
Addoliad ar Ŵyl Mair yn Awst
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Galatiaid 4:4-7
Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad. A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!” Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.
Luke 1:46-55
Ac meddai Mair:
“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,
am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.
Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,
a sanctaidd yw ei enw ef;
y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth
i'r rhai sydd yn ei ofni ef.
Gwnaeth rymuster â'i fraich,
gwasgarodd y rhai balch eu calon;
tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,
a dyrchafodd y rhai distadl;
llwythodd y newynog â rhoddion,
ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.
Cynorthwyodd ef Israel ei was,
gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—
fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—
ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Mae Cân Mair (y Magnificat) yn un o ganeuon a cherddi mwyaf y Testament Newydd. Heddiw, rydyn ni’n yn cofio am Mair, mam ein Harglwydd Iesu Grist a’i chân, sydd wedi’i hysgrifennu yn efengyl Luc ar ôl iddi glywed y newyddion y bydd yn geni’r Crist, y Meseia.
I’r rhai sydd wedi’u magu ar y Gosber, efallai byddwch yn cofio’r geiriau hyn mewn iaith hynafol ar lafar, neu’n cael eu llafarganu gan y côr: ‘Tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau, a dyrchafodd y rhai distadl’.Mae’n gân sy'n gyfoethog mewn ystyr ac mae ei ffydd a'i gobaith wedi'n hannog ar hyd y blynyddoedd i wynebu, fel Mair, y pethau sydd i'w gweld y tu hwnt i ni.
Ond mae yna ffordd o ddarllen y darn yma sy’n colli rhywbeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu fod Mair yn dal yn wraig gymharol ifanc.Doedd ganddi ond ychydig i’w pharatoi ar gyfer hyn.Mae mawredd yr hyn oedd Duw yn ei ofyn ohoni y tu hwnt i’n dychymyg. Mae ei chân nid yn unig yn hardd, mae’n llawn o’r math o ffydd sy’n herio confensiynau, yn mynnu ail gyfeirio bywyd ac yn gosod cwrs ar gyfer yr efengyl ble mai gwasanaeth ac nid grym sy’n dilysu duwioldeb. Nid darn o ryddiaith addfwyn mohoni.Mae’n anthem tanseilio ac o newid radical.
Gadewch i ni edrych ar beth allai hyn ei olygu.
Yn gyntaf, mae Mair yn rhoi llais i’r tlodion. Dyma ei geiriau: ‘Tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau, a dyrchafodd y rhai distadl’. Ychydig flynyddoedd yn ôl, achosodd esgob ychydig o sgandal wrth ysgrifennu llyfr gyda'r teitl 'Bias to the Poor'. Roedd rhai pobl yn meddwl fod hyn ychydig yn wleidyddol i’r eglwys a hyd yn oed yn unochrog. Ond yn fy meddwl i mae’r ffydd Cristnogol YN eithriadol o wleidyddol. Trodd Iesu drefn grym, yng ngeriau cerdd St Paul (Phil2:7 - 8) ‘fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd at angau, ie, angau ar groes. 'Mae’n amhosibl bod yn ddisgybl a pheidio â gweld gofal Duw dros y tlodion. Wrth gwrs, gallwn berthyn i lawer o wahanol bleidiau gwleidyddol a gweithio er budd cymdeithas ym mhob un ond agenda radical Duw yw bod gofal am y tlodion yn cael ei osod ar y brig ac nid ar y gwaelod. Os yw’n wir fod gwlad yn cael ei barnu yn ôl sut mae’n gofalu am ei thlodion, mae’n rhaid bod hynny’n wir hefyd am yr eglwys. Sut y mae’r tlodion yn ymddangos yn ein bywyd?
Yn ail, mae Mair yn rhoi llais i'r newynog. Ei geiriau eto: ‘llwythodd y newynog â rhoddion, ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw’. Unwaith eto, mae trefn bendramwnwgl pethau yn cael ei droi wyneb yn waered. Yn ddiweddarach yn yr efengyl, rydym yn darllen sut y porthodd Iesu’r 5000. Disgrifiodd ei hun hefyd fel bara o'r nefoedd sy'n rhoi bywyd i'r byd. A ddylen ni ddim gwahaniaethau’r neges ysbrydol oddi wrth yr un faterol yma. Ydy, mae Iesu yn llenwi’n calonnau newynog gyda chariad trawsnewidiol ac yn rhoi heddwch na fydden ni'n ei gael yn unman arall yn lle'r aflonyddwch sy'n cnoi ac yn brifo. Ond mae hefyd yn dyheu am fwydo byd sydd, er â digonedd, hefyd â llawer, llawer iawn gormod, sy'n newynog ac yn sychedig. Mae cân Mair hefyd yn holi cwestiynau dwfn, treiddgar wrth bob cenedl ac wrth gwmnïau ac asiantaethau rhyngwladol: sut allwn ni fwydo’r newynog gyda phethau da. Mae eglwysi sy’n ceisio dileu newyn, sut bynnag y maen nhw’n gwneud hynny, yn gweithio gyda chân Mair mewn ffordd dda a ffyddlon.
Ac yn olaf, mae Mair yn rhoi gobaith i'r diobaith. Ei geiriau hi unwaith eto:’Cynorthwyodd ef Israel ei was, gan ddwyn i gof ei drugaredd’. Mae gan gân Mair gefndir eang o Dduw’n ymwneud a’i bobl. Drwy ecsodus ac alltudiaeth, goresgyniad a gwerddon, mae Duw wedi ymgodymu a’i bobl, fel Jacob. Ar adegau, roedd yn ymddangos ei fod wedi eu taflu o'r neilltu am byth, ond yna, yn eu tynnu'n ôl i ffordd well o berthyn. Gwrandewch ar y geiriau hyn gan y proffwyd Hosea wrth i Dduw sôn am ei ddyhead ar gyfer Israel. ‘am hynny, wele, fe’i denaf; âf â hi i’r anialwch, a siarad yn dyner wrthi. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd, a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei ieuenctid, fel y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft (Hos. 2:14-15).
Yn ei hanfod, mae’r ffydd Gristnogol yn golygu gobaith. Mae Duw’n dyheu am i bobl fyw bywydau gobeithiol a darganfod ynddo Ef beth sy’n rhoi diben a chyfeiriad newydd i ni. Pan mae ysgrifenwyr yr Ysgrythurau’n disgrifio gweithredoedd Duw yn y gorffennol, maen nhw’n gwneud hynny i ysbrydoli ffydd a gobaith yma, nawr ac yn y dyfodol. Ac, fel y dywed Mair, mae Duw, sydd wedi dangos trugaredd wrth Israel, yn dyheu am ddal i gael trugaredd. Dyma sut y mae pobl yn cael eu hailgymodi â Duw, a’r naill wrth y llall, sut y daw torcalon yn heddwch, sut y mae bywydau anhrefnus yn darganfod cychwyn o’r newydd gyda maddeuant a llawenydd.
Felly, mae cân Mair yn wirioneddol syfrdanol yn ei sialens, ond yn hynod obeithiol hefyd. Efallai y gallen ni ddweud ei bod, fel y Gwynfydau, yn fath o faniffesto o beth yw ystyr trugaredd cyfoethog Duw. Yma, yng ngeiriau gwerinwraig syml, mae’r ffordd ar agor i flaenoriaethau eglwysi a chenhedloedd. Pan fyddwn ni’n canu cân Mair, rydyn ni'n camu i’r byd newydd hwn o ffydd radical. Rhodded Duw ei ras i ni fynd yno.
Amen
Worship on the Feast of Mary, Mother of Our Lord
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Galatians 4:4-7
But when the fullness of time had come, God sent his Son, born of a woman, born under the law, in order to redeem those who were under the law, so that we might receive adoption as children. And because you are children, God has sent the Spirit of his Son into our hearts, crying, “Abba! Father!” So you are no longer a slave but a child, and if a child then also an heir, through God.
Luke 1: 46-55
And Mary said,
“My soul magnifies the Lord,
and my spirit rejoices in God my Savior,
for he has looked with favor on the lowliness of his servant.
Surely, from now on all generations will call me blessed;
for the Mighty One has done great things for me,
and holy is his name.
His mercy is for those who fear him
from generation to generation.
He has shown strength with his arm;
he has scattered the proud in the thoughts of their hearts.
He has brought down the powerful from their thrones,
and lifted up the lowly;
he has filled the hungry with good things,
and sent the rich away empty.
He has helped his servant Israel,
in remembrance of his mercy,
according to the promise he made to our ancestors,
to Abraham and to his descendants forever.”
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
The Magnificat is one of the great songs and poems of the New Testament. Today we remember Mary, mother of our Lord Jesus Christ and her song, written in Luke’s gospel when hearing the news that she will bear the Christ, the Messiah.
For those brought up on Evensong we might recall these words in older language spoken or chanted by the choir: ‘He hath cast down the mighty from the seat and hath exalted the humble and meek’. It’s a song rich in thought and its faith and hope have encouraged us across the years to face, like Mary, things that seem beyond us.
But there is a way of reading this passage which misses something. Most people believe Mary was still a relatively young woman. She had little to prepare her for this. The magnitude of what God asks of her is beyond our imagination Her song is not only beautiful, it is full of the kind of faith which challenges conventions, demands a re-orientation of life and sets a course for the gospel in which service not power is the hallmark of godliness. This is not a gentle piece of prose. It is an anthem of subversion and radical change.
Let’s take a look at what this might mean.
Firstly, Mary gives a voice to the poor. These are her words: ‘He has brought down the powerful from their thrones and lifted up the lowly’. Some years ago A bishop caused a bit of a scandal by writing a book called ‘Bias to the Poor’. Some people thought it was a bit political for the church and even partisan. But my view is that Christian faith IS deeply political. Jesus inverted the order of power, in the words of St Paul’s poem (Phil. 2:1f), he ‘emptied himself taking the form of a slave, being born in human likeness. And being found in human form, he humbled himself and became obedient to the point of death—even death on a cross’. It is impossible to be a disciple and not see God’s care for the poor. Of course we can belong to many different political parties and work for the good of society in them all but God’s radical agenda is to place care for the poor at top end not the bottom. If it true that a country is judged by how it cares for its poor, that must be true as well for the church. How do the poor feature in our life?
Secondly Mary gives a voice to the hungry. Her words again: ‘he has filled the hungry with good things and sent the rich away empty’. The topsy-turvy order of things is again inverted. Later in the gospel we read how Jesus fed the 5000. He also described himself as bread from heaven who gives life to the world. And we ought not to separate the spiritual message from the material here. Yes Jesus does fill our hungry hearts with a life-changing love and replaces the gnawing, aching restlessness with a peace we find nowhere else. But he also longs to feed a world which despite plenty, has many, too many, who go hungry and thirsty. Mary’s song asks deep, searching questions of all our nations, of corporate companies and agencies: how can we feed the hungry with good things? Churches which engage with hunger, however they do that are working with Mary’s song in a good and faithful way.
And lastly Mary gives hope to the hopeless. Her words once more: ‘He has helped his servant Israel in remembrance of his mercy’. Mary’s song has a large backdrop of God’s dealings with his people. Through exodus and exile, occupation and oasis, God has wrestled with his people, like Jacob. And at times he seemed as though he had cast them off forever only to draw them back to a better way of belonging. Listen to these words from the prophet Hosea as God speaks of his desire for Israel: ‘Therefore, I will now allure her and bring her into the wilderness and speak tenderly to her. From there I will give her vineyards and make the Valley of Achor a door of hope. There she shall respond as in the days of her youth as at the time when she came out of the land of Egypt (Hos. 2:14-15).
The Christian faith is fundamentally about hope. God longs for people to live hopeful lives and to discover in Him what gives us new purpose and direction. When the writers of Scripture describe God’s deeds in the past, they do so to inspire faith and hope here and now and in the future. And God who has shown mercy to Israel, as Mary says longs to have mercy still. This is how people are reconciled to God, to one another, how heartache becomes peace, how disordered lives discover a fresh start with forgiveness and joy.
So Mary’s song really is startling in its challenge but immensely hopeful too. Perhaps we could say it amounts, like the Beatitudes, to a kind of manifesto of what God’s rich mercy means. Here in the words of a simple peasant the way is opened to priorities for the church and for nations. When we find ourselves singing with Mary it is into this new world of radical faith we step. God give us grace to go there.
Amen