minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd


Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc


Pedwerydd Sul y Pasg


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll.

2. Darllenwch:

A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.

Genesis 1:3-5

Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

Salm 118:24


Parotoi gyda'n gilydd 

Sawl tedi sydd gennych? Allwch chi eu disgrifio? Beth am enwi pob un?

Beth ydych chi’n casglu? Efallai cymeriadau mega-arwyr neu Sylvanian Families. Efallai eich bod yn casglu cregyn o bob traeth.

Yn y darlleniad heddiw mae Iesu yn sôn am yr hyn mae ef yn casglu – nid tedis, malwod, blodau, neu unrhyw beth tebyg. Nid llyfrau hyd yn oed. Beth ydych chi’n meddwl mae Iesu’n casglu?


Darllen gyda'n gilydd 

Wrth i chi darllen y stori rhaid i chi wneud sŵn dafad pob tro mae’r gair dafad yn cael ei ddarllen.

“Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.  Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.  Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn. “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i – yn union fel mae'r Tad yn fy nabod i a dw i'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail. Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn. Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.”

Ioan 10:11-18


Myfyrio gyda'n gilydd

  1. Beth ydych chi’n meddwl am y gweithiwr ar ddechrau’r stori? Ydyn ni yn gallu bod fel ‘na ambell waith? Ydyn ni wir yn poeni am yr hyn sydd ddim yn perthyn i ni?
  2. Mae Iesu’n dweud ei fod yn adnabod ei defaid a bod y defaid yn ei adnabod ef. Beth mae hyn yn ei olygu i’r defaid?
  3. Os ydi Iesu’n adnabod ei defaid a ni yw’r defaid – beth mae hyn yn ei olygu i ni?
  4. Sut mae Iesu’n wahanol i’r gweithiwr ar ddechrau’r stori? Beth mae e’n ei olygu wrth ddweud, “’Rwyf yn rhoi fy mywyd.”? Meddyliwch yn ôl ychydig wythnosau at y Pasg.

Ymateb gyda'n gilydd

Bydd angen: 

  • Papur plaen
  • pen
  • siswrn
  • gwlân cotwm neu wlân neu ‘pompoms’
  • glud

Tynnwch lun o gwmpas eich llaw gyda’r bysedd ychydig ar wahân a’r bys bawd yn sticio allan. Torrwch o’i gwmpas.

Gyda’r bysedd yn pwyntio atoch rhowch y llaw ar y bwrdd. Y bysedd yw coesau’r ddafad.

Sticiwch y gwlân ar gledr y llaw gan adael y bys bawd yn glir. Y bys bawd yw wyneb y ddafad.


Lluniwch wyneb ar y bys bawd.

Gosodwch y ddafad yn y tŷ. Gallwch greu praidd cyfan!

Rhowch ddiolch i Dduw am Iesu’r bugail da sy’n adnabod, yn caru ac yn rhoi ei fywyd am ei defaid bob tro dych chi’n gweld y ddafad.


Gweddio gyda'n gilydd

Mae defaid yn adnabod llais y bugail – yn enwedig yn amser y Beibl pan oedd preiddiau yn llawer llai. Gofynnwch i Dduw eich helpu i wrando am lais Iesu, y Bugail Da, yr wythnos hon. Sut allwch chi ei adnabod? Beth allai ddweud?


Gorffen gyda'n gilydd

Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Diffoddwch y gannwyll.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

At the table


Simple worship at home and at Junior Church for young families


Fourth Sunday of Easter


Stilling together

1. Light a candle.

2. Read:

God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.

Genesis 1: 3-5

This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.

Psalm 118: 24


Preparing together

How many teddies do you have? Could you describe them all? Could you name them all?

What do you collect? Perhaps you collect action figures or Sylvanian Families characters. Maybe you collect shells from beaches you have visited.

In this passage Jesus talks about the things he collects – not teddies, snails, rocks, flowers, sticks or anything like that. What do you think Jesus ‘collects’ in today’s story?


Reading together

As you read the story together each time the word ‘sheep’ is read say ‘baaah’ like a sheep.

“I am the good shepherd. The good shepherd lays down his life for the sheep. The hired hand is not the shepherd and does not own the sheep. So when he sees the wolf coming, he abandons the sheep and runs away. Then the wolf attacks the flock and scatters it. The man runs away because he is a hired hand and cares nothing for the sheep.

“I am the good shepherd; I know my sheep and my sheep know me— just as the Father knows me and I know the Father—and I lay down my life for the sheep. I have other sheep that are not of this sheep pen. I must bring them also. They too will listen to my voice, and there shall be one flock and one shepherd. The reason my Father loves me is that I lay down my life—only to take it up again. No one takes it from me, but I lay it down of my own accord.I have authority to lay it down and authority to take it up again. This command I received from my Father.”

John 10:11-18


Reflecting together 

  1. What do you think about the paid worker? Are we like that sometimes? Do we really care about things that aren’t ours?
  2. Jesus says he knows his sheep and his sheep know him. What do you think this means for the sheep?
  3. If Jesus knows his sheep and we are his sheep – what does this mean for us?
  4. How is Jesus different to the paid worker at the start of the reading? What does he mean when he says “I give my life’? Think back to just a few weeks ago and Easter.

Responding together

You will need:

  • Plain paper
  • pen
  • scissors
  • wool or cotton wool or fuzzy pompoms
  • glue

Draw around your hand with your fingers slightly apart and your thumb sticking out. Cut it out.

Place it on the table in front of you with the fingers pointing towards you – these are the legs.

Stick the wool/cottonwool/pompoms on the palm of the hand leaving the thumb clear to be the head. Draw a face on the thumb.

Stick this in your house somewhere. You could even make a whole flock. Each time you see it thank God for Jesus the Good Shepherd who knows his sheep, who loves his sheep and gave his life for his sheep.


Praying together

Sheep know the shepherd’s voice – especially in Bible times when flocks were much, much smaller. Ask God to help you to listen for the Good Shepherd’s voice this week. How might you recognise it? What might he say?


Finishing together

The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.

Blow out the candle.


Subscribe to receive email notification of At the table, the Bishop's Letter and diocesan announcements