minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
A llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân | All of them were filled with the Holy Spirit
English

Addoliad ar Ddydd y Pentecost


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.

Darlleniadau


Actau 2:1-21

Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.

Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef; ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun. Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru? A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.” Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?” Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”

Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:

‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:
tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;
a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;
bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,
a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,
yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,
ac fe broffwydant.
A rhof ryfeddodau yn y nef uchod
ac arwyddion ar y ddaear isod,
gwaed a thân a tharth mwg;
troir yr haul yn dywyllwch,
a'r lleuad yn waed,
cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’


Ioan 20:19-23

Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, “Tangnefedd i chwi!” Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai Iesu wrthynt eilwaith, “Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau.”


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


https://vimeo.com/424381625

Testun myfyrdod yr Esgob

Nid ar ddamwain y daeth yr Ysbryd Glân at y disgyblion y diwrnod hwnnw. Roedd yn ŵyl Iddewg y Pentecost: gŵyl o ddiolchgarwch am y cnydau a hefyd i ddwyn i gof y cyfamod a wnaeth Duw gyda Noa, ac yna Moses, yn groesiad, bron, o ŵyl diolchgarwch a chymanfa ganu Sul y Pasg – cymysgedd o fendithion o anrhegion materol a gras ysbrydol hefyd. Dyma pam roedd cymaint wedi ymgynnull yno’r diwrnod hwnnw, i ddathlu daioni Duw yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ac i weddïo am ei ofal parhaus.

Felly, pan ddisgynnodd yr Ysbryd Glân ar y rhai oedd wedi dod yno, roedd y stori’n gyfarwydd ond, roedd yna rywbeth newydd yno hefyd: ni fyddai bod yn ddilynwr i Dduw bellach yn golygu dilyn y gyfraith a roddwyd i Moses ond ar fywyd newydd yn yr Ysbryd.

Heddiw, rydym ni’n dathlu'r hyn a ddigwyddodd yr adeg hynny ond mae'r un mor wir i ni heddiw fel etifeddion y stori honno - disgyblion y mae Duw yr Ysbryd Glân wedi eu cyffwrdd gyda nerth newydd. Ac fe hoffwn ni osod y cyfan rydym ni'n ei brofi ar hyn o bryd yng nghyd-destun y dathliad hwn heddiw a thrafod ei ystyr o’r newydd.

A’r peth cyntaf sy’n fy nhrawo yw sut y cafodd y di-lais lais newydd. Roedd clodfori Duw'n atseinio. Roedd rhai a oedd yno’n eu gwatwar ac yn meddwl eu bod wedi meddwi. Ond roedd y disgyblion yn llawn moliant oherwydd roedd Crist yn fyw iddyn nhw! Roedd yr hyn roedden nhw wedi’i weld a’i glywed a bod yn dyst iddo yn Iesu erbyn hyn yn llosgi gyda nerth ac egni newydd. Gwrandewch eto ar yr hanes: ‘A sut yr ydym ni’n eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam’’ yr ydym ni’n eu clywed yn siarad ‘am fawrion weithredoedd Duw’. Mae’r efengyl, bob amser, yn wahoddiad graslon gan Dduw: I’r lliaws, i’r rhai ar yr ymylon a’r rhai ar y tu allan. Yma mae’r rhai sy’n teimlo’n eu bod wedi llwyr golli eu grym yn gweld eu bod yn cael eu cynnwys ac yn cael urddas, diben a bywyd.

Gallai llawer deimlo heddiw nad oes yna lawer i’w glochdar yn ei gylch ar hyn o bryd ond mae rhai o emynau mawr y Sulgwyn wedi troi’r llawenydd a’r gan newydd yn weddi o ddyhead megis ‘O tyred Arglwydd mawr, dihidla o’r nef i lawr’. Efallai eich bod yn cofio’r geiriau: ‘... fel byddo’r egin grawn, foreuddydd a phrynhawn, yn tarddu’n beraidd iawn, o’r anial dir.’ Daw’r newyddion da yn fyw yn y Sulgwyn a daw’r llawenydd o fod yn perthyn i Grist yn wirionedd i bawb sy’n credu.

Yr ail beth sy’n fy nharo yw sut yr oedd Duw wedi gwahodd bywyd newydd. Roedd Iesu, wrth gwrs, wedi addo hyn, felly doedd hynny ddim yn annisgwyl, ond roedd y ffordd yr ymddangosodd yr Ysbryd yn annisgwyl, ac yn newydd. Newid yr hen ffordd o ‘rygnu byw’ a chael Duw wrth ein hochr, ynom ni, o’n cwmpas ni, yn ein cylch ni!

I mi, un peth yw gwybod beth ddylid ei wneud, peth hollol wahanol yw cael y nerth a’r ewyllys i allu ei wneud.Flynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio rhai egin athletwyr yn gwisgo crys T â'r geiriau: ‘Yn fy meddwl, rwy’n dod o Cenia’. Fe ddylwn fod wedi prynu un!! Un peth yw meddwl y gallwn ni wneud hyn a’r llall, ond mae bod â’r gallu i’w gwneud yn rhywbeth gwahanol. Pan roddodd Duw yr Ysbryd Glan, roedd yn ei roi i gau’r bwlch rhwng breuddwydion a realiti, i’w gwneud yn bosibl i bobl fyw'r bywyd newydd hwn eu hunain er mwyn Duw. Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai Sant Paul yn ysgrifennu at Gristnogion Galatia ac yn dweud: ‘Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof i. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi. (2.20). Y pwynt yw fod Paul yn byw ei fywyd erbyn hyn gyda Duw fel ei nerth a'i gymorth.

Onid ydym ni i gyd angen pob help allwn ni ei gael? Gall dilyn Iesu yn ein bywyd bob dydd edrych yn her, yn beth anodd iawn i’w wneud a hyd yn oed y tu hwnt i ni. Nid yw Duw yn ein gadael gyda her y Deyrnas heb roi help y Deyrnas i ni yn rhodd yr Ysbryd Glân. Duw yw'r galluogwr mawr sy’n goresgyn y rhwystrau rydyn ni’n eu hwynebu, waeth pa mor fawr y maen nhw’n ymddangos i ni.

Rwy’n deall yn iawn y gallwn ni deimlo’n ddi-rym heddiw: fod y drysau bywyd wedi cau arnom ac nad oes yna fawr o obaith o unrhyw newid mawr yn fuan. Rwy’n deall hyn yn dda iawn. Ac mi wn y gallwn hanner anwybyddu’r poen meddwl y mae pobl yn ei ddioddef yn eu hunigrwydd neu eu amhendantrwydd.

Ond rwy'n gweld heddiw'n cynnig gobaith anferth. Fe wn i nad ydw i ar fy mhen fy hun pan rwy’n teimlo fy mod wedi colli fy llais yng ngwacter Covid-19, a bod yna Dduw sy’n rhoi cân newydd i mi. Ac rwy’n obeithiol oherwydd, pan rwy’n teimlo fod popeth yn mynd i’r cŵn, mae Duw yn dod â chadernid ei addewidion a ddaeth yn wirionedd drwy’r Ysbryd Glân. Ar adegau tywyllach, rwy’n gweld yr ystafell wedi'i goleuo gan gariad a bywyd newydd, rwy’n gweld tanbeidrwydd cwestiynau poenus yn cael eu tawelu a chynhaliaeth yn dod i’m cadw i fynd i’r dyfodol.

Gyfeillion annwyl, dyma’r rhoddion a’r trysorau y mae Duw'n eu cynnig drwy’r Ysbryd Glân. Bydded i chi eu cael yn helaeth.

Cymraeg

Worship on the Day of Pentecost


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Acts 2:1-21

When the day of Pentecost had come, they were all together in one place. And suddenly from heaven there came a sound like the rush of a violent wind, and it filled the entire house where they were sitting. Divided tongues, as of fire, appeared among them, and a tongue rested on each of them. All of them were filled with the Holy Spirit and began to speak in other languages, as the Spirit gave them ability.

Now there were devout Jews from every nation under heaven living in Jerusalem. And at this sound the crowd gathered and was bewildered, because each one heard them speaking in the native language of each. Amazed and astonished, they asked, “Are not all these who are speaking Galileans? And how is it that we hear, each of us, in our own native language? Parthians, Medes, Elamites, and residents of Mesopotamia, Judea and Cappadocia, Pontus and Asia, Phrygia and Pamphylia, Egypt and the parts of Libya belonging to Cyrene, and visitors from Rome, both Jews and proselytes, Cretans and Arabs—in our own languages we hear them speaking about God’s deeds of power.” All were amazed and perplexed, saying to one another, “What does this mean?” But others sneered and said, “They are filled with new wine.”

But Peter, standing with the eleven, raised his voice and addressed them, “Men of Judea and all who live in Jerusalem, let this be known to you, and listen to what I say. Indeed, these are not drunk, as you suppose, for it is only nine o’clock in the morning. No, this is what was spoken through the prophet Joel:

‘In the last days it will be, God declares,
that I will pour out my Spirit upon all flesh,
and your sons and your daughters shall prophesy,
and your young men shall see visions,
and your old men shall dream dreams.
Even upon my slaves, both men and women,
in those days I will pour out my Spirit;
and they shall prophesy.
And I will show portents in the heaven above
and signs on the earth below,
blood, and fire, and smoky mist.
The sun shall be turned to darkness
and the moon to blood,
before the coming of the Lord’s great and glorious day.
Then everyone who calls on the name of the Lord shall be saved.’


John 20:19-23

When it was evening on that day, the first day of the week, and the doors of the house where the disciples had met were locked for fear of the Jews, Jesus came and stood among them and said, “Peace be with you.” After he said this, he showed them his hands and his side. Then the disciples rejoiced when they saw the Lord. Jesus said to them again, “Peace be with you. As the Father has sent me, so I send you.” When he had said this, he breathed on them and said to them, “Receive the Holy Spirit. If you forgive the sins of any, they are forgiven them; if you retain the sins of any, they are retained.”


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

It was no accident the Holy Spirit came to the disciples that day. It was the Jewish Feast of Pentecost: a festival of thanks for crops and also to recall the covenant God made with Noah and then Moses - a cross between harvest thanksgiving and Easter Praise if you like – a mix of the blessings of material gifts and the blessings of spiritual graces too. That is why so many were gathered there on that day, to celebrate God’s goodness for the year past and to pray for his ongoing care.

So when the Holy Spirit fell on those gathered, there was a well-known backdrop but something new as well: to be a follower of God would now rest not on the law given to Moses but a new life in the Spirit.

Today we celebrate what happened then but what is true for us today as inheritors of that story – disciples to whom God the Holy Spirit has come with new power. And I’d like us to set all that we are experiencing at the moment in the context of this celebration today and explore it’s meaning afresh.

And the first thing which strikes me is how the voiceless were given a new voice: God’s praises resounded. Some of those present mocked them and thought they were drunk. But the disciples were full of praise because Christ was alive for them! What they had seen, heard and witnessed in Jesus was now ablaze with new power and energy. Listen again to the account: ‘how is it that we hear, each of us, in our own native language, we hear them speaking about God’s deeds of power.’ The gospel is always the gracious invitation of God: to the many, to those on the margins and on the outside. It is here that those who feel utterly disempowered find they are brought in and given a dignity, a purpose and a life.

Many might feel today there isn’t a great deal to sing about at the moment but some of our great Pentecost hymns have captured this new joy and song into prayers of longing such as ‘Come Down O Love divine’. You might remember these words: ‘... seek thou this soul of mine and visit it with thine own ardour glowing. O Comforter draw near, within my heart appear and kindle it, your holy flame bestowing.’ The good news comes alive in Pentecost and joy at belonging to Christ real for all of us who believe.

The second thing which strikes me is how God invited a new life. Jesus of course had promised this, so it wasn’t unexpected but the way the Spirit came was unexpected and new. The old template of ‘life grind’ replaced with God at our side, within us, around us, about us!

You see, I think it’s one thing to know what to do, it’s quite another to have strength and the will to do it. Years ago I remember a T Shirt doing the rounds among would-be athletes: the words read, ‘In my mind I’m a Kenyan’. I should have bought one!! It’s all very well thinking we do can do this or that but having the ability to do it, is another matter. When God gave the Holy Spirit, it was to close the gap between dreams and reality, to make it possible for people to live this new life for God themselves. Years later St Paul would write to the Christians at Galatia and say: ‘I have been crucified with Christ and I no longer live, but Christ lives in me. The life I now live, I live by faith in the Son of God who loved me and gave himself for me. (2:20). The point is that Paul’s life was now lived with God as his strength and help.

Don’t we need all the help we can get? To follow Jesus in our daily lives can seem a challenge, a hard call and even beyond us. God does not leave us the challenge of the Kingdom, without providing Kingdom help in the gift of the Holy Spirit. God is the great enabler who overcomes the obstacles we face however big they seem to us.

I am very conscious that today we may feel disempowered: the doors of life have shut on us and there isn’t the prospect of any great change soon. I understand this very well. And I know we can gloss over the mental anguish people will feel in their isolation or uncertainty.

I take enormous hope from today. I know I am not alone and when I feel I have lost my voice in the void of Covid-19, there is a God who gives me a new song. And I am hopeful because when I feel the bottom has fallen out, God brings the solid ground of his promises made real by the Holy Spirit. In darker moments, I find the room lit by new love and life; I find the intensity of anxious questions calmed and a sustenance to keep me going into the future.

Dear friends, these are the gifts and treasurers God offers in the Holy Spirit. May they be yours abundantly.