
Addoliad ar Ŵyl Luc
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
2 Timotheus 4:5-17
Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.
Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod. Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd. Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef.
Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan, oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia. Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth. Anfonais Tychicus i Effesus. Pan fyddi'n dod, tyrd â'r clogyn a adewais ar ôl gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau. Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf.
Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw â chyfrif hyn yn eu herbyn. Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
Luke 10:1-9
Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. Dywedodd wrthynt, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid. Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’ Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
O enau’r Llew
‘In-for-me, in-for-me, they’ve all got it in-for-me’! Faint ohonom ni sy’n cofio'r geiriau hynod ddigrif hyn gan Kenneth Williams yn un o gomediau’r gorffennol. Enghraifft wych o hiwmor ‘Prydeinig’.
Mae modd darllen St Paul mewn ffordd a fyddai’n gosod y geiriau yna gyda'r hyn roedd yr apostol yn ei ddweud, hyd yn oed pe byddai hynny’n hynod annheg. Tua diwedd ei oes, mewn carchar yn myfyrio ar ei dynged, dechreuodd Paul sylweddoli ei fod ar ei ben ei hun, fod ei gyfeillion wedi'i adael a'i fod yn wynebu dyfodol unig ac ansicr. Yn wir, mae rhai pobl wedi awgrymu fod Paul wedi’i lethu gan ei sefyllfa a’i fod yn llawn o hunan dosturi.
Er nad wy’n meddwl fod hynny’n wir, mae ein darlleniad heddiw’n dangos apostol bregus sydd nid yn unig yn myfyrio ar ei dynged ond hefyd yn hynod ymwybodol a beth y mae’r efengyl yn ei olygu. Dim rhyfedd ei fod yn cofio’n edifeiriol am y gof efydd oedd wedi gwneud niwed iddo a Demas a'i gadawodd am ei fod yn 'caru'r byd'.
Heddiw, rydyn ni’n dathlu Sant Luc yr efengylwr. Ac mae ein darlleniad yn ein gwahodd i feddwl am beth oedd Paul, fel efengylwr hynod, yn ei ddweud yr oedd yr efengyl yn ei gofyn ganddo. Beth wnawn ni o 'r darlleniad ac o eiriau Paul?
Byddai’n hawdd ac yn ystrydebol dychmygu bod gwaith yr efengyl yn llawn hwylustod a llwyddiant ond yr hyn sy'n fy nhraw i o'r cychwyn yw mor ddynol yw Paul. Roedd wedi cyfarfod gwrthwynebiad a doedd o ddim yn hoffi hynny. Ar un llaw, ddylai hynny ddim bod yn syndod iddo. Oni ddywedodd Iesu y byddai ei ddilyn ef yn golygu cario’r groes. Ac yn y damhegion roedd Paul yn sicr o fod yn gyfarwydd â nhw, fel dameg yr hauwr, roedd llawer o ymdrechion yr hauwr yn ofer, hadau’n disgyn ar y graig neu'n cael eu difa cyn iddyn nhw aeddfedu.
Mae newyddion da Iesu yn newyddion da bob amser. Mae’n neges fod Duw wedi camu i'r byd nid yn unig i ddangos y ffordd i ni ond i'n hachub. Y groes a’r atgyfodiad yw gweithredoedd mawr iachawdwriaeth Duw sy’n ein codi o bechod a gwacter i fywyd tragwyddol, bywyd yn ei gyflawnder, fel y mae Sant Ioan yn ei ddisgrifio. Ond dyna’r broblem, efallai. Wrth ddadansoddi bywyd dynol, mae’r efengyl yn sôn wrthym am gariad Duw ond hefyd ein bod angen help! Rydyn ni angen ein hachub. Ac yn aml iawn, yn erbyn hynny y byddwn ni’n gwrthryfela ac yn protestio.
Mewn gwirionedd, nid gwaith hawdd yw sylweddoli ochr dywyll y bywyd dynol. Mae’n rhywbeth poenus ac yn gofyn am y math o hunan ymwybyddiaeth na fydd gan y rhan fwyaf ohonom fyth mohono. Felly, ni ddylai gwrthwynebiad ein synnu na'n poeni. Weithiau, nid yw gwaith yr efengyl a’r eglwys yn cael derbyniad gyda breichiau agored ond gyda gelyniaeth a gwrthodiad. Nid hawl i fychanu sydd yma, i fod yn ymosodol wrth rannu ffydd, ond gwahoddiad i ddeall beth sy’n digwydd ynom ni, ac mewn eraill hefyd.
Yr ail beth sy’n fy nharo yw bod yr efengyl yn golygu cost. Mae Demas, sy’n cael ei grybwyll ond dair gwaith yn y Testament Newydd, hefyd yn sylweddoli ei fod yn gostus. Rydym yn clywed ei fod yn cerdded. Pan alwodd Iesu ei ddisgyblion at ei gilydd rhoddodd orchymyn iddyn nhw (wel, sawl un mewn gwirionedd) – i garu eu gilydd, wrth gwrs, ond hefyd i fynd allan a gwneud disgyblion (Mathew 28). Ni ddywedodd ‘Ewch allan a gwneud pobl yn grefyddol nac hyd yn oed yn gredinwyr. Mae’n dweud ewch a gwnewch ddisgyblion. Ac mae bod yn ddisgybl yn golygu mwy na llofnodi darn o bapur. Mae’n golygu bywyd wedi’i unioni, yn cael ei fyw er mwyn Crist. Rydym yn dysgu caru fel efe, i feddwl fel efe, i ymddwyn fel efe.
Roeddwn yn myfyrio ar hyn yn ddiweddar ac ar y gorchymyn i garu eich gelynion.Pan oeddwn ni yn Israel ychydig flynyddoedd yn ôl, bum yn ymweld â phobl ar y ddwy ochr o’r drafodaeth yn Israel – y Palestiniaid a’r Israeliaid (a chryn dipyn o rai eraill hefyd).Mae’r dadleuon am dir ac awdurdod yn gymhleth.Tybed beth sy’n ddigon cryf, yn ddigon mawr ac yn ddigon nerthol i ddod â setliad cyfiawn a pharhaol i’r broblem?Dydw i ddim yn golygu beth allai’r datrysiad gwleidyddol terfynol fod ond cael gwared ar amheuaeth, ymddiried fwy fwy, a dechrau cymodi calonau (cyn dechrau sôn am dir).
Mae’r math yma o gariad yn ddrud. Mae heriau fel hyn yn rhan o wead ffydd yr efengyl a phan mae hynny ymddangos yn rhy anodd, nid yw’n syndod chwaith fod ei ddilyn Ef hefyd yn dod yn rhy anodd.
Pe byddem ni’n dod â’n myfyrdod i ben yma, byddai galwad yr efengyl yn ymddangos yn llym a digroeso.Ond sylweddolodd Paul lawenydd a rhyfeddod rhannu gwaith Duw. Dyma ei eiriau tua diwedd y darlleniad: ‘Onid safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i’r pregethu gael ei gyflawni ac i’r holl Genhedloedd gael ei glywed a chefais fy ngwaredu o enau’r llew’. Darganfu Paul fod Duw yn agos ato pan oedd yn camu allan mewn ffydd. Darganfu nerth a oedd y tu hwnt iddo. Ac oherwydd hynny, roedd yn llawn o lawenydd.
Dydw i ddim yn credu bod y ffydd rydyn ni’n cael ein galw i’w rhannu ond megis set o reolau. Rydyn ni’n cael ein galw i rannu Iesu a’i fywyd ynom ni: sy’n golygu gwirionedd Crist ynom ni, nid erthygl sgleiniog neu fersiwn o beth allai fod yn ddelfrydol, neu ffydd blastig sy’n torri o dan bwysau. Rydym yn cael ein galw i gynnig y peth go iawn, yn ei holl ogoniant a’i wendidau. Ddylem ni ddim cuddio’n gwendidau na'n cwestiynau. Ond yn hytrach gadael i wirionedd Crist ymddangos ynom ni, yn ein gwendid, yn ein holl ffaeleddau a’n diffygion ond yn gwybod ein bod yng nghanol cariad y Duw Mawr.
Felly, heddiw, sut ydym ni’n ymateb i’r her o rannu yng ngwaith Duw? Yn Paul, rydym yn gweld rhywfaint o faint mae hyn yn ei gostio. Ond rydym hefyd yn gweld hyfrydwch a bendith. Efallai bod y diwrnod yn perthyn i Sant Luc ond daw’r ysbrydoliaeth o’i gydweithiwr, a ddarganfu, er gwaethaf llesgedd dynol, ddiben a rhyddid mewn gwasanaethu Duw. Gweddïwn y gallwn ninnau hefyd darganfod hynny yr wythnos hon.Amen.
Worship on the Feast of Luke
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
2 Timothy 4:5-17
As for you, always be sober, endure suffering, do the work of an evangelist, carry out your ministry fully.
As for me, I am already being poured out as a libation, and the time of my departure has come. I have fought the good fight, I have finished the race, I have kept the faith. From now on there is reserved for me the crown of righteousness, which the Lord, the righteous judge, will give me on that day, and not only to me but also to all who have longed for his appearing.
Do your best to come to me soon, for Demas, in love with this present world, has deserted me and gone to Thessalonica; Crescens has gone to Galatia, Titus to Dalmatia. Only Luke is with me. Get Mark and bring him with you, for he is useful in my ministry. I have sent Tychicus to Ephesus. When you come, bring the cloak that I left with Carpus at Troas, also the books, and above all the parchments. Alexander the coppersmith did me great harm; the Lord will pay him back for his deeds. You also must beware of him, for he strongly opposed our message.
At my first defense no one came to my support, but all deserted me. May it not be counted against them! But the Lord stood by me and gave me strength, so that through me the message might be fully proclaimed and all the Gentiles might hear it. So I was rescued from the lion’s mouth.
Luke 10:1-9
After this the Lord appointed seventy others and sent them on ahead of him in pairs to every town and place where he himself intended to go. He said to them, “The harvest is plentiful, but the laborers are few; therefore ask the Lord of the harvest to send out laborers into his harvest. Go on your way. See, I am sending you out like lambs into the midst of wolves. Carry no purse, no bag, no sandals; and greet no one on the road. Whatever house you enter, first say, ‘Peace to this house!’ And if anyone is there who shares in peace, your peace will rest on that person; but if not, it will return to you. Remain in the same house, eating and drinking whatever they provide, for the laborer deserves to be paid. Do not move about from house to house. Whenever you enter a town and its people welcome you, eat what is set before you; cure the sick who are there, and say to them, ‘The kingdom of God has come near to you.’
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
From the Lion’s mouth
‘In-for-me, in-for-me, they’ve all got it in-for-me’! How many of us remember those hilarious words from Kenneth Williams in one of the comedies from times past? A wonderful example of British humour.
There’s a way of reading St Paul which would place these words alongside things the apostle was saying even if very unfairly. Towards the end of his life, Paul in prison taking stock of his situation, became aware that he was alone having being deserted by colleagues and left to face an uncertain future on his own. Indeed, some people have suggested Paul became overwhelmed by his situation and was full of self-pity.
While I think that is untrue our reading today does show the vulnerable apostle who is not simply musing on his condition but appears deeply conscious of what the gospel has involved. No wonder he reflects ruefully on the coppersmith who did him harm and on Demas who left him because he ‘loved the world’.
Today we celebrate St Luke the evangelist. And our reading invites us to reflect on Paul’s account of what the gospel has required of him as a great evangelist. What do we make of the reading and Paul’s words?
It would be easy and trite to imagine that the work of the gospel is full of ease and even success but what strikes me at the outset is the real humanity of Paul. He encountered opposition and he didn’t like it! At one level he should not have been surprised. Didn’t Jesus say that following him was to take up the cross? And the parables Paul must have known such as the seeds sown on the ground – much of the sower’s efforts were in vain falling on rock or snatched away before they matured.
The good news of Jesus is always good news: it’s the message that God has stepped into the world not only to show us a way but to save us. The cross and resurrection are God’s great acts of salvation lifting us from the sin and emptiness into the eternal life, life in its fullness, which St John describes. But therein is the problem perhaps. The critique of human life by the gospel tells us of God’s love but also that we need help! We need to be rescued. And very often this is the thing against which we rebel and protest.
In truth, recognizing the dark side of human life is not easy. It’s a painful thing and requires a level of self-awareness many will never muster. So opposition isn’t something which should surprise us nor trouble us. Sometimes the work of the gospel and the church is met not with open and welcome arms but hostility and rejection. This is no license to belittle, to be aggressive in sharing faith but an invitation to understand what is taking place in us and others too.
The second thing which strikes me is that the gospel involves a cost. Demas, mentioned only three times in the New Testament, finds it costly too. We are told he walks. When Jesus called his disciples together he gave them a command (well several actually) – to love each other of course but also to go out and make disciples (Matt 28). He doesn’t say ‘Go out and make people religious or even believers. He says go and make disciples. And to be a disciple means more than signing on the dotted line. It means a life put straight being lived out for Christ. We learn to love as he did, to think as he did, to behave as he did.
I was reflecting on this recently and the command to love your enemy. When I visited Israel a few years back, I visited people on both sides of the debate in Israel – Palestinians and Israelis (and a good few others too). The arguments about land and authority are complex. I wonder what is strong enough, big enough and powerful enough to bring some lasting just settlement of that issue? I don’t mean what the final political solution might involve but the laying down of suspicion, a growing trust, an emerging reconciliation of the heart (in advance of the land).
This kind of love is costly. The gospel has this challenge woven into the very fabric of faith and when it seems too hard, it isn’t surprising that following Him becomes likewise to hard.
If we ended our meditation here this would seem a harsh and forbidding gospel and call. But Paul saw the joy and the wonder of sharing in the work of God. These are his words towards the end of the reading: ‘But the Lord stood by me and gave me strength, so that through me the message might be fully proclaimed and all the Gentiles might hear it. So I was rescued from the lion’s mouth’. Paul discovered that God was near when he stepped out in faith. He discovered a strength which was beyond him. And because of that, he was full of joy.
I do not believe we are called to share faith as though it were a set of rules. We are called to share Jesus and his life in us: that means the truth of Christ in us, not some shiny article or a version of what the ideal might be nor a plastic faith which breaks under pressure. We are called to offer the real thing, warts and all. We ought not to hide our weaknesses or questions. But rather let the truth of Christ show in us, earthen vessels aware of weaknesses and shortcomings but knowing we are loved by a Great God.
So today how do we respond to the challenge of sharing in God’s work? In Paul, we see some of the cost of this. But we also see there is a delight and blessing. The day might belong to St Luke but the inspiration comes from a colleague of his who despite human fragility discovered purpose and freedom in serving God. Pray we too might discover that this week too. Amen.