
Myfyrdod yr Esgob yng nghyfarfod Grŵp Cadfan Rhagfyr 2020
Sgwrs rhwng Mathew 6:25-32 a’r Actau 28:17-31
Mathew 6:25f
Mae’r olwg o’r byd sy’n sail i Mathew 6. 25-32 yn un awgrymog. Mae’r darn yn sôn am hyder mewn Duw y mae ei garedigrwydd goruchaf yn ddiguro.Mae geiriau Iesu’n awgrymu, os ydym ni i ddysgu unrhyw beth o natur, mai hynny yw bod harmoni gydag ac o fewn y drefn a grëwyd yn awgrymu bod yna batrwm sylfaenol yn osgoi llurguniadau megis trachwant, ymelwa, segurdod a byrbwylltra.
Ac mae’r darn yn gwahodd persbectif .Nid yw’r testun yn dweud nad oes angen unrhyw gecru, ymdrech neu gynllwynio er mwyn goroesi ond fod yna flaenoriaeth a phwyslais:Teyrnas Duw sy’n dod yn gyntaf ac yna mae pethau eraill yn cymryd eu lle priodol.
Mae’r cyd-destun o gymhlethdod ac ansicrwydd megis yr un rydym yn ei wynebu ar hyn o bryd yn ei gwneud yn anodd cysylltu ein sefyllfa ni gyda'r math yna o ffydd.Gofynnir i ni gynnig casgliadau am y dyfodol sy’n amodol ac yn betrus.Mae’n rhaid i’n gweinidogaeth a’n cysylltiad â’r gair fod yn awgrymog, ac yn wir, yn ddim ond i raddau, nid yn absoliwt. Rydym yn cael ein gwahodd i weinidogaeth sy’n gofyn am wydnwch a barn ddoeth.
Beth yw’r heriau i’r darlun yma?
1. Poendod a gorbryder.
Mae’r triniaethau diweddaraf ynghylch poendod a gorbryder yn dangos y prosesau meddyliol sy’n gweithio wrth ymateb i'r ddau.Pan fyddwn ni’n llawn poendod neu’n orbryderus, mae’n hymennydd yn dweud wrthym ni ei fod yn teimlo dan fygythiad a'i fod angen help, nid cael ei anwybyddu.
Mae’r dywediad ‘fel ci gydag asgwrn’ fel arfer yn cyfeirio at ystyfnigrwydd ond gallai fod yr un mor wir am rai sy’n gorfod byw gyda, a heb ddatrys, gorbryder.Mae gorbryder yn ein gyrru’n ôl ac yn ôl drachefn a thrachefn, gan wthio’n ôl ac ymlaen ar y gorbryder, ond ym methu’n glir â chydio yn, na deall, y prosesau sydd eu hangen i ymateb yn iawn i hyn.
Mae geiriau Iesu i’r rhai sy'n pryderu'n fyr ac yn swta.‘Paid’.Peidiwch â phoeni.Pam?Oherwydd nid yw pryderu’n datrys nac o help (v27). Allwn ddim ychwanegu at hyd ein bywyd, er gwaethaf ein haniddigrwydd mae’r sefyllfa’n aros yr un fath.
2. Trefn Teyrnas
Mae’r byd dynol o anghenion corfforol yn real ac ni ddylid ei osgoi na’i anwybyddu.Nid yw’r darn yn asgetig neu’n ddeuolaidd.Nid yw’r byd materol yn cael ei osgoi na’i anwybyddu.Mewn gwirionedd, mae’r darn yn cynnig egwyddorion sy’n cofleidio bywyd pob dydd.Yr hyn sy’n difetha bywyd yw troi’r drefn â’i phen i lawr: pan fo bywyd yn fater o ddim ond bwyd a diod neu ddillad.Pan mae uchelgais yn cael y ffrwyn ar ei war, mae’n dod yn hunan uchelgeisiol a daw dynoliaeth yn hunan foddhaus.
I reoli’r bywyd Cristnogol mae’n rhaid i alwadau a gras Teyrnas Duw fod yn ganolog i’n hegnïon.
Actau 28:17f
Mae profiad Paul ar ddiwedd yr Actau’n debyg i’r trafferthion a wynebodd mewn mannau eraill megis yn ystod ei garchariad (gweler Philipiaid). Yn ôl ei arfer gyda chynulleidfa Iddewig, mae'n dechrau gydag Ysgrythur.Ei ffordd yw ddangos fod hanes yr Iddewon yn arwain at Iesu y Meseia.Ond dim ond rhannol llwyddiannus yw hynny: mae rhai’n credu, eraill ddim.Mae cyflwyno tystiolaeth broffwydol fel tystiolaeth yn erbyn anghrediniaeth yr Iddewon, yn gyrru ei gynulleidfa ymhellach oddi wrtho .
Mae’r geiriau olaf yn y darn yn dangos Paul, yn dal yn gaeth yn ei gadwyni (yn drosiadol os nad yn llythrennol) 'oherwydd o achos gobaith Israel' (a.20). Ac eto, ac er gwaethaf hynny, mae Paul yn croesawu pawb sy'n dod ato, ‘yn gwbl agored, heb neb yn ei wahardd’(a.30) mae’n pregethu’r newyddion da a Theyrnas Duw.
Mae geiriau olaf yr Actau felly’n dangos gweinidogaeth wedi’i llesteirio yn cael ei rhyddhau mewn patrwm newydd.Rydym yn gweld apostol sy’n dal yn egnïol, yn cyhoeddi'r Deyrnas.Os oes argyfwng, y mae, er ei gwaethaf, wedi caniatáu i Paul gyhoeddi Crist.Mae Paul wedi’i adfywio.Mae gorfodaeth y cyfnod clo wedi blodeuo mewn gweinidogaeth o ail ddychmygu croeso, o ail fframio’r efengyl.
Syniadau cysylltiol
Mae’r gwahaniaeth rhwng rheolaeth a rheoli yn sylfaenol.Yn y ddau ddarn, mae yna ragdybiaeth waelodol na allwn ni reoli’r byd o’n cwmpas, yn ddigwyddiadau mewn gwahanol rannau o’r byd na chwaith ein ffawd ni ynddo.Ond mi allwn ddysgu dod i ben.Rydym yn dysgu gosod y Deyrnas wrth galon ein huchelgais a’n gweithredoedd ni ein hunain.Rydym yn ymarfer ffydd o fewn ffiniau pendant.Ac mae hynny’n golygu ildio rhywbeth.Mae’n golygu derbyn diffyg rheolaeth, yn sylfaenol.Nid yw popeth y gallwn ni ei wneud gallu cyflawni naill ai’r nodau rydym yn eu gosod na goresgyn yr heriau rydym yn eu hwynebu.Ond nid yw llesgedd a segurdod, a allai’n ymddangos yn ymatebion digon rhesymol o dan yr amgylchiadau, yn ddim gwell na thynghediaeth neu narsisiaeth.
Roedd Paul wedi darganfod cyfle mewn adfyd.Os byddwn ni’n ymateb mewn ffordd tebyg, byddwn ninnau’n canfod y gallwn ddechrau plygu heb dorri ac ystumio heb gracio, hyd yn oed o dan bwysau.Mae ymddiriedaeth sylfaenol mewn daioni Duw yn cael ei gynnig yn narlleniad yr efengyl: oherwydd bod Duw yn dda a’i gariad yn ymestyn atom pob amser.Mae’r rhwystrau a wynebodd Paul ac sy’n cael eu disgrifio yn yr Actau’n dangos beth mae'n ei olygu i gael eich dal o fewn yr argyhoeddiad hwnnw ac i'w weinyddu'n ôl hynny.
Cwestiynau
- Beth oedd y pethau mwyaf anodd i ynghylch y cyfyngiadau rydyn ni wedi’u hwynebwyd ers mis Mawrth a pha effaith mae hynny wedi cael ar ein gweinidogaeth?
- Beth oedd y peth mwyaf anodd i ni ar lefel bersonol?
- Pa bethau sydd wedi’n helpu i ymateb orau?
+Andrew Bangor
The Bishop's meditation at the December 2020 meeting of Grŵp Cadfan
A conversation between Matthew 6:25-32 and Acts 28:17-31
Matthew 6:25f
The world view underpinning Matthew 6 vs 25-32 is suggestive. The passage speaks of confidence in a God whose sovereign benevolence is without compare. Jesus’ words suggest that if we are to learn anything from nature it is that harmony with and within the created order suggests a basic pattern avoids distortions such as greed, exploitation, inactivity or recklessness.
And perspective is invited by the passage. The text does not say there is no strife, effort or engineering necessary in order to survive but that there is priority and emphasis: The Kingdom of God comes first and then other things assume their rightful place.
A context of complexity and uncertainty such as we face at the moment makes it difficult to connect our own situation with that kind of faith. We are required to offer conclusions about the future which are conditional and tentative. Our ministry of word and engagement needs to be nuanced, and true only in degrees not absolutes. We are invited to ministry in which both resilience and wise judgements are required.
What are the challenges to this picture?
1. Worry and anxiety.
Modern treatments around the subject of worry and anxiety have shown the mental processes at work in the responses of both. When we worry or are anxious, our brain is telling us it feels threat. It wants to engage and not ignore it.
The phrase ‘A dog with a bone’ usually refers to stubbornness but it could equally apply to the practice of living with unresolved anxiety. We continue to revisit the place of anxiety, feeling the push and shove but incapable or ignorant of the processes needed to respond to this well.
The words of Jesus to the worriers are brief and clipped. ‘Don’t’. Don’t worry. Why? Because worry neither resolves nor assists (v27). We add nothing to the span of life, despite our fretting the situation remains unchanged.
2. Kingdom Order
The temporal world of physical needs is real and is neither shunned nor avoided. The passage is neither ascetic nor dualistic. The material world is not shunned nor avoided. In truth, the passage offers principles which encompass everyday life. What makes life ruinous is when the order is inverted: when life is only a matter of food or drink or clothing. When ambition is unchecked, it becomes self-serving and humanity becomes self-absorbed.
In order to manage the Christian life we need the claims and graces of the Kingdom of God to be at the heart of our energies.
Acts 28:17f
The experience of Paul at the end of Acts is similar to challenges he faced elsewhere such as during his imprisonment (see Philippians). he begins typically, with a Jewish audience, with Scripture. His approach is to show that the Hebrew story points to Jesus as Messiah. But he is only partially successful: some believe and others do not. The introduction of prophetic witness as testimony against the Jews unbelief furthers alienates his audience.
The final words in the passage show Paul, still bound with chains (metaphorically if not literally) ‘because of the hope of Israel’ (vs20). And yet despite this, Paul welcomes all who come to him, ‘boldly and without hindrance’ he preaches the good news and the Kingdom of God.
The final words of the Acts therefore show an impeded ministry liberated into a different pattern. We see an apostle who still has energy, proclaiming the Kingdom. If there is a crisis, it has nonetheless allowed Paul to declare Christ. Paul is revitalised. The enforced lockdown has issued in a ministry of welcome re-imagined, gospel reframed.
Connecting thoughts
The difference between control and mange is essential. In both passages there is an underlying assumption we cannot control the world around us, whether world events or our own destiny within it. But we can learn to manage. We learn to position the Kingdom at the heart of our own ambitions and actions. We practice faith within settled boundaries. And this means conceding something. It means accepting a lack of basic control. Not everything within our power can achieve either the aims we set nor overcome the challenges we face. But inertia and inactivity which may appear adequate responses under the circumstances, are little better than fatalism or narcissism.
Paul discovered opportunity in adversity. If we respond in a similar way, we will find that we can begin to bend without breaking and to flex without fracturing even under stress. A fundamental trust in God’s goodness is offered in the gospel reading: because God is good his love extends to us at all times. The hindrances faced by Paul described in Acts show how what it means to be held within this conviction and to minister accordingly.
Questions
- What have we found most difficult about the restrictions faced since March and what impact has this had on our ministry?
- What have we found most difficult to manage at a personal level?
- What are the things which have helped us respond best?
+Andrew Bangor