
Addoliad ar Sul y Gweddnewidiad
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
2 Corinthiaid 4:3-6
Os yw'n hefengyl ni dan orchudd, yn achos y rhai sydd ar lwybr colledigaeth y mae hi felly— yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw. Nid ein pregethu ein hunain yr ydym, ond Iesu Grist yn Arglwydd, a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o'r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni'r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
Marc 9:2-9
Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu. Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.” Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.
Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Fe hoffwn i gychwyn heddiw drwy rannu dau o bytiau. Mae’r gyntaf yn mynd â ni'n ôl i’r cyfnod cyn Covid; dyddiau dedwydd! Mae’r ail, efallai, yn fwy oherwydd Covid. Felly, yr un cyn Covid yn gyntaf. Mae cerdded yn Eryri’n rhoi syniad i chi o fawredd mynyddodd a llynnoedd yr ardal ogonoeddus hon. Ac, wrth gwrs, o bennau’r mynyddoedd, rydyn ni’n gweld y darlun cyfan. Ac mae gweld y ‘cyfan' mor ddiddorol oherwydd, weithiau, mae’r dyffrynnoedd yn edrych yn wahanol. Felly hefyd y ffyrdd a’r llwybrau a hyd yn oed yr afonydd a’r caeau. Y pwynt yw bod ein safbwynt ni’n rhoi i ni bâr arall o lygaid. Rydyn ni’n gweld pethau’n wahanol. Dyw’r mynyddoedd na’r tirwedd ddim wedi newid ond drwy newid o ble rydyn ni'n edrych arnyn nhw mae pethau ymddangos yn wahanol ac yn anghyfarwydd.
Yr ail bwt, ac oherwydd Covid. Rwyf mor falch fy mod wedi gweithio cymaint gyda’n ffotograffydd Esgobaethol – ar yr Adfent ac, yn fwy diweddar, ar gwrs y Grawys. Ac mae gweld lluniau o bethau cyfarwydd, ond eto o ongl wahanol, yn cael yr un effaith. Rydyn ni'n tueddu i weld pethau nad oedden ni wedi sylwi arnyn nhw o'r blaen. Neu efallai fod pethau’n cael eu pwysleisio mewn ffordd wahanol.
Ac mae hyn yn berthnasol heddiw, ar Sul y Gweddnewidiad. Roedd hyn yn arfer cael ei ddathlu yn yr haf yn ein hen galendr ond, erbyn hyn, mae mewn lle gwell ar y Sul olaf cyn y Grawys. Yma, mae’n rhoi arweiniad da i ni oherwydd rydyn ni'n gweld rhywbeth hanfodol ynghylch Iesu. Rydyn ni’n gweld ei ogoniant, nid gogoniant marchog mewn arfbais ddisglair ond y gogoniant sy’n cael ei ddatgelu mewn gostyngeiddrwydd a dioddefaint. Rydyn ni’n gweld mai’r groes sy’n ei wneud yn fawr ac yn ogoneddus. Ac, wrth i ni feddwl am y math o daith y byddwn ni arni yn y Grawys, rydyn ni'n dal ein gafael yn y darlun hwn sy'n dangos ystyr mawredd mewn gwirionedd.
Ac fel hoffwn i ni feddwl ychydig am hyn:
O safbwynt yr Hen Destament, rwy’n gweld Duw nad yw’n rhoi’r gorau iddi. Mae holl ymwneud Duw gydag Israel yn cael ei ddangos, i mi, yn y ffordd y mae Jacob yn ymgodymu gyda’r creadur rhyfedd, tebyg i angel. Drwy eu hanes, mewn ecsodus ac mewn alltudiaeth, fe welwn i Dduw sy’n galw pobl yn ôl ato oddi wrth y ymyl y dibyn ac yn maddau pechodau’r gorffennol. A'r alwad, bob tro, yw i droi. I Israel droi oddi wrth yr hyn sy’n dinistrio, yr hyn sy’n clodfori’r hunan ac sy’n hyll. Mae’r erfyniad yn aml yn cael ei gyfleu mewn iaith o farnu sy’n dangos nad yw Duw yn gollwng gafael yn gyfan-gwbl, hyd yn oed os yw’n edrych felly weithiau. Ac mewn gwirionedd, gellir disgrifio’r cyfan o’r Hen Destament fel y ffordd y mae Duw’n ymgodymu â’i bobl.
Ar ail beth yr hoffwn i ei ddangos o’r Hen Destament yw bod yna ddyfodol i ni afael ynddo sy’n dda. Dyma oedd yr addewid o wlad yn llifeirio o laeth a mêl. Dyma oedd yr ail gyfamod pan oedd y cyntaf i’w weld wedi’i dorri a heb obaith o’i drwsio. Dyma oedd neges y proffwydi oedd yn rhybuddio’n gyson yn erbyn y dewisiadau drwg ac yn annog cydio yn y foment i gael profiad newydd o fodolaeth. Dyma oedd y darogan o newyddion da oedd yn gweld dyfodol y tu hwnt i alltudiaeth. Dyma'r pethau sy'n dangos bod Duw'n gallu dod â phethau newydd i'r byd, ei fod yn gallu naddu a chreu dyfodol gwell na'r hyn a fu. Rydych chi’n gweld, hyd yn oed yn yr Hen Destament, ein bod yn cael cip ar atgyfodiad, bywyd newydd, rhywbeth y tu hwnt i’r oes hon.
A sut y mae hyn i gyd yn ein helpu ni yma? Mae’r holl bethau hyn rydyn ni wedi’u disgrifio yn yr Hen Destament, sut yr ysgwyddodd Duw y cyfrifoldeb yn y pen draw dros Israel, erbyn hyn yn cael eu canolbwyntio’n llwyr yn ac ar Iesu. Mae’n golygu fod ein Hachubwr wedi camu i fywyd dynol; ddim bellach yn ‘Dduw o bell’ yn gwahodd newid, yn galw am ymateb o ufudd-dod, ond yn Dduw sy’n dod ac Ef ei hunan i galon y bywyd dynol. Pan fyddwn ni’n meddwl am y gweddnewidiad, Duw yw hynny wedi dod atom ni ar ffurf dioddefaint Mab y Dyn.
Fe ddechreuais i drwy sôn rhywbeth am safbwyntiau, gweld pethau o ongl wahanol. Os mai Duw sydd eisiau i ni gerdded y ffordd unig honno i Jerusalem ac mai Duw sydd, rywsut, yn blasu marw ar groes, yna, hynny sy’n gwneud synnwyr o'r cyfan y byddwn ni'n ei wneud yn ystod y Grawys.
Worship on Transfiguration Sunday
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
2 Corinthians 4:3-6
And even if our gospel is veiled, it is veiled to those who are perishing. In their case the god of this world has blinded the minds of the unbelievers, to keep them from seeing the light of the gospel of the glory of Christ, who is the image of God. For we do not proclaim ourselves; we proclaim Jesus Christ as Lord and ourselves as your slaves for Jesus’ sake. For it is the God who said, ‘Let light shine out of darkness’, who has shone in our hearts to give the light of the knowledge of the glory of God in the face of Jesus Christ.
Mark 9:2-9
Six days later, Jesus took with him Peter and James and John, and led them up a high mountain apart, by themselves. And he was transfigured before them, and his clothes became dazzling white, such as no one on earth could bleach them. And there appeared to them Elijah with Moses, who were talking with Jesus. Then Peter said to Jesus, ‘Rabbi, it is good for us to be here; let us make three dwellings, one for you, one for Moses, and one for Elijah.’ He did not know what to say, for they were terrified. Then a cloud overshadowed them, and from the cloud there came a voice, ‘This is my Son, the Beloved; listen to him!’ Suddenly when they looked around, they saw no one with them any more, but only Jesus.
As they were coming down the mountain, he ordered them to tell no one about what they had seen, until after the Son of Man had risen from the dead.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
I want to begin today with two snippets to share. The first takes us back to a time before Covid: sweet days! The second perhaps more because of Covid. So, before Covid firstly. Walking in the hills in Snowdonia gives you a sense of the scale of mountains and lakes that litter this stunning area. And of course from up there we see the whole picture. And seeing the ‘whole’ is so interesting because sometimes valleys look different. So too the roads or lanes and even rivers and fields. The point is that our perspective gives us a different set of eyes. We see things differently. The mountains and landscape haven’t changed but the change in our vantagepoint means things seem different and unfamiliar.
A second snippet and because of Covid. I’ve been glad to work with our Diocesan photographer a lot – the Advent and more recently, the Lent course. And seeing photographs of familiar things but again from a different angle has had a similar effect. We end up seeing things which we haven’t noticed before. Or perhaps things are emphasized in a new way.
And this is relevant today which is Transfiguration Sunday. This occasion used to fall in the summer in our older calendar but is now better placed as a Sunday just before Lent. Here it gives us a good lead in because we see something vital about Jesus. We see his glory: not the glory of a knight in shining armour but glory revealed in lowliness and suffering. We see that it is the cross which makes him great and wonderful. As we think about the kind of journey we undertake in Lent we hold this picture of what true greatness means.
And I want us to think about this a bit:
From the Old Testament perspective I see a God who doesn’t give up. The whole of God’s dealings with Israel seem to me captured in the way Jacob wrestles with the strange angel-like figure. Throughout their history, in exodus and exile we see God calling people back from the abyss and a resolution of past sins. And the call has always been to turn. For Israel to turn away from what destroys, what is self-absorbing and ugly. That plea often couched in the language of judgement shows that God does not cast off for ever even if it seems that way. And really, almost the whole of the Old Testament could be described in the way God wrestled with his people.
And the second thing I want to bring from the Old Testament is that there is a future to be grasped which is good. This was the promise of a land flowing with milk and honey. This was a second covenant when the first seemed broken beyond repair. This was the message of prophets who constantly warned against bad choices and to seize the moment for a different kind of existence. It was the herald of good tidings who saw a future beyond exile. These are the things which show that God can bring new things into being, can craft and create a future which is better than what has been before. You see even in the Old Testament we get glimpses of resurrection, new life, something beyond the present age.
Now how do these things help us here? All those things we have described in the Old Testament, how God assumed ultimate responsibility for Israel, is now focused entirely in and on Jesus. It means that our Rescuer has stepped into human life; no longer ‘God-from-a-distance’ inviting change, calling for a response of obedience but God bringing His very self into the heart of human life. When we think about the transfiguration it is the God who has come to us in the suffering of the Son of Man.
I began by saying something about perspectives: seeing things from a different angle. If it is God who walks that lonely road to Jerusalem and God who, somehow, tastes death upon a cross, then it is this which makes sense of all we do in Lent.