedden nhw, nid nad Iesu oedd yna, ond a oedd hynny'n newid cymaint ar bethau, yn enwedig os oedd am adael yn fuan. Ar eu pen eu hunain, ac hebddo ef gerllaw, mae'r dasg i'w gweld yn llawr caletach a pheryclach. A fydden nhw’n ymddiried mewn Arglwydd absennol?Efallai bod cwestiynau tebyg wedi codi yn ein bywydau ninnau, yn enwedig ar hyn o bryd.
Ond mae yna chwarae ysgafn ar eiriau yn yr adnod hon. Gallai feddwl, yn syml a diamwys. ‘bod rhai yn amau’ ac mae’r rhan fwyaf o’r cyfieithiadau’n defnyddio'r gair hwnnw. Ond nid bob tro: mae rhai’n ei gyfieithu fel ‘Petrus’. ‘Bod rhai yn betrus’ a thybed a oedd Mathew’n bwriadu i’r ystyr fod yn ddeublyg oherwydd bod cyswllt rhwng y ddau?Gallai’r disgyblion fod yn Gristnogion hynod betrusgar – wnaeth y Sulgwyn ddim datrys popeth a gwneud cewri o gorachod bob tro.
Wel, heddiw yw Sul y Drindod. Rydym yn cadarnhau mai Duw yw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Rydyn ni’n byw ac yn symud ac yn bod mewn cymundod â thri pherson ac un Duw. Dyma ein ffydd. Ac mae’n ffydd fyw sy’n tyfu ac yn symud, nid yn rhywbeth anhyblyg nad yw’n gallu symud o gwbl.Ac yng nghanol yr hyn rydyn ni’n mynd trwyddo ar hyn o bryd, gallwn deimlo fel Pedr pan ddywedodd Iesu wrtho; Ychydig Ffydd. Rydyn ni’n teimlo, wrth wynebu heriau bywyd, ein bod ni ym mhen bas y pwll o ffydd. Efallai ein bod yn gofyn ble mae Duw yng nghanol hyn i gyd?Rydyn ni’n gweddïo ac yn addoli ac yn teimlo ei fod gerllaw, ond, fel y disgyblion, rydyn ni'n amau ac yn poeni. Efallai ein bod yn petruso ac yn amau a oes gennym ni’r adnoddau i gerdded ymlaen gyda Duw.
Heddiw, rwyf eisiau eich gwahodd i wisgo dillad ffydd wrth i ni wynebu wythnos arall, i dyfu i'r dillad ysbrydol o gariad, llawenydd, heddwch, amynedd, caredigrwydd, daioni sy'n nodwedd disgyblion (Gal.5.22). Yr heriau sy’n ymddangos mor fawr wrth i ni eu hwynebu yw’r union bethau y gall Duw eu defnyddio i’n helpu ni i gerdded oddi wrth ofn ac amheuaeth tuag at ffydd. Maen nhw fel cerrig rhyd sy’n agor y ffordd i ffydd ac ymddiriedaeth newydd yn Nuw. Fe ysgrifennais y weddi hon yn gynharach yn yr wythnos i ni i gyd ac rwy’n ei chynnig i chi ar gyfer yr wythnos sydd o’n blaen:
Dduw Byw, Dri yn Un, ffynhonnell bywyd a phopeth sy’n dda ac yn brydferth,
I ti bo’r clod diddiwedd Dad, Mab ac Ysbryd Glân;
Cod ni uwchben y dyfroedd o amheuaeth sy’n bygwth ein boddi
Tynn ni atat ti dy hun y dydd hwn,
A’n harwain ni i borfeydd o obaith a llawenydd
Oherwydd rwyt ti’n teyrnasu yn y nef ac ar y ddaear
Yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.
Worship on Trinity Sunday
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
2 Corinthians 13:11-13
Finally, brothers and sisters, farewell. Put things in order, listen to my appeal, agree with one another, live in peace; and the God of love and peace will be with you. Greet one another with a holy kiss. All the saints greet you.
The grace of the Lord Jesus Christ, the love of God, and the communion of the Holy Spirit be with all of you.
Matthew 28:16-20
Now the eleven disciples went to Galilee, to the mountain to which Jesus had directed them. When they saw him, they worshiped him; but some doubted. And Jesus came and said to them, “All authority in heaven and on earth has been given to me. Go therefore and make disciples of all nations, baptizing them in the name of the Father and of the Son and of the Holy Spirit, and teaching them to obey everything that I have commanded you. And remember, I am with you always, to the end of the age.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
The disciples come to the Galilean mountain as Jesus had told them. He gathers his disciples once more at the conclusion of his earthly ministry. It’s interesting that mountains feature again – the beatitudes, the transfiguration, the solitary place of prayer all share a geography of remoteness. The open remote space invited them to a deeper inner space of change and new obedience.
And Matthew tells us that when they saw him, they worshipped him. The very best response to the risen Christ. But ‘some doubted’.
This is one of those compressed verses which gives away very little but we might feel is ‘big’, there is more to unpack than a simple single word. Doubt is something a number of disciples experienced early on after the resurrection but here we don’t know who or why. The Living Bible goes way beyond the actual words but is interesting when it translates: ‘but some of them weren’t sure it really was Jesus.’ So the ‘doubt’ was all about encountering someone in such a way that it wasn’t easy to work out who it was. And of course we need to remember that the risen Jesus did have the ability to appear and disappear miraculously so perhaps the doubt really was a question of apprehending who was there.
Some doubted. It’s a fascinating word in Matthew used only twice: here and in 14:31: ‘Immediately Jesus reached out his hand and caught him. ‘You of little faith,’ he said, ‘why did you doubt?’ Isn’t that a gem? In fact it’s a better reading if we say: ‘Immediately Jesus reached out his hand and caught him, ‘Little Faith, why did you doubt?’ Jesus gives Peter a name – he calls him ‘Little Faith’. Now bear in mind that in just two chapters time (Matthew 16), something big is going to happen: Jesus will give Peter a new name: Cephas, the Rock. Little faith has become the Rock. That is the power of Christ to transform.
But I’m getting ahead of myself: Some doubted we are told. And perhaps they doubted in a way the Living Bible suggests – they didn’t know it was Jesus. And that could have been unsettling and concerning: they encounter Him (they think) but in a way that’s sufficiently different to make for some uncertainty. Perhaps they doubted not that it was Jesus but whether this really changed much at all especially if he was soon to depart. Alone and without him close by, the task seems a good deal harder and risky. Would they trust in an absent Lord? We might have encountered similar questions especially at this time.
But there is a nice play on words in this verse. It could mean, pure and simple, ‘some doubted’ and most translations use that word. But a number don’t: they translate it ‘Hesitant’. ‘Some were hesitant’ and I wonder if Matthew intends this twofold meaning because they are linked? The disciples could be very hesitant Christians indeed - Pentecost didn’t solve everything and make giants out of minnows in every case.
Well today is Trinity Sunday. We affirm that God is Father, Son and Holy Spirit. We live and move and have our being in the communion of three persons and one God. This is our faith. And it’s a living faith which grows and moves not an edifice incapable of shift. And in the midst of what we are experiencing at the moment, we may feel at times like Peter to whom Jesus said: Little Faith. We feel, in the face of life’s challenges at the shallow end of the faith pool. We may be wondering where is God in all of this? We pray and worship and feel him near but like the disciples, we doubt and are worried. We might be hesitant and not sure we have the resources to walk forward with God.
Today I want to invite you to inhabit the clothes of faith as we face another week; to grow into those spiritual clothes of love, joy, peace, patience, kindness, goodness which are marks of disciples (Gal. 5:22). The seemingly big challenges we face are the very things God can use to help us walk from fear and doubt to faith. They are like stepping-stones that open the way to new faith and trust in God. I wrote this prayer earlier this week for us all and now offer to you for the week ahead:
Living Triune God, source of life and of all that is good and beautiful,
To you be endless praise Father, Son and Holy Spirit;
Lift us above the waters of doubt which threaten to overwhelm us
Draw us to yourself this day,
And lead us to pastures of hope and joy
For you reign in heaven and on earth
Now and in all eternity. Amen.