
Addoliad ar Ŵyl Fair y Canhwyllau
Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Hebreaid 2:14-18
Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol, a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes. Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion. Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl. Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.
Luc 2:22-40
Pan ddaeth amser eu puredigaeth yn ôl Cyfraith Moses, cymerodd ei rieni ef i fyny i Jerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd, yn unol â'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith yr Arglwydd: “Pob gwryw cyntafanedig, fe'i gelwir yn sanctaidd i'r Arglwydd”; ac i roi offrwm yn unol â'r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: “Pâr o durturod neu ddau gyw colomen.”
Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd. Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith, cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:
“Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd,
mewn tangnefedd yn unol â'th air;
oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,
a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:
goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd
ac yn ogoniant i'th bobl Israel.”
Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano. Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir; a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”
Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi, ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos. A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.
Wedi iddynt gyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd, dychwelsant i Galilea, i Nasareth eu tref eu hunain. Yr oedd y plentyn yn tyfu yn gryf ac yn llawn doethineb; ac yr oedd ffafr Duw arno.
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Diddanwch Israel
Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon, dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno
Dros y cyfnod clo, oherwydd fy mod i, fel llawer ohonoch chi mae’n debyg, yn cofio sut beth oedd bywyd ar un adeg, rwyf wedi bod yn dwyn i gof y rhai sydd wedi dylanwadu fwyaf ar fy mywyd. Mae pregethau, achlysuron a digwyddiadau wedi bod yn codi i flaen fy meddwl, pob un wedi dylanwadu i ryw raddau arnaf i. Ac , mae’n debyg, mai un peth sy’n fy nharo yw fod y bywyd Cristnogol yn llawer mwy o ras hir nag yw o sbrint, a hynny oherwydd fod ein ffydd yn newid dros amser ac yn cael ei ffurfio gan gymaint o wahanol bethau. Mae’n gymysgedd gwiw o bethau a digwyddiadau sy’n dal i greu argraff.
Ac felly, pan fyddaf i’n darllen am Simeon, rwy'n cael yr argraff ei fod yn berson yr oedd ei ffydd wedi'i ffurfio dros y blynyddoedd, hyd yn oed at y cyfnod pan ydym ni'n rhan ohono yn ein darlleniad heddiw. Ysgwn i a oes yna wersi y gallwn ni ei ddysgu ganddo i’n helpu ni hefyd?
Ac fel hoffwn i gychwn gyda’r datganiad hwnnw ei fod yn edrych ymlaen at ddiddanwch Israel. Mae’r geiriau hynny'n cyd-fynd â’r dyheadau hynny rydyn ni’n darllen amdanyn nhw yn yr Ysgrythur, fel Eseia 40: ‘Cysurwch, cysurwch fy mhobl – dyma orchymyn eich Duw. Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor.’ Y cyd—destun yw popeth yma: unwaith eto mae’r tir wedi’i feddiannu ac ym meddiant pobl nad ydyn nhw’n malio fawr ddim am hanes Duw, am yr addewidion i Abraham a geiriau'r proffwydi. Nid dyma’i thymor, ond mae emyn yr Adfent ‘O tyred di Emaniwel’ hefyd yn cyfleu'r teimlad o hiraeth am ein rhyddid. Rydym ni’n gweddïo y daw Duw a ‘datod rwymau Israel, sydd yma’n alltud unig, trist’. Hiraethu y mae Simeon am adfer yr hyn a gollwyd amser maith yn ôl.
Ac mae ei gri’n cael ei ffurfio mewn ffordd newydd yn y weddi y dysgodd Iesu i ni y gallai’r Deyrnas ddod eto. Mae’n hawdd iawn meddwl fod y Deyrnas yn golygu rhyw ddigwyddiad mawr, rhywbeth fel diwedd y byd, ond, mewn gwirionedd, mae'n llawer symlach na hynny. Diolch byth! Mae’r Deyrnas yn dod mewn ffyrdd sydd weithiau mor syml ac union nes ei bod yn hawdd iawn i ni beidio â’i gweld. Mae’n weithred o garedigrwydd i rywun, neu weddi dros rywun mewn trafferthion neu hyd yn oes dros rywun sy’n eich croesi. Nid yw dyfodiad y Deyrnas yn cael ei gyfyngu gan ein gweithredoedd ni ond dyma sut, yn aml, y mae Duw’n siarad neu'n cael ei ddarganfod.
Yn aml iawn, efallai y byddwn ni’n meddwl am bobl neu sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos fod Duw'n absennol neu’n meddwl, efallai, am y gymuned lle'r ydym ni'n byw. Pan fyddwn ni’n gweddïo am ddyfodiad y Deyrnas , rydyn ni'n cael ein tynnu'n anorfod i'r weddi rydym ni'n ei hoffrymu. Rywsut, rydym ni’n dod yn rhan o’r ateb i’r peth rydym ni’n dyheu amdano. Ysgwn i sut ydym ni’n gweddïo am ddyfodiad Teyrnas Dduw neu, yng ngeiriau Simeon am ‘Ddiddanwch Israel’?
A’r ail beth rwy’n sylwi am Simeon yw bod yr Ysbryd Glân arno. Ond yw hynny’n ddywediad gwych? Mae’n swnio fel bod yna ddyfnder a rhwyddineb yn ffydd Simeon oedd yn galluogi'r Ysbryd, mor dyner â cholomen, i ddisgyn ac aros ar Simeon. Rwy’n meddwl am yr emyn hyfryd honno ‘Tyrd, Ysbryd cariad mawr’ a’r geiriau:
Uwch deall dynol ryw
fo’r hiraeth dwfn am Dduw
a phresenoldeb Crist byth bythoedd:
ei ras ni ŵyr un dyn
nes dod yn deml ei hun
lle trig yr Ysbryd Sanctaidd yn oes oesoedd
Yn ôl y sôn, roedd y berthynas oedd gan Moses gyda Duw yn un arbennig. Mae’n debyg fod yr Arglwydd yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â’i gyfaill (Ex 33.11) ac efallai fod gan hyn hefyd ychydig o’r rhwyddineb a’r agosatrwydd hwnnw sydd y tu ôl i’r berthynas arbennig honno gyda Duw. Ond dydw i ddim yn meddwl fod y math yma o beth yn cael ei neilltiuo ar gyfer y rhai arbennig – y seintiau a’r bobl ddylanwadol o’r oesoedd o’r blaen. Rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth sy’n tyfu gyda’r blynyddoedd, fesul tipyn. Roedd Simeon wedi gwneud dilyn Duw yn nod ei fywyd ac rwy'n gweld hynny'n ysbrydoledig oherwydd mae'n golygu fod yna’n dal rywbeth newydd o hyd i'w ddarganfod yn ein bywyd gyda Duw. Dyma’r dyn Cristnogol sydd wedi bod yn dyheu am rywbeth newydd oddi wrth Dduw ac wrth iddo gymryd Crist y plentyn mae’n gweddïo’r weddi fawr rydyn ni’n ei galw’n ‘Nunc Dimitis’.
Fe ddechreuais i drwy edrych yn ôl, wrth gofio am y pethau oedd wedi ffurfio fy ffydd i fy hun. Roedd Simeon wedi cael ei ffurfio gan ei stori ei hyn fel y byddwn ninnau yn ogystal â gan ein stori ni. Ond beth sy’n bwydo i hynny, beth sy’n gwneud y ffordd o’n blaen yn dda ac yn obeithiol, yw fod Duw gerllaw, yn ffrind ac yn gydymaith. A phan fyddwn ni’n cael ein hunain yn gweddïo am ddiddanwch Israel, am ddyfodiad Teyrnas Dduw, efallai fod hynny ynddo’i hunan yn arwydd ein bod ninnau hefyd yn symud i’r cyfeiriad iawn.
Worship on the Feast of Candlemas
During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Hebrews 2:14-18
Since, therefore, the children share flesh and blood, he himself likewise shared the same things, so that through death he might destroy the one who has the power of death, that is, the devil, and free those who all their lives were held in slavery by the fear of death. For it is clear that he did not come to help angels, but the descendants of Abraham. Therefore he had to become like his brothers and sisters in every respect, so that he might be a merciful and faithful high priest in the service of God, to make a sacrifice of atonement for the sins of the people. Because he himself was tested by what he suffered, he is able to help those who are being tested.
Luke 2:22-40
When the time came for their purification according to the law of Moses, they brought him up to Jerusalem to present him to the Lord (as it is written in the law of the Lord, ‘Every firstborn male shall be designated as holy to the Lord’), and they offered a sacrifice according to what is stated in the law of the Lord, ‘a pair of turtle-doves or two young pigeons.’
Now there was a man in Jerusalem whose name was Simeon; this man was righteous and devout, looking forward to the consolation of Israel, and the Holy Spirit rested on him. It had been revealed to him by the Holy Spirit that he would not see death before he had seen the Lord’s Messiah. Guided by the Spirit, Simeon came into the temple; and when the parents brought in the child Jesus, to do for him what was customary under the law, Simeon took him in his arms and praised God, saying,
‘Master, now you are dismissing your servant in peace,
according to your word;
for my eyes have seen your salvation,
which you have prepared in the presence of all peoples,
a light for revelation to the Gentiles
and for glory to your people Israel.’
And the child’s father and mother were amazed at what was being said about him. Then Simeon blessed them and said to his mother Mary, ‘This child is destined for the falling and the rising of many in Israel, and to be a sign that will be opposed so that the inner thoughts of many will be revealed—and a sword will pierce your own soul too.’
There was also a prophet, Anna the daughter of Phanuel, of the tribe of Asher. She was of a great age, having lived with her husband for seven years after her marriage, then as a widow to the age of eighty-four. She never left the temple but worshipped there with fasting and prayer night and day. At that moment she came, and began to praise God and to speak about the child to all who were looking for the redemption of Jerusalem.
When they had finished everything required by the law of the Lord, they returned to Galilee, to their own town of Nazareth. The child grew and became strong, filled with wisdom; and the favour of God was upon him.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
The Consolation of Israel
Now there was a man in Jerusalem whose name was Simeon; this man was righteous and devout, looking forward to the consolation of Israel, and the Holy Spirit rested on him.
Over the period of lockdown, probably because I’ve been conscious, like many of you, what life looked like once upon a time, I’ve been reflecting on those who have had an impact on my life most of all. I’ve found myself remembering sermons, occasions and events all of which had some kind of an impact on me. And I suppose one of the things which strikes me is that the Christian life is much more a distance run than a sprint and that’s because our faith changes over time and is shaped by so many things. It’s a great collage of fixtures and events which continue to make an impression.
And so when I read of Simeon I get the impression he was a person whose faith had been shaped over the years even to the time when we step into the frame in the reading given to us today. And I wonder if there are lessons we can learn from him to help us too?
And I want to start with that statement he was looking forward to the consolation of Israel. Those words stand alongside other great longings we read in Scripture such as Isaiah 40: ‘Comfort, O comfort my people, says your God. Speak tenderly to Jerusalem and cry to her that she has served her term.’ The context here is everything: once more the land is occupied and in the hands of those who care little for the story of God, the promises to Abraham and the word of the prophets. It’s unseasonal but the Advent hymn ‘O come, O come Emmanuelle’ captures also that sense of longing for our freedom. We pray God will come and ‘ransom captive Israel that mourns in lonely exile here’. So Simeon is longing for a restoration what has been long lost.
And this cry takes shape in a new way in the prayer Jesus taught us that the Kingdom might come again. Now it’s very easy to think the Kingdom means some great event, something like the end of the world but actually it’s much simpler than that. Thank goodness! The Kingdom comes in ways that are sometimes so simple and straight that we can almost miss it. It’s the act of kindness to another or the prayer for someone in need or difficulty or even someone who is at odds with you. The coming of the Kingdom is not limited to our actions but so often that is the way God speaks or is discovered.
Very often we might find ourselves thinking of others or situations where there seems an absence of God or perhaps for the local community in which we live. When we pray for the Kingdom to come, we are inevitably drawn into the prayer we offer. Somehow we become a part of the answer to the thing we long for. I wonder how we pray for the coming of God’s Kingdom or in Simeon’s words for the ‘Consolation of Israel’?
And the second thing I notice about Simeon is that the Holy Spirit rested on him. Isn’t that a great phrase? It sounds as though there was a depth and an ease to Simeon’s faith which allowed the Spirit, gentle as a dove, to descend and remain on Simeon. I think of that lovely hymn ‘Come down O love divine’ and the words:
And so the yearning strong
with which the soul will long
shall far surpass the power of human telling;
for none can guess its grace
till we become the place
in which the Holy Spirit makes his dwelling.
We’re told that Moses had a relationship with God that was special. We’re told the Lord used to speak to Moses face to face, as one speaks to a friend. (Ex 33:11) and perhaps this too has something of that ease and familiarity which lies behind that special relationship with God. I don’t think this kind of thing is reserved for the special ones though – the saints and great figures of former years. I think it’s something which grows over the years bit by bit. Simeon made the pursuit of God an aim in his life and I find that so inspiring because it means there is always something new to be discovered in our life with God. Here is this Christian man who has been longing for something new from God and as he takes the Christ child he prays that great prayer we know as the ‘Nunc Dimitis’.
I began by looking backwards, reflecting on things which have shaped my own faith. Simeon was shaped by his own story as will we by ours. But what feeds into that, what makes the road ahead good and hopeful is God is close to hand, a friend and companion. And when we find ourselves praying for the consolation of Israel, for the Kingdom of God to come perhaps that in itself is a sign we’re moving in the right direction.