
Addoliad ar Sul Olaf Wedi'r Drindod
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
Colosiaid 3:11-17
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Mathew 24:30-35
“A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr. Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.
“Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Heddiw yw Sul y Beibl pan fyddwn yn meddwl am sut y mae Duw wedi cyfathrebu gyda'r byd dros y canrifoedd. Rydyn ni’n tueddu i feddwl fod Duw'n cael ei ddatgelu drwy'r cread neu drwy bobl ac, yn bennaf oll, trwy Iesu, ond mae'r eglwys yn dysgu fod Duw hefyd yn cael ei ddatgelu trwy’r Gair ysgrifenedig, y Beibl. Tasg fawr Cristnogion yw gadael i’r gair ysgrifenedig hwn ddod yn air byw yn ein bywydau bob dydd.
Mae un o adnodau mawr y Testament Newydd yn y darlleniad heddiw yn annog y math hwnnw o gysylltiad. Mae yn llythyr Paul at y Colosiaid, pennod 3 ac adnod 13. Dyma ei eiriau: ‘Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd, os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chithau'.
Mae’n fy nharo, ar adeg fel hyn, a ninnau newydd gychwyn ar ail gyfnod clo cenedlaethol, y dylen ni ddysgu o’r newydd sut i oddef ein gilydd. Mae yna bwysau ar bob un ohonom, ac mae’n hawdd i bethau boethi ac i’r digroeso ddiffyg amynedd ennill y dydd. Ond fe hoffwn i ganolbwyntio heddiw, ar gael y gair ysgrifenedig yn air byw, ar faddeuant. Pan fydd yna gŵyn, maddeuwch fel y maddeuodd yr Arglwydd i ni.
Ac rwy’n meddwl mai dyma un, os nad y mwyaf, o ddeinamegau trawsnewidiol yn y byd i gyd: maddeuant. Faint o elynion sy’n dod yn ffrindiau pan fydd yna faddeuant? Faint o glwyfau sydd wedi’u gwella, perthynasau wedi’i hadfer, pan fydd yna ddigonedd o faddeuant.
Ac mae maddeuant wrth galon yr efengyl: rydyn ni'n credu fod Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei uniganedig er mwyn i ni allu byw. Pan ddaeth y mab afradlon adref yn y stori yn efengyl Luc, a oedd yn haeddu maddeuant? A oedd yn ei ddisgwyl? Mae bwrlwm y stori ar y croeso gwyllt a hael y mae’n ei dderbyn gan ei dad. Mae’r pentyrrau a anrhegion a’r croeso helaeth yn dangos y cariad annisgwyl, hyd yn oed eithafol, sydd megis cariad Duw.
Fe ddylem ni faddau fel y maddeuodd yr Arglwydd i ni. Rwy’ wedi clywed fod rhai pobl yn mynd braidd yn ddryslyd ar y pwynt yma: a yw Duw’n maddau gyntaf a ninnau’n ymateb, neu a oes raid i ni edifarhau'n gyntaf cyn bod Duw'n maddau i ni? Wel, rwy’n meddwl y gallwn ni ganfod enghreifftiau o’r ddau yn yr Ysgrythur: fe allwn ni ddyfynnu 1 Ioan 1: ‘Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn twyllo ein hunain, ac nid yw’r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac fe faddeua, felly, i ni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder’. Ac eto, gallwn ystyried ffydd y rhai a ostyngodd y claf o’r parlys drwy’r to, ac Iesu, wrth weld eu ffydd, yn dweud ‘maddeuwyd dy bechodau' (Marc 2:5).
Y peth pwysig yma yw nid pwy sy’n gwneud beth a phryd, ond ein bod yn dysgu i faddau’n gyflym fel yr oedd Duw’n maddau’n gyflym i ni yng Nghrist. Nid yw trefn yn cyfrif cymaint pan fyddwn ni'n dysgu celfyddyd maddeuant gan wybod nad oes amheuaeth ynghylch maddeuant Duw.
Rwy' wedi dod i gredu ein bod yn byw mewn cymdeithas sy’n barod iawn i weld bai. Wrth gwrs fod atebolrwydd yn beth da, ond nid yw hynny’n golygu y dylen ni fyw mewn diwylliant o daflu bai. Er nad yw’n adnod o’r Beibl, rwy’n meddwl fod yna rywbeth yn y dywediad: ‘dyna lle byddwn innau oni bai am ras Duw’. Ac wrth ymdrechu i wneud yn siŵr fod yna atebolrwydd, ddylen ni byth anghofio gras maddeuant. Pan fydd yna gŵyn, meddai Paul, maddeuwch fel y maddeuodd yr Arglwydd i chi. Duw â’n gwaredo fod yr eglwys yn dod yn lle didrugaredd lle’r ydyn ni’n malio mwy am feio nag am faddau.
Felly, mae yna dri pheth am faddeuant i ni gofio amdano heddiw:
Yn gyntaf, maddeuodd Duw bopeth. Does yna ddim gweddillion o fai na gwendid. Pan fydda i’n clywed rhywun yn dweud ‘fe allai i faddau ond alla i ddim anghofio’ (sy’n rhywbeth rwy’n ei ddeall ac sy'n ddynol) fe fydda i’n meddwl weithiau a oes rhywbeth o hynny yma: ein bod yn cadw cyfrif o bethau yng nghefn ein meddyliau. Jyst rhag ofn! Ond pan fydd Duw’n dileu'r camweddau ni fydd yn caniatáu’r math hwnnw o gadw cyfrif. Mae Duw’n maddau'r cyfan.
Yn ail, mae Duw’n maddau ar ei union. Pa mor aml fyddwn ni'n disgwyl i rywun arall faddau'n gyntaf? Ac mae’n gallu bod yn anodd maddau, yn enwedig pan fyddwn ni’n dal yn llawn dicter, bai neu chwerwder. Dyma lle rwy’n credu fod maddeuant yn fwy o weithred yr ewyllys nag o deimlad. Daw’r profiad yn ddiweddarach, y bwriad i ollwng gafael sy’n dod gyntaf. Oni ddylen ni ddysgu’r ddisgyblaeth o hyn?
Yn drydydd, fe ddylen ni faddau’n hael. Ond, wrth hynny, dydw i ddim yn golygu na ddylen ni, yn unig, wneud pobl eraill weithio amdano ond y dylai mesur ac ansawdd y maddeuant fod fel maddeuant Duw. Rwy’n hoffi’r gair haelioni. Mae maddau fel hyn yn dangos natur hael maddeuant Duw.
Felly, gyfeillion, heddiw, ar Sul y Beibl, mae gennym ni her: dod â’r gair ysgrifenedig yn air byw. Ac mae hynny’n digwydd pan fyddwn yn cofleidio’r hyn y mae’r Ysgrythur yn ei ddweud: yng ngeiriau’r colect:
Fendigaid Arglwydd, a achosodd i’r holl ysgrythurau sanctaidd gael eu hysgrifennu i’n dysgu ni: helpa ni i’w clywed, i’w darllen, eu marcio, eu dysgu a’u treulio’n fewnol fel y byddwn ni, drwy amynedd a chysur dy air sanctaidd, yn cofleidio ac yn cydio’n dyn am byth yn y gobaith o fywyd tragwyddol, yr wyt ti wedi’i roi i ni yn ein Gwaredwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a'r Ysbryd Glân, un Dyw, yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.
Worship on the Last Sunday after Trinity
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
Colossians 3:12-17
As God’s chosen ones, holy and beloved, clothe yourselves with compassion, kindness, humility, meekness, and patience. Bear with one another and, if anyone has a complaint against another, forgive each other; just as the Lord has forgiven you, so you also must forgive. Above all, clothe yourselves with love, which binds everything together in perfect harmony. And let the peace of Christ rule in your hearts, to which indeed you were called in the one body. And be thankful. Let the word of Christ dwell in you richly; teach and admonish one another in all wisdom; and with gratitude in your hearts sing psalms, hymns, and spiritual songs to God. And whatever you do, in word or deed, do everything in the name of the Lord Jesus, giving thanks to God the Father through him.
Matthew 24:30-35
Then the sign of the Son of Man will appear in heaven, and then all the tribes of the earth will mourn, and they will see ‘the Son of Man coming on the clouds of heaven’ with power and great glory. And he will send out his angels with a loud trumpet call, and they will gather his elect from the four winds, from one end of heaven to the other.
“From the fig tree learn its lesson: as soon as its branch becomes tender and puts forth its leaves, you know that summer is near. So also, when you see all these things, you know that he is near, at the very gates. Truly I tell you, this generation will not pass away until all these things have taken place. Heaven and earth will pass away, but my words will not pass away.
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
Today is Bible Sunday when we think about the way God has communicated with the world across the centuries. We tend to think God is revealed through the creation or people and supremely through Jesus but the church teaches that God is also revealed in the written Word, the Bible. The great task of Christians to let this written word become a living word in our daily lives.
One of the great verses in our New Testament reding for today invites that kind of engagement. It’s from Paul’s letter to the Colossians, chapter 3 and verse 13. These are his words: ‘Bear with one another and, if anyone has a complaint against another, forgive each other; just as the Lord has forgiven you, so you also must forgive’.
It strikes me that at such a time as this, as we have now started the second national lockdown that we need to learn how to bear with each other afresh. There are pressures on each of us and easy for tempers to become frayed and for impatience to rear its unwelcome head. But my focus today, so that the written word might become a living word, is all about forgiving. When there is a complaint forgive as the Lord forgave us.
And I think this is one if not the most transforming of dynamics in the whole world: forgiveness. How many enemies have become friends when there is forgiveness? How many wounds healed, relationships restored when forgiveness is plentiful?
And forgiveness is at the heart of the gospel: we believe God so loved the world that he gave the only begotten so that we might live. When the prodigal returned home in that story in Luke’s gospel, did he deserve forgiveness? Did he expect it? The energy of that story is on the wild and lavish welcome he receives from his father. The array of gifts and the generous welcome show the unexpected, even extravagant love that is God-like.
We should forgive as the Lord has forgiven us. I’ve heard some people get a little flustered at this point: is it that God forgives first and we respond or do we need to repent first and then God forgives? Well I suspect we could find examples of both in Scripture: we could cite 1 John 1: ‘If we say that we have no sin, we deceive ourselves, and the truth is not in us. If we confess our sins, he who is faithful and just will forgive us our sins and cleanse us from all unrighteousness’. Then again we could look at the faith of those who lowered the paralysed man through the roof and Jesus, seeing their faith, said ‘your sins are forgiven’ (Mark 2:5).
The important thing here is not who does what when but that we learn to be quick to forgive just as God was quick to forgive us in Christ. The order matters less than we learn the art of forgiveness knowing God’s mercy is not in doubt.
I’ve come to believe that we live in a very blame oriented society. Accountability is a good thing for sure but that doesn’t mean we ought to inhabit a culture of blame. It isn’t a Bible verse but I think there is something true in the phrase: ‘but for the grace of God there go I’. And in our endeavour to make sure that there is accountability we ought never to forget the grace of forgiveness. When there is a complaint Paul said, forgive as the Lord forgave you. God forbid that the church should become a merciless place where we are more concerned to blame than to forgive.
So three things about forgiveness as our takeaway from today:
Firstly God forgave everything. There’s no residue of blame of fault. When I hear the statement ‘I can forgive but not forget’ (which I understand and is human) I do sometimes wonder if there’s a bit of this at work: we create a subfile or store the matter on a backup drive. Just in case! But the blotting out of misdeeds by God won’t allow for that kind of retention. God forgives all of it.
Secondly God is quick to forgive. How often do we wait to see hat the other party does first?! And it can be hard to forgive especially when we still harbour anger, blame or resentment. This is where I think forgiveness is an act of the will more than a feeling. The experience comes later, the intention to let go comes first. Don’t we ned to learn the discipline of this?
Thirdly, we ought to forgive generously. And by that I don’t mean just that we ought not to make others work for it but the measure and quality of forgiveness ought to be God-like. I like the word fulsome. Forgiving like this captures the generous nature of God’s forgiveness.
So my friends, on this Bible Sunday we have a challenge: a written word becoming a living word. And that happens in us when we embody what Scripture says: in the words of the collect:
Blessed Lord, who caused all holy scriptures to be written for our learning: help us so to hear them, to read, mark, learn and inwardly digest them that, through patience and the comfort of your holy word, we may embrace and for ever hold fast the hope of everlasting life, which you have given us in our Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you and the Holy Spirit, one God, now and for ever. Amen.