minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd" | "Rejoice and be glad, for your reward is great in heaven"
English

Addoliad ar Ŵyl yr Holl Saint


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


1 Ioan 3:1-3

Gwelwch pa fath gariad y mae'r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym. Y rheswm nad yw'r byd yn ein hadnabod ni yw nad oedd yn ei adnabod ef. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur.


Mathew 5:1-12

Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. 2Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:

“Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,
oherwydd cânt hwy eu cysuro.
Gwyn eu byd y rhai addfwyn,
oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,
oherwydd cânt hwy eu digon.
Gwyn eu byd y rhai trugarog,
oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
Gwyn eu byd y rhai pur eu calon,
oherwydd cânt hwy weld Duw.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,
oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Rwy’n siŵr fod llawer ohonom wedi’n magu ar arlwy o wasanaethau ysgolion lle’r oedd emynau’n cael eu bloeddio i gyfeiliant hen biano allan o diwn? Yno y dysgais i lawer o’r emynau rydyn ni’n eu coleddu yn yr eglwys, er fy mod, ar y pryd, yn eu gweld yn eithaf erchyll. Hyd yn oed heddiw, fe allaf i gofio'r emynau Saesneg ‘O Jesus I have promised’ ac ‘For all the saints’. Mae’r geiriau yn y seithfed bennill yn dal u yrru ias i lawr fy asgwrn cefn:

‘But lo! there breaks a yet more glorious day;

the saints triumphant rise in bright array;

the King of glory passes on his way.

Alleluia! Alleluia!’

Heddiw, rydyn ni’n dathlu dydd yr Holl Saint. Rydyn ni’n cofio’r cwmwl mawr o dystion na allai neb eu cyfrif, gyda’u gobaith yn y Gair a wnaethpwyd yn gnawd ac sy'n ein clymu ninnau am byth yn un yng Nghrist. Rydyn ni’n diolch i Dduw amdanyn nhw ac yn edrych atyn nhw am gymorth i ni heddiw.

Ac, wrth gwrs, mae wedi gwneud i mi ystyried unwaith eto beth yw ystyr bod yn sant. Mae yna lawer rydyn ni’n eu hedmygu ond pwy a fydden ni’n eu dilyn neu’n eu hefelychu mewn ffordd sy’n fwy bwriadol a phwrpasol? Rwyf eisiau ystyried dau brif faes:

Yn gyntaf, seintiau yw pobl sy’n Ymgorffori Crist. Ac yna rydyn ni’n cychwyn gyda rhywbeth ynghylch eu ffydd: mae’r bobl hyn yn perthyn i Grist gydag egni ac angerdd, fe allen ni ddweud fod y newyddion da wedi gafael ynddyn nhw. Un o fy hoff Gristnogion o gyfnod cynnar hanes Cristnogaeth yw Polycarp. Pan ofynnwyd iddo wadu ei ffydd, mae cofnod i Polycarp ddweud:

’Chwe mlynedd a phedwar ugain y bum i’n Ei wasanaethu, ac nid yw Efe wedi gwneud dim drwg i mi. Sut allaf i felly gablu fy Mrenin a'm Gwaredwr?’ Rydyn ni’n meddwl yn aml am seintiau fel pobl yr oedd eu bywydau moesol yn rhinweddol, ond, o flaen popeth, roedden nhw’n bobl oedd wedi cael eu hennill i Grist. A daeth yr argyhoeddiad hwnnw ynghylch ei gariad gwaredol yn drawsnewidiol.

Mae seintiau hefyd yn bobl sy'n deall eu hunain, yn hynod ymwybodol o'u diffygion. A does ond rhaid i ni cael cip ar dudalennau’r Hen Destament a'r Testament Newydd i weld hyn. Dyma i chi Jacob, y patriarch: twyllwr, celwyddgi, llwfrgi. Tysteb ymhell o fod yn dda, ynte? Ac eto, trwy’r un person hwn, gwaredodd Duw ei bobl ac adeiladu cenedl. Nid y pwynt yw y dylen ni dwyllo! Y pwynt yw fod pobl sy’n deall eu gwendidau yn chwilio am help i’w goresgyn ac yn tyfu i aeddfedrwydd.

Ac mae ymgorffori Crist hefyd yn ymddangos i mi yn gofyn am beth angerdd ac ymrwymiad. Mae ymgorffori Iesu’n golygu na allwn ni fod yn ddifater. Mae Sant Paul, efallai, yn enghraifft dda o hyn: weithiau’n fyrbwyll ac yn ddi-flewyn ar dafod, efallai’n boen i bobl o’i gwmpas ond bob tro’n angerddol dros yr efengyl. Sant Paul a ddywedodd pan oedd yn y carchar: ‘Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw’. Bywyd gwerth ei fyw - gydag arwyddocâd a gwerthoedd. Rwy’n meddwl mai dyma y mae’r saint yn ei gynnig.

Ond nid yw ffydd byth yn cael ei byw mewn gwagle a dyna pam ein bod ni angen mwy na dim ond ymgorfforiad o Grist. Mae seintiau hefyd yn bobl sy’n Ysgogi Eraill, a dyma’r ail beth rwyf eisiau ei ddweud. Mae grym eu bywydau’n ymestyn allan. Mae seintiau’n gwahodd pobl eraill i ddod â gwneud hynny hefyd. Mae nhw’n galluogi neu’n herio eraill i ddilyn. Mae’n debyg mai’r fwyaf adnabyddus o’n holl ddynion a merched o ffydd yw'r Fam Theresa oherwydd ei chariad mawr at y tlodion. A hollol haeddiannol hefyd. Ond roedd ganddi ddylanwad oherwydd bod cymaint wedi cofleidio ei ffordd o fyw a bod cymaint heddiw hefyd yn dal i'w hedmygu hi a’i chymuned. Ac nid oherwydd bod Theresa’n bersonoliaeth braf oedd hyn ond oherwydd ei bod yn sefyll dros rywbeth oedd yn cymell, roedd yna rywbeth dilys yn ei bywyd oedd yn werth ei efelychu.

Mae yna ffordd o ddisgrifio bod yn sant a allai fod braidd yn rhy braf hefyd. Weithiau, roedd mawrion y gorffennol yn bobl oedd yn taflu goleuni ar gymdeithas ac yn dweud pethau oedd yn ein gwneud ni’n hynod o anghyfforddus. Rwy’n meddwl am Martin Luther King. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd a’i bregethau a’i anerchiadau. Pwy allai anghofio:

‘Rwy’n dweud wrthych chi heddiw, fy nghyfeillion, peidiwch ag ymdrybaeddu yng nglyn cysgod anobaith. Ac er ein bod yn dal i wynebu trafferthion heddiw ac yfory, mae’n dal gen i freuddwyd. Mae'n freuddwyd sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn ym mreuddwyd America. Mae gen i freuddwyd y bydd y genedl hon, ryw ddydd, yn codi ac yn byw gwir ystyr ei chredo: “Daliwn fod y gwirioneddau hyn yn amlwg, fod pob dyn yn cael ei greu’n gyfartal". Mae gen i freuddwyd y bydd, un dydd, ar fryniau coch Georgia, feibion cyn gaethweision a meibion cyn berchnogion caethweision yn gallu eistedd gyda'i gilydd wrth fwrdd brawdoliaeth'.

Costiodd y freuddwyd honno ei fywyd i Martin Luther King. A yw’n syndod ein bod ninnau’n cael ein dysgu mai gwaed y merthyron yw hadau’r eglwys?

Yn olaf, rwy’n meddwl fod seintiau'n bobl sy'n creu newid a symudiad. Mae yna newid gweladwy, amlwg, un ai mewn cymdeithas neu mewn pobl eraill. Os mai hanfod yr efengyl yw’r ffordd y mae Duw’n dod â’r Deyrnas, yna ddylen ni ddim cael ein synnu. Yn y bywyd sy’n wirioneddol debyg i Grist, nid hadau sydd yna ond egin byw sy’n ei gwneud yn bosibl i'r hyn sydd wedi'i ddinistrio gael ei wneud yn gyfan ac i'r hyn sy'n anghyfiawn gael ei unioni.

A dyma pam fod heddiw'n ddiwrnod newyddion da, pam ein bod ni angen seintiau i’n cryfhau a’n hysbrydoli. Ac wrth i mi orffen, gadewch i mi eich atgoffa ei bodd yn ddiwrnod yr Holl Seintiau ac mae hynny’n golygu fod y drws yn agored i chi a minnau: pob un ohonom wedi cael gallu gan Dduw i wneud gwahaniaeth, i fod wedi’n gwreiddio yng Nghrist, i ddilyn ac i wahodd eraill i'r un lle - dyna, yn wir, yw'r peth mwyaf bendigedig.

Amen.

Cymraeg

Worship on the Feast of All Saints


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


1 John 3:1-3

See what love the Father has given us, that we should be called children of God; and that is what we are. The reason the world does not know us is that it did not know him. Beloved, we are God’s children now; what we will be has not yet been revealed. What we do know is this: when he is revealed, we will be like him, for we will see him as he is. And all who have this hope in him purify themselves, just as he is pure.


Matthew 5:1-12

When Jesus saw the crowds, he went up the mountain; and after he sat down, his disciples came to him. Then he began to speak, and taught them, saying:

“Blessed are the poor in spirit, for theirs is the kingdom of heaven.
“Blessed are those who mourn, for they will be comforted.
“Blessed are the meek, for they will inherit the earth.
“Blessed are those who hunger and thirst for righteousness, for they will be filled.
“Blessed are the merciful, for they will receive mercy.
“Blessed are the pure in heart, for they will see God.
“Blessed are the peacemakers, for they will be called children of God.
“Blessed are those who are persecuted for righteousness’ sake, for theirs is the kingdom of heaven.
“Blessed are you when people revile you and persecute you and utter all kinds of evil against you falsely on my account. Rejoice and be glad, for your reward is great in heaven, for in the same way they persecuted the prophets who were before you.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

I suspect many of us grew up on a diet of school assemblies and hymns belted out on an old rickety piano? I learned many of the hymns we cherish in church although at the time they seemed ghastly. Even now I can recall ‘O Jesus I have promised’ and ‘For all the saints’. Those words in verse 7 still send a shiver down my spine:

‘But lo! there breaks a yet more glorious day;

the saints triumphant rise in bright array;

the King of glory passes on his way.

Alleluia! Alleluia!’

Today we keep All Saints day. We remember that great cloud of witnesses which none can number whose hope was in the Word made flesh and with whom we are forever one in Christ. We thank God for them and look to their example to aid us today.

And of course it’s made me reflect again on what sainthood means. There are many we admire but who might we follow or emulate in a way that is more intentional and deliberate? I want to look at 2 main areas:

Firstly, saints are people who Embody Christ. And we start then with something about their faith: these people belong to Christ with energy and passion; we might say they have been gripped by the good news. One of my favourite Christians from the early period of Christian history is Polycarp. When faced with the demand he renounce his faith, Polycarp is recorded as saying:

‘Eighty six years have I served Him, and He has done me no wrong. How then can I blaspheme my King and Saviour?’ We often think of saints as people whose moral life was virtuous but before anything else, they were people who had been won for Christ. And that conviction about his saving love became transformative.

Saints are also people who have a realism about themselves; deeply aware of their shortcomings. And we only need to dip into the pages of both Old and New Testaments to see this. Take a look at Jacob the patriarch: a cheat, a liar, a coward. Not a good resume is it? And yet through this one person, God delivered his people and built a nation. The point is not that we go out to cheat!! The point is that people who know their shortcomings look for help to overcome them and to grow in maturity.

And embodying Christ also seems to me to involve some passion and commitment. To embody Jesus means we cannot be apathetic. St Paul perhaps is a good example here: at times compulsive and outspoken, perhaps difficult to live with but always passionate for the gospel. It was Paul who said from prison: ‘To me to live is Christ and to die is gain’. A live worth living – with significance and value. I think that’s what saints offer.

But faith is never lived out in a vacuum and that’s why we need more than just an embodying of Christ. Saints are also people who Energize Others, that’s the 2nd thing I want to say. The force of their life has ripples. So saints invite others to come and do likewise. They enable or challenge others to follow. Surely one of the best known of all our great men and women of faith is Mother Theresa because of her great love for the poor. Rightly so. But she has had an influence because of the multitude who have embraced her lifestyle and countless people look to her way and community still today. And this is not just because Theresa had a pleasing personality but because she stood for something compelling, there was something authentic in her life worth imitating.

There’s a way of describing sainthood which might be a little too cosy too. Sometimes the greats of times past have been people who shine a light on society and say things which make us very uncomfortable. I think of Martin Luther King. We know his famous sermons and speeches don’t we? Who can forget:

‘Let us not wallow in the valley of despair, I say to you today, my friends. And so even though we face the difficulties of today and tomorrow, I still have a dream. It is a dream deeply rooted in the American dream. I have a dream that one day this nation will rise up and live out the true meaning of its creed: "We hold these truths to be self-evident, that all men are created equal. I have a dream that one day on the red hills of Georgia, the sons of former slaves and the sons of former slave owners will be able to sit down together at the table of brotherhood.’

That dream cost MLK his life. Is it any wonder we are taught the blood of the martyrs is the seed of the church?

Lastly I think saints are people who create change and shift. There is a noticeable and discernible alteration in either society or in others. If the gospel is fundamentally about the way God brings the Kingdom, then we should not be surprised. In he life which is truly Christ like there are not the seeds but the living shoots which make it possible for what is broken to be made whole and for what is unjust to be righted.

And all of this is why today is a good news day, why we needs saints to infirm and inspire us. And as I finish, let me remind you that it is All Saints day and that means the door left open to you and me: each of us with a god given capacity to make a difference; to be rooted in Christ, to follow and to invite others into the same space – that is a most blessed thing indeed.

Amen.