
Andy Herrick
Yn enedigol o Swydd Lincoln, astudiodd Andy Ddiwinyddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan, ac yno hefyd y dechreuodd ddysgu Cymraeg. Fe’i ordeiniwyd gan Esgob Tyddewi yn 1982; bu’n gurad yn Aberystwyth; a bu’n beriglor yng nghefn gwlad ac ar arfordir Sir Aberteifi ac yn Isgantor Cadeirlan Tyddewi. Yn 1994, fe’i apwyntiwyd yn Ficer Rhydaman, tref lofaol ôl-ddiwydiannol fawr ym mhen Dyffryn Aman, cyn iddo ddychwelyd i Fywoliaeth Rheithiol Aberystwyth yn 2000, lle y bu i’w weinidogaeth ganolbwyntio ar gymuned Penparcau. Ar hyn o bryd ef yw Ficer Grŵp Eglwysi Llanbedr Pont Steffan. Mae hefyd wedi cynnal uwch rolau arweinyddiaeth o fewn Rhaglen Arwain Arrow, sef rhaglen sy’n cynnig hyfforddiant dwys i arweinwyr Cristnogol ifanc, a New Wine Cymru, ac mae wedi meithrin cysylltiadau agos gydag eglwysi yn ne Zambia.
Mae gweinidogaeth Andy wedi ei nodweddu gan angerdd am efengylu a chenhadaeth, a chan arwain addoliad creadigol ac egnïol. Mae ganddo hefyd ymrwymiad dwfn i fentora a meithrin cydweithwyr a thimau. O ddyddiau ei guradaeth, mae Andy wedi gweinidogaethu yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae diddordebau Andy yn amredeg o gerddoriaeth i gerdded dygn pellter hir, rygbi (bellach o’r ystlys am iddo roi’r gorau i chwarae pan yn 38), a throi coed.
Andy Herrick
Born and raised in Lincolnshire, Andy studied Theology at Lampeter, where he also began to learn Welsh. He was ordained by the Bishop of St Davids in 1982, and served his curacy in Aberystwyth, followed by incumbencies in rural and coastal Cardiganshire and a time as Succentor of St Davids Cathedral. In 1994, Andy became Vicar of Ammanford, a large post-industrial mining town at the the end of the Amman Valley, before returning to the Rectorial Benefice of Aberystwyth in 2000, where much of his ministry focused on the community of Penparcau. Latterly Andy has served as Vicar of the Lampeter Group of Churches. He has also held senior leadership roles within the Arrow Leadership Programme, a programme for the intensive training of young Christian leaders, and New Wine Cymru, and has nurtured close ties with churches in southern Zambia.
Andy’s ministry has been marked by a passion for evangelism and mission, and for energising and creative worship. He also has a deep commitment to mentoring and nurturing colleagues and teams. From the time of his curacy in Aberystwyth onwards, Andy has ministered fluently in Welsh.
Andy’s interests range from music to long distance endurance walking, rugby (of which he’s now spectator, having given up playing at 38), and wood turning.