Myfi, Iesu
Grawys 2021
Y dywediadau yn Efengyl Ioan a adwaenwn fel y dywediadau "Myfi yw" sy’n ffurfio asgwrn cefn yr Efengyl. O fewn fframwaith sy’n dechrau gyda thragwyddoldeb ac yn diweddu gyda chyfarfyddiad ag un o’i ddilynwyr mewn gardd, mae’r dywediadau’n ein tywys at graidd hunaniaeth Iesu. Maent yn dangos mai yn Iesu mae Duw’n ymgysylltu i’r eithaf â’r byd y daeth i’w achub, gan ddatguddio Duw mewn modd unigryw ac ar yr un pryd ddod â Duw atom ni fodau dynol.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar bob un o’r dywediadau hynny a chafodd ei ysgrifennu gan gydweithwyr o wahanol rannau o’r esgobaeth. Mae fy niolch yn fawr iddynt am neilltuo amser i fyfyrio ynghylch yr hyn sydd gan y dywediadau i’w gynnig i ni.
Rwyf am ddiolch hefyd i’r Parchedig Janet Fletcher, a luniodd y gweddïau ar gyfer y cwrs, i’r Parchedig Naomi Starkey a olygodd y testun ac a gyfrannodd tuag at y deunydd ei hun, i Mr Dave Custance a ddarparodd y lluniau ar gyfer y cwrs ac i’m cydweithwyr yn Nhîm Deiniol a gynorthwyodd gyda’r dylunio a’r gosod. Y fersiwn o’r Beibl a ddefnyddir yw’r Beibl Cymraeg Newydd, Argraffiad Diwygiedig 2004.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gall grwpiau neu unigolion ddefnyddio’r deunydd ac mae ar gael fel adnodd ar-lein neu i’w lawrlwytho fel PDF.
Gobeithiaf y bydd yr adnodd hwn yn eich galluogi i wneud y Grawys yn adeg o ymgyfarfod â Duw, o dreiddio ychydig ymhellach ac yn ddyfnach i’ch ffydd ac o ddarganfod sut gall y tymor hwn fod yn gyfnod cynhyrchiol a bendithiol. Gras fo i chi a thangnefedd oddi wrth Dduw.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
I, Jesus
Lent 2021
The sayings contained within John’s gospel that we know as the ‘I am’ sayings form the backbone of the gospel. From within a framework which begins with eternity and ends in a garden encounter with one of his followers, the sayings take us to the heart of who Jesus is. They show that Jesus is the way in which God relates supremely to the world he came to save, both revealing God uniquely and at the same time bringing God to humankind.
This course focuses on each of those sayings and is written by colleagues from across the diocese. I am enormously grateful to them for spending time reflecting on what the sayings offer.
I am also grateful to the Revd Janet Fletcher who wrote the collects for the course, to the Revd Naomi Starkey who edited the texts and contributed to the material, to Mr Dave Custance who provided the imagery for the course and to colleagues in Tîm Deiniol who assisted with design and lay-out. Unless otherwise stated the Bible version used is the NRSV.
The material, as in previous years, is for group or individual use and is available as an online resource or PDF download.
I hope this resource enables you to make Lent a time of encounter with God, to go a little further on and further in and to discover how this period can be fruitful and blessed. Grace to you and peace from God.
The Rt Revd Andy John
The Bishop of Bangor