minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Halelwia! Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu" | "Hallelujah! For the Lord our God the Almighty reigns"
English

Addoliad ar Drydydd Sul yr Ystwyll


Yn ystod y pandemig, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Datgyddiad 19:6-10

A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:

“Halelwia!
Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,
wedi dechrau teyrnasu.
Llawenhawn a gorfoleddwn,
a rhown iddo'r gogoniant,
oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,
ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo
liain main disglair a glân,
oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”

Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.” Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”


Ioan 2:1-11

Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno. Gwahoddwyd Iesu hefyd, a'i ddisgyblion, i'r briodas. Pallodd y gwin, ac meddai mam Iesu wrtho ef, “Nid oes ganddynt win.” Dywedodd Iesu wrthi hi, “Wraig, beth sydd a fynni di â mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto.” Dywedodd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych.” Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni. Dywedodd Iesu wrthynt, “Llanwch y llestri â dŵr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl. Yna meddai wrthynt, “Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd.” A gwnaethant felly. Profodd llywydd y wledd y dŵr, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r dŵr yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab ac meddai wrtho, “Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr.” Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.


Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen: Datguddiad 19:9

Flynyddoedd yn ôl roeddwn ym mhriodas rhywun yn Ffrainc a oedd wedi aros gyda ni wrth gyfnewid ysgol pan oeddem ni’n blant . Roedd yn berson hyfryd. Y briodas honno oedd yr unig adeg i mi weld ffynnon o Siampên a’r y tro cyntaf hefyd i mi flasu caviar. Afiach!!

Beth bynnag, nid yw ‘hael’ yn dweud ei hanner hi – roedd y briodas yn gymaint mwy a gwell nag ysblennydd. Does gen i ddim syniad faint gostiodd y cyfan ond, rhaid cyfaddef, roedd yn llawer iawn o hwyl.

Rwyf wedi bod â diddordeb erioed yn y delweddau sy’n cael eu defnyddio yn y Testament Newydd i ddisgrifio Teyrnas Duw ac, wrth gwrs, maen nhw’n amrywiol. Ond un peth sydd i’w weld yno’n gyson yw gwledd. Efallai oherwydd bod gwledd yn ddelwedd o haelioni y tu hwnt i freuddwydion y rhai oedd yn gwrando neu oherwydd ei bod yn cynnwys bwyd (mae hynny wastad yn ffordd da o ddenu sylw), yr oedd Iesu’n creu lluniau oedd yn gwahodd y rhai ‘gyda chlustiau i glywed a llygaid i weld' i ymuno a dod i mewn.

Ac mae'r un syniad yn ein darlleniad o Lyfr y Datguddiad heddiw, pennod 19: mae'r Deyrnas yn debyg i wledd fawr yn llawn hwyl a llawnder. Mae'r dathlu yn taro cymaint o ddant, yn debyg iawn i storïau eraill megis dameg y mab afradlon neu’r ddafad golledig, ac mae’n dangos cymaint o gyferbyniad gyda llawer o fywyd ar hyn o bryd. Yng nghanol ein bywydau sy’n cael eu rheoli gan Covid a chymaint yn teimlo fod cymaint wedi’i golli neu’i leihau, pa fath o ddathlu llawen mae’r darlleniad yn ei wahodd?

Rwyf eisiau canolbwyntio ar ddau beth yn arbennig. A’r cyntaf yw y gwahoddiad ei hunan: Dewch fel yr ydych chi. Mae hwn yn wahoddiad i bawb. Dyma, yn wir, yw’r peth rhyfeddol am Gristnogaeth. Mae Duw yn ein gwahodd, pob un ohonom, waeth pwy ydym ni. Dyma’r gwastatwr mawr – y cyfoethog a’r tlawd, yr ifanc neu’r hen, gwryw neu fenyw. Mae gwahoddiad i bawb. Does dim ots pwy ydych chi neu beth ydych wedi'i wneud. Wrth i ni glywed geiriau’r gwahoddiad a gwybod fod croeso i ni yn y wledd anhygoel, mae fel cerdded i mewn i ystafell llawn goleuni. Os yw’r mynediad trwy docyn yn unig – mae’n tocyn ni yn un VIP, wedi’i orchuddio ag aur.

Mae un o’m hoff emynau, poblogaidd mi wn, yn cael ei chanu ar y dôn Gwahoddiad:

Mi glywaf dyner lais
Yn galw arnaf i
I ddod a golchi meiau’i gyd
Yn afon Calfarî

Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad di
Canna fennaid yn y gwaed
A gaed ar galfari

Ac mae’r geiriau’n nerthol oherwydd maen nhw'n cipio’r synnwyr o ryfeddod fy mod i wedi fy ngwahodd. Fy mod i wedi fy nghynnwys! Mae gan yr emyn Saesneg ‘My song is Love unkown’ thema tebyg:

My song is love unknown,
My Saviour’s love to me;
Love to the loveless shown,
That they might lovely be.
O who am I,
That for my sake
My Lord should take
Frail flesh and die?

Ond, efallai y bydd rhywun yn dweud ‘Wel, beth am y darnau a’r storiau hynny sy’n sôn am lawer yn cael eu gwahodd a dim ond ychydig yn cael eu dewis – onid yw hynny’n dweud rhywbeth cwbl wahanol? Rwyf wedi dod i gredu mai cael ein dewis yw’r darganfyddiad rydym yn ei wneud wrth i ni ymateb. Mae’n edrych yn ôl nid ymlaen. Felly, nid mater o bendroni yw hyn a oes perygl na fydd y gwahoddiad yn ddigon i ni fynd mewn trwy’r drws neu y gallai rhywun ein taflu allan o’r wledd ar ôl i ni gyrraedd. Does yna ddim gwrthod, dim ond gwahoddiad, oddi wrth Dduw, ac mae i bob un ohonom: i ddod i mewn ac aros yn y wledd sy’n rhoi pob gwledd arall yn y cysgod.

Yr ail beth y mae Duw yn ei gynnig i ni yw dewch a chael eich newid. Mae’n hawdd gwthio gormod ar y darlun gyda delwedd fel hyn – gallai byw bywyd fel pe byddai’n barti di-ddiwedd ein gadael yn teimlo wedi ymladd a bron â marw eisiau ychydig o heddwch. Ond mae’r darlun yn gweithio ar ei orau pan fyddwn yn deall ei fod yn gwahodd ymddiried yn Nuw, yn enwedig pan fydd y cwpwrdd yn wag a bywyd yn boen, yn heriol ac yn gymhleth. Ni ddaw haelioni Duw byth i ben.

Bu cydweithiwr yn sôn ychydig yr wythnos hon am Amy Carmichael, y Cristion ardderchog o Ogledd Iwerddon. Roedd yn amlwg yn y frwydr yn erbyn puteinio plant yn yr India, ond roedd hefyd yn wael am lawer o'r cyfnod hwnnw ac yn methu cysoni sut y gallai Duw fod wedi rhoi cymaint o ddyhead iddi fod yn genhades ond hefyd yn caniatáu cymaint o salwch oedd yn ei rhwystro rhag cyflawni ei galwedigaeth. Mae Amy yn cael ei chofio ledled y byd am ei ffydd a’i gwaith ond efallai yn bennaf am eu hysgrifau. Os cewch chi gyfle, darllenwch ‘Hast thou no Scar’. Mae yna rhywbeth dwfn yma: a fyddem ni wedi cael ei geiriau pe na byddai wedi dioddef caledi ac wedi canfod cyfoeth gras hyd yn oed mewn adfyd?

Gwelodd Sant Paul fod ymateb i ras Duw yn golygu newid gwirioneddol: ‘gweithiwch eich iachawdwriaeth allan’ meddai wrth ei wrandawyr. A mae’r ‘Neges’ yn rhoi’r geiriau hynny o Philipiaid 2 (a 12) fel hyn: ‘Gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo i chwi: Oblegid Duw yw’r un sydd yn gweithio ynoch i beri i chwi ewyllysio a gweithredu i’w amcanion daionus ef.’

Rhywsut, a defnyddio’r darlun o wledd, rydym yn dysgu gwersi cariad a gwasanaeth pan fyddwn yn aros am sbel fel Ei westeion. Dyma yw’r newid mawr mae’n ei gyflawni fel ein bod ni yn dod, mewn gair a gweithred, fel y rhai sy’n dod ag eraill i rannu yn y dathlu.

Fe ddechreuais drwy gydnabod fod bywyd yn ymddangos fel pe byddai wedi crebachu ar hyn o bryd. Efallai ein bod yn teimlo ein bod wedi colli rhai pethau – a’u colli am byth. Rwy’n deall hynny. Ond rwyf hefyd yn deall y gallai fod yna, yng nghanol caledi, rai pethau sy’n ein cynnal ac yn rhoi digon i ni ar gyfer y daith o'n blaen. Mae darlun hwn o’r wledd, achlysur ysblennydd yn dangos addewid o rai pethau sy'n werthfawr: ein bod ni i gyd wedi ein gwahodd, pwy bynnag yr ydym ni, beth bynnag ydym ni wedi’i wneud. A’r achlysur hwn, y mwyaf arbennig o bob achlysur, yw’r ffordd y mae, yn rhywle, rywbeth o Dduw yn aros gyda ni, yn glud amdanom ni, ac yn ein newid ni ar gyfer y cam nesaf.

Fy ngweddi drosom ni i gyd yr wythnos hon yw dewch a bwytewch gyda’r Brenin a chael eich bodloni.

Amen.

Cymraeg

Worship on the Third Sunday of Epiphany


During the pandemic, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Revelation 19:6-10

Then I heard what seemed to be the voice of a great multitude, like the sound of many waters and like the sound of mighty thunder-peals, crying out,

‘Hallelujah!
For the Lord our God
the Almighty reigns.
Let us rejoice and exult
and give him the glory,
for the marriage of the Lamb has come,
and his bride has made herself ready;
to her it has been granted to be clothed
with fine linen, bright and pure’—
for the fine linen is the righteous deeds of the saints.

And the angel said to me, ‘Write this: Blessed are those who are invited to the marriage supper of the Lamb.’ And he said to me, ‘These are true words of God.’ Then I fell down at his feet to worship him, but he said to me, ‘You must not do that! I am a fellow-servant with you and your comrades who hold the testimony of Jesus. Worship God! For the testimony of Jesus is the spirit of prophecy.’


John 2:1-11

On the third day there was a wedding in Cana of Galilee, and the mother of Jesus was there. Jesus and his disciples had also been invited to the wedding. When the wine gave out, the mother of Jesus said to him, ‘They have no wine.’ And Jesus said to her, ‘Woman, what concern is that to you and to me? My hour has not yet come.’ His mother said to the servants, ‘Do whatever he tells you.’ Now standing there were six stone water-jars for the Jewish rites of purification, each holding twenty or thirty gallons. Jesus said to them, ‘Fill the jars with water.’ And they filled them up to the brim. He said to them, ‘Now draw some out, and take it to the chief steward.’ So they took it. When the steward tasted the water that had become wine, and did not know where it came from (though the servants who had drawn the water knew), the steward called the bridegroom and said to him, ‘Everyone serves the good wine first, and then the inferior wine after the guests have become drunk. But you have kept the good wine until now.’ Jesus did this, the first of his signs, in Cana of Galilee, and revealed his glory; and his disciples believed in him.


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

Blessed are those who are invited to the wedding supper of the Lamb: Revelation 19:9.

Many moons ago I attended the wedding of someone in France who had stayed with us when we were children on a school exchange. She was a delightful person. The wedding was the only time I’ve seen a Champagne fountain but was also the first time I tasted caviar. Horrid stuff!

Anyway, ‘lavish’ doesn’t come close – this was several notches above that and then some more. I can’t begin to imagine what the whole thing cost but, I have to admit, it was good fun.

I’ve always been interested in the imagery used in the New Testament to describe the Kingdom of God and of course it’s all varied. But one of the constants is that of a banquet. Perhaps because it’s a lavish image and beyond the dreams of those who heard the stories or because it involved food (and that’s always a good vehicle to catch attention), Jesus wielded pictures to invite those ‘who had ears to hear and eyes to see’ to sign on the dotted line and come on in.

And our reading from Revelation today, chapter 19, draws on this same idea: the Kingdom is like a great banquet full of festive things. It strikes such a strong celebratory note much like other stories such as the parable of the prodigal son or the lost sheep, that it cuts a strong contrast with much of life at the moment. In the context of Covid-controlled lives where we must feel so much has been lost or diminished, what kind of joyful celebration does the reading invite?

I want to focus on two things especially. And the first is about the invitation itself: Come as you are. This invitation is to everyone.. You see this is the remarkable thing about Christianity. God invites us, each of us regardless of who we are. This is the great leveller – rich and poor, young or old, male or female. Everyone is invited. And it doesn’t matter who you are or what you’ve done. When we hear the words of invitation ourselves and know we are welcomed at this extraordinary feast, it’s like walking into a room of light. If the entry is by ticket only – ours is VIP gold plated.

One of my favourite hymns, popular I know, is to the tune Gwahoddiad:

Mi glywaf dyner lais
Yn galw arnaf i
I ddod a golchi meiau
Yn afon Calfari

Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad di
Canna fenaid yn y gwaed
A gaed ar galfari

And the words are powerful because they capture that sense of wonder that I should be invited! I should be included! The English hymn ‘My song is Love unknown’ has a similar theme:

My song is love unknown,
My Saviour’s love to me;
Love to the loveless shown,
That they might lovely be.
O who am I,
That for my sake
My Lord should take
Frail flesh and die?

Now someone might say ‘Well what about those bits and stories about many being invited, few chosen - doesn’t that move in a completely different direction’? I have come to believe that being chosen is a discovery we make when we respond. It’s backward looking not forward pointing. So it’s not a matter of wondering whether the invite has a bad ‘sell by’ date on it or that a bouncer might turf us out. There is no rejection but only invitation from God and it is to each of us: to come in and stay in the banquet to end all banquets.

The second thing God offers is to come and be changed. It’s easy with imagery like this to press the picture too far – life as an endless party might leave us feeling exhausted and desperate for a bit of quiet. But the picture really works best when we understand it invites a trust in God especially when the pantry seem threadbare, when life is hard, challenging and complex. God’s bounty won’t run out.

A colleague this week shared some of her thoughts about Amy Carmichael the wonderful Northern Irish Christian. Instrumental in the fight against child prostitution in India she was also afflicted by ill health for much of that time wrestling with how God could have given her such a desire to be a missionary and also allow such sickness which might prevent her fulfilling her call. Amy is remembered around the world for her faith and work but perhaps most for her writings. If you have the time, do read ‘Hast thou no Scar’. There is something profound here: would we have had her words if she had not endured hardships and found the riches of grace even in adversity?

St Paul saw that responding to God’s grace really did mean change: ‘work out your salvation’ he told his hearers. And ‘The Message’ puts those words from Philippians 2 (vs 12) like this: ‘Now that I’m separated from you, keep it up. Better yet, redouble your efforts. Be energetic in your life of salvation, reverent and sensitive before God. That energy is God’s energy, an energy deep within you, God himself willing and working at what will give him the most pleasure.’

Somehow, to use the picture of the banquet, we learn the lessons of love and service when we stay a while as His guests. This is the great change he brings so that we become as those who in word and deed bring others to share the festivity.

I began by acknowledging that life seems diminished at present. We may feel somethings have been lost and lost forever. I understand that. But I also understand that in the midst of hardship, there can be things which sustain us and give us enough for the journey ahead. The picture of the banquet, a lavish occasion holds out the prospect of some things which are precious: we are all invited, whoever we are, whatever we’ve done. And this most special of all occasions is the means by which somewhere, something of God stays with us, fits us and changes us for the next step.

My prayer for us all this week is come and dine with the King and to be satisfied.

Amen.